Yr oedd yn bnawn Sadwrn llwyddiannus ym mhob ffordd i'r Urdd ac i glwb pêl-droed Abertawe bnawn Sadwrn Ionawr 15, 2011.
Ymunodd cynrychiolwyr 40 o ysgolion Abertawe a'r Fro a chefnogwyr Stadiwm Liberty i groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i'r ardal yn ddiweddarach ac i weld yr Elyrch yn curo Crystal Palace 3-0.
Hon oedd y gêm a glustnodwyd yn Gêm yr Urdd gyda 1,750 o gefnogwyr y Mudiad yn ogystal â Mistar Urdd wedi teithio i'r Liberty.
Ymhlith y rhai a enwebwyd i fod yn rhan o gwarchodlu yn croesawu'r chwaraewyr ar y cae yr oedd Katie Davies a Ruby Tomkinson o Ysgol Gynradd Glais yn y ddinas ac meddai Ruby sy'n 11 oed, "Dwi wrth fy modd efo pêl-droed felly bydd yn grêt cael bod yn rhan o achlysur mor fawr."
Bu Thomas James, 10, disgybl yn Ysgol Gymunedol St Thomas, yn fuddugol mewn cystadleuaeth yn y South Wales Evening Post i fod yn fasgod yn y gêm.
"Dwi wedi cyffroi," meddai cyn y gêm. "Dwi wrth fy modd yn gweld y Swans yn chwarae ac wedi bod i'r stadiwm nifer o weithiau'r tymor yma."
Ychwanegodd y bwriadai fynychu'r gêm beth bynnag ond bod gwefr arbennig cael gwisgo'r cit a mynd ar y cae efo'r chwaraewyr!
Manteisiodd cefnogwyr yr Urdd ar gynnig arbennig ar docynnau i'r gêm gydag oedolion yn talu £10 yn unig am docyn ac yn cael dod â hyd at bedwar plentyn gyda hwy i fwynhau'r achlysur.
Aeth hanner arian y tocynnau a werthwyd drwy'r Urdd i gronfa leol yr Eisteddfod.
Straeon heddiw
- - Cyrraedd maes y Steddfod
- Alex yn ôl ar lwyfan yr Urdd
- Coron gyntaf Mari i'r Urdd
- Cyril y Swan yn cefnogi
- Eisteddfod yr Urdd 2002 - 2011
- Eisteddfodau 2002 - 2010
- Ennill Tlws John a Ceridwen Huighes
- Gwahoddiad i Joio da'r Jacs
- GwyddonLe - prifysgol yn cefnogi
- Llwyddiant Gêm yr Urdd ar y Liberty
- Y Goron a'r Gadair
- Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2010