Â鶹ԼÅÄ

Llywyddion Eisteddfod yr Urdd Abertawe

29 Mai 2011

Mae tuedd amlwg yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Abertawe yr wythnos hon i fod wedi dewis llywyddion y dydd sydd wedi disgleirio oddi ar lwyfan eisteddfod.

Yr athletwraig Lowri Morgan fydd llywydd dydd Mawrth, a hithau wedi rhyfeddu gwylwyr teledu gyda'i dyfalbarhad yn ymgymryd â sawl her a fyddai wedi bod yn drech â'r rhan fwyaf.

Y mae hi newydd gwblhau yr uwch farathon 6633 yn rhedeg 350 milltir yn yr Arctig gan briodoli ei llwyddiant anhygoel yno ac mewn lleoedd fel yr Amason i'r profiadau a gafodd yn sgil yr Urdd yn ei hannog i wynebu profiadau newydd.

Dysgodd yr Urdd iddi, meddai, ymdrechu yr ymdrech eithaf a rhoi o'i gorau bob amser.

Un sy'n rhagori ar y maes pêl-droed fydd llywydd dydd Mercher, Joe Allen, sy'n chwarae i dîm Abertawe. (nid dydd Iau fel y dywed Rhaglen y Dydd)

Gwyn Jones y chwaraewr rygbi fydd llywydd dydd Iau. Ef, nes iddo gael ei anafu yn un o chwaraewyr rygbi mwyaf addawol Cymru ac yn awr yn sylwebydd gyda'r uchaf ei barch.

Dywed iddo gymryd rhan mewn pob math o weithgareddau gyda'r Urdd gan gynnwys canu mewn côr a bod yn aelod o grŵp dawns gwerin.

Bu'n ddawnsiwr unigol hefyd - ond heb gyrraedd y llwyfan cenedlaethol! Dywedodd i'r Urdd fod yn bwysig iddo ef a'i deulu ac yn rhan hanfodol o fywyd.

Chwaraewr rygbi arall, Shane Williams, chwaraewr mwyaf disglair Cymru y blynyddoedd diwethaf, fydd llywydd dydd Gwener a chanmolodd ef yr Urdd am roi cyfle i bawb beth bynnag eu gwahanol ddiddordebau.

Gwerthfawroga hefyd y ffaith y gellir gwneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.

Y llywydd arall eleni yw Cerys Matthews , ddydd Llun.


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.