Â鶹ԼÅÄ

Cerys - tyfu gyda'r hen ganeuon

Cerys ar faes yr eisteddfod

30 Mai 2011

Un o sêr enwocaf Cymru a merch nad oedd yn cael fawr o lwc ar gystadlu mewn eisteddfodau yw llywydd diwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Abertawe eleni.

A chyfaddefodd Cerys Matthews mai ar hen sticeri ar y maes yr oedd hi'n rhagori yn hytrach na pherfformio mewn eistedddfodau.

Ond cyn mynd ymlaen i ganu clodydd eisteddfodau fel ffordd o greu ymwybyddiaeth o'n traddodiadau dywedodd mewn cynhadledd I'r Wasg mai'r unig le arall y dymunai fod fore Llun oedd ar y lôn i Wembley lle byddai Abertawe yn chwarae yn y pnawn.

Ac aeth ymlaen I ddweud: "Mae'n fraint fawr bod yma yn llywydd achos wnes I ddim gwneud yn dda iawn yn yr eisteddfod pan yn blentyn - byth yn ennill."

Ond ychwanegodd, "Nid dyna'r pwynt . Mae pobl yn gofyn i mi pam mae steddfodau yn bwysig ; wel maen nhw'n siawns i blant ifanc fynd ar y llwyfan a chael profi perfformio ond dwi ddim yn meddwl nad dyna'r peth pwysicaf o gwbl achos beth sydd wedi dod yn glir i mi [o fod yn] yn canu yr hen ganeuon Cymraeg dros y byd i gyd - Sosban Fach, Yr Eneth Gadd i Gwrthod, Harbwr Corc, Migl di Magl di - a sylweddoli bod y cynulleidfaoedd gymaint eisiau clywed yr hen ganeuon yma," meddai.

" Dyna sy'n bwysig. Wrth dyfu lan yng Nghymru rydych yn dysgu'r etifeddiaeth fawr yma, y trysor mawr yma sydd gennym ni, heb eich bod chi hyd yn oed yn sylweddoli .

"Yr ydych yn gwybod yr hen ganeuon yma, yn gwybod yr hen straeon. Mae'n rhywbeth naturiol a dwi byth moyn anghofio pa pa mor bwysig mae hwnna wedi bod achos hyd yn oed os nad ych chi byth am fynd mlaen i wneud miwsig neu recitles neu dawnsio fel job mae gennych chi y trysor yma, yr etifeddiaeth yma trwy eich bywyd ble bynnag da chi'n mynd," meddai gan ymhyfrydu yn y pleser mae'n ei roi mynd mas I'r byd efo'r straeon yma a'r caneuon yma a sylweddoli'r derbyniad maen nhw'n ei gael.

Yn wreiddiol o Gaerdydd, magwyd Cerys yn Abertawe a Sir Benfro felly roedd y cysylltiad â'r Eisteddfod yn amlwg a hithau wedi mynychu Ysgol Gymraeg Bryn y Môr Abertawe tan yn ddeg oed.

"Roedd Eisteddfodau yn rhan o'm magwraeth i yn Abertawe, er nad oeddwn i yn llwyddiannus iawn fel cystadleuydd! Felly mae dychwelyd y tro hwn i'r Maes yn Felindre i berfformio yn y Cyngerdd Agoriadol ac fel Llywydd y Dydd yn wych ac yn fraint," meddai mewn datganiad i'r Wasg oedd wedi ei baratoi ymlaen llaw.

Yn brif leisydd Catatonia cyn iddi ryddhau chwe albwm fel artist sengl mae Cerys newydd gyhoeddi albwm newydd, Tir sy'n cynnwys casgliad o hen ganeuon traddodiadol Cymraeg fel Calon Lân, Cwm Rhondda a Myfanwy.

Mae'r fam i dri o blant, Glenys Pearl y Felin, Johnny Jones a Red, hefyd yn ddiweddar wedi troi ei llaw at ysgrifennu llyfrau i blant gan gyhoeddi llyfr yn seiliedig ar chwedlau poblogaidd o Gymru fel Morwyn Llyn y Fan a Chantre'r Gwaelod.

"Dwi wrth fy modd bod yr Eisteddfod yn rhoi cyfle i genhedlaeth newydd o blant i ymhyfrydu yng nghyfoeth ein diwylliant. Dwi byth yn blino gweld brwdfrydedd plant o bob rhan o Gymru ac o bob cefndir yn trio eu gore. Does dim ots os ydyn nhw'n chwarae cerddoriaeth, canu, dawnsio neu gystadlu yn y celfyddydau gweledol neu lenyddiaeth, mae eu hymdeimlad o hwyl yn heintus.

"Bydd cael y cyfle i gystadlu flwyddyn ar ôl blwyddyn o flaen cynulleidfa fyw yn blatfform i rai barhau i berfformio fel y gwnaeth i Bryn Terfel, Aled Jones a Connie Fisher ond mae hefyd yn golygu y bydd pob cenhedlaeth newydd yn dysgu a mwynhau ein treftadaeth ddiwylliannol anhygoel," meddai.


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.