Â鶹ԼÅÄ

Llywydd dydd Mawrth - Jason Mohammad,

Jason

Jason Mohammad, wyneb cyfarwydd ar deledu'r Â鶹ԼÅÄ yng Nghymru, ydi Llywydd y Dydd, heddiw.

Wrth dderbyn yr anrhydedd talodd deyrnged i weithgarwch yr Urdd ymhlith pobl ifainc.

"Rwy'n falch iawn fy mod wedi cael fy newis gan yr Urdd i fod yn Llywydd y Dydd eleni," meddai.

"Mae cyfraniad yr Urdd a'r Eisteddfod yn enfawr i fywyd Cymru ac mae'r Eisteddfod yn rhoi cyfle i blant o bob oed a chefndir i ddod i'r brig ac arddangos eu talentau.

"Fel tad, gallaf werthfawrogi pa mor bwysig yw hi i annog plant i fod yn rhan o rywbeth sy'n rhoi cymaint o fudd a hunanhyder iddynt."

Wedi ei eni a'i fagu yng Nghaerdydd, aeth Jason ymlaen i astudio Cymraeg a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Wedi graddio, dychwelodd i'r brifddinas i astudio cwrs ôl raddedig mewn Newyddiaduraeth.

Ymunodd Jason â Â鶹ԼÅÄ Cymru ym 1997, ac mae wedi bod yn darlledu ac yn cyflwyno fyth oddi ar hynny. Gweithiodd fel gohebydd ar gyfer Wales Today yng ngogledd Cymru, mae wedi ffilmio cyfres o eitemau yn Ne Affrica, Efrog Newydd ac yn fwy diweddar o Awstralia yn ystod Gemau'r Gymanwlad yno.

Jason yw un o gyflwynwyr newyddion a chwaraeon mwyaf profiadol Â鶹ԼÅÄ Cymru. Mae wedi cyflwyno Wales Today, Sports Wales, chwaraeon byw yn ogystal â'r rhaglen rygbi boblogaidd, Scrum V.

Mae ganddo ddiddordeb mawr ym maes chwaraeon ac wedi gohebu o sawl cystadleuaeth amlwg fel Cwpan Ryder, Cwpan yr FA yn ogystal â'r frwydr rhwng Joe Calzaghe a Bernard Hopkins yn Las Vegas.

Bu hefyd yn cyflwyno rhaglen Plant Mewn Angen y Â鶹ԼÅÄ a rhaglen Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Â鶹ԼÅÄ. Mae hefyd i'w glywed yn cyflwyno Good Morning Wales ac ef yw capten y gystadleuaeth gwis chwaraeon ysgafn Extra Time ar Â鶹ԼÅÄ Radio Wales.

Fel actor mae wedi ymddangos yn Doctor Who ddwywaith, yn fwyaf diweddar ym mhennod Nadolig 2007, lle bu'n cadw cwmni i David Tennant a Kylie Minogue, tra'n chwarae rhan y gohebydd newyddion.

Yn ei amser rhydd, mae wrth ei fodd yn treulio amser gyda'i wraig, a'i blant, Lilly a Max, a chefnogi ei hoff dîm pêl-droed, Clwb Caerdydd.


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.