Â鶹ԼÅÄ

Cynllun newydd - swyddogion newydd

Efa Gruffudd Jones

Datgelodd yr Urdd ragor o wybodaeth am y defnydd y bydd yn ei wneud o £2.3m o arian newydd o Ewrop.

Mewn cyfarfod fore heddiw soniodd Prif Weithredwr y mudiad, Efa Gruffudd Jones, am gynllun sydd ar y gweill i benodi 16 Swyddog Ieuenctid newydd fel rhan o gynllun sy'n cael ei alw yn Llwybrau i'r Brig.

"Bydd y swyddogion newydd yn galluogi'r Urdd i gynnig cyfleoedd newydd i aelodau rhwng 11 a 19 oed," meddai.

Gyda'r cynllun yn werth £4.7m i gyd yn sgil cyfraniadau cyffelyb o ffynonellau eraill dywedodd mai'r nod yw gwella drwy gyfrwng y Gymraeg sgiliau pobl ifainc fel y byddant maes o law yn fwy cymwys pan yn dechrau gweithio.

Mae'n rhan o gynllun Cyrraedd y Nod Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda Cyngor Celfyddydau Cymru, Techniquest, Snap Cymru, Achub y Plant a Funky Dragon yn bartneriaid.

"Yr Urdd yw'r unig fudiad ieuenctid gwirfoddol sydd yn rhan o'r cynllun," meddai Efa Gruffudd Jones.

Bydd y swyddogion newydd yn gweithio ar Ynys Môn, yng Nghonwy, Dinbych, Ceredigion, Penfro, Sir Gâr, Abertawe, Castell Nedd a Phort Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr, Caerffili, Blaenau Gwent a Thorfaen gyda llawer o'r profiadau a gynigir yn cael eu hachredu gan ddefnyddio dulliau megis OCN, CSLA, Cynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm a Chynllun Gwobr Dug Caeredin.

"Bwriedir sefydlu fforymau ieuenctid cyfrwng Cymraeg mewn o leiaf 12 ardal a'r profiadau a gynigir yn amrywio yn ôl anghenion yr ardal, anghenion y bobl ifanc, natur ddaearyddol yr ardal a natur y partneriaethau y byddwn yn cydweithio â hwy mewn ardal arbennig," meddai.

Bydd rhai o'r swyddogion newydd yn arbenigo ym maes celfyddydol ac eraill ym maes awyr agored. Yn y de ddwyrain penodir swyddog datblygu ar gyfer bron bob ysgol cyfrwng Cymraeg.

"Mae hwn yn gynllun cyffrous i ni fel mudiad, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â'r partneriaid i sicrhau ein bod yn cynnig cyfleoedd newydd i bobl ifanc," meddai.


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.