Â鶹ԼÅÄ

Seremoni yn tynnu gwahanol gredoau at ei gilydd

Band Dur Ysgol Fitzalan yn cymryd rhan

Saesneg oedd geiriau cyntaf Eisteddfod yr Urdd Caerdydd, 2009.

Synnwyd rhai pan agorodd dathliad aml ffydd yr Eisteddfod bnawn Sul gydag araith uniaith Saesneg a barhaodd am bedwar munud yn egluro arwyddocad dawns oedd yn mynd i gael ei chyflwyno gan Grŵp Dawns Indiaidd Cymru.

Disgrifiodd prif weithredwr yr Urdd, Efan Gruffudd Jones, y digwyddiad fel un "anffodus".

Ac meddai Tudur Dylan Jones, cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod a'r Celfyddydau:

"Fe wnaed yn glir nad oedd yn rhan o'r dathliad ac mai ychwanegiad oedd hwn. Os oeddech chi yno roedd y dathliad yn cychwyn ar ôl y perfformiad yna. Nid dyna oedd araith agoriadol Eisteddfod yr Urdd. Doedd o ddim yn rhan o'r dathliad."

Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones na dderbyniodd yr Urdd unrhyw gwynion yn dilyn y digwyddiad a ymddangosai fel pe byddai yn gychwyn y 'dathliad'.

"Ychwanegodd: "Yr hyn sy'n braf efo Eisteddfod yr Urdd yw ei bod yn adlewyrchu yr ardaloedd mae hi'n mynd iddyn nhw a dyna'n union mae hi wedi wneud eleni."

Trefnwyd y 'dathliad' fel yr oedd yn cael ei alw ar y cyd gan yr Urdd a Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru a Chyngor Rhyng-ffydd Cymru.

Y thema oedd Neges Ewyllys Da y mudiad ar newid hinsawdd.

Y bwriad oedd i'r digwyddiad a oedd yn tynnu i mewn wahanol gredoau fod yn fodd i'r Urdd i gydio mewn ysgallen a fu'n un digon pigog yn y gorffennol o gofio bod llw traddodiadol y mudiad yn galw am ffyddlondeb "i Grist" yn ogystal ag i Gymru a chyd-ddyn.

Disgrifwyd y seremoni fel ffordd "anturus" o dynnu plant o gredoau eraill i gorlan yr Urdd tra ar yr un pryd yn mynegi "traddodiad Cristnogol Cymru" .

Cyn y digwyddiad cyfeirwyd mewn datganiad at groesawu "deiliaid prif gredoau a diwylliannau eraill y genedl".

Ac meddai'r Parchedig Aled Edwards, Prif Weithredwr Cytûn:

Disgyblion Ysol Plasmawr dan arweiniad yr athrawes gerdd, Helen Thomas

"O lwyfan cadarn traddodiad Cristnogol Cymru, bu'n bleser cael cydweithio â'r Urdd wrth groesawu traddodiadau a chredoau amrywiol Cymru heddiw i'r dathliad arloesol hwn."

Yn ystod y dathliad cafwyd cyflwyniad gan Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol, yr Arglwydd Elis Thomas, a chyfraniadau gan gôr CF1, band drymiau dur Ysgol Fitzalan - yr ysgol fwyaf aml-hiliol yng Nghymru - a chôr Ysgol Plasmawr.

Cafwyd cyfraniad hefyd gan Geraint Ballinger ar y soddgrwth.

Darlledwyd y Neges Ewyllys Da ei hun y dydd Llun cyn yr Eisteddfod, hi chân oedd yn gysylltiedig â hi wedi ei llunio gan ddisgyblion o ysgolion Fitzalan a Phlasmawr yn y Brifddinas - y tro cyntaf i ddwy ysgol weithio ar y cyd i lunio'r Neges.


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.