Â鶹ԼÅÄ

Caryl - llywydd dydd Llun

Caryl Parry Jones

Llywydd y dydd ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod yw'r gantores a chyn fardd plant Cymru, Caryl Parry Jones.

Magwyd Caryl yn Ffynnongroyw, Sir y Fflint.

Derbyniodd ei haddysg gynradd yn Ysgolion Mornant, Ffynnongroyw a Dewi Sant, Y Rhyl cyn symud ymlaen i Ysgol Uwchradd Glan Clwyd ac yna i Goleg y Brifysgol, Bangor lle y graddiodd yn y Gymraeg ym 1979.

Yn yr un flwyddyn symudodd i Gaerdydd yn gyflwynydd rhaglenni plant gyda'r Â鶹ԼÅÄ. Yn yr Wythdegau gwaneth enw iddi ei hun fel cantores yn bennaf a bu'n gyfrifol am sawl cyfres gerdd a chomedi ar S4C.

Mae hi'n gyfansoddwraig doreithiog ac yn ogystal ag ysgrifennu caneuon iddi hi ei hun a'r bandiau y bu'n aelod ohonyn nhw (Sidan ,Injaroc, Bando, Caryl a'r Band) mae hi wedi cyfansoddi'n gyson i unawdwyr, corau, plant a grwpiau yn ogystal â cherddoriaeth i deledu ac achlysuron arbennig.

Cyhoeddodd sawl albwm gan gynnwys, yn 2006, gasgliad o'i goreuon ar CD gan Sain a llyfr o'r caneuon hynny gan Wasg Carreg Gwalch.

Mae hi hefyd wrth ei bodd yn gweithio gyda chantorion ifanc ac yn cael pleser arbennig yn darganfod talentau newydd a'u rhoi ar ben ffordd.

Mae hi bellach yn byw yn Y Bontfaen ym Mro Morgannwg gyda'i gŵr, Myfyr Isaac, a'u pedwar plentyn, Elan, Miriam, Moc a Greta.


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.