Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r MΓ΄r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Agor Ysgol yr Hendre
Adroddiad o ddiwrnod agor Ysgol yr Hendre, Trelew, Patagonia

Prynhawn Llun, Mawrth, 6, 2006, daeth llu o bobl ynghyd i dystio i agoriad swyddogol Ysgol yr Hendre Trelew.

Rhai o blant yr ysgol Ysgol newydd ydy hon sy'n agor ei drysau heddiw i blant tair, pedair a phump oed a'r hyn sy'n arbennig amdani ydy ei bod yn ysgol ddwyieithog Gymraeg a Sbaeneg swyddogol.

Mae Awdurdod Addysg Talaith Chubut, yr Ariannin wedi derbyn, caniatau a hyd yn oed hybu sefydlu'r ysgol hon.

Rhai o blant yr ysgol Yno i dystio i'r achlysur roedd Ysgrifennydd Addysg y Dalaith, Mirta Romero, a nifer o weinidogion ac ysgrifenyddion Talaith Chubut a Chyngor Tref Trelew yn symbol o'r derbyniad gwresog mae'r ysgol hon wedi ei gael.

Yno hefyd yr oedd rhieni'r ysgol, ffrindiau a phobl o bob rhan o Ddyffryn Camwy oedd wedi penderfynu eu bod am fod yn bresennol i'r digwyddiad hanesyddol hwn.

Yn cyflwyno'r seremoni roedd Susana Celano Davies a groesawodd y swyddogion a'r cyhoedd cyn gwahodd Enrique Korn, llywydd Cymdeithas Gymraeg Trelew i ddweud gair.

"Deuparth gwaith ei ddechrau," oedd ei eiriau wrth sôn am y syniad tu ôl i'r ysgol.

Disgwyl am yr agoriad Yna siaradodd Javier Cunha, Ysgrifennydd Addysg Trelew sydd wedi hybu'r ysgol o'r cychwyn ac sydd wedi rhoi pob cefnogaeth i'r cynllun.

Wedi hyn cododd Catrin Morris ar ei thraed a gofyn i bawb ddathlu gyda hi fodolaeth yr ysgol hon ac ymfalchïo yn yr hyn sydd wedi ei gyflawni.

Darllenodd eiriau Dafydd Wigley a obeithiai "y bydd popeth yn mynd o nerth i nerth. Llongyfarchiadau i chwi oll am fentro - a chredu!"

Y gweinidog addysg siaradodd nesaf gan ddweud fod bod yn dyst i agor ysgol bob amser yn destun llawenydd ond ysgol fel hon yn fwy byth.

Ar hynny dadorchuddiwyd plac yr ysgol a gwahoddwyd y plant bach i ganu.

Judith Jones â'u harweiniodd i gyfeiliant Mari Philips, athrawes newydd o Gymru.

hai o blant yr ysgol Canodd y plant bach amryw ganeuon cyn i ni glywed pedwarawd Billy, Gladys, Roberto a Judith yn canu 'Pererin y Plant'.

Yna, ymunodd y gynulleidfa i gyd i ganu 'Calon Lân' cyn i Mirta Romero a Catrin Morris gyda rhai o blant yr ysgol feithrin dorri'r rhuban ac agor yr ysgol yn swyddogol.

Arwydd yr ysgol Cafwyd dathlu mawr dros baned o de a theisen ddu Patagonia a chyfle i sgwrsio ac edrych ar yr adeilad - cartref newydd yr ysgol - Ysgol yr Hendre Trelew, Patagonia.

Diolch i chi i gyd am eich cymorth i wireddu breuddwyd yma ar y paith pell ym Mhatagonia.






cysylltiadau


Straeon eraill o Batagonia

de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy