Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r MΓ΄r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Hwb i ddawns y glocsen
Mae bri i Ddawns y Glocsen yn Y Wladfa y dyddiau hyn . . .

Bu cystadlaethau dawnsio gwerin yn rhan bwysig o Eisteddfod Chubut ers tipyn erbyn hyn, er, yn ôl ambell un, nid oedd dawnsio gwerin yn rhywbeth a ddaeth i'r Wladfa gyda'r ymfudwyr cyntaf.

Ond erbyn hyn bu grwpiau dawnsio gwerin Trelew a'r Gaiman yn cystadlu yn yr eisteddfod ers blynyddoedd ac yn gymharol ddiweddar mae grwpiau newydd o'r Andes, (Trevelin ac Esquel), a'r trefi mawrion ger Môr yr Iwerydd, Comodoro Rivadavia a Madryn wedi ymuno yn yr hwyl.

Ac yn dechrau ennill hefyd!

Neb i'w dysgu
Ond, doedd dim un gystadleuaeth ddawnsio clocsiau - am y rheswm syml nad oedd neb ar gael i ddysgu'r stepio ac ati.

Rhyw dair blynedd yn ôl, yn dilyn rhodd arbennig i'r perwyl hwn gan lywydd Cymdeithas Ddawnsio Gwerin, Jean Huw Jones, cyhoeddwyd fideo ar sut i ddysgu clocsio.

Anfonodd Jean gopïau o'r fideo draw i Batagonia, ac yn dilyn ymweliad arbennig Aelwyd Crymych gyda'u clocswyr ifanc y llynedd, doedd dim angen llawer mwy i sbarduno'r bobl draw yno.

Felly, eleni am y tro cyntaf erioed mi fydd cystadleuaeth dawns y glocsen yn Eisteddfod Chubut, fis Hydref.

Ond, mae hanes Y Wladfa yn tystio i'r ffaith nad oedd ac nad yw pethe byth yn hawdd!!

Nid yn unig does ganddyn nhw ddim clocsiau ond does neb yn gwybod pa bren i'w ddefnyddio na holl gyfrinachau'r crydd Cymreig wrth weithio sgidiau felly.

Cynnig prynu
Ar ôl cysylltu â Jean Huw Jones a'i gŵr, Huw, i mofyn cyngor ar y mater hwn, dyma Jean a Huw yn cynnig prynu pedwar pâr i alluogi'r bobl i gystadlu.

Roedd Jean a Huw Jones ym Mhatagonia yn 1992, gyda grŵp dan arweiniad y diweddar Barchedig Glyn Ceiriog Evans, Y Groes, Dinbych, pan lansiwyd y syniad o ddanfon pobl ifanc draw i Gymru ar gwrs dwys Cymraeg yng Ngholeg Dewi Sant, Llambed.

Apeliodd y syniad yn fawr at y grŵp ac mi godwyd swm sylweddol gan yr aelodau i helpu gwireddu'r syniad, gydag un aelod, Rhys Jones, rheolwr banc yn Llangefni, yn actio fel trysorydd y grŵp, cyn iddo ddod yn Drysorydd Cymdeithas Cymru-Ariannin.



O'r tri myfyriwr cyntaf a ddaeth ar y cwrs yn 1993, Gabriel Restucha, Siôn Carlos Davies a Daniel Escobar, mae'r ddau gyntaf yn awr yn athrawon Cymraeg yn yr ardal.

Mae'r cynllun hwn yn awr dan nawdd y Cyngor Prydeinig, y Cynulliad a Chymdeithas Cymru Ariannin.

Gan fod chwe myfyriwr o Batagonia yma yn awr ar Gynllun Y Cyngor Prydeinig, a newydd orffen y Cwrs Cymraeg yn Llanbedr pont Steffan, daeth tri o'r myfyrwyr i gwrdd â Jean a Huw gan dderbyn y clocsiau ar ran y dawnswyr draw ym Mhatagonia.

Hen gysylltiad
Dewiswyd Llangynwyd ger Maesteg ar gyfer hyn oherwydd y cysylltiadau lleol â Phatagonia ac am fod grwpiau dawnsio gwerin yn yr ardal.

Cyd-ddigwyddiad unigryw yw'r ffaith bod un o'r myfyrwyr, Luis Chavarria Owen, yn hanu o deulu Guilford o ardal Penyfai a Llangynwyd, a ymfudodd i Batagonia yn yr 1870au a thynnwyd lluniau o flaen drws eglwys hynafol Llangynwyd.

Wrth gwrs, bydd yn rhaid i'r cystadleuwyr clocsio aros am ychydig bach cyn cael eu ddefnyddio gan na allai'r tri myfyriwr eu cludo drosodd a phan gyrhaeddant bydd yn rhaid rhannu'r clocsiau rhwng y cystadleuwyr nes y bydd digon ar gael ar gyfer pawb.

Yn y lluniau:
  • Llun cyntaf: Jorge Leccese (Gaiman), Luis Chavarria Owen (Comodoro Rivadavia), Juan Alberto Davies (Trelew) a Jean Huw Jones.
  • Yr ail lun: Jean Huw Jones a gyflwynodd gopi arall o'r fideo Dysgu Clocsio i Luis gan nad oes copi o'r fideo gyda nhw yn ngrŵp Comodoro Rivadavia. Jorge, Juan, Luis, Jean a'i hwyres.





  • cysylltiadau


    de america

    Yr Ariannin
    Apel am pesos coch y delyn

    Newyddion y Gaiman

    Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

    Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

    Ymweliad criw Ystradgynlais

    Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

    Eisteddfod Trevelin 2004

    Taith côr i ymweld â gwreiddiau

    Newyddion

    Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

    Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

    Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

    Kyffin Williams ym Mhatagonia

    Marw Ieuan May Jones

    Agor Ysgol yr Hendre

    Chwilio am wreiddiau

    Newyddion Gorffennaf 2006

    Taith bro'r Gadlas

    Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

    Teyrnged i ffotograffydd blaengar

    O Batagonia i wlad ei dadau

    Llwyddiant cynllun athrawon

    Darlith i gofio Lewis Jones

    Diwrnod y gêm

    O Grymych i Ariannin

    Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

    Hwb i ddawns y glocsen

    Angen cymorth yn Nhrelew

    Croesawu ymwelwyr

    Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

    Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

    Cofio'r croesawydd siriol

    Newyddion Rhagfyr

    Newyddion Mehefin 2006

    Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

    Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

    Cofio Moelona

    Cofio'r Mimosa

    Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

    Ysgol feithrin

    Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

    Newyddion Mawrth 2006

    Marw Marta Rees, Plas y Coed

    Marw Mair Davies

    Ethol Cymro yn faer

    Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

    Yn y llwch a'r lludw

    Cyfarfod Karen a Glyndŵr

    John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

    Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

    O Fro Dinefwr i'r Wladfa

    Enw newydd i ysgoloriaeth

    Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

    Aelodau newydd
    Gorsedd y Wladfa 2008


    Cofio Virgilio Horacio González

    Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

    Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

    Gŵyl y Glaniad 2005

    Pecynnau i ysgolion

    Darganfod y Gymraeg

    Eisteddfod 2007

    Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

    Ysgol y Dreigiau Bach

    Cinio blynyddol

    Croeso i gylchgronau Cymraeg

    Ymweliad Cor Merched y Gaiman

    Marw cerddor neilltuol

    Ysgol Trelew

    Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

    Cadair y Wladfa 2005

    'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

    Cyhoeddi hanes Bethlehem

    Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

    Athrawon 2007

    Arwyddion dwyieithog

    Colli bardd swynol

    Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

    Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

    Paratoi i ddathlu canrif a hanner

    Mimosa - canmol y fenter

    Y Mimosa

    Maradona:

    Lluniau Patagonia

    Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

    Sgrech y dathlu!

    Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

    Cofio Fred Green

    Edrych ymlaen at lanolin

    Profiad Patagonia

    Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

    Dafydd Du ym Mhatagonia

    Nadolig yng ngwres yr haf

    Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

    Ymweliad Côr y Wladfa

    Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




    About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy