Â鶹ԼÅÄ

Symud o Lerpwl

Mari Hughes

Cafodd Mari Hughes ei magu yn Lerpwl gan rieni Cymraeg ac roedd yn athrawes yno yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Roedd wedi disgwyl cael ei hanfon gyda'r faciwîs i Gymru ond cyn cael ei hun yn Ysbyty Ifan, cafodd ei hanfon i bentref bach i lawr yr arfordir yn Lloegr lle dychrynodd ambell un drwy siarad Cymraeg.

23 Hydref 2008

"Roeddwn yn athrawes yn Lerpwl adeg y rhyfel ac mi gawson ein efaciwêtio gan bod y llywodraeth yn meddwl eu bod am fomio Lerpwl yn syth, er na wnaethon nhw ddim.

"Aeth y rhan fwyaf i Gymru ac roeddwn i'n meddwl y byswn i'n mynd hefyd. Doedden ni ddim yn cael gwybod lle roedden ni'n mynd, jest hel y plant at ei gilydd, gweld fod gan bob plentyn gas mask a phecyn o fwyd a mynd â nhw lawr i'r stesion.

"Ddaru ni landio yn Southport, ac wedyn cael bws i fynd â ni i bentref bach o'r enw Banks.

"Ein gwaith ni fel athrawon oedd dosbarthu'r plant i wahanol bobl - byddai rhywun yn dod atoch ac yn dweud, 'Dwi'n cymryd tri hogyn' neu 'Mi gymra i ddwy ferch'.

"Daeth un ddynes neis ofnadwy mewn ffrog las - mi alla i ei gweld hi rŵan - a dyma hi'n dod ata i a dweud ei bod lawr i gael dau athro neu ddwy athrawes. Dyna fi'n gofyn a fyddai hi'n cymryd fy ffrind a minnau ac mi gytunodd.

"Doedd gen i ddim eisiau i'r brifathrawes ddallt ein bod ni'n cael mynd efo'n gilydd - a dyma fi'n gweiddi at fy ffrind, Gwladys, oedd draw ochr arall y 'stafell: "Peidiwch â gwneud dim trefniadau gyda phobl eraill gan fod y ddynes yn y ffrog las am ein cymryd ni'n dwy!"

"Mi aeth y lle fel y bedd - pawb yn sbïo arna i, a finnau'n methu dallt pam. "Mewn dipyn o ddiwrnodau wedyn, mi ddaru'r ddynes gyfadda: "Oh, you gave us such a fright in the hall, what language were you speaking? We all thought it was German," meddai. Mae na lot o 'll' a 'ch' mewn Almaeneg, fel yn y Gymraeg!

"Mi fuo ni yn fanno am 'chydig, ond roedd yn rhy agos i Lerpwl a doedd dim yn digwydd yna eto. Doedd y plant ddim yn licio'r wlad lot chwaith. Doedd na ddim cae chwarae iddyn nhw - jest cae llond o gabejis. Doeddwn i ddim eisiau gweld yr un cabej byth eto ar ôl hynny!

"Felly yn ôl i Lerpwl â ni. Ond roedd wedi gwaethygu dipyn erbyn hynny. Trefnais i mam a dad gael mynd i Ysbyty Ifan ac mi ges i job fel prifathrawes ar ysgol babanod yn Llangollen.

"Yn rhyfedd iawn, pwy ddaeth i Langollen ond fy hen ysgol i yn Lerpwl. Dwi'n cofio rhywun yn dod ata i ac yn dweud fod fy angen i yn neuadd y dre - a dyna lle roedd fy hen ysgol, a'r athrawon roeddwn yn eu hadnabod yn dda, gan gynnwys fy ffrind Gwladys Tregilgas.

"Doedd Ysbyty Ifan ddim yn ddieithr i mi gan y byddwn yn dod bob gwyliau i aros efo nain a fy modryb.

"Ond roedd 'na lot o eiriau doeddwn ni ddim yn eu dallt pan ddes i gyntaf ar ôl byw yn Lerpwl.

"Wedyn, gwelais i ffarmwr yn Ysbyty Ifan, a dyna fi yn ei briodi a chael tÅ· bach - yn y pentre i ddechrau. Ond roeddwn i wastad eisiau tÅ· heb fod yn sownd i dÅ· arall - tÅ· efo pedwar wal i fi fy hyn. Felly cawsom fferm Hafodlas, a wedyn Hafod Ifan, oedd dros y ffordd.

"Dysgais i odro, a dechreuais brynu gwartheg hefyd. Ond pan roedd y plant yn saith ac wyth oed, mi ofynwyd i mi fynd i weithio yn yr ysgol gynradd fel supply. Roedd mam efo ni ar y ffarm a dywedodd y byddai hi'n edrych ar ôl y dynion ganol dydd, a byddwn innau'n nôl erbyn pedwar o'r gloch. A felly fu am sbel. Aeth y supply yn barhaol, ac roeddwn yna nes i mi ymddeol.

"Ac yn Hafod Ifan ydw i o hyd. Mae fy merch a fy mab yng nghyfraith yn ffermio yno rŵan, ond mae nhw'n ffeind iawn i roi cornel bach i mi yno rŵan fy mod yn 95."

Bu Mrs Hughes yn dweud ei hanes wrth dîm gwefan Â鶹ԼÅÄ Cymru yn Llanrwst.

Atgofion personol eraill gan, ac am, faciwîs:


Anfonwyd tri theulu nôl i fyw mewn cymuned lofaol yn Ne Cymru yn 1944.

Gogledd ddwyrain

Arfau cemegol

Ffatri gemegau

Cyfrinach hen safle arfau cemegol o'r Ail Ryfel Byd ger yr Wyddgrug.

Gogledd orllewin

Milwyr yn yr Aifft

Straeon rhyfel

O warchod yr Arglwydd Haw Haw i suddo llongau tanfor: atgofion lleol.

Canolbarth

Parti stryd

Diwrnod VE

Dathlu diwedd y rhyfel ac atgofion ifaciwîs gan bobl y canolbarth.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.