Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd - Creu Cenedl

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
»Hanes
Cofio Cymru
Cymru ar yr Awyr
Taith yr Iaith
Canrif o Brifwyl

Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd
Chwaraeon

Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru
Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Y Rhyfel a'r Dirwasgiad faciwîs yn ystod y Rhyfel Byd
Faciwîs yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Effaith y Dirwasgiad
Y mae’r dirwasgiad yn rhoi terfyn ar y cynnydd diwydiannol a fu’n mynd ar garlam am ganrif a hanner. Y mae pobl yn gadael Cymru wrth eu miloedd - 390,000 yn gadael rhwng 1925 a 1939. Nid yw poblogaeth Cymru yn cyrraedd y rhif ydoedd yn 1925 tan 1973. Canlyniad y segurdod di-ddewis yw ffataliaeth ac anobaith. Mae byw ar enillion bychan yn cael effaith ar iechyd pobl ac ar gyflwr eu tai. Mae’r prawf moddion - sy’n golygu llai o fudd-dal diweithdra os oes gan deulu incwm o ffynhonnell arall - yn arwain ar wrthdystiadau enfawr, yn eu plith protest ar 3 Chwefror 1935, gan hyd at 300,000 ar strydoedd Cymru. Mae methiant ymddangosiadol cyfalafiaeth yn hwb i achos y Sosialwyr a’r Comiwnyddion, sydd ar flaen y gad ym mhob protest. Mae’r dirwasgiad yn yr ardaloedd diwydiannol yn ergyd i ddiwylliant y capeli a’r iaith Gymraeg. Arweiniodd ffrae ynglyn â chynorthwyo’r di-waith at gwymp Llywodraeth Lafur 1929-31, ac ym marn y Llywodraeth Genedlaethol a ffurfiwyd nid oedd dim i’w wneud ond aros i bethau wella. Yn 1937, serch hynny, mae’r llywodraeth yn dechrau cynorthwyo cwmnïau sy’n creu swyddi mewn ardaloedd o ddiweithdra uchel - gan sefydlu’r polisïau economaidd rhanbarthol hynny a fyddai mor fanteisiol i Gymru. Ond er y swyddi newydd - yn enwedig mewn llefydd fel gwaith dur Glyn Ebwy a stad ddiwydiannol Trefforest - a chynifer o bobl ddi-waith yn ymfudo, nid yw economi Cymru yn gwella rhyw lawer. Yn y mis olaf cyn y rhyfel, Awst 1939, mae 15.2% o wrywod yswiriedig Cymru yn ddi-waith.

Yr Ail Ryfel Byd
Y mae’r rhyfel yn datrys problem diweithdra, dros dro o leiaf. Erbyn 1941 mae gan bron bawb sy’n abl i weithio, swydd, ac mae canran y menywod sy’n ymuno â’r gweithlu yn uwch yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig. Ar ben hynny, mae’r rhyfel yn lladd pymtheg mil o Gymry ac mae galw ar lawer mwy i fynd i weithio mewn ffatrïoedd yn Lloegr. Credir bod Cymru’n rhy bell i gyrchoedd awyr yr Almaenwyr; mae’r holl faciwîs swyddogol ac eraill sy’n ffoi rhag y bomio yn ychwanegu rhyw ddau gan mil at rif y boblogaeth. Ond di-sail yw’r gred bod Cymru’n ddiogel, fel y profodd y cyrchoedd ar Abertawe yn Chwefror 1941. Serch hynny, mae nifer o ddiwydiannau rhyfel yn cael eu sefydlu yng Nghymru, gan gynnwys stordai arfau enfawr ym Mhenybont ar Ogwr. Y mae llai o alw am weithwyr yn y diwydiannau trymion, ac mae hynny’n creu’r gobaith am fwy o amrywiaeth economaidd wedi’r rhyfel. Oherwydd prinder bwyd mae’r ffermwyr yn cael mwy am eu cynnyrch. A’r rhyfel yn llusgo ymlaen mae yna benderfyniad yng Nghymru fel yng ngweddill y Deyrnas Unedig na fydd ailadrodd holl helbulon y 1930au. A’r agwedd meddwl yma yw’r brif ffactor yn llwyddiant ysgubol y Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol 1945.
Ymlaen - tudalen nesaf

Penawdau:

Tudalen cartref
Cyfnodau hanesyddol
  1. Cymru a'r Rhufeiniaid
  2. Twf y Wladwriaeth Gymraeg
  3. Yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru
  4. Dyfodiad y Normaniaid
  5. Tywysogaeth Cymru
  6. Diwedd annibyniaeth Cymru
  7. Cymdeithas a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol
  8. Gwrthryfel Owain Glyndwr
  9. Dyfodiad y Tuduriaid a'r Ddeddf Uno
  10. Y Diwygiad Protestannaidd
  11. Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  12. Diwylliant a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  13. Y Chwyldro Diwydiannol
  14. Capel ac Eglwys
  15. Twf Democratiaeth
  16. Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol
  17. Twf y Blaid Lafur

  18. Y Rhyfel a'r Dirwasgiad
    Tud 1, Tud 2,

  19. Cymdeithas Newydd
  20. Cenedl Newydd
Â鶹ԼÅÄ
© MM
Ìý Ìý


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy