Iaith y Nefoedd - 16eg ganrif
29 Awst 2008
Wedi'r Diwygiad Protestannaidd, Saesneg oedd iaith gwasanaethau crefyddol, ond fe basiodd Elizabeth I ddeddf yn dweud bod rhaid cael cyfieithiad Cymraeg o'r Beibl ym mhob plwyf yng Nghymru.
Yn ôl Deddf Unffurfiaeth 1549 roedd rhaid i bob gwasanaeth cyhoeddus fod yn Saesneg ac nid Lladin. Pwrpas hyn oedd i sicrhau bod y diwygiadau a gyflwynwyd gan Harri'r VIII yn cael eu derbyn gan drwch y boblogaeth. Yng Nghernyw bu gwrthwynebiad i'r Ddeddf gan siaradwyr y Gernyweg, a bu miloedd farw. Nid felly yng Nghymru, eto roedd y Ddeddf fel pe tae'n mynd i arwain at dranc yr iaith.
Canlyniad pwysedd gwleidyddol oedd y ddeddfwriaeth. Er bod gwreiddiau'r Tuduriaid yng Nghymru, roedden nhw'n credu mewn canoli ac unffurfiaeth o ran gweinyddu, crefydd ac iaith. Serch hynny, yn 1563 pasiwyd deddf gan Elizabeth I oedd yn croes ddweud Deddf 1549. Roedd hi am weld cyfieithiad Cymraeg o'r Llyfr Gweddi Gyffredin a'r Beibl yn holl eglwysi Cymru erbyn 1567.
Pam gwneud hyn? Am fod Cymru yn y gorffennol wedi bod yn rhyw fath o ddrws cefn i'r rhai oedd am ymosod ar Loegr? Wedi'r cwbl, onid dyna'r llwybr a gymerodd y Tuduriaid i gipio'r goron? Byddai lledaenu'r grefydd Brotestannaidd ymhlith y Cymry yn eu hiaith eu hunain yn wleidyddol fanteisiol. Byddai'r Cymry wedyn yn fwy parod i gefnogi coron Lloegr ar adeg pan oedd bygythiad Catholigion Ewrop ar gynnydd.
Eto, o dan y ddeddf, yr oedd disgwyl i'r Cymry ddysgu Saesneg. Fe fyddai'r cyfieithiad Cymraeg ochr yn ochr â'r Saesneg. Y syniad oedd y byddai'r Cymry'n cymharu'r ddau ac o ganlyniad yn dysgu Saesneg. Rhagwelwyd y byddai'r Cymry ymhen amser yn anghofio'u hiaith eu hunain.
Serch hynny, roedd hyn yn gonsesiwn sylweddol. Y Gymraeg oedd yr iaith gyntaf yn Ewrop nad oedd yn iaith y wladwriaeth i fod yn gyfrwng lledaenu Gair Duw wedi'r Diwygiad Protestannaidd. Mae'n amhosib dweud i ba raddau yr oedd hyn yn ganlyniad lobïo'r Cymry dylanwadol yn y llys Tuduraidd.
Cyfieithwyd y Testament Newydd i'r Gymraeg gyntaf gan William Salesbury yn 1567. Wedyn daeth cyfiethiad y Beibl cyfan gan yr Esgob William Morgan yn 1588. Newidiodd Morgan rai geiriau Cymraeg de Cymru am eiriau Cymraeg y Gogledd, megis cenllysg yn lle cesair. Mae'n bosib mai hyn ddechreuodd y syniad bod Cymraeg y gogledd yn rhagori ar Gymraeg y de.
Mae cyfieithiad Esgob Morgan yn llawn o dermau hynafol, fel oedd yn gweddu i lyfr cysegredig. Roedd y gwahaniaeth rhwng iaith y Beibl ac iaith bob dydd y bobl yn amlwg o'r dechrau. Ond fe roddodd ehangder yr eirfa a barddoniaeth y cyfieithiad iaith aruchel i'r Cymry, yn wahanol iawn i'w brodyr Celtaidd yng Nghernyw, yr Alban ac Iwerddon. Bob Sul, a hynny gyda sêl bendith frenhinol, fe fyddai cynulleidfaoedd Cymraeg yn clywed Cymraeg urddasol. Roedd hyn yn gyfraniad aruthrol i sicrhau parhad yr iaith.
Yr Iaith Gymraeg
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.