Â鶹ԼÅÄ

Rhosyn Tuduraidd

Y Tuduriaid - y 15fed a'r 16eg ganrif

29 Awst 2008

Fe gipiodd Harri'r VII - Harri Tudur - goron Prydain o dan faner draig goch Cymru. Ond erbyn 1536 yr oedd Cymru, o ran y gyfraith, yn rhan o Loegr, a Saesneg oedd unig iaith swyddogol y wlad.

Daeth y Cymry i arfer â bywyd wedi'r Goncwest Edwardaidd yn 1282, ond arhosodd elfen o ddrwgdeimlad. Bu o leiaf bum gwrthryfel o bwys cyn i Owain Glyndŵr lansio'r olaf a'r mwyaf o ymdrechion y Cymry i ennill eu rhyddid. Parodd y gwrthryfel o 1400 i 1410. Mae'r rhesymau tu ôl i'r ymgais yn destun trafod o hyd, ond mae'n ymddangos bod hunaniaeth ac iaith yn eu plith.

Mewn llythyr at Bab Avingon yn 1406 mynnodd Owain Glyndŵr y dylai offeiriaid yng Nghymru ddeall yr iaith. Ond erbyn 1415 yr oedd Glyndŵr wedi mynd ac roedd beirdd yn aros yn ddisgwylgar am Fab Darogan arall fyddai'n dod i waredu'r Cymry o orthrwm y Sacsoniaid.

Fe ddaeth un ym mherson Harri Tudur, a fyddai'n cael ei goroni'n Harri'r VII maes o law. Yr oedd yn un o ddisgynyddion teulu'r Tuduriaid o Ynys Môn, oedd wedi ochri gyda Glyndŵr bron ganrif yn gynharach.

Fe wnaeth Harri yn fawr o'r cysylltiad pan chwifiodd hen faner y ddraig oedd gan Cadwaladr yn ei fuddugoliaeth ym Mrwydr Bosworth yn 1485. Yr oedd hi'n ymddangos ei fod yn cyflawni'n hen broffwydoliaethau y byddai'r Cymry'n adennill teyrnas Prydain oddi ar y Sacsoniaid.

I ryw raddau fe elwodd y Cymry o deyrnasiad Harri'r VII. Cafodd rhai o'r cymalau mwyaf gwrth-Gymreig yn y deddfau a basiwyd wedi gwrthryfel Glyndŵr eu diddymu. Ond diflannodd unrhyw syniad rhamantaidd y byddai Cymru'n cael ei hen ryddid gwleidyddol a diwylliannol yn ôl pan basiwyd Deddf Uno 1536. Pasiwyd y ddeddf gan Harri'r VIII, mab Harri, gan wneud Cymru'n rhan o Loegr.

Rhan o'r ddeddf oedd gwahardd Cymry uniaith Gymraeg rhag dal swydd gyhoeddus, gwneud Saesneg yn iaith swyddogol y wlad, hanfodol i'r rhai oedd yn llywodraethu, ac felly doedd medru'r Gymraeg bellach ddim yn angenrheidiol. I rai, roedd yr iaith yn embaras.

Dyma ddechrau'r broses o Seisnigo'r dosbarth hwn, proses a gwblhawyd fwy neu lai erbyn diwedd y 18fed ganrif. Dylid nodi nad oes unrhyw gofnod am brotestiadau na therfysg yng Nghymru o ganlyniad i basio'r Ddeddf Uno.

Yr oedd tynged yr iaith nawr yn nwylo'r werin. Cymru uniaith Gymraeg oedd y mwyafrif o hyd. Er i'r iaith gael eu halltudio'n ddiseremoni o fywyd cyhoeddus, mae'n eironig bod gwaredigaeth wedi dod o gyfeiriad swyddogol drwy'r newidiadau crefyddol a gyflwynwyd gan yr un Harri'r VIII a basiodd Ddeddf Uno 1536.


Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Eisteddfod

Ceidwad y Cledd, Robin Mc Bryde

Canrif o Brifwyl

Canrif o hanes Cymru a'r byd drwy lygaid yr Eisteddfod Genedlaethol.

Dysgu

Celtiaid yr Oes Haearn

Celtiaid

Dewch i ddysgu mwy am fyd Celtiaid Oes yr Haearn yng Nghymru.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.