Arwisgiad 1969
18 Mehefin 2009
Ar Orffennaf 1af, 1969 cafodd y Tywysog Siarl ei arwisgo yn Dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon. Ioan Roberts, gohebydd 'Y Cymro' ar y pryd, sydd yn edrych nôl:
Cofio '69
Oeddwn, roeddwn i yno. Er dirfawr syndod i mi fy hun, roeddwn i'n eistedd ar fy nghlustog tair-pluen am 10 o'r gloch y bore yn unol â'r cyfarwyddyd, er nad oedd y gweithgareddau yn y castell i fod i ddechrau am rai oriau. Mae trefn y diwrnod yn cael ei gofnodi'n fanwl yn rhifyn yr wythnos cynt o'r Herald Cymraeg, dan olygyddiaeth yr arch-frenhinwr John Eilian. "Mewn cariad hefo'r bachgen main" meddai'r pennawd, a chawn wybod y byddai "saliwt 21 o ynnau fel y gedy gorymdaith y Tywysog Phillip Ferodo gyda'r Fam Frenhines, Anne, y Dywysoges Margaret a gosgordd o'r Gwŷr Meirch". Am ugain munud i dri byddai "Utgyrn y Tŷ Brenhinol yn seinio ar Dŵr yr Eryr i arwain y Tywysog i Dŵr y Siambrlen, a phawb yn canu 'Tywysog Gwlad y Bryniau'." Doeddwn i ddim yn canu chwaith, ac mae'n bosib mai fi oedd yr unig un o'r pedair mil o fewn muriau'r castell oedd yn gwisgo jeans. Rhyw atgofion afreal felly sydd gen i am un o ddyddiau rhyfeddaf fy mywyd, Gorffennaf y cyntaf 1969.
Dim ond ers tri mis yr oeddwn i wedi dechrau gweithio fel gohebydd i'r Cymro. Doeddwn i fawr o feddwl, wrth wneud cais am y swydd, y byddai newyddiadurwr mor ddibrofiad yn cael ei anfon yn llygad dyst i'r seremoni oedd wedi rhwygo'r genedl. Yn waeth na hynny doedd gen i, mwy nag aml un o'm cyfoedion, ddim llawer o deyrngarwch i'r Frenhiniaeth. Ond roedd yn rhaid i rywun fynd yno, a'r unig ddau ohebydd crwydrol oedd gan Y Cymro oedd Lyn Ebenezer a fi. Roedd Lyn yn ffrind i Julian Cayo Evans, "self-styled Commandant of the Free Wales Army", fel y byddai'r wasg yn ei ddisgrifio. Felly mae'n rhaid bod rhywun wedi penderfynu mai fi, y lleiaf o ddau ddrwg, fyddai'n cael y fraint.
Cyfrwng i rwygo mudiadau, cymunedau a hyd yn oed teuluoedd.
Byddai'n anodd bod wedi dewis blwyddyn fwy cyffrous i gychwyn ar yrfa newyddiadurol. Roedd hi'n ddiwedd degawd sefydlu Cymdeithas yr Iaith, boddi Cwm Tryweryn, isetholiad Caerfyrddin, Aberfan, yr ymgyrch beintio arwyddion, a bomiau fan hyn a fan draw. Roedd rhai yn argyhoeddedig mai ystryw i arafu twf cenedlaetholdeb oedd cyhoeddiad y llywodraeth Lafur ym Mai 1967 fod y Tywysog Charles i gael ei arwisgo'n Dywysog Cymru ymhen dwy flynedd. Yn fwriadol neu beidio, bu'n gyfrwng i rwygo mudiadau, cymunedau a hyd yn oed deuluoedd. Yn Barn mis Mai eleni datgelodd Gerallt Lloyd Owen, awdur "Wylit wylit Lywelyn", bod ei fam ei hun wedi gwylio'r sioe trwy ffenest llofft un o fanciau Caernarfon.
Roedd pethau'n dra gwahanol adeg yr unig arwisgo blaenorol, yn 1911. Lloyd George oedd wedi cynllunio arwisgiad y dyn a ddaeth wedyn yn Frenin Edward VIII, cyn i Mrs Simpson ei hudo oddi wrth ei goron. Yn y cyfnod hwnnw doedd fawr neb yn gweld gwrthdaro rhwng gwladgarwch Cymreig a rhwysg ymerodrol, a does dim cofnod o unrhyw wrthwynebiad o bwys.
Does dim dwywaith mai felly'r oedd llawer o bobl Cymru'n gweld pethau yn 1969 hefyd. Ond erbyn hynny roedd yna leiafrif sylweddol, yn enwedig ymhlith y genhedlaeth ifanc, yn gweld y cyfan yn sarhad cenedlaethol gan gredu fod gwir linach tywysogion Cymru wedi dod i ben gyda marwolaeth Llywelyn yn 1282. Prif arweinwyr y gwrthdystiadau oedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, er nad oedd hyn o fewn eu priod faes o adfer yr iaith. Daeth cadeirydd y Gymdeithas, Dafydd Iwan, yn symbol o'r gwrthwynebiad, gan ei wneud yn arwr i rai ac yn arch elyn i eraill.
Yn Ebrill 1968 cafodd George Thomas, prif golbiwr cenedlaetholdeb ymhlith ASau Llafur Cymru, ei wneud yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Wrth ei benodi dywedodd y Prif Weinidog Harold Wilson wrtho y byddai'r Arwisgo yn un o'i gyfrifoldebau. Roedd y gwr o Donypandy ar ben ei ddigon, ond doedd ei swydd ddim yn un hawdd. Mae'n honni yn ei hunangofiant fod ei fywyd yn cael ei fygwth bron bob wythnos yn y cyfnod hwnnw. Y diwrnod cyn i bwyllgor oedd yn gyfrifol am drefniadau'r arwisgo gyfarfod yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd, cafodd yr adeilad ei ddifrodi gan fom. "I made a speech charging the nationalists with having created a monster which they could no longer control," meddai George Thomas yn ei hunangofiant.
Yn y cyfamser roedd yna gynllun ar y gweill i anfon y Tywysog i dreulio tymor yn dysgu rhywfaint o iaith a hanes ei dywysogaeth newydd yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth. Mae George Thomas yn datgelu fod Prifathro'r Coleg, Dr Thomas Parry, wedi anfon llythyr personol ato yn dweud ei fod yn poeni'n ddifrifol am yr awyrgylch yn Aberystwyth ac yn rhybuddio na allai dderbyn cyfrifoldeb am ddiogelwch y Tywysog. Ond mewn cyfarfod gyda'r Prifathro a'r Ysgrifennydd Gwladol roedd Prif Gwnstabl Dyfed wedi dweud fod yr heddlu'n fodlon y gallen nhw ei gadw rhag niwed. Ac felly fe gyrhaeddodd y Tywysog Neuadd Pantycelyn, mewn awyrgylch o baranoia rhyfeddol lle'r oedd myfyrwyr yn amau'r naill a'r llall o gydweithio gyda'r Heddlu Cudd.
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.