Â鶹ԼÅÄ

Pamffled yn dangos geiriau'r anthem

Hen Wlad Fy Nhadau

Cyfansoddwyd anthem genedlaethol Cymru, 'Hen Wlad fy Nhadau', ym Mhontypridd yn 1856. a gyfansoddodd yr alaw.

Hen Wlad Fy Nhadau

Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi, Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri; Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mâd, Tros ryddid gollasant eu gwaed.

Cytgan: Gwlad, Gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad, Tra môr yn fur i'r bur hoff bau, O bydded i'r heniaith barhau.

Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd; Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si Ei nentydd, afonydd, i fi.

Cytgan

Os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei droed, Mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed, Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad, Na thelyn berseiniol fy ngwlad.

Cytgan

    Yr enw gwreiddiol a roddwyd i'r emyn dôn oedd Glan Rhondda. Daeth yn boblogaidd iawn mewn eisteddfodau ac yn fuan roedd yn cael ei chydnabod fel un o'r caneuon Cymreig enwocaf.

    Ond cafodd yr alaw gryn feirniadaeth hefyd wrth i rai honni mai cân werin Seisnig oedd hi. Amddiffynnodd James James ei hun drwy anfon llythyr i bapur newydd y South Wales Daily News yn esbonio sut aeth ati i gyfansoddi'r dôn.

    Yn festri Capel Tabor ym Maesteg y cafodd yr anthem genedlaethol ei chanu'n gyhoeddus am y tro cyntaf yn 1856. Elisabeth John, merch 16 oed o Bontypridd oedd y gantores.

    John Owen oedd yn gyfrifol am harmonïau Glan Rhondda yn ddiweddarach yn 1860, ac fe'i cynhwysodd yng nghyfrol 'Gems of Welsh Melody'.

    Yn 1899, cafwyd y recordiad cyntaf o Hen Wlad Fy Nhadau gan Madge Breese gan Gwmni Gramaphone yn Llundain. Hwn oedd y recordiad cyntaf yn y Gymraeg y gwyddom amdano.

    Mae cofeb Evan a James James ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd. Wedi ei gynllunio gan Syr William Goscombe John, cymerodd dros 30 mlynedd i'w gwblhau. Dadorchuddiwyd y gofeb yn 1930 o flaen torf o 10,000 o bobl.

    Dros y blynyddoedd mae'r anthem genedlaethol wedi ei haddasu ar gyfer gwledydd eraill. Yn dilyn goruchafiaeth Prydain ym Mryniau Casia, India, yn 1833, symudodd nifer o genhadon Cymraeg yno. Ysgrifennodd Dr John Roberts 'Ri Khasi, Ri Khasi' gyda'r alaw i Hen Wlad Fy Nhadau. Hefyd, dewisodd Llydaw'r anthem yn 1902 ac fe'i gelwir yn 'Bro Goz Ma Zadoù'. Mae 'Bro Goth agan Tasow' yn fersiwn arall ohoni a gaiff ei hystyried yn un o anthemau Cernyw.


    Cestyll

    Castell Dolbadarn

    Oriel Cestyll

    Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

    Hanes Cymru

    Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

    Creu'r genedl

    Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

    Y Gymraeg

    Barddoniaeth Taliesin

    Hanes yr iaith

    O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.