Â鶹ԼÅÄ

Dydd Gwener y 13eg

Dydd Gwener y 13eg

Mae dydd Gwener y 13eg yn cael ei ystyried gan lawer fel diwrnod anlwcus, ond beth yw cefndir yr ofergoel yma?

Mae'r ofn o ddydd Gwener 13eg yn cael ei alw yn paraskavedekatriaphobia, gair sydd yn deillio o ddilyniaint o'r geiriau Groegaidd ±Ê²¹°ù²¹²õ°ì±ð±¹Ã­ sydd yn golygu Gwener, a »å±ð°ì²¹³Ù°ù±ðí²õ sydd yn golygu tri ar ddeg, wedi ei ychwanegu at ±è³ó´Ç²úí²¹ sy'n golygu ofn.

Mae'n debyg, yn ôl haneswyr, does dim tystiolaeth ysgrifenedig o ofergoeledd yn ymwneud â 'dydd Gwener y 13eg' cyn y 19eg ganrif, a bod y cyfeiriad cofnodedig cynharaf yn Saesneg i'w gael ym mywgraffiad y cyfansoddwr Gioachino Rossini yn 1869. Mae'r bywgraffiad yn dweud fod Rossini, fel llawer o Eidalwyr eraill, yn ystyried dydd Gwener fel diwrnod anlwcus, a'r rhif tri-ar-ddeg fel rif anlwcus. Bu farw Rossini ar ddydd Gwener, y 13eg o Dachwedd 1868.

Fodd bynnag, mae llawer o lên gwerin yn cael ei phasio ymlaen ar lafar, ac mae sawl damcaniaeth wedi cael eu cynnig am darddiad ofergoel dydd Gwener y 13eg.

Honnir mewn un o'r damcaniaethau ei fod yn gyfuniad o ddau ofergoel llawer hÅ·n: fod tri ar ddeg yn rif anlwcus a fod dydd Gwener yn ddiwrnod anlwcus - y ddau ofergoel oedd Rossini yn credu ynddynt.

Mae ofergoel hefyd ei fod yn deillio o'r Swper Olaf neu chwedl Norwyaidd, a fod cael tri ar ddeg o bobl o gwmpas bwrdd am olygu marwolaeth un o'r ciniawyr. Mae rhai Cristnogion yn credu taw Jiwdas Iscariot - y disgybl a fradychodd Iesu Grist - oedd yr olaf, neu'r 13eg, i eistedd wrth y bwrdd yn y Swper Olaf.

Credir i ddydd Gwener gael ei ystyried fel diwrnod anlwcus ers o leiaf y bedwaredd ganrif ar ddeg, ac fe groeshoeliwyd Iesu Grist ar ddydd Gwener - dydd Gwener y Groglith.


Chwedlau Myrddin

Morgana

Straeon a gemau

Ewch ar anturiaethau gyda'r cymeriadau yn ein gemau a straeon cyfoes.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Dysgu

Celtiaid yr Oes Haearn

Celtiaid

Dewch i ddysgu mwy am fyd Celtiaid Oes yr Haearn yng Nghymru.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.