Â鶹ԼÅÄ

Y Dywysogaeth Gymreig

Castell Caerffili

23 Mawrth 2009

Y Dywysogaeth

Byrhoedlog fu hanes rheolaeth Gymreig dros Dywysogaeth Cymru. Parhaodd am bymtheng mlynedd, gyda grym y Tywysog yn y pum mlynedd olaf ond yn gysgod o'r hyn a ddeisyfwyd ganddo. Roedd y blynyddoedd 1267-77 yn llawn addewid, tystiolaeth bod yng Nghymru'r Oesoedd Canol yr holl elfennau angenrheidiol ar gyfer twf gwladwriaeth. Roedd Llywelyn yn ben ar dros dri chwarter arwynebedd Cymru, ac roedd ganddo efallai ddau gan mil o ddeiliaid. Roedd peirianwaith gweinyddol ei Dywysogaeth yn bur ddatblygedig, a chynhyrchai ei swyddogion ddogfennau o safon uchel. Amser oedd yr angen pennaf er mwyn gwneud y Dywysogaeth yn ffaith wleidyddol ddiymwad; dyna'n union beth na chaniatawyd iddi.

Y peryglon a wynebai'r Dywysogaeth

Un o anawsterau Llywelyn oedd ei safle ef ei hun yn llinach Gwynedd. Ail fab Gruffudd ap Llywelyn ydoedd; roedd ganddo dri brawd, gydag un ohonynt, Dafydd, yn deyrngar ac yn annheyrngar am yn ail. Ymhlith rhai o'i brif ddeiliaid, Gwenwynwyn o Bowys yn enwedig, ceid arglwyddi a oedd yn ddicllon tuag at rym y Tywysog. Roedd y 25,000 marc (£16,666) yr oedd yn rhaid i Lywelyn dalu i Frenin Lloegr yn faich trwm. Gan ei fod wedi cael meddiant ar arglwyddiaethau megis Brycheiniog a Maelienydd, roedd Llywelyn wedi creu gelynion ymhlith rhai o'r grymusaf o arglwyddi'r Mers, yn arbennig teuluoedd Bohun a Mortimer. Roedd y gefnogaeth iddo ym Mlaenau Morgannwg yn fygythiad i Gilbert de Clare, arglwydd pwerus Morgannwg. Codwyd Castell Caerffili i rwystro uchelgais y Tywysog. Cythruddwyd y brenin newydd, Edward I, gan fwriad Llywelyn i briodi Eleanor, merch Simon de Montfort. Yn 1274, cefnodd Dafydd a Gwenwynwyn ar Lywelyn. Yn 1275, cipiwyd Eleanor gan luoedd Edward I. Galwodd y brenin ar Lywelyn i wneud gwrogaeth iddo. Gwrthododd Llywelyn oherwydd bod Edward yn rhoi noddfa i'w elynion ac wedi cipio ei ddarpar wraig.

Rhyfel 1277 a Chytundeb Aberconwy

Yn 1276, cyhoeddodd Edward fod Llywelyn yn rebel. Casglodd y brenin y fyddin fwyaf a welwyd ym Mhrydain ers 1066. Erbyn 1277, roedd ei luoedd yng Ngwynedd. Ar Ynys Môn, casglwyd y cynhaeaf ŷd, gan felly amddifadu'r Tywysog a'i filwyr o fwyd. Bu'n rhaid i Lywelyn ildio. Drwy Gytundeb Aberconwy, cyfyngwyd ei awdurdod i Wynedd Is-Conwy, y diriogaeth i'r gorllewin o Afon Conwy. Cafodd Dafydd gyfran o Wynedd Is-Conwy. Caniatawyd i Lywelyn barhau i alw ei hun yn Dywysog Cymru, ond ni fyddai mwyach yn benarglwydd trwch y mân reolwyr Cymreig. Mynnodd y brenin, a oedd eisoes â chestyll yn Aberteifi, Caerfyrddin a Threfaldwyn, godi cestyll newydd yn Aberystwyth, Ruallt, Rhuddlan a'r Fflint. Ond doedd uchelgais Llywelyn ddim eto wedi darfod. Roedd gan Lywelyn ei gadarnle yn Eryri ac yng ngweddill Cymru yr oedd cryn deyrngarwch iddo.


Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.