Machynlleth
Mae'r daith hon yn eich tywys o gwmpas tref Machynlleth.
Mae'r rhan fwyaf o'r llwybr ar y gwastad ac ar balmentydd. Yn yr achosion lle mae'r daith yn eich tywys o'r brif ffordd, mae yna opsiwn A (hawdd) a B (ychydig yn hirach). Gallwch barcio ym maes parcio Heol Maengwyn (prisiau 50c - £2.20) Mae cyfleusterau cyhoeddus wrth y maes parcio (20c)
Am gyfarwyddiadau manwl o'r daith cliciwch ar y ddolen hon i gael fersiwn pdf o'r map a manylion llawn o'r daith.
-
1. Cloc y dref
Eicon tref Machynlleth, dyma un o'r pethau cyntaf a sylwch wrth gyrraedd y dref
-
2. Plas Machynlleth
Mae i'r plas a adeiladwyd yn wreiddiol yn 1653 hanes diddorol
-
3. Cofeb Owain Glyndŵr
I nodi mai ym Machynlleth y coronwyd Glyndŵr yn Dywysog Cymru a chynhaliodd ei Senedd yn y dref
-
4. Y grisiau Rhufeinig
Dywedir bod y grisiau hyn yn dyddio'n ôl i Oes y Rhufeiniaid
-
5. Ffynnon Garsiwn (Opsiwn B yn unig)
Olion hen ffynnon
-
6. Royal House
Credir bod Charles I wedi aros yma yn 1643
-
7. Tanws
Atgof o'r hen ddiwydiannau yn y dref pan wnaed lledr o safon uchel yma
-
8. Senedd-dŷ Owain Glyndŵr
Ger yr adeilad hwn y coronwyd Glyndŵr yn Dywysog Cymru yn 1404
-
9. Meini Gwynion
Credir bod y meini wedi bod yma ers bron i 500 mlynedd
-
10. Siop Laura Ashley
Yma bu'r cynllunydd ffasiwn yn byw ac yn gweithio yn y 1960au
Awgrymir eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y wefan hon gan gadw at y ffyrdd a nodir yn unig. Dylid cerdded y teithiau mewn cwmni ac yng ngolau dydd, gan wisgo esgidiau addas. Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am iechyd a diogelwch y rhai sy'n ymgymryd â'r teithiau hyn. Paratowyd yn Haf 2009.