Â鶹ԼÅÄ

Cenedl Newydd

Tir Cynulliad Cenedlaethol Cymru

23 Mawrth 2009

Y daith tuag at Gynulliad Cenedlaethol Cymru: hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif

Agorwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd ar 26 Mai 1999. Ar lawer golwg, roedd ei sefydlu yn ddigwyddiad annisgwyl. Denodd y pwnc rywfaint o sylw ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif, pan roedd nifer o Ryddfrydwyr Cymreig yn pledio ymreolaeth i Gymru, a phan roedd y Blaid Lafur yn gefnogol i 'Â鶹ԼÅÄ Rule All Round'. Ond yn y 1920au, pylodd diddordeb y Rhyddfrydwyr wrth iddynt sylweddoli, pe sefydlid Senedd Gymreig, nad eu plaid hwy a fyddai'n ei reoli.

Yn wyneb y dirwasgiad, daeth y Blaid Lafur i gredu mai cynllunio effeithiol o'r canol oedd yr ateb i broblemau economaidd, ac mae tanseilio undod y dosbarth gweithiol Prydeinig fyddai canlyniad datganoli. Ymhellach, wedi i Iwerddon ennill hunanlywodraeth lawn yn 1922, ciliodd pwnc ymreolaeth o ganol y llwyfan. Roedd sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru yn 1925 yn golygu bod yr ymreolwyr mwyaf brwd - pobl a fyddai, fel arall, wedi bod yn llafar oddi mewn i'r pleidiau traddodiadol - bellach yn aelodau o blaid a chanddi fawr o ddylanwad. Hefyd, doedd daliadau traddodiadgar yr arweinydd, Saunders Lewis, ddim yn gydnaws â barn gyffredinol y 1920au a'r 1930au. Ond enillodd y blaid gyhoeddusrwydd a mesur o gefnogaeth o ganlyniad i ymosodiad ei harweinwyr ar yr Ysgol Fomio ym Mhenyberth yn Llŷn yn 1936.

Darfu i'r Ail Ryfel Byd, fel y Cyntaf, gryfhau'r ymwybyddiaeth o bobl Prydain yn cydymdrechu a chyd-ddioddef. Roedd y Llywodraeth Lafur a etholwyd yn 1945 yn dra chanoledig ei ethos, ac roedd ei haelod mwyaf carismataidd, Aneurin Bevan, yn ddirmygus tuag at genedlaetholdeb Cymreig.

Y daith tuag at Gynulliad Cenedlaethol Cymru: ail hanner yr ugeinfed ganrif

Yn y 1950au, ceid tystiolaeth bod y farn yn newid. Daeth dyddiau'r Ymerodraeth i ben gan danseilio nodwedd ganolog o Brydeindod; sylweddolwyd bod y Cymry'n dlotach na thrigolion de-ddwyrain Lloegr a dinasyddion rhai o wladwriaethau bychain Ewrop. Enillodd y Ceidwadwyr etholiad ar ôl etholiad gan beri i bobl feddwl mai dim ond trwy hunanlywodraeth y byddai Cymru'n cael llywodraeth a adlewyrchai barn mwyafrif yr etholwyr Cymreig. Boddwyd Cwm Tryweryn er nad oedd yr un aelod seneddol Cymreig wedi pleidleisio o blaid y boddi, prawf bod y Cymry, fel cymuned genedlaethol, yn gwbl ddi-rym. Dyma rai o'r ffactorau a achosodd i Blaid Cymru ennill pleidlais barchus yn etholiad cyffredinol 1959. Yn yr etholiad hwnnw, roedd gan y blaid ymgeisydd yn 20 o 36 etholaeth Cymru; dim ond 7% o seddau'r Alban a ymladdwyd gan yr SNP yn 1959. Bygythiad y cenedlaetholwyr oedd un o'r ffactorau a barodd i'r Blaid Lafur addo sefydlu Swyddfa Gymreig a phenodi ysgrifennydd gwladol i Gymru, addewidion a wireddwyd pan ffurfiwyd llywodraeth Lafur yn 1964.

Daeth moment fawr Plaid Cymru yn 1966 pan enillodd y llywydd, Gwynfor Evans, isetholiad Caerfyrddin. Daeth rhagor o lwyddiant o 1974 ymlaen, ac erbyn 1992 roedd aelodau o Blaid Cymru yn cynrychioli pedair o'r deugain etholaeth yng Nghymru. Roedd arwyddocâd hefyd i'r ffaith i Brydain ymuno â'r Farchnad Gyffredin Ewropeaidd yn 1972, gan felly greu'r angen i edrych o'r newydd ar natur llywodraeth ar bob lefel. Roedd llwyddiant system ddatganoledig yr Almaen a llewyrch cynyddol Iwerddon yn dangos nad oes rhaid wrth wladwriaeth ganoledig a phoblog i sicrhau sefydlogrwydd a ffyniant.

Roedd y cyfoeth a'r grym a ganolid yn Llundain yn bwnc trafod yn Lloegr yn ogystal â Chymru a'r Alban. Yr ystyriaeth honno, ynghyd â'r angen i atal cynnydd y pleidiau cenedlaethol Cymru a'r Alban a orfododd Llywodraeth Lafur 1974-79 i roi cryn sylw i ddatganoli. Ond yn refferendwm 1979, gwrthodwyd y Cynulliad a gynigwyd i'r Cymry o 956,330 pleidlais i 243,048.

Yn y blynyddoedd yn union wedi'r refferendwm, roedd datganoli yn ymddangos yn bwnc marw. Ond roedd polisïau adain dde'r blynyddoedd Thatcheraidd yn atgoffa pobl Cymru eu bod yn gorfod byw o dan lywodraeth a chanddi syniadau gwleidyddol annerbyniol iddynt. Roedd penodi ysgrifenyddion gwladol amddifad o gysylltiadau Cymreig - John Redwood yn fwyaf arbennig - yn cadw'r ddadl yn fyw. Rhoddwyd pwerau ychwanegol i'r Swyddfa Gymreig; felly, tanseiliwyd y ddadl y byddai datganoli yn creu haen arall o lywodraeth; roedd yr haen honno eisoes yn bodoli. Ymhellach, yn 1996 diddymodd y llywodraeth Geidwadol un lefel o lywodraeth trwy gael gwared ar wyth sir a'r 37 dosbarth a sefydlwyd yn 1974 a chreu 22 sir yn eu lle.


Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.