Â鶹ԼÅÄ

Hanes Pen LlÅ·n

top
Aberdaron

Taith hanesyddol o amgylch Pen LlÅ·n, o fwrlwm Pwllheli i Ynys Enlli bell; oll o fewn dalgylch papur bro Llanw LlÅ·n.

Prif ganolfan fasnach LlÅ·n yw tref Pwllheli. Fe'i cyflwynwyd fel bwrdeistref i Nigel de Loyhareyn yn 1355 gan y Tywysog Du o Loegr.

Yn ystod y chwe chant a hanner o flynyddoedd diwethaf mae'r môr wedi chwarae rôl bwysig ym mywyd y trigolion - mae pysgota wedi bod yn ddiwydiant dylanwadol a daeth llongau hwyliau a phrysurdeb i'r dref. Adeiladwyd yr harbwr ar ddechrau'r 19fed ganrif am £4010; a ddaeth y deunydd o Garreg yr Imbill. Er gwaethaf protestiadau lleol, addaswyd yr harbwr i'r Marina presennol yn yr 1980au.

Nid rhywbeth newydd i'r ardal oedd protestiadau. Nepell i lawr y ffordd i gyfeiriad Llanbedrog mae Penyberth lle llosgwyd yr ysgol fomio ar Fedi'r 8fed, 1936 gan Saunders Lewis, Lewis Valentine a D J Williams.

Plac coffa i 'Dri Penyberth'Unarddeg mlynedd ynghynt roedd dau o'r protestwyr hyn - Saunders Lewis a Lewis Valentine - ymysg y chwech a ffurfiodd Plaid Cymru mewn cyfarfod yn y Maesgwyn Temperance Hotel yn y Maes ar Awst 5, 1925. Y pedwar arall oedd H R Jones, Fred Jones, Moses Griffith a David Edmund Williams.

Un o feibion enwocaf Pwllheli yw Albert Evans Jones - Cynan. Mae Ffynnon Felin Bach, testun un o'i weithiau mwyaf adnabyddus ym mhen Lôn Llŷn.

Yn sicr mae'r ardal yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg. Ond yn rhyfeddol, i ŵr busnes o Sais mae'r diolch am rai o nodweddion amlycaf Pwllheli a'r cyffuniau. Ganwyd Solomon Andrews yn Trowbridge yn 1835.

Symudodd i Gaerdydd lle roedd yn entrepreneur llewyrchus: roedd yn berchen ar lawer i siop a becws a rhedai wasanaethau bysus a thramiau ledled de Cymru, ac yn Portsmouth a Plymouth yn Lloegr. Yn 1893 daeth Andrews i'r gogledd am wyliau haf. Wedi ymweld â Phwllheli penderfynodd - ynghyd â'i fab Emile - i brynu a datblygu tir yno. Rhoddwyd y gwaith o adeiladu'r West End yn nwylo Thomas Cunningham.

Roedd hefyd yn gyfrifol am Bont Solomon, y tai ar y Cob a Ffordd Caerdydd ac adnoddau hamdden megis cyrtiau tennis, cwrs golff a chaeau pêl-droed. Rhaid oedd cael deunydd adeiladu i wneud y gwaith felly cafwyd chwarel Carreg-y-Defaid yn Llanbedrog ar brydles gan yr Arglwyddes Love Jones Parry. Gosodwyd traciau tram o Lanbedrog i Bwllheli i'r diben o gludo'r cerrig. Roedd cerbydau i gario pobl ar y tram hefyd.

Plas Glyn-y-weddwYn Awst 1896 gwerthwyd rhannau o stad Madryn, gan gynnwys Plas Glyn-y-Weddw a thir yn Llanbedrog. Prynwyd hwy gan Solomon ac F E Andrews. Estynnwyd cledrau'r tram at y Plas a daeth i fod yn gyrchfan boblogaidd efo oriel, ystafell ddawnsio a darparwyd te yno.Collwyd y cysylltiad tram yn 1927 wedi storm arw. Gwerthwyd Plas Glyn-y-Weddw c1946. Bu dirywiad yn yr adeilad hyd nes 1979 pan y'i prynwyd gan Gwyneth a Dafydd ap Tomos. Buont yn gweithio yn galed i adfer y plasdy i'w ffurf presennol.

Bellach Cyfeillion Oriel Plas Glyn y Weddw yw'r perchnogion ac mae arddangosfeydd o luniau a gwaith celf i'w gweld yno.

Ar y ffordd i Aberdaron

Chwe milltir o Bwllheli mae pentref Mynytho. Yma, yng nghysgod y Foel Gron a Foel Twr, saif y Neuadd Bentref a wnaed yn enwog gan englyn R Williams Parry. Yn y neuadd hon y bu cyfarfod cyntaf y mudiad Cymuned yn 2001.

O Fynytho gellir gweld pentref glan môr Abersoch, Ynysoedd Sant Tudwal, trwyn Cilan a Phorth Neigwl. I fynd i Aberdaron oddi yma rhaid dilyn ffordd y B4413 a phasio Plas Nanhoron - lleoliad ffilm Syr Anthony Hopkins, August, ac un o dirfeddianwyr mwyaf Llŷn. Ar ystâd Nanhoron mae Capel Newydd, sef hen dŷ cwrdd o'r 18fed ganrif a adeiladwyd dan nawdd Mrs Catherine Edwards, gwraig y plas ar y pryd.

Ymhellach ar hyd y ffordd fawr mae Botwnnog lle mae ysgol uwchradd y dalgylch - hen ysgol hogia Llŷn yn ôl y gân. Fe'i sefydlwyd yn 1616 wedi i'r Esgob Henry Rowlands adael pres i'r pwrpas yn ei ewyllys.

Pentref glan môr del yw Aberdaron - pen draw Llŷn - lle mae tonnau gwyllt y môr yn beryglus o agos i Eglwys Sant Hywyn. Dyma lle roedd y bardd R S Thomas yn ficer.

Yn y Gegin Fawr ger y bont y treuliai y saint eu noson olaf ar y tir mawr cyn croesi'r swnt i Enlli. Mae Ynys Enlli wedi bod yn denu ymwelwyr o bob cwr ers canrifoedd. Yn y cyfnod cynnar saint ar bererindod oeddynt, dywedir fod ugain mil ohonynt wedi eu claddu yma.

Bellach rhai sydd â diddordeb yn hanes, daeareg a bywyd gwyllt yr ynys yw'r mwyafrif sy'n ymweld â hi. Yn 1953 adeiladwyd gwylfa adar ar yr ynys gan fod cyfoeth o adar yn nythu yma gan gynnwys y frân goesgoch ac aderyn drycin Manaw. Mae'r môr o gwmpas yr ynys yn gynefin i nifer o greaduriaid megis y morloi llwyd. Prynwyd Ynys Enlli gan Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn 1979 ac fe'i dynodwyd yn Warchodfa Natur Genedlaethol yn 1986.

Adfeilion tŵr hen abaty EnlliUn o nodweddion amlycaf yr ynys yw'r tŵr sef adeilad hynaf Enlli. Rhan o eglwys mynachlog ydoedd ac mae rhannau ohoni yn dyddio yn ôl i'r 13eg ganrif. Mae goleudy ar yr ynys ers 1821. Fe'i adeiladwyd i gynllun Daniel Alexander gan Joseph Nelson. Ei swyddogaeth yw nodi'r ffin rhwng baeau Caernarfon ac Aberteifi.

I lawr i'r Nant

Ni ellir sôn am ryfeddodau Llŷn heb grybwyll Nant Gwrtheyrn. Er ei fod o'r neilltu a'r allt i lawr o Lithfaen yn frawychus, mae'r Nant yn ran annatod o hanes a diwylliant y penrhyn. Dyma leoliad chwedl Rhys a Meinir - stori am ddau gariad a wahanwyd ar ddydd eu priodas ac unwyd hwy ar ddydd eu cynhebrwng.

Pentref chwarel oedd Nant Gwrtheyrn yn wreiddiol, a llongau yn dod i gyrchu'r cerrig. Ers 1978 Canolfan Iaith a Diwylliant sydd yn y Nant, sef canolfan breswyl sy'n cynnig cyrsiau dysgu Cymraeg a chyrsiau am ddiwylliant ac amgylchedd Cymru. Mae tua 25,000 o bobl wedi mynychu'r ganolfan yn y 24 mlynedd diwethaf. Ffilmiwyd y gyfres deledu 'Cariad at Iaith' yma yn ddiweddar.

Felly LlÅ·n - ardal o harddwch naturiol lle mae amaethyddiaeth yn greiddiol i fywyd bob dydd. Ardal sy'n falch o'i hiaith a'i diwylliant ac sydd wedi ysbrydoli beirdd a llenorion lu. "Lle i enaid gael llonydd."


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd nôl i'w gwaith.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.