Hanes Dyffryn Dysynni
topParhad o daith hanesyddol o amgylch bro Dysynni.
Wrth ddilyn llwybr y Ddysynni o'i haber ger y chwarel tua'r dwyrain ac i fyny'r dyffryn, deuwn i waelod plwyf Llanegryn. Yma, ger Pont Dysynni, y saif ffermdy Tal-y-bont ac ar lan yr afon gerllaw mae'r Domen Ddreiniog lle'r oedd maenor Llywelyn Fawr. Dywedir mai o'i lys yma yn Nhal-y-bont yr ysgrifennodd Llywelyn Ein Llyw Olaf lythyr ar y 6ed o Hydref, 1275, at Archesgobion Caergaint a Chaerefrog a oedd yn cyfarfod mewn cyngor yn Llundain ar y pryd.
Mae'r olygfa o Ddyffryn Dysynni, Craig yr Aderyn a chopa Cader Idris o Bont Dysynni yn syfrdanol. Yr olygfa hon, yn wir, a ddewiswyd fel arwyddlun i'r papur bro, ac fe ymddangosodd ar bob tudalen flaen ers y rhifyn cyntaf.
Wedi rhyfeddu ar yr harddwch, rhaid dilyn yr A493 yn ôl tua Dolgellau am rhyw hanner milltir cyn troi i'r dde oddi arni i bentref hanesyddol Llanegryn. Croniclwyd hanes diddorol y pentref mewn cyfrol gan William Davies yn 1947.
Roedd Hanes Plwyf Llanegryn yn glasur yn ei ddydd ac yn ddiweddar cafodd ei ailargraffu mewn ffurf ddwyieithog fel rhan o brosiect mileniwm y pentref. Ar ddechrau'r gyfrol newydd fe geir rhagymadrodd gan yr Arglwydd Gwilym Prys Davies, mab Mr William Davies, gŵr sydd a'i wreiddiau'n parhau'n ddwfn yn ei hen fro.
Beth sydd mor arbennig am hanes hen bentref Llanegryn felly? Mae'n debyg mai'r groglofft nodedig sydd i'w gweld yn Eglwys y Santes Fair a Sant Egryn a ddaw i gof gyntaf. Dywedir iddi gael ei chludo i ddiogelwch yr eglwys o Abaty Cymer, ger Dolgellau, pan oedd gwÅ·r Harri'r VIII yn anrheithio'r mynachlogydd.
Cred eraill mai gwaith crefftwyr lleol ydyw. Beth bynnag yw ei stori, mae'n drysor ac yn gyrchfan i beth wmbredd o ymwelwyr. Ym mynwent yr eglwys mae bedd Hugh Owen, Bronclydwr, y cyfeiriwyd ato eisoes, ac mae cofgolofn iddo i'w gweld o flaen capel Annibynwyr y pentref. Ym mynwent yr eglwys hefyd mae beddau William Davies ac Owen Bryngwyn, canwr gwerin enwog yn ei ddydd.
Yn Nhynllan ger porth y fynwent yr oedd cartref Elin Egryn a gyhoeddodd y gyfrol Telyn Egryn (1850), y llyfr cyntaf o lenyddiaeth gan ferch a gyhoeddwyd yn y Gymraeg.
Llawysgrifau Peniarth
Ger pentref Llanegryn hefyd y saif plasty enwog Peniarth. Cartref i hen deulu'r Oweniaid oedd Peniarth nes iddo ddod yn eiddo i'r Wynniaid yn 1771 trwy briodas. Daeth Llyfrgell Peniarth, a gasglwyd gan W W E Wynne, yn enwog pan etifeddodd y gŵr hwnnw lyfrgell Hengwrt yn 1859.
Rhan o'r casgliad ydyw Llawysgrifau Peniarth sydd i'w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ac sydd yn cynnwys rhai o drysorau'r genedl.
Un o Oweniaid Peniarth oedd Hugh Owen, Talybont, yntau a adawodd £400 yn ei ewyllys yn 1650 i sefydlu ysgol am byth i blant Plwyf Llanegryn a chwmwd Tal-y-bont. Agorwyd yr ysgol yn 1659 a da yw dweud bod ei drysau'n parhau ar agor.
Wrth adael Llanegryn ar y gulffordd droellog tua chwm Llanfihangel-y-Pennant, deuwn at Graig-yr-Aderyn lle mae'r fulfran yn parhau i nythu. Ychydig ymhellach mae ffermdy Tyn-y-Bryn lle ganed y gramadegydd a'r geiriadurwr William Owen Pughe yn 1759. Wrth deithio dros bont Rhiwlas daw plasty Caerberllan i'r golwg sef y fan lle mae'r enwog William Jones a'i deulu'n ennill bri drwy Brydain gyfan am eu ceffylau gwedd.
Nid nepell o Gaerberllan mae Castell y Bere a adeiladwyd gan Lywelyn Fawr yn 1221. Dyma'r mwyaf Cymreig o gestyll Cymru a'r un olaf i ddisgyn i'r Saeson yn 1283.
Rhyw hanner milltir i lawr y ffordd mae Ty'n-y-Ddôl, cartref Mari Jones a gerddodd i'r Bala i geisio copi o'r Beibl. Rhaid troi'n ôl am Gaerberllan i adael y cwm a dilyn y ffordd i bentref Abergynolwyn. Tyfodd Abergynolwyn yn sgîl chwarel lechi Bryneglwys a gyflogai cymaint â 300 o ddynion ar un adeg.
Tomos y Tanc
Yn 1866, fe adeiladwyd rheilffordd i gludo'r llechi i lawr i Dywyn. Er i'r chwarel gau yn 1947, cafodd y rheilffordd ei hadfer pan sefydlwyd cymdeithas i'w gwarchod yn 1951. Rheilffordd Tal-y-llyn yw un o'r enwocaf o reilffyrdd cul Cymru erbyn hyn a daw a miloedd o ymwelwyr i'r "Aber" bob blwyddyn. Hon hefyd yw'r rheilffordd a ysbrydolodd y Parch W. Awdry i ysgrifennu am anturiaethu "Tomos y Tanc".
Y ffordd sy'n arwain drwy Abergynolwyn yw'r B4405 ac wrth deithio arni i gyfeiriad Dolgellau deuwn at gyrion dwyreiniol y dalgylch ger Llyn Myngul a'r olygfa fyd-enwog o fwlch Tal-y-llyn.
Cerdded
Conwy
Taith o gwmpas y dref, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.
Diwydiant
Creithiau'r llechi
Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd nôl i'w gwaith.