Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Chwedlau Lleol
Gwrachod Llanddona
Mae plant Ysgol Gynradd Llanddona yn ne ddwyrain Môn wedi bod yn tynnu lluniau eu chwedl leol am ddirgelwch y 'gwrachod' a laniodd ar Draeth Coch un bore amser maith yn ôl.

Gallwch glicio ar y lluniau i'w gweld yn fanylach.

Dywedir i 'wrachod' neu 'witsiwrs' Llanddona gael eu halltudio o'u gwlad eu hunain ganrifoedd lawer yn ôl (o Lychlyn neu Iwerddon yn ôl traddodiad) a'u gyrru allan i'r môr mewn cwch heb rwyfau na llyw.

Yn ôl y stori, mi chwythodd y gwynt nhw i gyfeiriad Môn ac er gwaetha agwedd gelyniaethus y trigolion mi gawson nhw loches rhwng pentref Llanddona a'r môr.

Un ohonyn nhw oedd Siân Bwt - gwraig fechan garpiog, bryd tywyll, prin bedair troedfedd o daldra, a dwy fawd ar ei llaw chwith. Roedden nhw'n byw ar gardota a melltithio, a chredid y gallent drosglwyddo'u gallu o un genhedlaeth i'r llall, yn arbennig o fam i ferch.

Os oedd rhywbeth yn mynd o'i le ar y fferm, y gwrachod a gâi'r bai. Roedd pobl yn credu hefyd eu bod yn gallu trawsffurfio'u hunain yn sgwarnogod i osgoi cael eu dal yn godro'r gwartheg. Roedd y gwŷr yn byw ar smyglo a phan fyddent yn flin, mi fydden yn datod cwlwm eu cadach gwddw ac yn rhyddhau pryf a'i anelu yn syth am lygad yr ymosodwr a'i ddallu.

Cliciwch ar y dolenni ar y dde i glywed mwy o'r stori.


Cyfrannwch

Ellen Dona Pritchard, Pencaenewydd
Difyr dros ben, fel y gwelwch cefais fy enw canol ar ol y pentref, a deud y gwir ar ol fy nhaid sef Gwilym Dona (enw barddol). Daliwch ati i geisio ffendio mwy o chwedlau'r ardal

elen williams ynys mon
llynia da,ysgol llanddona o lle? llanddona yn ynys mon??

ellen elizabeth williams
lluniau da iawn - nes i gael lot o blesar yn edrych ar y lluniau a darllan y chwedlau. 'roedd hen nain a taid i mi yn dod o landdona, a mae plant ysgol llanddona yn byw mewn un o ardaloedd hardda'r byd. cadwch y gwaith da i funy.

klara roberts o bethesda
mae'r lluniau yn dda iawn ac mae'r chwedlau hefyd

dianne rowlands o bethesda
lluniau da iawn. chwedlau da hefyd - da iawn plant, dal ati.

beth
pam dydi llun i ddim yne? dwi o ysgol llanddona ond diolch am ddod i ysgol ni. [Diolch yn fawr am dynnu'r llun Beth. Yn anffodus, roedd ganddon ni ormod o luniau a dim digon o le i'w dangos i gyd. Roedden nhw i gyd yn dda iawn, ond roedd rhaid inni ddewis dim ond un ar gyfer y stori. Gobeithio gawn ni ddod i Ysgol Llanddona eto i weithio efo chi! Gol.]


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý