Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau

Chwaraeon
Y Tywydd
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

CefndirLysh yng Nghasnewydd

Rhodri  Meilyr a Phil Reed yn LyshDrama am beryglon alchoholiaeth yw drama gomisiwn Eisteddfod Casnewydd.






A go brin bod angen dweud mai Aled Jones Williams yw'r awdur - gwr sydd wedi dioddef fwy nag unwaith oherwydd melltith y botel.

Bydd Lysh yn cael ei pherfformio gan gwmni Bara Caws gyda Maldwyn John, Betsan Llwyd, Rhodri Meilyr a Phil Reed yn cymryd rhan a Valmai Jones yn cyfarwyddo.

"Dyn yn cymryd drinc - drinc yn cymryd y dyn," meddai deunydd cyhoeddusrwydd y cwmni am Lysh sy'n ddrama gan awdur sydd ond newydd gael yr union brofiad hwnnw yn dilyn cael ei Goroni yn Eisteddfod Tyddewi ddwy flynedd yn ôl.

Aled Jones WilliamsTan y llynedd bu Aled Jones Williams yn rhydd o alcohol am bymtheng mlynedd ond pan drodd yn ôl unwaith eto at y botel bu'n rhaid iddo gael triniaeth mewn canolfan breswyl arbennig yn yr Alban o'r enw Castle Craig.

Nid yw ond newydd ail afael yn ei waith yn llawn amser, yn ficer ym Mhorthmadog, yn dilyn y driniaeth honno.

Wrth gael ei holi ar y rhaglen Manylu ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru ddechrau Gorffennaf, dywedodd ei fod yn bryderus am y cynnydd yn yr alcohol sy'n cael ei yfed a'r problemau sy'n dod yn ei sgil yn enwedig ymhlith bobl ifainc.

"Dwi'n meddwl bod angen dysgu pobl sut i yfed a sut i yfed yn gymedrol. Mae alcohol yma ac yma i aros ond mae'n rhywbeth y dylech chi ei fwynhau ond hefyd ei barchu ac i ryw raddau ei ofni," meddai ar y rhaglen.Yn ogystal â dioddef o alcoholiaeth mae Aled Jones Williams hefyd wedi dadansoddi'r cyflwr a'r modd y mae'n effeithio ar ddioddefwyr.

"Hanfod gorddibyniaeth - addiction - ydy gwadu'r peth. Tydio ddim yn bod, ddywed yr adict o hyd. Felly y mae celwydd a gwadu yn rhan o'r afiechyd neu'r cyflwr.

"Felly pan fo nifer yn gofyn i mi pam fy mod i'n siarad yn gyhoeddus am fy alcoholiaeth - yr ateb yn syml ydi: tro 'ma dwi'n dweud y gwir. Dyna pam y cytunais i wneud dyddiadur radio ar Manylu," meddai.

Betsan Llwyd a Maldwyn John "Ac mi oedd o'n brofiad - yn gatharsis. Medru siarad yn fyrfyfyr heb orfeddwl. Ac mi oedd mynd yn ôl i Castle Craig yn brofiad emosiynol ond hanfodol a chofnodi fel y gwnes i fy nheimladau wrth fod yna. "Afiechyd y teimladau ydy alcoholiaeth yn y bôn, felly mi oedd sôn amdano fo yn fy ngorfodi fi i enwi y teimladau."

Ychwanegodd y gallai'r ffaith fod rhywun fel ef gyda phrofiad personol yn trafod yn agored helpu eraill sy'n dioddef:

"Mewn gorddibyniaeth ryda chi'n meddwl: Fi ydy'r unig un ond yn y rhannu mae'r gwella," meddai.

Bydd Lysh yn cael ei pherfformio am wyth o'r gloch yn Theatr y Dolwen, Casnewydd o Awst 2 tan Awst 6.

Wedyn bydd yn mynd ar daith o amgylch Cymru rhwng Medi 7 a Medi 23.

i glywed sgwrs gydag Aled Jones Williams.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y Â鶹ԼÅÄ yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý