Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau

Chwaraeon
Y Tywydd
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

CefndirYr Wenhwyseg - iaith yr ardal

Yn anffodus, go brin y byddwch yn clywed llawer o un o dafodieithoedd hynotaf Cymru pan fyddwch yn ymweld ag ardal Casnewydd ar gyfer yr Eisteddfod. Hynny, er mai dyma gartref y Wenhwyseg.



Daw'r enw oddi wrth yr enw ar hen drigolion Gwent, y Gwennwys, ac yr oedd yn iaith oedd yn cael ei siarad yn eang ar un adeg mewn ardal yn ymestyn o Sir Fynwy cyn belled a Dyffryn Aman a Bannau Brycheiniog.

Ond er nad oes llawer o'r iaith i'w chlywed heddiw dywed Mary Wiliam mewn llyfr a sgrifennodd hi am yr Wenhwyseg ei bod i'w chlywed "yn ddyddiol" yn Saesneg yr ardal.

"Mae cystrawen y Gymraeg mor fyw ag erioed," meddai yn Blas ar Iaith Blaenau'r Cymoedd gan gyfeirio at ymadroddion Saesneg fel, What is on her? (Beth sydd arni?)ac You can venter that it was 'im (Gelli fentro taw ef oedd a.)

Dyfynna hefyd eiriau Cymraeg sy'n dal ar iws - ond yn y Saesneg:
'E went like a winci ac You can count on 'er wen there's taro."

Ymhlith nodweddion o'r dafodiaeth y Mary Wiliam yn cyfeirio atynt mae absenoldeb y llythyren h
"'Ewl, 'eddi, 'yll yw'r ffurfiau arferol. Gweiddir Eisht! ar blant neu gwn a chathod sy'n cadw swn. Ond os na yw hynny'n cael yr effaith briodol gweiddir Heisht! yn uwch fyth," meddai.

Dywed hefyd na ddefnyddir ch yn y dafodiaith gan ddyfynu, wech, wthu a wilia.

Mae'n cyfeirio hefyd at y defnydd o g mewn ffurfiau negyddol:
Gwi ddim.

Dyma ddetholiad o rai o eiriau'r Wenhwyseg gyda gwahoddiad i chwithau anfon rhagor atom:
Bacid: llawer

Betsi: Betsi o ddyn oedd dyn benywaidd. Yn cyfateb i Meri Jên yn y gogledd efallai.

Bit: bychan iawn

Cantan: cloncan

Cwiddyl: cywilydd

Daplas: annibendod, bl;erwch

Diwal: glaw mawr - mae'n diwal y glaw.

Gwildra: stumog wâg

Maplath: neidr ddefaid

Moefad: nofio

Motryb: modryb

Nyfath: pobl anystywallt (Mae Mary Wiiliam yn dyfynnu, "'Na nyfath o bobol odd yn byw 'no."
Sgarjo: croen yn cochi ac yn torri.

Trico: ysu "Wi'n trico am ddishglad o de."

Tindwyro: mwytho neu faldodi

Walu: malu

Wingi wangam: igam ogam

Cyhoeddir Blas ar Iaith Blaenau'r Cymoedd gan Wasg Carreg Gwalch yn y gyfres, Llyfrau Llafar Gwlad.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y Â鶹ԼÅÄ yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý