Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r Maes
Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Gwilym OwenUn o nodweddion annisgwyl y Brifwyl hon ydi ei bod hi yn ymddangos fel gwyl dawel a heddychlon.

O leia dydi hacs ein gwasg ddyddiol Saesneg ddim wedi canfod llawer o glecs ar y maes yma.

A hwyrach mai'r rheswm am hynny ydi fod rhai o'n prif newyddiadurwyr print wedi bod yn ffraeo efo'i gilydd.

A beth oedd pwnc yr ymrafael tanboeth ond pwy oedd yn eistedd ymhel yn Ystafell y Wasg.

Dyn y Daily Post yn honni fod criw difanars y Western Mail wedi dwyn ei gornel o!

A'r naill ochr a'r llall yn bestiff fel mulod.

Dim ond galwad i brif swyddogion y Sanhedrin ddaeth â'r rhyfel i ben.

A theg nodi mai hen wariar y Daily Post a gariodd y dydd.

O hyn allan fe all y job lot fynd ymlaen â'u priod waith o wasanaethu eu cydgyflogwyr a'u darllenwyr.

Gwyliwch y cerdyn
Nodyn bach trist rwan. S4C yn cyhoeddi eu bod nhw yn dadorchuddio cerdyn anferth wyth troedfedd o uchder ar y maes.

Ie, wir i chi, y Sianel yn trefnu i anfon cerdyn pen-blwydd ugain oed iddi hi ei hun.

Ac yn gobeithio perswadio ugain mil o lofnodwyr i'w arwyddo cyn Tachwedd pan ddethlir y diwrnod mawr.

Os llwyddir mi fydd y cerdyn yn llawer mwy apelgar i'r genedl na'r rhan fwyaf o'r rhaglenni ar y donfedd sy'n methu denu yn agos i ugain mil o wylwyr.

Trist iawn, veri sad.

Deddf gwlad
Go brin y gellid meddwl am griw llai bywiog a brwdfrydig na giang o gyfreithwyr ond mae lle i gredu y gallai darlith gan un o aelodau Cymdeithas y Cyfreithwyr yng Nghymru achosi tipyn o gynnwrf ym Mhabell y Cymdeithasau bnawn Iau.

Sut i droi camel yn geffyl fydd testun pryfoclyd Michael Jones ac yn ôl y sôn mi fydd o'n tynnu nifer o flewiach poenus o'r trwynau cyfreithiol, sefydliadol, tua Bae Caerdydd.

Dramatic
Ac aros efo'r Brifddinas roedd hi'n ddiwrnod pwysig i'r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama yn y Brifddinas heddiw ar y maes 'ma. Diwrnod pan oedd y Coleg yn cyhoeddi drama newydd gan Meic Povey a diwrnod hefyd pan oedd yr awdurdodau Colegol yn datgan fod eu sefydliad bellach yn Conservatoire. Beth gythral ydi peth felly pan mae o adra deudwch ?

Clywed hefyd heddiw fod Côr Eisteddfod Sir Benfro Tyddewi yn gôr go unigryw - mae cynifer o'r aelodau yn byw yng Nghaerdydd nes bod yr arweinydd wedi bod yn teithio i'r Brifddinas i gynnal ymarferion. Ai gwir ai gau y sibrydion hyn.

Sylwi ar sylwebwyr
Rhai ar y maes heddiw hefyd yn holi a ydi bosus rhaglenni teledu o'r Steddfod yn rhoi pwyslais leni ar gynhyrchiadau teuluol cynnes cyffyrddus o weld dau frawd o brifardd yn doethinebu yn ystod y telediad ddoe o seremoni'r coroni. Ynte a oes yna brinder go iawn o sylwebwyr llenyddol yn yr hen Gymru fach 'ma.

Annibyniaeth
Cyhoeddiad gwleidyddol pwysig rwan. Er gwaethaf pob datganiad i'r gwrthwyneb mae Plaid Cymru Annibynnol yn fyw. Mae ganddi stondin ar y maes. Mae Owain Williams y pennaeth gwreiddiol yn bresennol - ac yn cadw cwmni iddo mae arch y ffurflenni Cyfrifiad colledig. Tybed a fydd Deryk Williams cyn reolwr yr ymarferiad hwnnw yng Nghymru yn galw i weld y diflanedig a ddogfennau.

Da o beth

A rwan rhaid troi o'r maes a mynd heibio'r arwydd rhyfeddol sy'n cyhoeddi fod yna "Wartheg Araf" ym mro'r Steddfod. Sut anifeiliaid ydyn nhw a be mae nhw'n feddwl o'r holl fuchod sanctaidd niferus sydd wedi heidio i'w libart yn Awst hwn. Da bo chi.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy