Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cefndir 'Lle i enaid gael llonydd'

Eglwys Gadeiriol TyddewiNid yn unig mae Tyddewi yn yn hafan o dangnefedd ond gall dinas leiaf Prydain ymffrostio mewn dau nawddsant . .

Dyma ni ar ein pererindod flynyddol i Feca'r diwylliant Cymreig a Chymraeg yr Eisteddfod Genedlaethol.

Eleni rydym yn pererindota i le a fu'n gyrchfan pererinion am yn agos i fil o flynyddoedd ac yn lle o bwys yn hanes Cristnogaeth am dros hanner mileniwm arall.

Mae gan Dyddewi reswm dros hawlio i ddau nawddsant gael eu geni yma.

Dywed traddodiad i Badrig Sant, nawddsant Iwerddon, gael ei eni yng Nglyn Rhosyn ddiwedd y bedwaredd ganrif a nodir 375 a 389 fel blynyddoedd ei eni gan wahanol ffynhonnellau.

Mae chwedl am ei gipio gan fôr-ladron a'i ddwyn i Iwerddon pan oedd tua 16 oed.

Dywed chwedl arall iddo ddychwelyd o Iwerddon ac yntau'n hen wr a'i fod yn pregethu yn Nhyddewi pan sylwodd ar ferch ifanc feichiog ymysg y dorf. Fei traw-wyd yn fud am ennyd.

Honnir iddo gael gweledigaeth y byddair baban yng nghroth y ferch yn tyfu'n sant a fyddai'n cwblhau'r gwaith o wneud Cymru yn wlad Gristnogol cwblhau'r gwaith a gychwynnwyd ganddo ef yn Nhyddewi.

Non oedd y ferch a Dewi y plentyn yn ei chroth.



Ffynnon NonDywedir i Ddewi gael ei eni ger Ffynnon Non, ar y darn o arfordir agored a gwyllt ir de o Dyddewi. O ddilyn llwybr yr arfodir o gwmpas Tyddewi fe gewch eich cyfeirio at adfeilion hen Gapel Non y credir ei fod ymhlith yr hynaf o adeiladau crefyddol Cymru.

Gerllaw, mae capel arall, o'r ugeinfed ganrif.

Ar ôl cael ei addysg ym Mynachlog Hendy-gwyn ar Daf dychwelodd Dewi i'w fro enedigol, Glyn Rhosyn, i barhau gwaith Padrig.

Capel a godwyd yn ystod dauddegau'r ganrif ddiwethaf ger yr hen Gapel NonYr oedd symlrwydd bywyd Dewi Ddyfrwr a'i ymwrthod â phob moethusrwydd yn ddeniadol i'r Cymry tlawd yn ystod ei fywyd ac ar ôl ei farw.

Fei canoneiddiwyd gan y Pab Callixtus II yn y ddeudegfed ganrif ac o hynny ymlaen ystyriwyd bod dwy bererindod i Dyddewi gystal ag un i Rufain.



Ôl y Llychlynwyr
Bu'r y Llychlynwyr yn ddiwyd yn y parthau hyn a gwelir eu hôl ar enwaur ynysoedd a'r trefi.

Dyna Ramsey (Ynys Dewi), Skomer, Fishguard, Tenby, Hubberston mae'r sir yn gyforiog o enwau sy'n dwyn i gof raib ac anrhaith y gwyr o'r gogledd.

Nid am eu camweddau yn unig y maen nhw i'w cofio oherwydd fe ddaethant â masnach hefyd.

Serch hynny, o safbwynt Tyddewi a'r eglwys yr oeddynt yn dipyn o ddraenen yn yr ystlys ac er ceisio cuddio'r adeilad o olwg y môr i lawr yng nghwm afon Alun gwyddai'r Llychlynwyr amdani ac fe ddeuent i ysbeilio.

Adeiladwyd yr eglwys gyntaf yn y chweched ganrif ond fe'i dinistriwyd tua phedair gwaith rhwng yr wythfed a'r unfed-ganrif-ar-ddeg.

Fe'i llosgwyd i'r llawr gan y Llychlynwyr yn 1078. Yr adeilad a godwyd wedi hynny a welwn heddiw.


Adfeilion Capel Non
Dair blynedd wedi hynny y daeth yr hanner-Llychlynnwr, Gruffydd ap Cynan, i hawlio am y trydydd tro, orsedd Gwynedd gan lanio ym Mhorth Clais ac ymuno â lluoedd Rhys ap Tewdwr ar y ffordd i frwydr Mynydd Carn.

Dysgu sgrifennu
Mae'r Saeson yn fawr eu clod i'r brenin Alfred gan ymfalchio mai ef a'n dysgodd ni i gyd, drigolion y gwledydd hyn, i sgrifennu. Ond pwy â'i dysgodd ef i sgrifennu?

Tua 880 gwysiwyd Asser, genedigol o Drefasser, Pencaer, i fynd o Dyddewi ato yn Wessex i'w ddysgu i sgrifennu a diwyllio'r Sacsoniaid barbaraidd. Arwydd o enw da a phwysigrwydd dysg a diwylliant yn Nhydddewi.

Nid yw enw Asser wedi ei lwyr anghofio gan y Saeson, ychwaith. Mae ei gofiant i Alfred yn hawdd i'w gael mewn cyfieithad Saeseg ac mewn print yng nghyfres clasuron Penguin.

Rhan o'r cytundeb a hawliodd Asser oedd ei fod yn treulio hanner ei flwyddyn yn yr hyn a alwai'n Sacsoni a'r gweddill ym Mrytania - Tyddewi, mae'n debyg.

Siom Gerallt Gymro
Llenor arall y cysylltir ei enw â Thyddewi yw Gerallt Gymro, y gwr a fethodd yn ei uchelgais i fod yn Esgob Tyddewi a gorfod bodloni ar fod yn Archddiacon.

Gyda'r Normaniaid yn llywodaethu yn myd yr eglwys, ac er bod Gerallt yn dri-chwarter Norman, yr oedd yn ormod o Gymro i gael ei ddyrchafu yn Esgob ac mae cofeb iddo yng Nghapel y Drindod yn ei ddarlunio gydag ysbrifbin yn ei law a'r cap esgobol wrth ei draed.

Adeiladu'r gadeirlan
Y trydydd o'r Esgobion Normanaidd, Peter de Leia o Fflorens, tua 1180, gynlluniodd a dechrau'r gwaith o adeiladu'r hyn a welwn heddiw o Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Bu cyfraniad Gerallt i'r datblygiadau yn fawr a thrwy hynny cafodd ei esgusodi rhag mynd i'r Trydydd Groesgâd.

Hynny, a'i daith drwy Gymru gydag Archesgob Baldwin, Caergaint, yn annog y tywysogion Cymreig i ymuno yn y Groesgâd.

Mae beddrod Gerallt yn yr Eglwys Gadeiriol a chredir mai yma, hefyd, y gorwedd yr Arglwydd Rhys ap Gruffydd a'i fab Rhys Grug dan feddrodau ar ffurf marchogion mewn gwisg milwr o'r bedwaredd-ganrif-ar-ddeg.

Gan fod Rhys ap Gruffydd yn farw yn 1196 byddai'r feddrod wedi ei llunio oddeutu dwy ganrif yn ddiweddarach, o bosib gan eu disgynyddion, teulu Talbot.

Dros y canrifoedd ychwanegwyd ati ond saif cynllun gwreiddiol Peter de Leia. Oherwydd lleithder y tir yn yr hen amser syrthiodd nifer o'r tyrau.

Heddiw, mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn llecyn hyfryd ac yn "lle i enaid gael llonydd".

Ac fel y dywedodd Llwyd Williams "Lle anodd cefnu arno yw Tyddewi".

Tebyg mai dyna fydd profiad eisteddfodwyr 2002 hefyd.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy