Â鶹ԼÅÄ

Llwybr Arfordir Cymru

Llwybr Arfordir Cymru

Ar 5 Mai 2012 cafodd Llwybr Arfordir Cymru ei agor yn swyddogol ar ôl chwe mlynedd o waith datblygu gan Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid.

Mae'r llwybr yn caniatáu ichi gychwyn eich taith ar lannau Afon Dyfrdwy a dal i fynd am 870 o filltiroedd nes cyrraedd aber yr Afon Hafren ger Casgwent gan wneud Cymru y wlad gyntaf yn y byd i greu llwybr cerdded swyddogol ar hyd pob modfedd o'i harfordir.

Gallwch ddewis deithiau byr neu deithiau hir ar hyd rhannau o'r daith.

Ar y ffordd gallwch fwynhau golygfeydd godidog o'r arfordir a chael cip ar fywyd gwyllt gan gynnwys Adar Drycin Manaw ar Ynys Enlli, Gweilch yn nythu ar aber Afon Dyfi, dolffiniaid ym Mae Ceredigion, colonïau enfawr o bâl a mulfrain ar Ynys Sgomer a math prin o degeirian y gors yng Ngwarchodfa Natur Cenfig.

Mae'r llwybr yn mynd drwy ddau Barc Cenedlaethol, 11 Gwarchodfa Natur Genedlaethol a nifer o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Yn ogystal â cherddwyr, mae rhai rhannau ohoni yn addas i feicwyr, teuluoedd, pramiau, cadeiriau olwyn ac i ymwelwyr ar gefn ceffyl.

Arfordir 'gorau'r byd'

Datblygodd y syniad am y llwybr yn sgil llwyddiant economaidd Llwybr Arfordir Sir Benfro a Llwybr Arfordirol Ynys Môn ac mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda'r Cyngor Cefn Gwlad, 16 o awdurdodau lleol a dau barc cenedlaethol i wireddu'r freuddwyd.

Yn 2011 cyhoeddodd Lonely Planet mai arfordir Cymru oedd yr arfordir gorau yn y byd i gerddwyr ymweld ag ef yn ystod y flwyddyn i ddod.

Mae'r holl wybodaeth, gan gynnwys mapiau, i'w chael ar wefan Llwybr yr Arfordir:

    Croeso

    Mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhedeg ar hyd 870 milltir o arfordir Cymru gan ei gwneud y wlad gyntaf yn y byd y gallwch gerdded ar hyd pob modfedd o'i harfordir, o un pen o'r wlad i'r llall. Mae'n rhedeg drwy ardaloedd o ddiddordeb eithriadol i naturiaethwyr

    Mae modd dechrau'r daith yn aber afon Dyfrdwy yn y gogledd ddwyrain a dal i fynd yr holl ffordd at aber yr afon Hafren yn sir Fynwy ond i'r llai uchelgeisiol, gallwch gyfyngu'ch tro i ddarnau bach o'r arfordir ar y tro.

    This is an introduction to the 870 mile long Wales Coast Path which opened officially on May 5 2012 making Wales the first country in the world to open an official path along the whole of its coastline.

    Teithiau cerdded

    Derek Brockway

    Weatherman Walking

    Lluniau a mapiau printiadwy o'r gyfres gyda Derek Brockway.

    Blog Hywel Gwynfryn

    Hywel Gwynfryn

    Crwydro Cymru

    Mae Hywel Gwynfryn yn dod i'ch ardal chi i ddarganfod be sy'n arbennig am eich milltir sgwâr.

    Torchwood

    Torchwood

    Ecscliwsif

    Golwg tu nôl i'r camera, y cymeriadau a'r rhaglenni (yn Saesneg.)

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.