Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Medi 2010

Cymru Fach

Vaughan Roderick | 19:18, Dydd Iau, 30 Medi 2010

Sylwadau (2)

.


Ydy mae Cwpan Ryder wedi rhoi Cymru ar y map! Mae darllenwyr y er enghraifft yn dechrau dysgu am ein hanes.

I can honestly say that I was not that fired up about Wales as a venue for the 38th Ryder Cup. That was simply total ignorance on my part. Wales is actually the country where the English originally settled before they were driven to England by robbers and militants.

Mae newyddiadurwyr ar y llaw arall yn dotio ar ein selebs.

I was thrilled to be one of the few American journalists/reporters included in the 'Welcome to Wales Gala Dinner and Show' and invited by the Welsh Assembly Government where I had the honor of sitting next to Alun Ffred Jones

Mae'n orfodol i holl raglenni Â鶹ԼÅÄ Cymru drafod golff yr wythnos hon. Dyw Dau o'r Bae ddim yn eithriad. Ond fe fydd Helen Mary Jones, Gwenda Thomas Mark Cole a LlÅ·r Roberts yn cael trafod pethau eraill. Gallwch wrando yn fyw am 1.15 neu ar iPlayer nur podlediad o 3.00 ymlaen

Um-geiswyr

Vaughan Roderick | 15:02, Dydd Iau, 30 Medi 2010

Sylwadau (1)

Rhywle yng nghefn cwpwrdd ym mhencadlys y Democratiaid Rhyddfrydol yn Cowley Street mae 'na gofrestr aelodaeth bur select. Hon yw'r "Interim Peers Panel" y rhestr o bobol y mae'r blaid yn ystyried yn gymwys i fod yn aelodau o DÅ·'r Arglwyddi. Heb fod ar y rhestr does dim gobaith i Lib Dem wisgo'r clogyn coch.

Tan yn ddiweddar dwy ffordd oedd 'na i gyrraedd y rhestr - cael eich ethol gan gynhadledd y blaid neu fod yn gyn-aelod seneddol. Mae'r ail ddosbarth yn awr wedi ei ddiwygio er mwyn cynnwys cyn-aelodau'r Cynulliad a Senedd yr Alban.

Pam y newid? Go brin fod a wnelo fe unrhyw beth a sicrhau teyrngarwch Aelodau Cynulliad sy'n canfod ei hun yn is ar y rhestri nac oedden nhw'n disgwyl bod.

Yn y cyfamser fe fydd darllenwyr sylwadau'r blog yma yn gwybod bod Angela Elniff-Larsen yr ail ar restr Plaid Cymru yn y Gorllewin a'r Canolbarth wedi cyrraedd y safle uchwl hwnnw er iddi beidio ennill yr un bleidlais ddewis cyntaf! Roedd ganddi lond dwrn o bleidleisiau ail-ddewis. Oherwydd cyfundrefn "sipio'r" blaid sy'n gosod dynion a menywod am yn ail ar y rhestri roedd y rheiny yn ddigon is sicrhau eu lle.

Mae'n debyg bod Plaid Cymru yn hynod o falch bod Tiger Woods, Catherine Zeta, Michael Jordan a Shirley Bassey yn llenwi'r papurau a rhaglenni newyddion gan fygu stori a allai fod yn gryn embaras.

Mae'r Blaid wedi rhyddhau datganiad un llinell ynghylch y sefyllfa sy'n dweud hyn;

"Mae pob canlyniad, gan gynnwys y rhestri rhanbarthol, yn gorfod cael ei gadarnhau gan y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol. Cyhoeddir y canlyniad swyddogol ar ôl y cyfarfod hwnnw"

Fe fydd angen doethineb Solomon. Wedi'r cyfan y blaid ac nid yr ymgeisydd wnaeth lunio'r rheolau. Nid hi sy'n gyfrifol am y picl.

Pobol Fawr a'r Glas

Vaughan Roderick | 11:28, Dydd Iau, 30 Medi 2010

Sylwadau (0)

Diawch mae 'na lot o bobol bwysig o gwmpas y lle 'ma heddiw.


Mae'r dirprwy brif weinidog Nick Clegg a'r Ysgrifennydd gwladol Cheryl Gillan newydd gyrraedd gyda gosgordd na welwyd ei thebyg ers dyddiau Louis XIV! Ydy'r fath niferoedd yn danfon y neges iawn mewn cyfnod o gynni? Dim ond gofyn.

Fe fydd José Manuel Barroso Llywydd yr Undeb Ewropeaidd yma'n ddiweddarach heddiw. A fydd ganddo fe'r un fath o barti? Fe gawn weld.

Dim ond sinig fyddai'n awgrymu bod 'na rhesymau arbennig i weision sifil geisio blagio eu ffordd i ymuno ac ymweliadau a De Ddwyrain Cymru'r wythnos hon.

Nid cyfoethogion a gwleidyddion America ac Ewrop yw'r unig rai sy'n arllwys i mewn i Gymru ar hyn o bryd. Mae glasfyfyrwyr hefyd yn cyrraedd ein colegau i gychwyn ar eu cyrsiau ac yn Aberystwyth mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn brolio eu bod wedi deni 95 o aelodau newydd yn Ffair y Glas.

Gallai hynny fod yn bwysig yn etholiad 2011? Dim cymaint ag y byddai'r blaid yn gobeithio, efallai. Fe fydd myfyrwyr Aber ar wyliau tan yr ail o Fai, tridiau cyn yr etholiad. Gallai dyddiadau gwyliau coleg bod hyd yn oed yn fwy o ffactor yn etholaeth Canol Caerdydd. Dyw myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ddim yn ôl yn eu darlithfeydd (neu dafarnau) tan yr wythnos ganlynol.

O'r Post

Vaughan Roderick | 20:27, Dydd Mercher, 29 Medi 2010

Sylwadau (1)

Mae'r pethau rhyfedda yn cyrraedd y blog yma! Beth am y neges fach yma i ddechrau?

Red Ed. Dwi'n hawdd i'm hudo - yn Irac,
roedd hi'n rong. Dwi'n mentro
bwrw sen ar frawd heno.
Terfynaf ei yrfa fo.

Roedd honno'n ddienw. Mae David Jones ar y llaw arall yn rhoi ei enw ar gwt y neges nesaf er bod yr enw hwnnw bron yn ddigon cyffredin i weithio fel non-de-plume! Gofyn mae David i mi dynnu sylw at ei ymderch i sefydlu gwefan seffolegol Cymreig newydd. Dyma .

Yng Nghefn y Dosbarth

Vaughan Roderick | 13:48, Dydd Mercher, 29 Medi 2010

Sylwadau (1)

Roedd hi'n anorfod y byddai'n rhaid i mi ddychwelyd at bwnc addysg Gymraeg yn hwyr neu'n hwyrach ond mae'n ymddangos bod straeon yn y maes hwn, fel bysys, yn dod fesul tair.


Ble mae cychwyn felly? Wel, ble ond Treganna?

Roedd hi'n ymddangos wythnos yn ôl bod rhyw fath o gyfaddawd wedi ei gyrraedd ynghylch y ffrwgwd arbennig yna gyda'r Cyngor yn cyhoeddi cynlluniau i godi ysgol newydd sbon dair ffrwd i ddelio a thwf addysg Gymraeg yn yr ardal.

Ar ôl yr holl helynt teg fyddai i'r rhieni gredu y byddai Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi rhwydd hynt i'r cynlluniau. Nid felly mae'r aelod lleol Rhodri Morgan yn gweld pethau. Draw ar "Click on Wales" mae Rhodri yn cwyno nad oes gan y Cyngor "plan B". Mae'n dweud hyn;

In its consideration of the proposal City Council scrutiny system should now go into overdrive, scoring it on:
1. How quickly it solves Treganna's overcrowding.
2. What chances the City has of finding the other £6 million from capital receipts?
3. What other school capital projects already submitted for Assembly funding would be lower in priority than the new school, if indeed there are any candidates for lower priority?

We also need to know what the Plans B and C the City Council have and how they score on the same three key tests. Then we can see whether this really is the only possible solution, albeit very slow. At that point, Cardiff could make a strong case out to the Welsh Government's Capital Programme.

Mae'n ymddangos bod Rhodri wedi anghofio mai "plan C" y cyngor yw hwn.

Fe wrthodwyd "Plan A" sef cau ysgol Radnor Road yn sgil gwrthwynebiad y cynghorwyr lleol. Fe wrthodwyd "Plan B" gan Carwyn Jones. "Plan C" yw hwn felly. Yng ngeiriau un o rieni'r Ysgol Gymraeg "Cyn i Rhodri alw am 'Plan Ch' a 'D' y cyngor oni ddylai fe gynhyrchu ei 'Plan A' ei hun?"

Yn sicr dyw sylwadau Rhodri yn gwneud ddim ffafrau a'i olynydd fel ymgeisydd Llafur Gorllewin Caerdydd, Mark Drakeford. Mae hwnnw wedi cadw allan o'r ddadl hyd yma ac mae'n anodd deall pam mae Rhodri yn ceisio procio'r tân ar hyn o bryd.

Mae'r ail stori ynghylch addysg Gymraeg hefyd yn ymwneud â Chaerdydd a'r newydd fod Leighton Andrews wedi rhoi sêl ei fendith ar sefydlu trydedd Ysgol Uwchradd Gymraeg y Brifddinas. Fe fydd yr ysgol honno ar y ffin rhwng stad cyngor Llanedern a maestrefi cefnog Cyncoed a Phen-y-lan. Does dim enw wedi ei gytuno ar gyfer yr ysgol eto ond rwy'n fodlon mentro nad Llanedern fydd y dewis!

Mae 'na broblem llawer mwy difrifol ynglŷn â dosbarth yn wynebu'r Cyngor wrth lunio dalgylchoedd y tair ysgol. Mae 'na beryg go iawn y byddai'r ffiniau amlwg yn creu un ysgol hynod o ddosbarth canol gyda chanran uchel o blant o gartrefi Cymraeg sef Glantaf gyda'r ddwy ysgol arall yn llawer mwy dosbarth gwaith gyda chanrannau bychan iawn o blant o deuluoedd Cymraeg. Fe fydd angen cynllunio gofalus iawn i sicrhau nad yw hynny'n digwydd er y dylai'r broblem ddatrys ei hun gyda sefydlu'r bedwaredd ysgol y bydd ei hangen o fewn byr o dro.

O Abertawe y daw'r drydedd stori ynghylch addysg Gymraeg. Bu'r cynulliad yn trafod y ddarpariaeth yn yr ail ddinas yn ddoe.


Dyn Prysur...

Vaughan Roderick | 16:22, Dydd Mawrth, 28 Medi 2010

Sylwadau (2)

Yn ystod ei ymgyrch fe addawodd Ed Miliband y byddai arweinwyr Llafur Cymru a Llafur yr Alban (a dyna mae'r blaid ei hun yn eu galw bellach) yn cael bod yn aelodau o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid ar lefel Brydeinig. Y Pwyllgor Gwaith Gwladol, os mynnwch chi!


Mae'n amlwg bod Carwyn yn bwriadu mynnu bod yr arweinydd newydd yn cadw at ei air. Yn ei araith ym Manceinion dywedodd Prif Weinidog Cymru hyn;

Incidentally Ed - when you came to Cardiff during the campaign, you publicly proposed that the Leaders of the Welsh and Scottish parties should have ex-officio seats on the National Executive Committee of the Labour Party. Both Iain Gray and I, wholeheartedly support you in this. It's long overdue that our party structure reflects the variou s devolution settlements that exist within the UK.

Mewn gwirionedd does dim byd yn gallu digwydd am flwyddyn oherwydd bod angen newid yn llyfr rheolau'r blaid.

Mae 'na broblem fach arall hefyd. Mae'r Pwyllgor Gwaith yn cwrdd ar bnawn dydd Mawrth ac mae Prif Weinidog Cymru yn brysur yn ateb cwestiynau bryd hynny!

Amseru Gareth

Vaughan Roderick | 12:39, Dydd Mawrth, 28 Medi 2010

Sylwadau (6)

Fe fydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr y blog yma wedi gweld dewisiadau Plaid Cymru ar gyfer rhestri'r Gogledd a'r Gorllewin a'r Canolbarth a chlywed bod Gareth Jones wedi penderfynu rhoi ei dwls ar y bar am y to olaf adeg yr etholiad nesaf.


Mae amseriad datganiad Gareth yn ddiddorol gan awgrymu i rai ei fod wedi oedi tan ar ôl i'r ymgeiswyr rhanbarth gael eu dewis er mwyn cau allan neu roi hwb i ymgeisydd posib yn Aberconwy. Dydw i ddim yn credu bod Gareth Jones y fath o ddyn i ymddwyn felly. Mae ei gyhoeddiad cymharol hwyr yn y dydd yn fwy o fater o'i chael hi'n anodd penderfynu yn fy marn i.

Ta beth am hynny mae'r penderfyniad yn gwneud pethau'n llawer anoddach i Blaid Cymru yn Aberconwy. Pwy fydd yn cael y dasg o geisio cadw gafael yn y sedd i'r blaid? Mae 'na lawer o son am Iwan Hughes cyn-gyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru ond fe fydd 'na enwau eraill yn y ffrâm.

Wrth gwrs yn unol â mathemateg greulon y system etholiadol fe fyddai colli Aberconwy yn newyddion da i Llŷr Hughes Griffiths ac o bosib Heledd Fychan, yr ymgeiswyr rhestr. Yn yr un modd yn y Canolbarth a'r Gorllewin mae'n anodd credu nad yw Nick Bourne yn dawel obeithio na fydd y Ceidwadwyr yn cipio Maldwyn gan aberthu sedd rhestr eu harweinydd!

Gwaharddiad ail Ddeddf Llywodraeth Cymru ar ymgeisyddiaeth ddwbl sydd wedi creu'r sefyllfaoedd hynod arteithiol - iddyn nhw, a hynod ddifyr i ni! Does rhyfedd efallai bod Hywel Williams yn gobeithio cyflwyno gwelliant i'r Mesur Pleidleisio ac Etholaethau o gofio bod ei ddyweddi yn gobeithio bod yn ymgeisydd rhestr!

Carwyn - James hynny yw

Vaughan Roderick | 18:36, Dydd Llun, 27 Medi 2010

Sylwadau (3)

Rwyf wedi bod yn esgeuluso'r blog am ychydig ddyddiau. Fe fydd y gwasanaeth arferol yn ail-gychwyn yfory. Yn y cyfamser mwynhewch y fideo!

Gigio! Acronym rhyfedd y Gwasanaeth Iechyd

Vaughan Roderick | 10:06, Dydd Iau, 23 Medi 2010

Sylwadau (21)

Beth yw'r gair Cymraeg an "national"?


"Cenedlaethol" meddwch chi, meddaf fi ac meddai hanner dwsin o Gymry Cymraeg iaith gyntaf yn ystafell newyddion y Â鶹ԼÅÄ.

A beth yw'r term Cymraeg am y "National Health Service"? "Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol" wrth reswm. Dyna beth fi'n dweud a sgwennu. Dyna mae'r hanner dwsin o Gymry Cymraeg yna'n dweud a dyna'r term, yn ôl google, y mae ystod eang o unigolion, cyrff cyhoeddus ac elusennau yn ei ddweud.

Pam felly mae'r Llywodraeth yn defnyddio'r acronym GIG ar gyfer y gwasanaeth? Go brin mai camdreiglad sy'n gyfrifol. Mae 'gwasanaeth' ac 'iechyd' yn eiriau gwrywaidd wedi'r cyfan. O ble mae'r ail 'g' yna'n dod felly?

Google yw ein cyfaill unwaith yn rhagor. Trwy ddefnyddio hwnnw cawn ddysgu mai "Gwasanaeth Iechyd Gwladol" yw'r cyfieithiad cywir o "National Health Service" yn ôl cyfieithwyr y Cynulliad a'r Llywodraeth. Mae'r peiriant chwilio yn gallu canfod miloedd ar filoedd o enghreifftiau o'r term - er eu bod nhw bron i gyd yn dod o ddogfennau swyddogol a gynhyrchwyd yng nghrombiliau Tŷ Hywel a Pharc Cathays.

Fedra i ddim meddwl am unrhyw reswm ieithyddol i esbonio'r cyfieithiad. Cofiwch rwy'n mentro fy lefelau-o gradd 4 (iaith) a gradd 2 (llenyddiaeth) yn erbyn pobol sydd â graddau a doethuriaethau yn dod allan o'u Bedwyr Lewis Jonesys!

Mae'n ymddangos i mi fod yr esboniad mwyaf tebygol am y cyfieithiad rhyfedd hwn yn un gwleidyddol. Rwy'n amau bod pwy bynnag oedd yn gyfrifol am y cyfieithiad gwreiddiol wedi trwytho ei hun ym mhregethau Gwynfor Evans ynghylch y gwahaniaeth rhwng gwlad a chenedl. Gan fod y "National" yn "National Health Service" yn cyfeirio at y Deyrnas Unedig defnyddiwyd y term "gwladol". Wedi'r cyfan yn ôl diwinyddiaeth Talar Wen gwladwriaeth nid cenedl yw Prydain.

Fe wna i adael y cwesitiwn o b'un ai y dylai cyfieithwyr adael i'w gwleidyddiaeth effeithio ar eu gwaith ai peidio i'r naill ochor. Os ydy pobol yn mynnu dweud "Teyrnas Gyfunol" yn lle "Teyrnas Unedig"... wel, rhyngddyn nhw a'u hansoddeiriau!

Pwynt arall sy gen i yn fan hyn. Hyd yn oed os oedd y "National" yna yn cyfeirio at y Deyrnas Unedig (neu gyfunol) yn 1948 go brin fod hynny'n wir bellach.

Proffwyd heb anrhydedd yw . Mae ei waith yn fwy cyfarwydd y tu allan i Gymru nac yn ei wlad ei hun. Rhoddodd Julian oes o wasanaeth fel meddyg teulu yng Nglyncorwg gan rannu meddygfa gyda'r cyn-weinidog iechyd Brian Gibbons. Ond mae Julian yn llawer mwy na meddyg. Mae'n wleidydd, yn hanesydd, yn awdur toreithiog a dyn sy'n darlithio ynghylch polisi iechyd yn y cylchoedd academaidd uchaf. Mewn sawl ystyr ef yw ceidwad ffydd y gwasanaeth iechyd. Fe ddylai ei lyfr "" fod yn darllen gorfodol i bawb sy'n ymddiddori yn y maes.

Mae'r llyfr yn dadlau bod sylfaen athronyddol y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol pan gafodd ei sefydlu yn deillio'n llwyr o brofiadau trigolion maes glo'r de ac mai dim ond y gwasanaeth yng Nghymru sy'n glynu at yr egwyddorion hynny hyd heddiw. Hynny yw, yn ôl un ddylai wybod, mae gwasanaeth iechyd Cymru yn gyfan gwbwl gwahanol i'r hyn sy'n bodoli yng ngweddill Prydain.

Mewn geiriau eraill mae'n wasanaeth iechyd Cenedlaethol Cymreig. Trafodwch.

Deg Uchaf y Cymro

Vaughan Roderick | 11:12, Dydd Mercher, 22 Medi 2010

Sylwadau (1)

Dydw i ddim yn ffan fawr o'r rhestri yna mae'r papurau mor hoff o'u cyhoeddi. Chi'n gwybod y fath o beth "traethau gorau'r byd", "y trigain brecwast gorau ym Mhrydain" ayb. Maen nhw'n bethau hynod o oddrychol ac os nad yw'r awdur, fel John Davies a'i 100 lle, yn rhywun a gwybodaeth helaeth a dawn sgwennu eithriadol go brin eu bod nhw'n werth eu darllen.

Ar y llaw arall o weld pennawd fel mae'n anodd peidio cymryd cip i weld sut mae gwleidyddion Cymru fach yn gwneud!

Dim ond jyst cyrraedd y rhestr mae Kirsty Williams. Hi yw rhif 50, ychydig yn is na gwraig Nick Clegg a'r actor Colin Firth. Rwy'n amau mae'r hyn fydd yn brifo mewn gwirionedd yw gweld yr enw naw safle yn uwch na hi. Pa enw yw hwnnw? Un o'i rhagflaenwyr, Alex Carlile.

Cofiwch, mae'r cyfan yn nonsens. Sut mae cymryd rhestr o ddifri pan nad yw'n cynnwys enw Lembit?

Roeddwn yn tynnu coes un Democrat Rhyddfrydol am hyn oll ac roedd ganddo ateb digon parod - "o leiaf dyw'r person mwyaf dylanwadol yn ein plaid ni ddim wedi difannu i fod yn stiwdant yn America!"

At bwy oedd e'n cyfeirio, tybed?

Y felan felyn

Vaughan Roderick | 17:36, Dydd Llun, 20 Medi 2010

Sylwadau (0)

Fe wnes i addo ar drothwy'r cynadleddau y byddwn yn sgwennu pwt ynghylch pob un o'r pleidiau i godi calonnau eu cefnogwyr ar gychwyn tymor gwleidyddol newydd. Mae'n haws mewn rhai achosion nac eraill!

Fe wnaeth Blog Menai hawlio y byddwn yn ei chael hi'n anodd iawn ddarogan dyddiau da i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru ond dwi'n meddwl ei fod yn meddwl yn benodol am etholiad cynulliad 2011 wrth ddweud hynny. Rwyf am ymestyn y maes llafur ychydig!

Nawr mae greddf yn dweud wrth ddyn bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn gweithio talcen caled flwyddyn nesaf ond mae greddf yn gallu bod yn beth peryg yn enwedig os ydy reddf honno'r seiliedig ar gamddeall ystadegau.

Cyfeirio at arolygon YouGov ITV ydw i wrth ddweud hynny gan eu bod ar yr olwg gyntaf yn awgrymu cwymp sylweddol yn y gefnogaeth i'r blaid ers yr etholiad cyffredinol. Yn etholiad mis Mai derbyniodd y Democratiaid Rhyddfrydol 20.1% o'r bleidlais. Yn ôl YouGov oddeutu hanner y canran hwnnw sy'n bwriadu pleidleisio yn yr un modd flwyddyn nesaf.

Reit, tawelwch yng nghefn y dosbarth! Fe fydd unrhyw un sydd erioed wedi cymryd gwers mewn ystadegau yn gwybod y rheol euraidd - "rhaid cymharu tebyg a'i debyg". Y 'baseline' cywir ar gyfer arolygon YouGov yw etholiad cynulliad 2007 nid etholiad eleni gan mai holi am fwriadau pleidleisio cynulliad mae'r cwmni. Yn yr etholiad cynulliad diwethaf fe dderbyniodd y blaid 14.8% o'r bleidlais. Oce, dyw colli traean o'ch cefnogaeth ddim yn wych ond mae'n llawer gwell na cholli ei hanner!

Pe bai canlyniadau YouGov yn cael ei gwireddu flwyddyn nesaf fe fyddai rhai o'r seddi rhestr mewn peryg - yn fwyaf enwedig rhai Gogledd a Dwyrain De Cymru. Fel gwnes i ddadlau yn yr erthygl ynghylch Plaid Cymru does fawr ddim i'w hennill o ymgyrchu dros ymgeiswyr rhanbarth mewn etholiad cynulliad. Gwell yw cwffio'n galed mewn etholaethau targed a derbyn seddi rhestr fel gwobrau cysur os ydy'r ymdrechion hynny'n methu.

Cymerwch y Gogledd fel enghraifft. Pe bawn i'n llunio strategaeth y blaid fe fyswn i'n taflu'r wardrob at Wrecsam er bod y blaid yn bedwerydd yno yn 2007. Pam Wrecsam? Wel, fe fydd Llafur a'r Ceidwadwyr yn brysur mewn etholaethau cyfagos ac rwy'n lled amau na fydd rhan helaeth o Dorïaid yr ardal yn orawyddus i fwrw pleidlais dros John Marek. Mae'r glymblaid yn San Steffan yn ei gwneud hi'n haws dybiwn i i'r blaid ddenu pleidleisiau tactegol gan Geidwadwyr a Wrecsam yw'r lle perffaith i wneud hynny.

Mewn storom berffaith mae'n bosib y byddai'r sedd etholaeth yn cael; ei chipio ond phe na bai hi gallai ychydig filoedd o bleidleisiau ychwanegol wneud y gwahaniaeth yn y fathemateg ranbarthol. Yn yr un modd gallai ymgyrchoedd cryf ond aflwyddiannus i gadw Maldwyn a chip Ceredigion arwain at gynhaeaf yn rhanbarth y Canolbarth a'r Gorllewin.

Gyda thargedu clyfar a lot o waith caled rwy'n meddwl ei bod hi'n ddigon posib i'r blaid dal ei thir flwyddyn nesaf a dyna'r cyfan sydd angen iddi wneud. Goroesi a chadw undod sy'n bwysig i'r blaid yn y blynyddoedd nesaf gan obeithio y bydd penderfyniad y blaid i fetio'r fferm ar wellhad economaidd o ganlyniad i foddion cas yn dwyn ffrwyth.

Roedd y post hwn i fod i ymddangos ddiwedd wythnos ddiwethaf ond doedd ei gyhoeddi ddim yn teimlo'n gymwys yn sgil marwolaeth y gŵr annwyl hwnnw, Richard Livsey. Ychydig iawn o wleidyddion sy'n mynd trwy fywyd heb greu llond siambr o elynion a gwatwarwyr. Roedd Richard yn un ohonyn nhw.

Dewis a dethol

Vaughan Roderick | 10:39, Dydd Gwener, 17 Medi 2010

Sylwadau (0)

Rwyf newydd sylweddoli nad wyf wedi blogio eto ynghylch etholiad mewnol y blaid Lafur.

Na, nid yr un yna, y llall! Roedd hi'n hawdd anghofio yn ystod blynyddoedd hir Llafur mewn grym yn San Steffan nad yw ei harweinydd yn cael dewis ei gabinet ei hun pan nad yw Llafur mewn llywodraeth. Yr arweinydd sy'n didoli'r swyddi ond y blaid seneddol sy'n dewis aelodau'r cabinet mewn etholiad sydd bron mor anodd i ddarllen a'r un wnaeth ddewis Bened yn bab!

Yr hyn sy'n rhyfeddol yw faint o Aelodau Seneddol Cymreig sy'n sefyll y tro hwn. Mae hyd at ddeg aelod Llafur Cymreig yn bwriadu sefyll - dwbl y nifer o aelodau Albanaidd. Mae'n ymddangos felly bod oes y 'MacCabinet' yn dirwyn i ben!

Y ddau sydd a'r cyfle gorau o gael eu hethol, dybiwn i, yw Peter Hain a Chris Bryant sy'n rhwyd weithiwr penigamp. Mae'n bosib y gallai ambell i un arall gyrraedd y brig hefyd. Mae Kevin Brennan, Huw Irranca Davies ac Alun Michael, er enghraifft, i gyd yn wleidyddion swmpus, profiadol.

Mae'r ffaith bod cymaint o aelodau Cymreig yn sefyll yn dipyn o bluen yng nghap Llafur Cymru. Mae'r ffaith eu bod nhw i gyd yn ddynion ar y llaw arall yn destun embaras!

Wrth gwrs dim ond sinig fyddai'n awgrymu bod y ffaith bod Cymru'n debyg o golli deg sedd seneddol yn yr etholiad nesaf wedi darbwyllo ambell i aelod seneddol y byddai nawr yn amser da i godi ei broffil!

Miaw

Vaughan Roderick | 13:00, Dydd Iau, 16 Medi 2010

Sylwadau (0)

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cael cyfle i berfformio can actol gwneud cyflwyniad ar lwyfan cynhadledd Brydeinig y blaid ac mae 'na gryn gystadleuaeth wedi bod i gymryd rhan.

Pwy sydd wedi llwyddo, tybed? Christine Humphries a Kirsty Williams, wrth reswm. Go brin y byddai'n bosib cau allan Llywydd y blaid na'i harweinydd. Fel yr unig aelod cynulliad newydd am ddegawd mae Veronica German yn dewis ei hun. Mae'r un peth yn wir am ddarpar ymgeisydd Maldwyn Wyn Williams.

Pwy sy'n cael y slot olaf tybed? Aled Roberts. Pam fe? "Fel cynrychiolydd o fyd llywodraeth leol" medd y blaid.

Rwy'n falch o glywed hynny. Fe fyddai'n ofnadwy o beth pe bai trefniadaeth y blaid yn ceisio rhoi help llaw i un ymgeisydd am enwebiad rhanbarthol y Gogledd ar draul un arall sydd eisoes yn aelod cynulliad. Dim ond cathod mewn sach fyddai'n ymddwyn felly.

Gair o gyngor

Vaughan Roderick | 07:57, Dydd Iau, 16 Medi 2010

Sylwadau (2)

Fe fydd gen i fwy i ddweud am hyn yn ystod y dydd ond er gwybodaeth dyma'r cyngor cyfreithiol llawn ynghylch S4C.

Os ydy'r cyngor yn gywir nid yn unig y byddai angen deddfwriaeth i orfodi toriadau gwariant ar S4C does dim hawl gan y Sianel i ddychwelyd arian i'r llywodraeth o'i gwirfodd. Os felly mae'n bosib bod y Sianel wedi torri'r gyfraith trwy gytuno i doriad o £2m yn gynharach eleni a'i bod yn gwybod hynny. Ai dyna sydd wrth wraidd helyntion y misoedd diwethaf?

S4C - PAYMENT OF PRESCRIBED AMOUNT
ADVICE SUMMARY
1. I am asked to advise S4C on one question concerning the power of S4C to make
a voluntary payment to the Department of Culture, Olympics, Media and Sport
("the Department") of money paid to S4C pursuant to section 61 of the
Broadcasting Act 1990 ("the Act").
2. For the reasons given below, S4C has no legal power to make voluntary payments
to the Department of money received pursuant to section 61 of the Act and such
voluntary payments would be unlawful.
BACKGROUND
3 As part of the United Kingdom government's efforts to reduce public spending in
the current financial year, the Department wishes to see a reduction of
approximately 3 to 5% in the funding made available by the Department to S4C.
The Department has indicated that it accepts that it has to provide a certain level
of funding under section 61 of the Act but has asked whether S4C would agree to
reduce its funding on a voluntary basis. The mechanism for effecting this
voluntary reduction would be that the Department would pay the money due
under section 61 of the Act but S4C would then make a voluntary repayment of
part of the monies received.
LEGAL FRAMEWORK
4. Section 56 of the Act keeps in existence the Welsh Fourth Channel Authority,
referred to in the Act as the Welsh Authority. That Authority is to be known as
S4C. That is a body corporate comprised of a chairman and appointed members.
A number of its functions are delegated to a Board of Directors.
5. Funding, in part, is dealt with by section 61 of the Act. The Secretary of State
must in each year, pay the prescribed amount to S4C as increased by the
appropriate percentage. The prescribed amount is the amount actually received in
1997 or an amount being greater than the 1997 amount (the amount being
prescribed by the Secretary of State by order). There is no power to prescribe an
amount less than the amount paid in 1997. The prescribed amount is to be
increased by the appropriate percentage (defined in section 61(6) of the Act as,
effectively the percentage increase between the retail price index for November
1996 and the November for the year preceding the year of payment).
6. Section 61A(2) of the Act, as amended, provides that:
"(2) All amounts received by the Welsh Authority under section 61 shall
be kept by the Authority in a separate fund (in this section referred to as
"the public service fund") which may be applied only for the purposes of
their functions in relation to the provisions of the services that are public
services of the Authority within the meaning of section 207 of the
Communications Act 2003."
7. Those public services are defined as S4C, S4C Digital and services authorised by
or under section 205 of the Communications Act 2003 ("the 2003 Act).
ANALYSIS
8. The Secretary of State is obliged each year to pay the prescribed amount,
increased by the appropriate percentage, to S4C under section 61 of the 1990 Act.
9. Monies received under section 61 of the Act "may be applied only for the
purpose" of S4C's functions in relation to the provision of S4C's public services.
S4C has no power to make payments of monies for other purposes. In my opinion,
therefore, S4C has no power to make voluntary payments of money received
under section 61 of the Act to the Department (whether for the purposes of
assisting with the government's policy or otherwise). Parliament has imposed a
duty as to how monies received under section 61 of the Act are to be used. Those
monies are to be applied only for the purpose of S4C's functions in relation to the
provision of public services, i.e. the provision of S4C, S4C Digital and services
authorised under section 205 of the 2003 Act. There is no provision for S4C to
make voluntary payments to the Department for other purposes.
10. Separately and in addition, the proposal whereby the Secretary of State would
seek to effect a cut in the amount provided to S4C by making payment of the
prescribed amount and then arranging for part of that to be repaid voluntarily
would not, in my opinion, be consistent with the statutory framework set out insection 61 and 61A of the Act. Parliament has prescribed a funding mechanism
which involves payment of the prescribed amount (the amount received in 1997
or a greater amount) increased by the appropriate percentage. S4C must keep that
money in a separate fund and apply that money only for the purposes of the
provision of public services. It would not be consistent with that framework for
the Department or S4C to enter into arrangements intended to ensure that less
than the money contemplated by Parliament as being necessary for the provision
of S4C's public services would be provided.
CONCLUSIONS
11. In summary, therefore, S4C has no power to make voluntary payments of money
to the Department from monies provided by the Department to S4C. Monies
received under section 61 of the Act may only be used for the provision of public
services as defined in the 2003 Act and not for making voluntary payments to the
Department.

CLIVE LEWIS Q.C.
Mai 2010

A dyma lythyr llawn Peter Hain at yr Yrsgrifennydd Gwladol;

Dear Cheryl,

I enclose a copy of Counsel's opinion which says that any cuts to S4C budget, either voluntary or otherwise, are illegal.

It is very clear from Counsel's opinion that should your Government wish to impose any cuts on the S4C budget you would have to introduce primary legislation to do so.

I therefore request that your Government postpone any plans for immediate cuts to the S4C budget, and not accept any voluntary repayments, to avoid being in breach of the law.

If you proceed regardless, I will give my full support for a judicial review.

The S4C budget should always be scrutinised, and we would welcome a debate about the future of S4C and Welsh language broadcasting in general. But we will not support these sudden and illegal cuts, especially as Wales is already suffering more than anywhere else because of the actions of your Government.

I will be writing in similar terms to the Secretary of State for Culture, Olympics, Media and Sport, but would urge you to take a personal interest in this issue.

Peter

Blwyddyn yng Nghymru Na Fu

Vaughan Roderick | 13:57, Dydd Mercher, 15 Medi 2010

Sylwadau (1)

Fe wnaeth "Monwynsyn" adael sylw ar y blog y dydd o'r blaen oedd yn codi pwynt hynod o ddifyr. Fe wnes i ddim ymateb yn y sylwadau gan ei fod, rwy'n meddwl, yn haeddu post llawn. Dyma oedd pwynt Monwynsyn.


"Newydd fod yn meddwl beth fyddai ffawd Plaid Cymru heddiw petai clymblaid enfys wedi ei ffurfio gyda'r Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar ôl etholiadau cynulliad diwethaf. A fyddent yn debygol o fod yn cael gwrandawiad gwell i'r achos yn erbyn y toriadau ? Digon annhebyg. A fyddent yn fwy o gocyn hitio ar gyfer yr etholiad nesaf ? A ydynt rŵan mewn sefyllfa gryfach gan y gellir ymosod yn ddiffuant ar y toriadau pan fyddant yn dechrau brathu? A fyddai cyfnod fel enfys wedi bod yn gyfle i dorri cwys newydd ? Dwi yn amau ei bod rŵan mewn sefyllfa gryfach na petaent yn cynnal llywodraeth enfys. Trafoder."

Fel mae'n digwydd rwy'n eithaf mwynhau darllen nofelau . Am wn i, y nofel agosaf i'r genre yn Gymraeg yw 'Wythnos yng Nghymru Fydd' ac rwy'n fodlon mentro i fyd ffuglen a chynnig "Blwyddyn yng Nghymru na fu" i geisio ateb y sylw!

Gadewch i ni gymryd felly bod etholiad a digwyddiadau yn San Steffan wedi dilyn yr un patrwm ac eleni ond mai llywodraeth enfys o dan arweinyddiaeth Ieuan Wyn Jones oedd mewn grym yng Nghymru.

Fe fyddai ffawd Plaid Cymru o dan amgylchiad felly, dybiwn i, yn dibynnu'n llwyr ar barodrwydd y llywodraeth newydd yn San Steffan i roi triniaeth arbennig i Gymru yn ystod cyfnod y toriadau. Mae llywodraeth David Cameron a Nick Clegg, er enghraifft, wedi gohirio hyd yn oed ystyried unrhyw newid yn fformiwla Barnett tan ar ôl refferendwm 2011. A fyddai'r sefyllfa'n wahanol pe bai eu pleidiau mewn llywodraeth yng Nghaerdydd? Mae'n bosib y byddai hi.

Mewn sefyllfa felly gallai Plaid Cymru ymgyrchu yn 2011 fel y blaid oedd yn gallu sicrhau'r ddêl orau i Gymru mewn cyfnod ariannol anodd. Does wybod pa mor effeithiol y byddai apêl felly ond fe allai weithio.

Pe bai llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrthod rhoi unrhyw driniaeth arbennig i Gymru ar y llaw arall fe fyddai'r sefyllfa'n wahanol iawn. Mae'n debyg y byddai Llafur ar ei ffordd i goblyn o ganlyniad da yn etholiad 2011 ac mae'n ddigon posib y byddai'r enfys yn cwympo'n ddarnau cyn yr etholiad hwnnw

Mae hynny'n dod a fi at stori yr wyf wedi clywed o sawl cyfeiriad bellach. Does dim modd gwybod ydy hi'n wir ai peidio ond mae'r ffaith bod cymaint o bobol o wahanol liwiau yn ei hadrodd, ynddi hi ei hun yn ddadlennol.

Hanfod y stori yw bod y cyfarfod cyntaf rhwng David Cameron a Carwyn Jones ym mis Mai yn drychineb llwyr. Roedd Carwyn, yn ôl y stori, yn ymddwyn mewn modd swrth ac ymosodol - "passive-aggresive" fel maen nhw'n dweud yn Saesneg. Roedd Prif Weinidog Cymru yn gwgu a syllu at Brif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig. Anwybyddodd yr Ysgrifennydd Gwladol yn llwyr, cymaint felly nes i David Cameron ofyn i Carwyn os oedd e'n deall fod ganddo hyder llwyr yn Cheryl Gillan a'i bod hi'n siarad dros ei lywodraeth.

Mewn gwrthgyferbyniad llwyr roedd y cyfarfod cyntaf rhwng Alex Salmond a David Cameron yn fêl i gyd ac mae 'na ambell i awgrym (ym maes amddiffyn, er enghraifft) bod 'na fwy o barodrwydd yn San Steffan i wrando ar lywodraeth Caeredin nac un Caerdydd.

Mae Plaid Cymru yn chwilio am ffyrdd i wahaniaethu ei hun o'r Blaid Lafur yn 2011. Efallai mai'r ffordd i wneud hynny yw trwy fynnu bod 'na wahaniaeth rhwng "gwneud y gorau dros Gymru" ac "amddiffyn Cymru" - os ydy amddiffyn yn golygu gwgu a gwrthwynebu popeth fel mater o egwyddor.

Post Cyntaf

Vaughan Roderick | 10:22, Dydd Mercher, 15 Medi 2010

Sylwadau (2)

Tra bod coridorau Tŷ Hywel dal yn dawel mae gwleidyddion San Steffan yn ôl wrth y talcen glo ac mae'r datganiadau i'r wasg, y man straeon a'r sibrydion yn dechrau llifo i mewn. Gan amlaf mae'r rhan fwyaf o rain yn diweddu yn y bin sbwriel cyfrifiadurol. Ond jyst am unwaith dyma i chi flas o beth sy'n ein hwynebu bob bore.


Cawn wybod fod aelodau'r Pwyllgor Dethol Cymreig yn bwriadu ymweld â phont ac ail groesfan Môr Hafren fel rhan o'u hymchwiliad i'r tollau. Dyw pwynt yr ymweliad ddim yn amlwg. Wedi'r cyfan oni ellir cymryd bod y rhan fwyaf o'r aelodau wedi gweld a hyd yn oed croesi'r aber o bryd i gilydd? Efallai bod David Davies yn gweld ei hun fel rhyw Awstin Sant i'n hoes ni - er go brin fod y Pwyllgor Dethol yn cymharu â'r synod eglwysig a gynhaliwyd ar safle gwasanaethau mwyaf di nod ein traffyrdd! Does 'na ddim son yn y datganiad gyda llaw ynghylch p'un ai y bydd yn rhaid i'r pwyllgor dalu am groesi ai peidio!

Yn y cyfamser mae aelodau seneddol Plaid Cymru (ynghyd â Peter Bottomley am ryw reswm) wedi gosod cynnig yn galw ar yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt i wylio "Pen Talar" yn ei gyfanrwydd cyn cyrraedd penderfyniad ynghylch dyfodol y sianel. Does dim gwirionedd yn y si bod gelynion y sianel yn bwriadu danfon recordiadau o "Wawffactor" a "Bang Bang Bangkok" i'r gweinidog.

Bysus Bach y Wlad

Vaughan Roderick | 13:42, Dydd Mawrth, 14 Medi 2010

Sylwadau (4)

Rwyf newydd orffen darlleno Lloyd George gan Roy Hattersley. Mae'r llyfr yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau ac mae'n werth ei ddarllen hyd yn oed i rheiny sy'n gyfarwydd â hanes Dewin Dwyfor o fywgraffiadau blaenorol.

Mae "The Great Outsider" yn cynnwys elfennau a gwybodaeth newydd ond yr hyn sy'n ddifyr yw darllen dadansoddiad un gwleidydd o gymhellion a thactegau gwleidydd arall. Fe fydd y rheiny sydd wedi darllen bywgraffiad Roy Jenkins o Winston Churchill yn gyfarwydd â pha mor ddifyr a dadlennol y mae llyfrau felly'n gallu bod.

Mae Roy Hattersley yn tynnu sylw yn ei lyfr at yr unig addurn oedd ar wal swyddfa Lloyd George yn Downing Street. Darn o frodwaith wedi ei fframio oedd hwnnw yn cynnwys adnod o lyfr Job; "Llwybr yw hwn nid adnabu aderyn ef ac ni chanfu llygad barcud ef".

Ac eithrio'r ffaith ei bod hi'n bosib mai o'r adnod hon y tarddodd yr ystrydeb "llygad barcud" mae'n un ddigon di nod. Go brin ei bod hi'n un o'r ffefrynnau wrth i blant yr Ysgol Sul godi ar eu traed i adrodd eu hadnodau - hyd yn oed yn nyddiau plentyndod Lloyd George!

Yn ol Roy Hattersley llwybr Job oedd llwybr Lloyd George. Mae hynny'n ffordd bert o ddweud bod yr hen foi yn gwybod yn iawn beth oedd e'n gwneud a beth oedd ei fwriadau. Roedd ei gefnogwyr a'i wrthwynebwyr fel ei gilydd ar y llaw arall, yn gorfod ceisio dyfalu beth yn union oedd yn mynd ymlaen a pha dric gwyrthiol fyddai'n ymddangos nesaf o lewys y dewin.

Does dim dirgelwch o gwbwl ynghylch pa lwybr y cymerodd aelodau Cymdeithas yr Iaith y dydd o'r blaen er mwyn cynnal protest yn erbyn torriadau yng nghyllid S4C. Yr M4 oedd y llwybr hwnnw, rwyn cymryd.

Mae 'na gwestiwn ar y llaw arall ynghylch pwy dalodd am y bws mothus ar gyfer y protestwyr. "Cefnogwr di-enw" oedd yn gyfrifol neu dyna ddywedodd un o'r trefnwyr wrth un o'r trwps. Fe fyddai'n ddiddorol gwybod pwy yn union oedd y cefnogwr hwnnw. Mae gen i un cwestiwn bach arall hefyd. Sut oedd y protestwyr wedi cael gwybod bod y cyfarfod rhwng S4C a'r DCMS wedi ei symud o bencadlys yr adran i'r senedd ar y funud olaf? Dim ond gofyn.


Siop Siarad

Vaughan Roderick | 09:00, Dydd Sadwrn, 11 Medi 2010

Sylwadau (3)

Rwyf yn ôl yng Nghaerdydd ar ôl y wibdaith fach i Aberystwyth. Roedd cynhadledd Plaid Cymru yn ddigwyddiad llawer mwy bywiog a gobeithiol nac oeddwn yn disgwyl. Efallai bod a wnelo fy ymdrech i godi calonnau'r cynrychiolwyr rywbeth a hynny. Rwy'n ymwybodol fe mod wedi addo ceisio cyflawni'r un dasg i'r Democratiaid Rhyddfrydol yr wythnos hon. Maeyn amau a yw hynny'n bosib. Fe gawn weld!


Yn y cyfamser mae gen i raglen wleidyddol newydd yn cychwyn bore fory (Sul) ar Radio Wales. Fe fydd hi'n cael ei darlledu rhwng wyth a naw y bore ac ymhlith y gwesteion yn y rhaglen gyntaf mae Roy Hattersley, Ian Hargreves, Paul Flynn ac Ieuan Wyn Jones. Rwy'n ymwybodol bod ail hanner y rhaglen yn cael ei darlledu ar yr un pryd a rhaglen Dewi Llwyd ar Radio Cymru. Fe wna i ddim dal dig os ydych ch'n troi draw at fy hen gyfaill hanner ffordd drwyddi!

Chamthreiglo

Vaughan Roderick | 12:57, Dydd Gwener, 10 Medi 2010

Sylwadau (0)

Fi yw'r person olaf i bregethu ynghylch treigliadau. Ar y llaw arall oni fyddai'n beth ofnadwy pe bai homar o wall yn ymddangos ar glawr rhaglen cynhadledd Plaid Genedlaethol Cymru - rhywbeth fel "Cynhadledd Blynyddol", er enghraifft?

Beth fyddai Saunders, Kate neu DJ yn dweud?

Ar y llaw arall go brin y byddai'r blaid yn fodlon gwario ffortiwn fach ar sticeri finyl i guddio'r camsyniad?

Scratch 'n' Sniff a chwi gewch yr ateb!

Gan fy mod wedi crybwyll D.J. Williams nae na stondin yn y gynhadledd sy'n ceisio codi arian i atgyweirio bedd y llenor trwy werthu 'mousemats' arbennig. Does dim sicrwydd p'un ai peiriant Apple neu Microsoft oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr hen dy fferm ond mae'r matiau'n addas i'r ddau.

Aber Aber Aber!

Vaughan Roderick | 10:31, Dydd Gwener, 10 Medi 2010

Sylwadau (0)

Dyma ni, felly. Mae'r tymor cynadleddau wedi cyrraedd a hufen newyddiadurwyr gwleidyddol Cymru i gyd yn y Coleg ger y Lli neu, o ystyried y tywydd, y Coleg dan y dŵr!

Beth yw'r argraffiadau cyntaf, felly? Wel, mae 'na lawer o bobol yma. Fel 'na mae cynhadledd Plaid Cymru ar drothwy etholiad cynulliad yn enwedig a ninnau ar ganol cynadleddau dewis y rhestrau rhanbarthol. Dydw i ddim yn gwybod p'un ai ydy Heledd Fychan wedi clonio ei hun ond mae hi i'w gweld yn mhobman!

Nid bod y niferoedd mawr yn cofrestru yn golygu bod y blaid wedi cefnu ar y traddodiad o gael llai na dwsin o bobol yn y neuadd ar gyfer cychwyn sesiwn fore Gwener. Rwy'n amau nad oedd unrhyw un yn bresennol ym mrecwast "Tai Cymunedol Cymru" os oedd hwnnw yn cychwyn am 3.40 am fel y mae rhaglen y Gynhadledd yn dweud. Efallai mai'r bwriad oedd denu gwehilion olaf yr "Inn on the Pier"!

Rho i mi'r pres na ŵyr y byd amdano...

Vaughan Roderick | 22:21, Dydd Mawrth, 7 Medi 2010

Sylwadau (0)

Fe fyddai dyn yn credu bod pawb yn y byd gwleidyddol yn gwybod bod arian yn brin ac yn debyg o fynd yn brinnach. Ond mae'n ymddangos nad yw ambell i wleidydd nac adran wedi derbyn y neges eto.

Sut arall mae esbonio'r hysbysfyrddau enfawr y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi eu llogi er mwyn hysbysebu'r ffaith bod cystadleuaeth Cwpan Ryder yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd - a sut mae esbonio'r sylw yma yn NhÅ·'r Cyffredin?

"I will wholeheartedly support the equalisation of constituencies. If anything can be done for constituencies in which constituents have particular travel and access difficulties, that should be on the basis of allowing greater expenditure on staffing or further offices. I have to run two offices in my constituency, yet people still have to travel 30 miles to access them."

Roger Williams AS

Wrth i'w lywodraeth dorri yn ôl ar bron popeth arall ai nawr yw'r adeg briodol i Aelod Seneddol ofyn am ragor o dreuliau - yn enwedig os ydy'r aelod hwnnw yn talu rhent am swyddfa i goffrau ei blaid ei hun?

Yn y cyfamser...

"Hoffech chi fod yn Aelod Cynulliad?" Dyna yw'r pennawd ar e-bost a ddanfonwyd gan Lafur Cymru i aelodau'r blaid. Rwyf am awgrymu'n garedig na ddylai'r aelodau hynny egseitio gormod. Mae'r post yn mynd yn ei flaen i gyhoeddi bod y broses dewis wedi cychwyn mewn tair etholaeth sef Brycheiniog a Maesyfed, Dwyfor Meirionnydd ac Ynys Môn. Yng ngeiriau un wnaeth dderbyn y post fe fyddai "Hoffech chi fod yn beilot kamikaze?" yn well pennawd!

Ym-geiswyr

Vaughan Roderick | 14:19, Dydd Mawrth, 7 Medi 2010

Sylwadau (1)

Un o gyfrinachau mawr gwleidyddiaeth yn ystod y misoedd diwethaf yw'r rheswm am arafwch y Blaid Lafur i ddewis ymgeiswyr cynulliad yn ei seddi targed. Fe ddewiswyd ymgeiswyr Blaenau Gwent a Llanelli hydoedd yn ôl ond mae seddi eraill y mae Llafur yn gobeithio eu hennill yn dal i fod heb ymgeisydd.

Mewn rhai achosion mae'n debyg mai oedi er mwyn rhoi cyfle i aelodau seneddol wnaeth golli ym Mis Mai ystyried p'un ai i sefyll ai peidio oedd y bwriad. Mae hynny'n ddigon synhwyrol.

Fe fydd darllenwyr y blog hwn ym Mis Awst a darllenwyr y Western Mail y mis hwn yn gwybod bod y dacteg honno wedi gweithio yng Ngogledd Caerdydd lle mae Julie Morgan fwy neu lai wedi penderfynu rhoi ei henw ymlaen.

Nid felly y mae pethau yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro. Mae'n debyg nad oes unrhyw ddiddordeb gan Nick Ainger mewn ymgeisio. Nid bod hynny'n gadael Llafur heb ymgeisydd credadwy.

Ar ôl llygadu sedd rhestr a cheisio cryfhau ei chefnogaeth ranbarthol trwy sefyll yn Nwyrain Caerfyrddin yn yr Etholiad Cyffredinol mai'n debyg bod Christine Gwyther wedi penderfynu mae yn ei hen etholaeth y mae ganddi'r cyfle gorau o ddychwelyd i'r Bae. Nid bod Christine yn sicr o gael yr enwebiad. Wedi'r cyfan colli fu hanes Tamsin Dunwoody yng nghynhadledd ddewis Preseli Penfro.

Maria Battle yw'r enw arall sy'n cael ei grybwyll yn yr etholaeth ddeheuol.

Taro'r Targed

Vaughan Roderick | 10:50, Dydd Mawrth, 7 Medi 2010

Sylwadau (8)

Rhyw wythnos 'hanner a hanner' oedd wythnos ddiwethaf neu felly oedd hi'n teimlo o leiaf!

Roeddwn i yn ôl y Bae ac er bod 'na hen ddigon i wneud roedd coridorau'r Senedd a Thŷ Hywel yn gymharol wag a'r ffreutur o hyd yn cynnig bwydlen wyliau. Nid bod fi'n cwyno ynghylch hynny! Mae'r bwyd sy'n cael ei gynnig pan nad yw'r Gweinidog Iechyd na'i sbeis o gwmpas at fy nant i! Yng ngeiriau'r hen hysbyseb; "I hope that it's chips, it's chips..."!

Ta beth fe fydd pethau'n poethi'n wleidyddol o hyn ymlaen hyd yn oed os ydy cogyddion y Cynulliad yn gorfod cuddio ambell i ffrimpan!

Mae gen i raglen wleidyddol newydd yn Saesneg yn cychwyn penwythnos nesaf ac fe fydd CF99 a Dau o'r Bae yn ôl ymhen ychydig. Cyn hynny daw cynhadledd gyntaf yr hydref sef un Plaid Cymru yn Aberystwyth.

Fe fydd honno'n gynhadledd ddiddorol gyda sawl awgrym bod 'na rywfaint o anniddigrwydd o gwmpas y lle ynghylch cyflwr a chyfeiriad y blaid. Mae hynny'n anorfod yn sgil etholiad cyffredinol siomedig yn enwedig gan fod y rhelyw o bobol y blaid dwi'n siarad â nhw bellach yn derbyn na ellir beio'r cyfan o'u methiannau ar y dadleuon teledu.

Mae'r sefyllfa tymor hir ynghylch yr arweinyddiaeth yn sgil penderfyniad Adam Price i gamu yn ôl o etholiad 2011 yn peri pryder i rai. Ar ben hynny mae arolygon ITV Cymru/YouGov yn awgrymu mai Llafur nid Plaid Cymru sydd yn elwa o'r cwymp yn y gefnogaeth i'r Democratiaid Rhyddfrydol ar hyn o bryd.

Gan ein bod ar drothwy Eid ul-Fitr rwyf am fynd i ysbryd yr ŵyl ac awgrymu ei bod hi'n bosib bod dyddiau'r newyn ar fin darfod i Blaid Cymru ac y gallai 'na fod dyddiau da, er nid gloddest efallai, ar y gorwel yn 2011.

Y darn cyntaf o dystiolaeth yw'r union arolygon barn hynny sy'n poeni nifer o bleidwyr. Mae'r rheiny yn gyson gosod Plaid Cymru ar y blaen i'r Ceidwadwyr, er dim ond o fymryn. Y tebygrwydd yw y bydd y gefnogaeth i'r Ceidwadwyr yn dirywio yn hytrach na chynyddu wrth i gig a gwaed y toriadau gwariant ddod yn fwy eglur. O gofio bod cefnogwyr Plaid Cymru yn fwy tebygol 'na chefnogwyr y pleidiau eraill i droi allan mewn etholiadau Cynulliad gall y blaid fod yn weddol hyderus o fod yn yr ail safle ar ddiwrnod y cyfri. Efallai nad yw hynny'n swnio'n fawr o beth ond doedd hynny ddim yn wir yn 1999, 2003 na 2007.

Mae 'na wers arall i ddysgu o'r tri etholiad yna sef hon. Gan nad oes digon o seddi rhestr i sicrhau canlyniad cyfrannol y strategaeth gywir mewn etholiad cynulliad yw buddsoddi adnoddau ac ymdrech mewn etholaethau targed. Hap a damwain sy'n sicrhau seddi rhestr ac afrad yw canolbwyntio ar y bleidlais ranbarthol fel gwnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2003 neu obeithio y bydd enw mawr ar y rhestr yn gwneud gwahaniaeth fel gwnaeth Plaid Cymru yn 2007.

Yn 2011 y tebygrwydd yw y bydd dwy blaid yn ymladd brwydr ymosodol yn yr etholaethau sef Llafur a Phlaid Cymru ac ar y cyfan seddi Ceidwadol sydd ar y rhestr targedau Llafur. O dan yr amgylchiadau hynny os ydy Plaid Cymru yn dewis eu targedau'n ofalus ac yn glynu at fantra Richard Wyn Jones "dim dyffars mewn etholaethau targed" gallai'r blaid fedi cynhaeaf ffrwythlon.

Nawr nid dweud ydw i y bydd 2011 yn "annus mirabalis" i Blaid Cymru ond dydw i ddim yn deall pam mae ambell i bleidiwr a'i ben yn ei blu.

Cofiwch, efallai bod ysbryd yr ŵyl wedi effeithio gormod arna i! Gyda llaw rwy'n bwriadu sgwennu erthygl i godi calonnau cefnogwyr pob un o'r pleidiau ar drothwy eu cynadleddau er fy mod yn crafu fy mhen ynghylch sut mae gwneud hynny mewn un achos!

Ramadan Mubarak.

Mae'n dechrau...

Vaughan Roderick | 21:08, Dydd Llun, 6 Medi 2010

Sylwadau (0)

Mae Cwpan Ryder ar ei ffordd, y cyfle bythgofiadwy hwnnw i gyflwyno Cymru i'r byd! Dyna maen nhw'n dweud o leiaf. Mae'n rhaid eu bod nhw'n iawn. Pwy all beidio ymffrostio wrth ddarllen y ?


With some of Britain's lushest scenery, a growing foodie movement and more castles than Starbucks and McDonald's branches combined, the wee country -- it's just 160 miles long by 60 miles wide -- resembles some sort of real-life Brigadoon. Prince William, living in North Wales while he trains to become an R.A.F. helicopter pilot, has already been spotted with Kate in Snowdonia National Park

Damwain a hap yw fy mod yn ei libart yn byw.

Beth???

Vaughan Roderick | 10:35, Dydd Sadwrn, 4 Medi 2010

Sylwadau (9)

Rwy'n amau mai achos o'r diawl yn gweld y bai ar bechod fydd hwn! Peth peryglus yn y busnes yma yw tynnu sylw at wallau pobol eraill. Gall eich camgymeriadau eich hun ddychwelyd yn ddigon sydyn i frathu'ch pen ôl! Ar ôl dweud hynny mae'n anodd anwybyddu'r 'howlar' yma yn y Western Mail;

"An ancient Welsh manuscript is set to be moved from Cardiff Central Library to the National Library of Wales in Aberystwyth to safeguard its survival. Cardiff council's executive is set to agree at a meeting on Thursday that The Llyfr Aneirin (Book of Aneirin) should be moved to the library in North Wales to preserve its condition."

Mae angen gwersi daearyddiaeth ar rywun! Rwy'n gwybod bod 'Gogledd Cymru' yn cychwyn yn Nhongwynlais ym marn rhai yng Nghaerdydd. Serch hynny...

Tra fy mod yn fy mhulpud cwynfanus a hunangyfiawn fe wna i sôn am erthygl arall wnaeth fy nghythruddo'r bore 'ma. Mae erthygl am reilffyrdd Namibia yn adran deithio'r Telegraph yn cynnwys y frawddeg yma;

"With commendable efficiency and Prussian army stock, engineers completed the 230-mile Staatsbahn between Windhoek and Swakopmund in five years, and began running passenger and freight services in 1902."

Fel mae'n digwydd rwyf newydd gwpla darllen llyfr ynghylch hanes yr Almaenwyr yn Ne Orllewin Affrica sy'n cynnwys disgrifiadau byw a dirdynnol o'r ffordd yr adeiladwyd y rheilffordd arbennig yma. "" yw teitl y llyfr. Efallai bod y teitl yn unig yn awgrym go dda o beth yn union yr oedd "commendable effiency" y cwmni rheilffordd yn ei olygu i frodorion y wlad.

Gofyn Cwestiwn

Vaughan Roderick | 13:54, Dydd Iau, 2 Medi 2010

Sylwadau (10)

Mae 'na ddigon o lefydd eraill i chi ddarllen pigion o ymateb y Comisiwn Etholiadol i cwestiwn arfaethedig y refferendwm datganoli nesaf. Yn wir, gallwch ddarllen y cyfan yn .

Dyma'r fersiwn Cymraeg o argymelliad y Comisiwn.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru: yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd

Mae gan y Cynulliad y pwerau i lunio deddfau mewn 20 maes pwnc, megis:

* amaethyddiaeth * yr amgylchedd * tai * addysg * iechyd * llywodraeth leol

Mae'r Cynulliad yn gallu llunio deddfau ar rai materion ym mhob maes pwnc ond nid ar faterion eraill. Er mwyn llunio deddfau ar unrhywun o'r materion eraill hyn, mae'n rhaid i'r Cynulliad ofyn am gytundeb Senedd y DU. Yna, mae Senedd y DU yn penderfynu bob tro a gaiff y Cynulliad lunio'r deddfau hyn neu beidio.

Ni all y Cynulliad lunio deddfau mewn meysydd pwnc fel amddiffyn, trethi neu fudd-daliadau lles, beth bynnag fo canlyniad y bleidlais hon.

Os bydd y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn pleidleisio 'ydw'

Bydd y Cynulliad yn gallu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddynt, heb orfod cael cytundeb Senedd y DU.

Os bydd y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn pleidleisio 'nac ydw'

Bydd yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn parhau.

Cwestiwn

A ydych yn dymuno i'r Cynulliad allu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddynt?

Mae 'na rywbeth rhyfedd braidd ynghylch y cwestiwn yma.

Er bod y Comisiwn wedi cymryd gofal i asesu argymhellion Swyddfa Cymru yn y Gymraeg a'r Saesneg ar wahân i'w gilydd gan dynnu sylw at wahanol wendidau yn y ddwy iaith mae'n ymddangos i mi bod cwestiwn Cymraeg y Comisiwn ei hun yn gyfieithiad slafaidd iawn o'r un Saesneg.

Sut arall mae esbonio'r defnydd o'r term "maes pwnc" i olygu "subject area"? Nid bod y term yn anghywir hyd y gwn i ond rwy'n herio unrhyw un i ganfod enghraifft lle mae'r term hwnnw wedi ei gynnwys mewn darn o Gymraeg nad oedd yn gyfieithiad o'r Saesneg.

Yn ei gwaith ymchwil i fersiwn Swyddfa Cymru o'r cwestiwn mae'r Comisiwn yn nodi bod Cymry Cymraeg yn cael trafferth i ddeall "fesul pwnc". Os oedd hynny'n anodd i bobol sut ar y ddaear mae disgwyl iddyn nhw ddeall "maes pwnc" - term sydd yn llawer mwy artiffisial a chlogyrnaidd?

Beth ar y ddaear sy'n bod ar ddefnyddio "maes"? Mae'r ystyr yn gwbl eglur.

Yn yr un modd mae'r term "UK Parliament" yn cael ei gyfieithu fel "Senedd y DU". Efallai bod hynny'n gywir, ond dyw priflythrennau ddim yn cael eu defnyddio yn yr un ffordd yn Gymraeg a Saesneg. Mae'r term "the UK" yn cael ei ddefnyddio ar lafar yn aml yn Saesneg. Oes unrhyw un erioed wedi galw'r Deyrnas Unedig (neu gyfunol) yn " y DU" yn Gymraeg?

Nawr y peth olaf ydw i yw pedant iaith. Rwy'n rhy gyfarwydd â'n ffaeleddau a cham-deipio fy hun i ddisgyn i'r pydew arbennig yna! Ar y llaw arall ar ôl deg wythnos a llwyth o bres oni ddylai'r Comisiwn allu llunio cwestiwn yr un mor hawdd ei ddeall yn Gymraeg a'r un Saesneg?

Taith y Pererin?

Vaughan Roderick | 10:30, Dydd Mercher, 1 Medi 2010

Sylwadau (3)

Mae'r daith wedi cyrraedd! Mae mynegai hunagofiant Tony Blair yn adrodd cyfrolau.


Mae 'na 27 cyfeiriad at Iraq, 72 at Saddam Hussein, 121 at Gordon Brown a thri at Gymru fach!

A beth sydd ganddo i ddweud am Gymru? Dim llawer. Y peth mwyaf difyr, efallai yw cyfaddefiad y byddai Llafur wedi gwneud yn well yn etholiad cynulliad 2007 pe bai'r awenau wedi eu trosglwyddo i Gordon Brown cyn hynny. Does dim dwywaith bod hynny'n wir. Yn bwysicach efallai mai'n weddol sicr na fyddai Llafur wedi colli grym yn yr Alban yn yr etholiad hwnnw pe bai Tony Blair wedi gadael yn gynt.

Ond nid sylw gan Tony Blair yw'r un mwyaf difyr i mi weld yn ddiweddar ynghylch record y llywodraeth Lafur yng Nghymru. Un gan y ffefryn i ennill yr arweinyddiaeth Llafur, David Miliband, yw hwnnw.

Mewnyn y King Solomon Academy yn Llundain sydd heb dderbyn llawr o sylw yng Nghymru fe ddywedodd David Miliband hyn;

Tony and Gordon did great things. Really great things. But I know that in Tony's time he did not focus on income inequalities, stopped devolution at Scotland and Wales when we should have carried it on, and too often defined himself against the party not against the Tories.

Nawr , mae hynny'n ddiddorol. Ystyriwch y peth am eilaid. Mewn araith i gynulleidfa yn Lloegr fe restrodd y mab darogan y methiant i fynd a datganoli'n ymhellach fel un o dri methiant mwyaf Tony Blair.

Fe ddylai hynny godi calonnau'r rheiny sy'n becso ynghylch ymroddiad y Blaid Lafur Brydeinig i sicrhau pleidlais Ie yn y refferendwm datganoli.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.