Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Siop Siarad

Vaughan Roderick | 09:00, Dydd Sadwrn, 11 Medi 2010

Rwyf yn ôl yng Nghaerdydd ar ôl y wibdaith fach i Aberystwyth. Roedd cynhadledd Plaid Cymru yn ddigwyddiad llawer mwy bywiog a gobeithiol nac oeddwn yn disgwyl. Efallai bod a wnelo fy ymdrech i godi calonnau'r cynrychiolwyr rywbeth a hynny. Rwy'n ymwybodol fe mod wedi addo ceisio cyflawni'r un dasg i'r Democratiaid Rhyddfrydol yr wythnos hon. Maeyn amau a yw hynny'n bosib. Fe gawn weld!


Yn y cyfamser mae gen i raglen wleidyddol newydd yn cychwyn bore fory (Sul) ar Radio Wales. Fe fydd hi'n cael ei darlledu rhwng wyth a naw y bore ac ymhlith y gwesteion yn y rhaglen gyntaf mae Roy Hattersley, Ian Hargreves, Paul Flynn ac Ieuan Wyn Jones. Rwy'n ymwybodol bod ail hanner y rhaglen yn cael ei darlledu ar yr un pryd a rhaglen Dewi Llwyd ar Radio Cymru. Fe wna i ddim dal dig os ydych ch'n troi draw at fy hen gyfaill hanner ffordd drwyddi!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:26 ar 11 Medi 2010, ysgrifennodd Adam Jones:

    Cynhadledd gwych ar ôl beth welais i ar y teledu, Serch hynny braidd yn siomedig gan y Bbc oedd y diffyg dewis i droi'r cyfieithu bant pan yn gwrando ar yr areithiau roedd yn ben dost llwyr ceisio gwrando. Hefyd pam nad oedd dim rhaglen ar S4C/2 neu S4C yn trafod y gynhadledd? Neu raglen wleidyddol arno, mae diffyg sylwebaeth wedi bod yn y Gymraeg yn bendant y tro yma er i'r Blaid gwneud defnydd mawr o'r Gymraeg i gymharu â llynedd.

  • 2. Am 20:53 ar 11 Medi 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae'r ateb i ail ran y sylw yn deillio o gydbwysedd.

    Mae Â鶹ԼÅÄ2 Cymru yn darlledu'n fyw o gynadleddau Prydeinig a Chymreig y pleidiau eraill. Er mwyn cydbwysedd felly mae'r Â鶹ԼÅÄ yn darlledu'n Saesneg o gynadleddau gwanwyn a hydref Plaid Cymru.

    Mae S4C, ar y llaw arall ond yn darlledu'n fyw o gynadleddau Cymreig y pleidiau eraill. Mae'r rheiny yn cael eu cynnal yn y gwanwyn. Dim ond un o gynadleddau Plaid Cymru sy'n cael ei darlledu'n fyw felly.

    Gan fod y gynhadledd wnawyn yn tueddu bod ar drothwy etholiad, honno sy'n cael eu darlledu. Dyna yw dymuniad Plaid Cymru. Mae'r rhesymu yn ddealladwy... er bod y canlyniad braidd yn rhyfedd.

    Fe wna i godi'r pwynt cyntaf.

  • 3. Am 20:31 ar 13 Medi 2010, ysgrifennodd Monwynsyn:

    Newydd fod yn meddwl beth fyddai ffawd Plaid Cymru heddiw petai clymblaid enfys wedi ei ffurfio gyda'r Toriaid a'r Democrataid Rhyddfrydol ar ol etholiadau cynulliad diwethaf. A fyddent yn debygol o fod yn cael gwrandawiad gwell i'r achos yn erbyn y toridau ? Digon anhebyg. A fyddent yn fwy o gocyn hitio ar gyfer yr etholiad nesaf ? A ydynt rwan mewn sefyllfa gryfach gan y gellir ymosod yn ddiffuant ar y toriadau pan fyddant yn dechrau brathu. A fyddai cyfnod fel enfys wedi bod yn gyfle i dori cwys newydd ?

    Dwi yn amau ei bod rwan mewn sefyllfa gryfach na phetaent yn cynnal llywodraeth enfys. Trafoder.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.