Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Tachwedd 2009

Gormod o ddim nid yw'n dda

Vaughan Roderick | 10:41, Dydd Llun, 30 Tachwedd 2009

Sylwadau (2)

Beth yw lluosog y gair "refferendwm"? Refferendymau? Refferwendwms? Refferenda? Rwy'n yn amau taw'r olaf sy'n iawn ond mae'r ffaith bod y term yn anghyfarwydd yn arwydd o ba mor anarferol ac estron oedd pleidleisiau poblogaidd o'r fath cyn refferendwm Ewrop yn 1975.

Yr unig enghreifftiau y medra i feddwl amdanyn nhw cyn hynny oedd y rhai ynghylch agor tafarnau ar y Sul yng Nghymru a'r "option polls" yn yr Alban oedd yn caniatau i gymunedau wahardd y ddiod gadarn yn gyfan gwbwl. Mewn geiriau eraill, doedd San Steffan ddim yn fodlon gofyn am farn y bobol ar faterion o dragwyddol bwys ac eithrio materion oedd o dragwyddol bwys i Bresbyteriaid yn unig!

genefa.jpgRhyw wythnos yn ôl sgwennais i bwt am y refferendwm yn y Swistir ynghylch gwahardd minarets rhag cael eu codi. Roeddwn i'n gweld y peth yn ddiddorol er nad oedd yr ymdrech wedi cael rhyw lawer o sylw. Y rheswm am hynny, mae'n debyg, oedd bod pawb (gan gynnwys fi a llywodraeth y Swistir) yn cymryd yn ganiataol y byddai'r syniad yn cael ei wrthod. Y gwrthwyneb wnaeth ddigwydd.

Roedd 57% o'r pleidleisiau o blaid y cynnig. Dyna ni. Dyna yw democratiaeth wedi'r cyfan. Pa ots os ydy'r peth yn creu cur pen i'r llywodraeth a loes calon i leiafrif? Pa wahaniaeth os ydy'r canlyniad yn gwneud bywydau lleiafrifoedd Cristnogol mewn gwledydd Mwslimaidd yn fwy anodd? Barn y bobol sy'n bwysig wedi'r cyfan ac mae gan bobol y Swistir berffaith hawl i dynnu dirmyg rhyngwladol ar eu pennau os mai dyna yw eu dymuniad.

Wrth i'n gwleidyddion ni drafod ffyrdd o adfer hyder yn ein system wleidyddol ni mae un syniad yn codi ei ben yn gyson. Rhoi'r hawl i ddinasyddion orfodi refferendwm ar unrhyw bwnc dan haul trwy ddeiseb ac arni digon o enwau yw hwnnw. Mae'r hyn wnaeth ddigwydd yn y Swistir yn enghraifft o ganlyniadau posib system o'r fath. Mae 'na esiampl arall sy'n werth ei ystyried hefyd sef California.

Roedd y dalaith honno arfer brolio bod ei heconomi ymhlith y rhai mwyaf yn y byd. Pe bai hi'n wlad annibynnol fe fyddai hi ymhlith y deg uchaf oedd yr honiad. Roedd hynny'n wir ar un adeg ond nid erbyn hyn. Pe bai California'n annibynnol heddiw fe fyddai'n yn byw ar gardod yr IMF. Mewn rhannau o'r dalaith mae tai wedi colli 70% o'u gwerth. Mae diweithdra (swyddogol) yn 12.5% a does dim arian yn y coffrau i dalu . Mae'r llywodraeth daleithiol a llywodraethau lleol yn ychwanegu at nifer y di-waith trwy dorri ar wasanaethau craidd a diswyddo gweithwyr.

Does dim dewis arall, mewn gwirionedd. Yn ôl yr mae gan sector gyhoeddus y dalaith ddyledion o $600 biliwn yn barod. Fe fyddai ychwanegu at y ddyled ond yn gohirio dydd y farn.

Mae 'na ateb syml ond poenus i'r broblem sef codi trethi ond yng Nghalifornia mae hynny bron yn amhosib. Mae dwylo'r gwleidyddion wedi eu clymu gan "" gwelliant cyfansoddiadol a basiwyd mewn refferendwm yn 1978 sy'n golygu bod yn rhaid i gyllideb y dalaith gael mwyafrif o ddwy ran o dair er mwyn pasio. Mae hynny'n wleidyddol amhosib os ydy'r gyllideb yn codi trethi.

Y gwir amdani yw bod California mewn twll a does neb yn gwybod y ffordd mas. Hi yw'r Dubai nesaf, o bosib. Yn y byd real fe fyddai cryts Beverley Hills 90210 wedi mudo i dalaith arall i chwilio am waith erbyn hyn a byddai'r "Hollywood Wives" yn hawlio !

Mae hon yn frawddeg anhygoel i sgwennu ond yn rhannau o Galifornia mae newyn yn broblem ddifrifol. Darllenwch y pennawd yma o un o bapurau'r dalaith a meddyliwch am y peth am eiliad; "".

Cofiwch hynny y tro nesaf mae rhywun yn galw am roi rhagor o rym yn nwylo'r etholwyr.
"Be careful what you wish for" fel maen nhw'n dweud!

Sosban Wag

Vaughan Roderick | 21:50, Dydd Sul, 29 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

_42704763_llanellitowncentre_203.jpgRoeddwn i draw yn Llanelli dros y penwythnos ac mae canol y dref, neu efallai y dylwn i ddweud hen ganol y dref, yn lle hynod o drist. Mae rhannau eraill o Lanelli yn ymddangos yn ddigon llewyrchus ond y gwir amdani yw bod yr hen ganol yn pydru oherwydd bod y gwir ganol wedi symud, a hynny mwy neu lai o fwriad.

Parciau siopa Pemberton, Trostre a Pharc y Sgarlets yw canol bywyd y dref bellach ac efallai bod hynny er gwell. Wedi'r cyfan mae llwyth o swyddi wedi eu creu a phobol oedd wedi dechrau teithio i Abertawe neu Gaerdydd i siopa yn aros yn Sir Gâr. Ar y llaw arall mae'n amlwg nad yw Llanelli yn ddigon o faint i gynnal canol traddodiadol llwyddiannus yn ogystal a pharciau manwerthu mawr ar ei gyrion. Caerdydd ac Abertawe? Ie. Casnewydd a Wrecsam? Efallai. Llanelli? Byth bythoedd.

Beth sydd i wneud felly? Fe fyddai'n drist ac yn hurt i adael i'r hen ganol fynd a'i ben iddo ond dyw rhoi got o baent ar y canopïau rhad a hyll oedd yn rhan o'r ymdrech ddiwethaf i adfywio'r lle ddim yn mynd i wneud y tro. Dyw gwario ffortiwn ar adfer esiampl arall o'r ffordd yr oedd boneddigion yn byw yn "Llanelly House" ddim yn mynd i wneud hynny chwaith. Dim ar ben ei hun, ta beth. Mae angen mwy.

Mae gen i awgrym. Dydw i ddim yn gwybod os ydy'r awgrym yn wreiddiol ai peidio. Dydw i ddim chwaeth yn hawlio fy mod yn nabod Llanelli yn dda ac mae eraill yn llawer mwy deallus na fi am y pethau hyn.

Ar ôl cyfaddef hynny i gyd, wrth grwydro'r dref fe wnaeth rywbeth fy nharo. Mae llwyth o arian wedi buddsoddi yn y blynyddoedd diwethaf ym Mlaenafon. Dyrchafwyd y dref yn safle treftadaeth o werth byd-eang gan UNESCO oherwydd ei bod yn esiampl, unigryw bron, o dref o ddyddiau cynnar y chwyldro diwydiannol sy'n agos at fod yn gyflawn. Ironbridge yn Swydd Amwythig yw'r unig le sy'n dod yn agos ati.

Nawr, edrychwch ar ganol Llanelli a beth sydd i weld. Edrychwch ar y capeli ysblennydd sydd dan fygythiad, y rhai y mae Huw Edwards wedi sgwennu amdanyn nhw yn ei . Dyrchafwch eich llygaid i fyny heibio lloriau gwaelod y siopau elusennol a gallwch synhwyro pa berlau sydd wedi eu cuddio oddi isod. Mae bragdy Felinfoel yn dal i weithio a'r tro diwethaf yr edrychais i, mae rhannau healaeth o hen fragdy Buckleys o hyd yn sefyll. Mae'r Llyfrgell a Neuadd y Dref yn adeiladau ysblennydd a dyw Parc y Strade ddim wedi diflannu eto!

Y pwynt rwy'n ceisio gwneud yw hwn. Mae 'na duedd wedi bod yn Llanelli (a phob man arall hefyd) i feddwl mai trwy ddymchwel a chuddio hanes y mae'r ffordd i lewyrch. Y gwrthwyneb sy'n wir, yn fy marn i.

Dyma fy nghyngor i. Breuddwydiwch yn fawr! Anghofiwch yr "hanging baskets", y ffug-fictoriana a'r goleuadau "tymhorol" shimpyl. Yng ngeiriau'r lle ei hun "shgwlwch be sy da chi"! Os oedd rhywun yn rhwygo mygydau ymdrechion blaenorol i "wella'r" dref i ffwrdd fe fyddai pobol efallai yn gweld bod lot mwy o'r hen Lanelli wedi goroesi na sy'n amlwg ar yr olwg gyntaf.

Hen ganol Llanelli, hyd y gwelaf i, yw'r lle gorau i allu synhwyro sut lefydd oedd cymunedau diwydiannol Cymru ar eu hanterth. Ag eithrio'r gweithfeydd eu hun (ac mae hynny'n eithriad o bwys) mae llawer dal yna ond yn gudd dan ymdrechion aflwyddiannus i "foderneiddio".

Dyma'r awgrym felly. Mae Huw wedi galw am ymdrech i ddiogelu capeli Llanelli. Rwy'n eilio'r alwad ond dwi am fynd un cam ymhellach. Mae cestyll Eryri, Pontcysylltau a Blaenafon eisoes yn safleoedd treftadaeth rhyngwladol. Beth am galw'r haneswyr a'r penseiri at ei gilydd i weld beth sydd ar ôl yn y dref ac i ystyried oes 'na ddigon i gyfiawnhau ychwanegu canol Llanelli at y rhestr? Fe fyddai hynny'n agor lot o ddrysau.

Os nad oes digon i gyfiawnhau'r statws hynny siawns bod 'na ddigon i geisio denu pobol ar sail treftadaeth canol y dref? Does bron dim byd arall i'w denu, wedi'r cyfan.

Rialtwch

Vaughan Roderick | 09:03, Dydd Sul, 29 Tachwedd 2009

Sylwadau (3)

Fe wna i estyn fy llaw i'r fasged awgrymiadau a dewis ar hap a damwain yr wythnos hon! Beth sy 'da ni gyntaf, tybed? Beth am ychydig o gerddoriaeth roc Aeleg a lot o bengliniau blewog?

Yn ôl yn 1992 roedd pobol yn meddwl bod y darllediad gwleidyddol yma'n chwerthinllyd ond pwy enillodd yr etholiad? Gwers i Lafur yn 2010, efallai. Hwyrach y cawn ni "Teulu'r Mans gyda Gordon Brown"!

Mae'r nesaf yn dymhorol o leiaf. Y "Texas Technical University Celtic Choral Ensemble" yn canu "Ar fore dydd Nadolig". Caewch y drysau. Perffaith chware teg.

Am ryw reswm mae llawer ohonoch chi yn hoff o gerddoriaeth Pete Seegar, neu Dafydd Iwan America fel mae'n cael ei adnabod!

O Gwmpas y Ford

Vaughan Roderick | 11:55, Dydd Gwener, 27 Tachwedd 2009

Sylwadau (1)

33483.jpgGallai pawb fod yn anghywir wrth gwrs. Does neb wedi gweld y papurau pleidleisio ,wedi'r cyfan. Serch hynny, y consensws yn y Bae yw mai Carwyn Jones sydd wedi ennill y ras i olynu Rhodri.

Dim ond ychydig ddyddiau sy 'na cyn i ni wybod i sicrwydd ond yn barod mae'r sibrydion yn cychwyn. Pwy fydd mewn a phwy fydd mas? Pwy fydd ar ei hennill a phwy ar eu colled?

O safbwynt y ddau ymgeisydd arall y consensws yw y bydd Edwina yn cadw dyletswyddau craidd y portffolio iechyd er y gallai hi golli ambell i beth arall sydd o dan ei goruchwyliaeth ar hyn o bryd. Mae ffawd Huw, ar y llaw arall, yn dibynnu llawer ar ganlyniad yr etholiad. Pe bai e, er enghraifft, yn dod yn ail ymhlith aelodau cyffredin y blaid fe fyddai'n anodd peidio'i wobrwyo. Mae pobol Carwyn hefyd wedi nodi, gyda diolch, penderfyniad Huw i beidio awgrymu i bwy y dylai ei gefnogwyr rhoi eu hail bleidlais.

Mae'n debyg na fydd rhai o gefnogwyr Edwina mor ffodus â'u meistres. Gallai Andrew Davies a Jane Hutt fod ar ei ffordd allan. Mae'n bosib y bydd Brian Gibbons (sy'n cefnogi Carwyn) hefyd yn gadael y cabinet, a hynny o'i ddewis ei hun. Pwy felly allai gymryd eu llefydd?

Does dim rheol gyfansoddiadol sy'n dweud mai dyn canol oed mewn sbecs sy'n gorfod bod yn Weinidog Cyllid ond rwy'n rhyw amau bod Leighton Andrews yn glafoerio wrth feddwl am gael ei ddwylo ar y swydd honno. Fel ymgeisydd oedd yn brolio am ei apêl i Gymru gyfan rwy'n tybio hefyd y bydd Carwyn yn awyddus i ddyrchafu o leiaf un o aelodau'r Gogledd. Ai Carl Sargeant neu Lesley Griffiths neu'r ddau fydd yn derbyn yr alwad?

A beth am gyfaill mawr Carwyn, John Griffiths? Nid uchelgais sy'n gyrru John ond dwi'n meddwl y byddai Carwyn yn teimlo'n siabi pe na bai'n rhoi rhywbeth i'w fêt. Oes modd stretsio'r rheolau ynghylch y Cwnsler Cyffredinol hyd yn oed yn bellach er mwyn rhoi anrheg fach i'r cyfreithiwr tawel o Gasnewydd?

Rhagor o bop corn

Vaughan Roderick | 13:28, Dydd Iau, 26 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

_40537165_rowadworks203.jpgFe fydd cyfarfod y yn werth ei wylio'r prynhawn yma. A dweud y gwir mae'r Pwyllgor Cyllid wastad gwerth gwylio oherwydd yr ymgecru di-ben-draw rhwng cynrychiolwyr Plaid Cymru a'r cynrychiolwyr Llafur yn fwyaf arbennig Alun Davies a Huw Lewis.

Heddiw fe fydd y pwyllgor yn ystyried papur gan Alun sy'n honni bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi llusgo'i draed ynghylch gwella Ffordd Blaenau'r Cymoedd a'i fod wedi gwneud datganiadau anghyson ynghylch y pwnc. Roedd yr un papur yn destun dadl fer hynod o sur yn y cynulliad wythnos ddiwethaf.

Ond beth yw hwn? Ail bapur ynghylch yr un pwnc. Mae'r un yma, sy'n amddiffyn Ieuan, wedi ei baratoi gan Chris Franks.

Mae 'na broblem fach. Yn anffodus mae Chris neu ei bobol wedi hela'r ddogfen allan gan gynnwys y "tracks" o'r newidiadau a'r diwygiadau wrth iddi gael ei pharatoi. Ar y clawr felly gallwn weld "Chris Franks AM [deleted Alun Davies AM]".

Yr un yw'r patrwm drwyddi draw. Hynny yw, beth mae Chris wedi gwneud yw copïo dogfen Alun ac yna a newid talpiau ohoni lle mae'n anghytuno. Nid bod 'na unrhywbeth arbennig o le ar hynny ond mae cael gwared o hanes golygu dogfen yn bolitics 101 mewn gwironedd.

Dyna yw un fersiwn o'r stori o leiaf! Mae Chris a'i bobol yn dweud nad ydynt yn adnabod y ddogfen gyda'r newidiadau trac gan awgrymmu bod rhyw un neu rywrai wedi newid y peth.

Mae Poirot ar y ces!

Os na wnaethoch chi weld y ddadl fer rhwng Alun a Ieuan dyma hi. Er nad oedd hi'n fawr roedd hi'n ddigon!


Y twll yn y wal

Vaughan Roderick | 12:48, Dydd Iau, 26 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

_44814639_-1.jpgMae Peter Hain wedi cyhoeddi ymateb Llywodraeth y DU i argymhellion Comisiwn Holtham. "Very newsworthy" oedd disgrifiad un sbin-feistr o'r datganiad ond yn y diwedd efallai mai disgrifiad un arall "peidiwch dal eich anadl" oedd yn gywir.

Ar yr ochor gadarnhaol mae Peter Hain wedi cael addewid gan y Canghellor y bydd y "llywodraeth yn gweithredu os ydy Cymru colli allan oherwydd fformiwla Barnett". Faint o werth sy 'na i'r addewid hwnnw sy'n gwestiwn arall. Nid hwn yw 'r "llawr" y galwodd y Comisiwn amdano. Does 'na ddim ffigwr na swm penodol yn wedi pennu a dyw e ddim yn amlwg a byddai'r addewid yn goroesi newid llywodraeth neu hyd yn oed newid canghellor.

Serch hynny mae'r ffaith bod Gerry Holtham ei hun wedi croesawi'r cyhoeddiad yn awgrymu bod brwydrau, os nad y rhyfel, wedi eu hennill. Mae'n werth nodi bod Gerry hefyd wedi dweud bod angen rhagor o waith i droi'r addewidion yn weithredoedd.

Un peth sy'n amlwg. Does dim gobaith cath gan Gymru gael yn ôl y biliynau o bunnau yr oedd y comisiwn yn credu yr oedd wedi eu colli oherwydd y fformiwla. Mae Peter Hain yn dai i fynnu "The Barnett formula has served Wales well over the years..."

Adda'n gadael Eden

Vaughan Roderick | 10:40, Dydd Iau, 26 Tachwedd 2009

Sylwadau (2)

66364.jpgI'r rheiny oedd yn credu mai rhyw storom fach wedi ei heipio gan newyddiadurwyr oedd y ffrae rhwng pleidiau'r glymblaid yr wythnos hon fe ddylai geiriau fod yn ddigon i brofi nad stori greu oedd hon. Dyma oedd ganddo i ddweud;

"Fi'n credu daeth hi'n agos iawn at ddiwedd y glymblaid yma. Mae hynny'n ddigon clir ac mae 'na niwed wedi bod i'n hymddiriedaeth ni yn arweinyddiaeth y Blaid Lafur"

Roedd yr hyn ddywedodd Adam nesaf hyd yn oed yn fwy diddorol;

"Nid Plaid Cymru fyddai wedi aros yn wrthblaid (pe bai'r glymblaid wedi ei thorri) ond y Blaid Lafur. Dw i ddim yn credu mai Plaid Cymru fyddai'r wrthblaid ond Llafur"

Nawr os oes 'na un person oedd yn fwy cyfrifol na neb arall am y ffaith mai clymbleidio a Llafur wnaeth Plaid Cymru yn hytrach na gyda'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol Adam Price yw hwnnw. Mae'n werth ystyried ei eiriau'n ofalus felly.

Y pwynt oedd Adam yn gwneud, dwi'n meddwl, oedd hwn. Roedd y ffrae yn digwydd ar drothwy ymddeoliad y Prif Weinidog presennol. Ar ôl i Lafur ddewis ei harweinydd newydd fe fydd yn rhaid iddo fe neu hi wynebu etholiad yn y Cynulliad er mwyn cymryd awenau'r llywodraeth.

Yr awgrym cryf gan Adam oedd y byddai Plaid Cymru, pe bai'r glymblaid wedi chwalu, wedi enwebu Ieuan fel Prif Weinidog gan wahodd y gwrthbleidiau i'w gefnogi.

Dydw i ddim yn credu y byddai'r Torïaid na'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael eu temtio gan lywodraeth "enfys" ar hyn o bryd. Fyddai hynny ddim yn gwneud synnwyr gwleidyddol ar drothwy etholiad cyffredinol.

Rwy'n gallu dychmygu ar y llaw arall y byddai'r Ceidwadwyr yn arbennig yn cael eu temtio i bleidleisio dros Ieuan fel Prif Weinidog er mwyn clatsio Llafur a niwedio'i morâl ar gychwyn ymgyrch etholiad.

Fe fyddai Carwyn, Edwina neu Huw yn arweinydd yr wrthblaid felly gan adael Ieuan i arwain llywodraeth leiafrifol gyda chefnogaeth union chwarter aelodau'r cynulliad.

Fe fyddai hynny wedi bod yn sbort i wylio!

Ceiniogau prin

Vaughan Roderick | 19:09, Dydd Mercher, 25 Tachwedd 2009

Sylwadau (2)

_40862664_fruit203bbc.jpgDim ond dyfalu ydw i wrth sgwennu'r pwt yma. Does gen i ddim gwybodaeth fewnol a dydw i ddim wedi clywed unrhyw sibrydion ond cafwyd un cyhoeddiad diddorol gan Peter Hain heddiw. Cyhoeddiad ynghylch cyhoeddiad oedd hwn mewn gwirionedd. Dywedodd y byddai'n gwneud datganiad yfory yn San Steffan yn ymateb yn swyddogol i argymhellion Comisiwn Holtham, ymchwiliad a sefydlwyd o ganlyniad i gytundeb "Cymru'n Un".

Roedd hi'n amlwg o ymarweddiad Ysgrifennydd Cymru ei fod yn credu y bydd cyhoeddiad fory yn plesio'r Cynulliad a disgrifiad un ffynhonnell o'r cynnwys oedd "very newsworthy".

Adolygu fformiwla Barnett a'r ffordd mae'r cynulliad yn cael ei ariannu oedd maes llafur Comisiwn Holtham a'r casgliad oedd bod Cymru'n derbyn llau na'i haeddiant.

Nawr go brin y bydd Peter Hain yfory yn cyhoeddi newidiadau sylweddol i'r fformiwla. Fe fydd 'na gythraul o ffeit rhwng gwahanol seneddau a llywodraethau'r Deyrnas Unedig cyn i hynny ddigwydd.

Ond roedd gan y Comisiwn un awgrym am fesur dros dro i ddiogelu Cymru yn ystod cyfnod o dorri yn ôl ar wariant cyhoeddus. Gosod "llawr" neu isafswm oedd hynny sef datgan na fydd Cymru yn derbyn llai na £X biliwn o bunnau hyd yn oed os ydy hynny'n fwy na'i haeddiant yn ôl y fformiwla.

Ai addo cyflwyno'r "llawr" y mae Peter Hain yn bwriadu gwneud yfory? Dydw i ddim yn gwybod ond mi ydw i'n synhwyro hyn. Pe na bai'r Ceidwadwyr yn matsio addewid felly fe fyddai gan Lafur Cymru arf etholiadol hynod effeithiol.

Yr Efengyl yn ôl Peter

Vaughan Roderick | 16:05, Dydd Mercher, 25 Tachwedd 2009

Sylwadau (1)

_40094446_peter_hain_203.jpg"Datganiad Brychdyn". Dyna oedd yr enw crand y defnyddiodd ambell i Geidwadwr i ddisgrifio addewid David Cameron na fyddai Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol yn gwrthod cais gan y Cynulliad am refferendwm.

Doedd y peth ddim yn ddatganiad mewn gwirionedd. Ateb cwestiwn oedd yr arweinydd Ceidwadol- cwestiwn yr oedd y blaid wedi awgrymu y dylai newyddiadurwyr ei ofyn. John Stevenson cafodd y fraint o wneud. Serch hynny doedd dim amheuaeth bod y sylwadau yn ddatblygiad gwleidyddol o bwys ac un yr oedd Ceidwadwyr y Cynulliad i'w sicrhau.

Beth wnawn ni alw addewid cyffelyb Peter Hain felly? Awgrymiadau ar gerdyn post os gwelych yn dda. Ta beth, mae'r addewid wedi ei roi ac mae pobol Peter yn mynnu mai dyna oedd y bwriad ers tro byd. Nid ymgais i dawelu'r dyfrodd yn sgil stormydd ddoe oedd amseriad yr addewid.

Mewn un ystyr mae'r addewid yn eithaf rhyfedd. Wedi'r cyfan yn achos y Ceidwadwyr rhoi addewid i beidio gwrthwynebu cais gan eu gwrthwynebwyr gwleidyddol oedd David Cameron. Oedd wir angen i Peter Hain addo peidio gwrthod cais fyddai angen cefnogaeth aelodau Llafur y Cynulliad er mwyn caei ei gyflwyno yn y lle cyntaf?

Dim feto felly ond does dim dwy waith chwaeth nad yw'r Ysgrifennydd Gwladol am weld pleidlais gynnar. Sut arall mae darllen y paragraff yma?

"We must not be straight-jacketed by a pre-determined referendum timetable that could trigger the disaster of a NO vote. We must keep all options open, meanwhile patiently building the consensus across the parties and throughout civil society which we will need to deliver a clear YES vote."

Ond os nad oedd hynny'n plesio'r aelodau roedd gan Peter anrheg fach i wleidyddion y Bae sef cyhoeddiad y bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei ymateb i gasgliadau Comisiwn Holtham ar fformiwla Barnett yfory. Mawr yw'r disgwyl!


Pop corn

Vaughan Roderick | 11:47, Dydd Mercher, 25 Tachwedd 2009

Sylwadau (5)

_44969693_popcorn_bbc226.jpgDim ond nodyn i'ch atgoffa y gallwch wylio ymddangosiad Peter Hain ar "" am 2.30 3.15 dwn i ddim pryd heddiw. Rwyf wedi prynu'r pop corn yn barod!

Mae'n debyg y bydd y sesiwn yn debyg i un o rai'r ail gynulliad gydag aelodau Plaid Cymru, i bob pwrpas, yn ymddwyn fel gwrthblaid gan ymuno a'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol wrth geisio manteisio ar lanast ddoe. Cofiwch mai mewn clymblaid â Rhodri Morgan mae Plaid Cymru nid un â Peter Hain!

Mae'n werth cofio hefyd bod nifer o Aelodau Cynulliad Llafur yn anhapus tost ynghylch datganiad Hain/Morgan/Owen. A fydd rhai o'r rheiny yn dweud eu dweud? Et tu...

Yn y cyfamser mae'r Llywodraeth yn San Steffan yn bwriadu cynyddu pwerau Senedd yr Alban. Mae'r manylion yn .

Fe fydd Adam Price a Glyn Davies ymhlith y gwesteion ar CF99 heno. Fe fydd Uwchgynhadledd Copenhagen a dyfodol y Glymblaid ar yr agenda. Mae croeso i chi adael sylwadau neu gwestiynau.

Efallai

Vaughan Roderick | 20:07, Dydd Mawrth, 24 Tachwedd 2009

Sylwadau (6)

_42783637_hainmorganmanif3_203.jpgRoeddwn i yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter heno ar gyfer ei hail-agoriad. Rhodri oedd yn gwneud yr onyrs a diawch, roedd e mewn hwyliau da!

Iawn, mae cysylltiad Rhodri a Chapter yn mynd yn ôl at agoriad y lle deugain mlynedd yn ôl ac mae ei weld ar ei newydd-ogoniant yn sicr o fod yn falm calon iddo. Roedd e ar ei ffordd i weld y Gleision yn chwarae Awstralia hefyd. Efallai bod hynny wedi ei gyffroi.

Neu efallai, jyst efallai, ei fod yn gwybod pa mor bynnag ofnadwy oedd heddiw iddo fe, fe fydd yfory yn waith i Peter Hain. Efallai ei fod yn edrych ymlaen at weld gwr wnaeth popeth posib i sicrhau buddugoliaethau i Ron Davies ac Alun Michael drosto ar y rac yn y Cynulliad.

Talu'r pwyth yn ôl ei ddyddiau olaf fel Prif Weinidog? Efallai. Ysbaddu ymdrechion Peter Hain i ohirio refferendwm? Efallai.

Oedd Rhodri yn gwybod yn iawn beth fyddai effaith y datganiad newyddion Llafur?

Efallai, jyst efallai.

Clymblaid Mewn Peryg (Blog hanner byw)

Vaughan Roderick | 14:10, Dydd Mawrth, 24 Tachwedd 2009

Sylwadau (2)

Mae dyfodol Clymblaid Cymru'n Un yn y fantol yn ôl ffynonellau o fewn Plaid Cymru.

Deallir nad oedd Plaid Cymru yn gwybod am gynnwys datganiad newyddion y Blaid Lafur cyn ei gyhoeddi. Yn aelodau blaenllaw o'r blaid mae Llafur wedi torri ymddiriedaeth ac mae ymddygiad Rhodri Morgan yn "gwbwl annerbyniol. Yng ngeiriau un "ni fydd aelodau'r blaid yn caniatáu i'w gweinidogion eistedd wrth y bwrdd a Llafur os ydy hwn yn sefyll. Mae angen i Lafur gofio ei bod mewn clymblaid a Phlaid Cymru nid Peter Hain"

Mae'n anodd cyfleu cymaint yw dicter Plaid Cymru ynghylch y sefyllfa. Mae'r bygythiad yn un syml. Ni fydd Plaid Cymru yn pleidleisio dros olynydd Rhodri fel Prif Weinidog os nad yw Llafur yn newid ei safiad a hynny ar fyrder.

14.46 Fe fydd Rhodri ar ei draed i drafod y confensiwn mewn munud. Fe gytunodd y ddwy blaid ar gynnwys y datganiad ond a fydd e'n cadw at y sgript?

14. 52 Dim byd yn y datganiad ynghylch cynnwys y datganiad newyddion Llafur hyd yma. Ydy Rhodri'n meddwl nad oes neb wedi ei weld?!!!

14.55 Rhodri yn addo dadl yn y flwyddyn newydd. Mae hynny'n gwbl groes i'r hyn oedd yn y datganiad Llafur! Llanast.

14.58; Nick Bourne yn herio Rhodri i ymwrthod a'r datganiad newyddion Llafur. Ydy e'n cytuno a'r hyn a gyhoeddwyd yn ei enw? Cwestiwn da.

15.03; Rhodri yn gwadu bod y datganiad newyddion Llafur yn golygu'r hyn y mae pobol yn meddwl!

Amser a ddengys...

15.18 Araith rymus gan Kirsty Williams yn rhoi Rhodri ar y sbot a fydd e'n gallu sgwario'r ddau ddatganiad y tro hwn? Rhodri yn mynnu eto nad yw'r datganiad Llafur yn "cau ffenestri".

15.30;Beth sy'n mynd ymlaen fan hyn? Hyn, dwi'n meddwl. O fewn oriau i gyhoeddi adroddiad Comisiwn Richard fe ddrylliwyd unrhyw obaith o'i wireddu yn ei gyfanrwydd gan sylwadau talcen slip Rhodri Morgan.

I rwystro hynny rhag digwydd eto fe fynnodd Plaid Cymru nad oedd Rhodri yn gwneud unrhyw sylw ynghylch y Confensiwn heb gydsyniad y Dirprwy Brif Weinidog. Ym marn Plaid Cymru mae Rhodri wedi torri'r cytundeb hwnnw trwy gytunod i ddatganiad y Blaid Lafur. A fydd ei ymdrechion i droi'r sgwâr yn gylch yn y siambr yn ddigon i dawelu'r dyfroedd? Fe ddylwn ni wybod yn ystod yr oriau nesaf.

15.37; Nerys Evans yn dweud yn blwmp yn blaen " Ni fydd Plaid Cymru yn gadael i Lafur lusgo traed ar y mater hwn".

15.40 Y gair gan Blaid Cymru yw "nad yw Rhodri wedi gwneud digon i achub ei lywodraeth". Dim eto o leiaf.

15.46; Nid Plaid Cymru yn unig sy'n grac. Yn ol un AC Llafur "des dim hawl gan Rhodri i glymu dwylo ei olynydd. Ni all y datganiad yma sefyll. Mae'r grŵp Llafur yn gynddeiriog."

15.57 Y ddadl ar ben. Cyfarfodydd brys ym mhob man...ac mae Peter Hain yma fory! A fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gorfod gwisgo sachliain a lludw?

17.11 Rhodri wedi ildio "all options for the timing of a referndum remain open". Popcorn ar gyfer PH yfory!

Dyma'r ddadl yn ei chyfanrwydd.

Cicio i'r ystlys

Vaughan Roderick | 12:53, Dydd Mawrth, 24 Tachwedd 2009

Sylwadau (1)

tn-DARE05.jpgFe fydd hwn yn gwylltio ambell un. Dyma ddatganiad sydd newydd ei gyhoeddi ar y cyd rhwng Peter Hain, Rhodri Morgan a Garry Owen (yr un arall!) ar ran y Llafur Cymru. Ymateb i adroddiad y confensiwn mae'r datganiad. Dyma'r paragraff allweddol.

"Welsh Labour's Welsh Joint Policy Committee has met, prioritised the need to campaign for a General Election victory, and agreed to start considering the All Wales Convention report in detail as a prelude to stepping-up wider Party consultation with AMs and MPs, councillors, trade unionists and members as soon as the General Election is over."

Mae hynny, mae'n ymddangos, yn tynnu'r gwynt o hwyliau'r rheiny oedd yn gobeithio y byddai'r cynulliad yn cyrraedd penderfyniad ynghylch refferendwm yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Does dim son chwaith am ddechrau ar y gwaith o ffurfio ymgyrch ie.

Beth fydd ymateb plaid arall y Glymblaid? Fe gawn weld ond cofiwch mai gallu'r Blaid Lafur i ddelifro refferendwm oedd y rheswm y gwnaeth Ieuan wrthod yr "enfys".

A beth tybed fydd ymateb pwy bynnag sy'n olynnu Rhodri? A fydd fe neu hi yn hapus bod Rhodri wedi clymu ei (d)dwylo?

Ydy gohirio penderfyniad tan ar ôl Etholiad Cyffredinol yn ei gwneud hi'n amhosib i refferendwm gael ei chynnal yn Hydref 2010? Nac ydy. Fe fyddai'r amserlen yn dyn yn enwedig os oedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn defnyddio'r cyfan o'r 120 diwrnod o ymgynghori y mae'r mesur yn caniatau. Ar y llaw arall, beth sy 'na i ymgynghori yn ei gylch, mewn gwirionedd?

Trwy Gyfrwng y Cyfrwng

Vaughan Roderick | 12:35, Dydd Mawrth, 24 Tachwedd 2009

Sylwadau (1)

_1643995_fax150pa.jpgUn o'r pethau sy' digalonni dyn wrth fynd yn hun yw gwylio gwyrthiau technoleg un degawd yn cael eu gwthio i'r naill ochor yn y nesa. Betamax... VHS... cryno ddisgiau... Fe gyfrais i nhw mas ac fe gyfrais i nhw 'nôl!

Yn Eisteddfod Casnewydd yn 1988 y gwelais i'r wyrth honno, y peiriant ffacs am y tro cyntaf. Meddyliwch! Danfon dogfen dros y ffôn! Anhygoel!

Mae'r ffacs bellach wedi ei daflu i sgip hanes gyda'r "Walkman", y "Â鶹ԼÅÄ Micro" a'r "Sinclair C5" ond gallai hynny pery problem i'r Cynulliad. Mae'n rhaid i bwy bynnag sy'n cael ei ethol yn brif weinidog ymhen ychydig wythnosau dderbyn sêl bendith y Frenhines. Sêl bendith y Frenhines...yn llythrennol. Dim ond llythyr a'r sêl frenhinol arni neu lungopi o'r llythyr wedi ei ffacsio sy'n cyfri. Gwnaeth e-bost ddim o'r tro.

Gallaf ddychmygu'r olygfa ar ôl i'r arweinydd newydd gael ei ddewis gyda phawb yn ei longyfarch a dymuno'n dda iddo nes i ryw was bach codi ei lais a gofyn "oes unrhyw un yn gwybod sut mae gweithio peiriant ffacs?"

Mae'n fore yn Seion

Vaughan Roderick | 19:41, Dydd Llun, 23 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

_44496671_press_bbc203.jpgCorff bach rhyfedd yw'r lobi Gymreig- y criw o newyddiadurwyr sy'n gweithio yn y cynulliad. Dyw hi ddim byd yn debyg i'r system lobi yn San Steffan- y clwb sydd, er rhai diwygiadau diweddar, o hyd yn weddol gyfrinachol ac, ym marn rhai, yn afiach ac anemocrataidd.

Fedra i ddweud wrthoch chi, er enghraifft, mai Gareth Hughes yw Cadeirydd y Lobi Gymreig a David Williamson yw'r ysgrifennydd. Mae'n hysbys hefyd ein bod yn cael yn briffio'n rheolaidd gan y Llywodraeth a'r ddwy wrthblaid mewn cyfres o gyfarfodydd bob bore dydd Mawrth.

Serch hynny, yn ddiweddar mae pethau wedi dechrau mynd ychydig o chwith. Mae'r lobi (sy'n cynyddu o ran ei maint) am fachu yn ôl rhai o'r swyddfeydd y collodd hi rhai blynyddoedd yn ôl. Cewch ddarllen post (llawer rhy fanwl) am y ddadl honna yn . Mae'r broblem yn sicr o gael ei datrys. Wedi'r cyfan cwyno am ddiffyg sylw mae'r Cynulliad gan amlaf!

Y ffrae fach arall sy 'da ni yw un gyda'r Llywodraeth. Am y tro cyntaf i mi gofio fe wnaeth y Lobi gwyn swyddogol rhyw bythefnos yn ôl. Y rheswm am hynny oedd bod y Llywodraeth wedi cynnig y Prif Swyddog Iechyd fel ei llefarydd yn y sesiwn briffio wythnosol yn hytrach na gweinidog neu is-weinidog. Amhosib felly oedd gofyn unrhyw gwestiynau gwleidyddol nac yn wir unrhyw beth y tu fas i faes cyfyng iawn.

I fod yn deg fe syrthiodd y llywodraeth ar ei bai ond mae'n anodd osgoi'r teimlad bod 'na ychydig bach o ddial yn mynd 'mlaen. Yr wythnos ddiwethaf Jane Hutt, gweinidog sy'n enwog am ei sylwadau agoriadol hirwyntog oedd yn y gadair. Un o ffefrynnau'r lobi , Elin Jones oedd yn ateb cwestiynau heddiw ond roedd hi'n gwneud hynny tri chwarter awr yn gynt na'r arfer.

Creaduriaid y nos yw newyddiadurwyr. Dydyn ni ddim yn hoff o godi'n rhy fore! Ar y llaw arall fe fyswn yn dilyn yr og ar ochr y glog i wystro'r llywodraeth rhag cyddio y tu ol i'w gweision sifil!

Ogi Ogi Ogi

Vaughan Roderick | 09:56, Dydd Llun, 23 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

alp_logo.gifMae'r Blaid Lafur wedi bod mewn grym ers dros ddeng mlynedd. Mae'r sylwebyddion yn unfryd nad oes gobaith iddi ennill yr etholiad sydd ar y gorwel. Mae 'na ambell i arwydd bod yr economi yn gwella ond gyda'r wrthblaid wedi bod ar y blaen ers oes pys mae ei harweinydd yn ddigon hyderus i gyhoeddi y byddai ei blaid yn cyflwyno cyllideb frys ar ôl yr etholiad er mwyn torri gwriant cyhoeddus a delio a'r ddyled genedlaethol.

Na, nid sôn am Brydain yn 2009 ydw i ond Awstralia yn 1993 lle'n groes i bob disgwyl fe lwyddodd Llafur i ennill etholiad yr oedd pawb yn disgwyl iddi golli.

Mae araith fuddugoliaeth yr arweinydd Llafur, , yn un sy'n cael ei chofio hyd heddiw. Hon oedd "... the sweetest victory of all... a victory for the true believers: the people who, in difficult times, have kept the faith".

Yr hyn sy'n rhyfedd am wleidyddiaeth Prydain ar hyn o bryd yw nad yw'r rhan fwyaf o Geidwadwyr y mae dyn yn siarad â nhw yn credu bod yr etholiad nesaf yn y bag. Mae'r mwyafrif o Lafurwyr ar y llaw arall a'u pennau yn eu plu ac yn sôn yn barod am sut mae ail-adeiladu'r blaid ar ôl y danchwa maen nhw'n ei disgwyl.

Mae'r sefyllfa yn hela ambell i un o fewn y blaid Lafur yn benwan. Bues i'n trafod y peth 'da un o bobol fawr y Blaid Lafur Brydeinig yn ddiweddar. Fe wnaeth e gwyno ei fod yn mynd o gwmpas yn ceisio argyhoeddi pobol nad oedd yr etholiad wedi ei golli'n barod ac yn fwy aml na pheidio yr ymateb oedd "Ie, ond mae XYZ yn dweud nad oes unrhyw obaith i ni". Yn ddieithriad un o fawrion eraill y blaid oedd yr XYZ oedd wedi cyflwyno'r neges o anobaith i newyddiadurwyr, ffyddloniaid y blaid neu'r werin datws.

Y teimlad dwi'n cael o siarad a phobol Llafur yw eu bod yn credu y byddai sicrhau senedd grog, o leiaf, yn bosib pe bai gan y blaid yr arian ac adnoddau a phe na bai'r aelodau mor ddigalon.

Dyna, dwi'n meddwl sy'n esbonio darllediad gwleidyddol rhyfedd y blaid wythnos ddiwethaf, yr un gyda'r holl gyfeiriadau at Keir Hardie, Nye Bevan, Mandela ayb. Nid at yr etholwyr yr oedd y darllediad wedi ei anelu ond at ffyddloniaid y blaid, y "true believers" os mynnwch chi, mewn ymgais i'w deffro o'u trwmgwsg.

Roedd y neges yn un ddigon syml, neges y mae sawl capten wedi ei gwaeddi ar gaeau rygbi ar hyd y blynyddoedd "dewch mlaen bois, cofiwch pwy y'ch chi, peidiwch gadael i'r diawled 'ma ennill!"

Tipyn o bregeth

Vaughan Roderick | 09:59, Dydd Sul, 22 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

150pulpud.jpg"I ba enwad yr ydych chi'n perthyn?"

Pryd glywyd y cwestiwn yna ddiwethaf yng Nghymru, tybed?

Sbel yn ôl byswn i'n mentro! Wedi'r cyfan does 'na fawr o wahaniaeth rhwng yr enwadau anghydffurfiol y dyddiau hyn.

Hawdd anghofio felly bod 'na wahaniaethau diwinyddol, athronyddol a threfniadol pwysig rhyngddyn nhw yn y dyddiau pan oedd y capeli dan ei sang a diwygiadau'n mynd a dod bron mor rheolaidd â'r Gerallt Gymro!

Dydw i ddim yn arbenigwr ar y pethau 'ma ond os gofia i'n iawn un o'r rhaniadau pwysicaf oedd yr un rhwng selogion yr hen gorff oedd yn dilyn pum pwynt John Calfin a phobol Capel Wesle oedd yn troi at syniadaeth , Whitefield a Wesley ei hun am eu hysbrydoliaeth.

I'r graddau ein bod yn ymwybodol o'r ddadl o gwbl erbyn hyn, tueddu meddwl mai anghytuno ynghylch etholedigaeth a chyfiawnhad trwy ffydd oedd yr enwadau. Ond nid dadl ynghylch y byd nesaf yn unig oedd hon. Roedd hi'n ymwneud a'r byd yma hefyd. Yn wir gellid dadlau mai yn Arminiaeth y mae canfod gwreiddiau rhyddfrydiaeth a seciwlariaeth ein hoes ni.

Tra roedd y Calfiniaid wrthi yn codi eu Caersalem newydd yng Ngenefa roedd Arminiaid yr Iseldiroedd yn dilyn trywydd gwahanol iawn. Yn hytrach na cheisio creu gwladwriaeth unffurf, un grefydd fel yr un Calfinaidd neu Babyddol fe wnaeth yr Arminiaid ddadlau bod gwladwriaeth yn cael ei chryfhau gan oddefgarwch crefyddol, rhyddid mynegiant a hawliau dynol. Nid cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith bod llyfrau Descartes a Galileo wedi eu cyhoeddi yn yr Iseldiroedd ymhell o olwg sensoriaid y Fatican a Paris!

Fe groesodd y syniadau hyn Fôr Iwerydd i Amsterdam Newydd a dim ond yn ddiweddar y mae haneswyr wedi dechrau deall syniadaeth trefedigaeth goll Manhattan yn natblygiad gwleidyddol a deallusol Gogledd America.

genefa.jpg Y dydd o'r blaen fe wnes i dderbyn y llun ar y dde gan gyfaill sydd newydd ddychwelyd o Genefa. Rhan o ymgyrch refferendwm i wahardd Mosgiau'r Swistir rhag codi minaréts yw'r poster hyll ac haerllyg ac mae'n debyg eu bod i'w gweld ym mhobman.

Rhyfeddu oedd y cyfaill bod y fath beth yn digwydd yng Ngenefa. Mae'r ddinas honno, wedi cyfan, yn bencadlys i'r Groes a'r Cilgant Coch a nifer o asiantaethau'r Cenhedloedd Unedig. Gellir crynhoi delwedd ryngwladol y ddinas, ac yn wir y Swistir gyfan, yng ngeiriau enwog Harry Lime o'r Third Man; "In Switzerland they had brotherly love - they had 500 years of democracy and peace, and what did that produce? The cuckoo clock." Wrth gwrs o gofio Calfin efallai nad yw'r posteri yn gymaint â hynny o syndod!

Mae hynny'n dod a fi at bwynt y bregeth fach yma sef hwn. Mae anoddefgarwch a chasineb crefyddol neu hiliol yn gallu gwreiddio mewn unrhyw gymdeithas ac mewn unrhyw grefydd. Nid yn yr wrthddiwygiad yn unig yr oeddynt i'w canfod. Roeddent yn rhan o Brotestaniaeth hefyd. Mae'n rhaid gochel rhagddynt ym mhob man ac ar bob achlysur.

Mae'r gwrthdystiadau sylweddol yn erbyn ymdrechion shimpyl yr "English Defence League" yn Abertawe, Casnewydd a Wrecsam yn ddiweddar yn awgrymu nad yw Cymru'n dir ffrwythlon i'r dde eithafol. Dyw hynny ddim yn golygu y dylai'r eglwysi ac eraill wnaeth drefnu'r gwrthdystiadau rhoi'r gorau i'w hymdrechion.

Un o'r pethau mwyaf nodweddiadol am dwf y BNP yw methiant cymharol y blaid i fwrw gwreiddiau yn Llundain. Wedi'r cyfan, y ddinas honno yw cyrchfan y rhan fwyaf o ymfudwyr i Brydain ac mae ei gwasanaethau cyhoeddus o dan bwysau difrifol. Y rheswm pennaf am y methiant hwnnw yw'r ffaith na roddodd y pleidiau eraill na mudiadau sific le nac amser iddi dyfu. Yn wahanol i'r sefyllfa mewn rhannau o ogledd Lloegr a llefydd fel Essex fe'i heriwyd yn gyson ac yn galed o'r cychwyn cyntaf.

Geiriau Thomas Jefferson, yr Americanwyr o dras Gymreig wnaeth weu syniadau Arminiaeth i mewn i ddatganiad annibyniaeth America sy'n cyfleu'r pwynt gorau. "Pris rhyddid" meddai "yw gwyliadwriaeth dragwyddol".


Rialtwch

Vaughan Roderick | 11:42, Dydd Sadwrn, 21 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

cinema_projector203.jpgYn yr hen ddyddiau roedd dewis gyrfa newyddiadurol yn hawdd. Roedd y rheiny oedd yn gallu 'sgwennu yn mynd at y papurau, y siaradwyr da at radio a'r rhai pert i deledu!

Y dyddiau 'ma mae disgwyl i bawb gwneud popeth ac mae'r canlyniadau yn gallu bod yn gymysg a dweud y lleiaf. Dyma i chi ymosodiad deifiol a hynod ddoniol ar ymdrechion ar lein y "Washington Post"

Beth sydd i ddweud ar ôl hynny? Dyma gasgliad o'ch awgrymiadau chi gan gychwyn gyda dwylo mawr Rachmaninov.

Ai Bryngwran yw Hollywood Cymru? Mae nifer y ffilmiau ynglÅ·n a'r pentref ar "YouTube" yn ryfeddol! Dyma ddwy ffilm fel rhagflas. Mae 'na lawer mwy!

Yn Dewach Na Dŵr

Vaughan Roderick | 14:45, Dydd Gwener, 20 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

Diawch, mae wedi bod yn wythnos brysur a phawb yn crafu eu pennau ynghylch canfod onglau newydd ar adroddiad y comisiwn. Beth am droi at "Chwedeg Cymru" y panel o etholwyr oedd y Â鶹ԼÅÄ yn defnyddio ateg etholiad 2007? Dyna oedd syniad un cynhyrchydd dyfeisgar.

Bant a fe felly i ffonio'r enw cyntaf ar y rhestr; gwr a safbwyntiau eglur a barn bendant. Jyst y boi!

"Ydych chi'n fodlon dod ymlaen felly?" gofynnodd y cynhyrchydd.

"Gwell i mi beidio" oedd yr ateb "wedi'r cyfan mae Syr Emyr yn frawd i mi"!

Mae 'na fwy nac un diplomydd yn y teulu yna! Mae 'na bodlediad newydd ar gael. Gwasgwch y botwm ar y dde.

NA! NA! NA!

Vaughan Roderick | 10:58, Dydd Gwener, 20 Tachwedd 2009

Sylwadau (4)

_40740198_glanclwyd203.jpgRwyf newydd dderbyn e-bost gan ffrind ysgol i mi sy'n byw yn Adelaide yn Ne Awstralia ac oedd yn weithgar mewn gwleidyddiaeth tan i'r blaid yr oedd e'n aelod ohoni fynd a'i ben iddi.

Ta beth, mae'n rhannu fy marn sinigaidd i ynghylch un agwedd o wleidyddiaeth. Tuedd etholwyr i wrthwynebu unrhyw newid i'w gwasanaethau lleol, hyd yn oed er gwell, yw'r agwedd honno ac ynghlwm iddi mae parodrwydd gweledyddion i fedi pleidleisiau rhad trwy borthi protestiadau.

Cynllun ad-drefnu gwasanaethau iechyd Adeliade oedd wedi cythruddo fy nghyfaill. Fel rhan o'r cynllun hwnnw fe fyddai prif ysbyty'r dalaith yn cael ei ddymchwel gydag ysbyty newydd sbon yn cael ei adeiladu yn ei le. Fe fyddai safle'r hen ysbyty'n cael ei droi'n feysydd chwarae. O fewn chwinciad fe ddechreuodd y cwyno ac o fewn chwinciad arall roedd gwleidyddion wedi dechrau dringo ar y "band wagon".

Digwyddodd rhywbeth tebyg yng Nghaerdydd rhai blynyddoedd yn ôl gyda chynllun i uno dwy ysgol uwchradd. Roedd un ohonynt ymhlith yr ysgolion gorau yng Nghymru o safbwynt ei ganlyniadau ar llall yn ysgol oedd yn iawn ond yn ddim byd sbeshal.

Rhoddwyd y gorau i'r cynllun ar ôl llu o brotestiadau deisebau a chyfarfodydd cyhoeddus. Yr hun oedd yn rhyfedd oedd bod y protestiadau bron i gyd gan rieni'r ysgol aflwyddiannus. Hynny yw, i'r rhieni hynny, roedd sicrhau "bod y plant yn mynd lle es i" a "thraddodiad ein teulu" yn bwysicach na safon yr addysg.

Y pwynt yw hyn. Weithiau mae cau ysgol neu ysbyty yn syniad da ac weithiau dyw e ddim ond nid mesur desibelau protestwyr a chyfri nifer y baneri yw'r ffordd orau o farnu. Fe fyddai'n braf gweld gwleidyddion (yn enwedig aelodau gwrthbleidiau) yn sefyll ar eu traed a dweud "sori, ond dwi'n meddwl bod y cynllun yma'n un da" o bryd i gilydd. Felna mae ennill parch. Yn anffodus nid felna mae ennill etholiad.

Mae'r hon a gar fy nghalon i...

Vaughan Roderick | 14:05, Dydd Iau, 19 Tachwedd 2009

Sylwadau (4)

_45405741_45403811.jpgDydw i ddim cweit yn deall pwrpas arolwg blynyddol cwmni Ipsos Mori o safbwyntiau Aelodau Cynulliad.

Dim ond trigain ohonyn nhw sy' na wedi cyfan ac fe ddylai eu safbwyntiau bod yn ddigon amlwg o'u hareithiau a'u pleidleisiau yn y senedd. Efallai bod y cwmni'n amau bod gwleidyddion yn fwy gonest wrth ymateb i arolwg yn ddienw! I fod yn deg mae 'na ambell i ganlyniad difyr.

Un enghraifft yw'r ateb i'r cwestiwn yma "pwy yn eich barn chi yw'r gwleidydd mwyaf nodedig (impressive) yn y cynulliad?

Edwina Hart; 25%
Rhodri Morgan; 24%
Elin Jones; 12%

Huw Lewis, Carwyn Jones a David Meding ddaeth nesaf yn gydradd ar 5%. Roedd 'na un awrweinydd plaid na chafodd ei henwi o gwbl. Unwaith yn rhagor mae treigliad yn adrodd cyfrolau.Yn fwy difyr fyth roedd 8% o'r aelodau naill ai'n gwrthod dweud neu o'r farn nad oedd unrhywun yn y Cynulliad yn nodedig!

ON Er bod y canlyniadau'n ddienw fe holwyd yr aelodau wyneb yn wyneb. Fe ddywedodd un aelod mai Nick Ramsey yw'r AC mwyaf nodedig. Does bosib... ond os nid fe'i hun, pwy?

OON Yn ôl Ipsos Mori nid oes modd i aelod enwebu ei hun. Rwy'n gofyn eto felly PWY?

O Deuwch Ffyddloniaid...

Vaughan Roderick | 13:21, Dydd Iau, 19 Tachwedd 2009

Sylwadau (1)

_41008255_nye_bevan_pa.jpgDwi'n gwybod bod arian yn brin a bod y blaid ar ganol etholiad mewnol ond faint o waith fyddai angen mewn gwirionedd i osod darllediad Llafur Cymru o neithiwr ar y we? Efallai bod y mawrion yn ofni "Delilah" arall!

Yn ffodus mae fersiynau Lloegr a'r Alban o'r darllediad ar gael. Gwyliwch y ddau ac mae'n ddigon posib gweithio allan beth oedd yn y darllediad Cymreig!

Wow! Son am apelio at y bleidlais graidd! Beth ? "Nid yw troi'n ôl tuag at ein pleidlais graidd yn opsiwn inni os ydym eisiau bod yn llwyddiannus" neu rywbeth felly, os gofia i'n iawn! Ydy e wedi cael gair a'r pencadlys?

Dilyn yr arth...

Vaughan Roderick | 09:59, Dydd Iau, 19 Tachwedd 2009

Sylwadau (14)

Logo_Plant_Mewn_Angen_1985.pngDydw i ddim yn credu bod y peth wedi 'sgwennu lawr ond mae 'na ryw fath o reol yn y Â鶹ԼÅÄ bod yn rhaid i bawb wneud rhywbeth dros "Plant Mewn Angen" neu o leiaf crybwyll y peth.

Dyw hynny ddim yn hawdd i mi. Mae gen i falais personol yn erbyn yr arth byth ers i benwythnos yr apêl gyd-fynd a chwymp Margaret Thatcher yn 1990. Y rhaglen fwyaf trychinebus i mi gymryd rhan ynddi erioed oedd un ar S4C y penwythnos hwnnw. Trafod y sefyllfa wleidyddol oeddwn i ond yr arth oedd y flaenoriaeth i'r Â鶹ԼÅÄ ac roedd y twmffat melyn wedi bachu'r holl adnoddau. Cwymp un o ffigyrau mawr yr ugeinfed ganrif? Beth oedd hynny i gymharu â dyn yn ymdrochi mewn cwstard yn Abergeirw?

Sut mae trafod Pudsey heb ffrwydro? Beth am edrych ar etholaeth Pudsey yn Swydd Efrog sedd y mae'r Ceidwadwr o Fôn, Stuart Andrew yn gobeithio ei hennill?

Mae gan Stuart siawns go dda mewn gwirionedd. Gogwydd o 5.45% sydd ei hangen ar bapur ond rwy'n tybio bod y sedd yn fwy addawol na hynny mewn gwirionedd gan ei bod yn "sedd Geidwadol naturiol" tan 1997.

Os ydy Stuart yn llwyddo fe fydd e'n aelod o glwb bach dethol o siaradwyr Cymraeg sydd wedi cynrychioli etholaethau y tu allan i Gymru yn San Steffan. Roedd rhai o rheiny yn Gymry naturiol fel (South Ayrshire) a (Cannock) tra bod eraill fel (Berwick) ac (Wolverhampton a Down South) wedi dysgu'r iaith.

Roedd ambell i wleidydd annisgwyl hefyd a rhywfaint o Gymraeg. Fe wnâi ddim enwi'r aelod Cymreig anffodus wnaeth ddysgu bodyn deall Cymraeg ar ôl cyfeirio ati dan ei anadl fel "hen ast wirion"!


Hawl i Holi

Vaughan Roderick | 13:03, Dydd Mercher, 18 Tachwedd 2009

Sylwadau (4)

_44802941_44631530.jpgDw i braidd yn brysur heddiw! Mae gen i adroddiadau i baratoi ar gyfer Radio Cymru, Wales Today, Newyddion a Â鶹ԼÅÄ Scotland tra bod Betsan wrthi'n gwneud adroddiadau i'r rhwydwaith.

Mae Syr Emyr yn un o'r gwesteion ar CF99 heno os oes ganddoch chi gwestiwn neu sylw mae croeso i chi dorri gair yn y sylwadau.

Yr ifanc a wyr, Syr Emyr a dybia

Vaughan Roderick | 00:01, Dydd Mercher, 18 Tachwedd 2009

Sylwadau (7)

_45594442_convention2263bbc.jpg£1.3 miliwn o bunnau, tair mil o ddarnau o dystiolaeth a dwy flynedd o fywyd un o ddiplomyddion mawr Prydain. Dyna "Confensiwn Cymru Gyfan" i chi. A beth mae'r llywodraeth wedi cael am ei harian?

Wel, nid rhyw adroddiad "ar y naill law.. ar y llaw arall". Yn hytrach y neges yw "cerwch amdani".

Yng ngeiriau un person nid nepell o Syr Emyr os oedd pobol yn disgwyl i'r diplomydd gynhyrchu rhywbeth "fuzzy" fe fyddan nhw wedi eu siomi! Mae gen i deimlad bod y posibilrwydd o adroddiad o'r fath wedi diflannu'r eiliad y gwnaeth Don Touhig honni y byddai angen sat-nav ar Syr Emyr i ddod o hyd i Gymru!

Hanfod yr adroddiad yw beirniadaeth lem o'r system bresennol o roi pwerau fesul dipyn i'r cynulliad. Y sypreis gyntaf yw nad y system LCO sy'n poeni'r Confensiwn fwyaf. Dyw'r aelodau ddim yn or-hoff o honna ond y ffordd arall o drosglwyddo grymoedd i Gymru, y "pwerau fframwaith" sy'n eu cythruddo mewn gwirionedd.

O leiaf gyda'r LCOs mae San Steffan a'r Cynulliad yn cael dweud eu dweud ynghylch y pwerau sy'n cael eu trosglwyddo. Gyda phwerau fframwaith, San Steffan yn unig sy'n eu hystyried ac mae hynny'n golygu ychydig funudau o ystyriaeth os hynny. Yn y bon dywed adroddiad Syr Emyr fod pwerau fframwaith yn cael eu trosglwyddo ar fympwy gweinidogion yn Llundain heb unrhyw fath o drafodaeth gyhoeddus go iawn. Mae pwerau pwysig yn cael eu trosglwyddo felly heb fawr o ystyriaeth tra bod pwerau cymharol ddibwys yn gaeth am flynyddoedd yn y gyfundrefn LCO gan dderbyn scriwtini ymhell tu hwnt i'r haeddiant.

Mae hynny, yn ôl y Confensiwn, wedi creu system sy'n aneglur, hyd yn oed i wleidyddion, ac yn gwbl annealladwy i'r cyhoedd. Yn ogystal mae'n rhwystro'r Cynulliad rhag gallu deddfu'n strategol. Er mwyn llunio deddf gynhwysfawr ynghylch newid hinsawdd, er enghraifft, fe fyddai angen hanner dwsin o wahanol LCOs neu fesurau fframwaith yn ymwneud a gwahanol adrannau Whitehall.

Fe fyddai trosglwyddo pwerau llawn i'r cynulliad yn datrys y broblem. Dyna oedd barn unfryd y Confensiwn ac mae'r aelodau o'r farn y gellid gwneud hynny heb gynyddu nifer yr aelodau ym Mae Caerdydd ac heb unrhyw gostau ychwanegol sylweddol.

A fyddai cefnogwyr datganoli yn ennill refferendwm? Mae hynny'n bosib er nid yn sicr yn ôl y Confensiwn. 47% o blaid, 37% yn erbyn oedd canlyniad ei arolwg barn, ffigyrau digon tebyg i arolygon eraill. Ond yn ôl un aelod roedd cyfarfodydd cyhoeddus y Confensiwn yn awgrymu mae'r mwy fyth y mae etholwyr yn deall y cwestiwn y mwy fyth yw'r gefnogaeth.

Yn ôl aelod arall gallai llawer ddibynnu ar faint o ymddiriedaeth fydd gan y cyhoedd yn arweinwyr yr ymgyrchoedd. Yn 1975 meddai, pleidleisiodd y mwyafrif o blaid y Farchnad Gyffredin am bod ganddyn nhw fwy o ffydd yn Harold Wilson, Ted Heath a Jeremy Thorpe nac yn Tony Benn ac Enoch Powell.

Y casgliad clir yw bod poblogrwydd digamsyniol Rhodri Morgan yn arf bwerus yn nwylo cefnogwyr datganoli ac y dylid defnyddio'r arf honno cyn iddi golli ei sglein.

Wrth gwrs bysai rhyw un fel Syr Emyr fyth yn dweud rhyw beth mor wleidyddol â hynny ar goedd neu hyd yn oed yn breifat ond roedd y neges yn eglur. Rhodri v. Touhig. "Bring it on"- sat nav neu beidio!

Drosodd i chi, Rhodri!

Fe ddylai'r adroddiad fod ar erbyn hyn ac mae gen i ar y tudalennau newyddion.

Trioedd Ynys Echni

Vaughan Roderick | 15:28, Dydd Mawrth, 17 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

flatholm.jpg
1. Holi hwn. Roedd gan Nerys Evans gwestiwn da yn sesiwn gwestiynau Rhodri Morgan heddiw. Wrth holi ynghylch adroddiad y Confensiwn gofynnodd i'r Prif Weinidog a oedd yn cytuno mai barn y confensiwn oedd yn bwysig "nid eich barn i na'ch barn chi na barn unrhyw unigolyn arall"? Does dim angen bod yn athrylith i synhwyro mai Peter Hain oedd yr "unigolyn arall" hwnnw. Profodd Rhodri ei fod cystal diplomydd a Syr Emyr trwy nodi mai "barn y bobol" sy'n cyfri!

2. Bariach afiach dyn di-bwyll. Wrth sgwennu darn bach ynghylch Blaenau Gwent y bore 'ma fe ddes ar draws cyfrol o farddoniaeth o ardal y Blaenau a Merthyr o 1829 wedi ei digideiddio gan Brifysgol Harvard. Dyma hi yn. Mae'n llawn dop o benawdau gwych ar gyfer y blog. Peidiwch â synnu os ydych chi'n gweld penawdau fel "Iaith gynnes, iaith gall, iaith bwyllog heb ball" ac "Ond y Saeson, wŷr erchyllion a'u drwg dichellion drud" o fewn byr o dro!

3. Enw Da Llongyfarchiadau i Ruth Thomas a Rhys Evans ar enedigaeth merch fach Elen Myfanwy Thomas Evans. Rhys oedd awdur bywgraffiad diweddar Gwynfor Evans. Beth oedd yn bod ar Gwenforia, tybed?

Barn y Blaenau

Vaughan Roderick | 09:48, Dydd Mawrth, 17 Tachwedd 2009

Sylwadau (9)

_45979246_blastfurnace01-1.jpgUn o'r bargenion hynny nad yw llawer o bobol ymwybodol ohoni yw tocyn dydd trenau'r cymoedd. Am lai na deg punt mae'n bosib cymryd trip i bron unrhyw le yn y de-ddwyrain a gwneud hynny heb oddef unrhyw deimlad o euogrwydd ynghylch yr amgylchfyd!

Y dydd o'r blaen es i ar lein newydd Glynebwy er mwyn cynnal arbrawf bach.

Trigain mlynedd yn ôl bu fy nhad yn athro Cymraeg yn yr ardal am gyfnod byr. Fe'i cyflogwyd gan gylch o ysgolion ond nid i ddysgu'r iaith fel y cyfryw, doedd dim digon o amser nac adnoddau i wneud hynny. Yn hytrach y bwriad oedd sicrhau bod plant y cylch yn ymwybodol o fodolaeth yr iaith ac yn gwybod rhywfaint amdani. Roedd y peth yn arloesol ar y pryd!

Trefnodd fy nhad gyfres o deithiau cerdded i wahanol ddosbarthiadau gan ofyn i'r disgyblion nodi geiriau Cymraeg oedd i'w gweld o'u cwmpas, yn enwau ar strydoedd, ar gerrig sylfaen capeli a beddrodau. Y rhyfeddod oedd faint o Gymraeg oedd i'w gweld o hyd. Yn ôl Dad roedd hi bron fel pe bai swîts wedi ei droi i newid iaith yr ardal.

Wrth gerdded o gwmpas y lle mae'n amlwg bod yr un peth yn wir heddiw. Er mai ychydig o Gymraeg sydd i'w chlywed ym Mlaenau Gwent mae hi i'w gweld ym mhobman, ar siopau ac ar ganolfannau gwirfoddol yn ogystal ag ar arwyddion swyddogol. Mae'r ardal yn un cwbwl Cymreig os yn ddi-Gymraeg ac mae'r ganran o'r boblogaeth sydd wedi eu geni yng Nghymru ymhlith yr uchaf o unrhyw ardal awdurdod lleol.

Yn ôl ar noson refferendwm 1997 canlyniadau Blaenau Gwent a Merthyr oedd yr arwyddion cyntaf o obaith i gefnogwyr datganoli ar ôl siomedigaethau mewn ardaloedd eraill. Doedd y mwyafrif ym Mlaenau Gwent ddim yn fawr ond mi oedd hi'n fwyafrif. Os oedd yr ochor "ie" i lwyddo mewn refferendwm arall fe fyddai ennill ym Mlaenau Gwent ac ardaloedd tebyg yn allweddol.

Ar un olwg fe ddylai pethau argoeli'n dda. Gellid dadlau fod Blaenau Gwent wedi manteisio'n fwyn na nemor yr un ardal arall o ddatganoli. Mae'r rheilffordd wedi ei hail-agor, Ysbyty Aneurin Bevan i'w agor cyn bo hir a Phrifysgol y Cymoedd ar ei ffordd.

Ydy hynny'n ddigon i ddarbwyllo trigolion y Blaenau a'u tebyg i gefnogi cynyddu pwerau'r cynulliad?

Cwestiwn i Syr Emyr yw hwnna. Am hanner nos heno fe fyddwn yn gwybod yr ateb.

Addewidion Gwag a Breuddwydion Gwrach

Vaughan Roderick | 10:01, Dydd Llun, 16 Tachwedd 2009

Sylwadau (1)

Oldlabour.pngMae 'na rywbeth wyneb i waered ynghylch yr etholiad i ddewis olynydd Rhodri Morgan! Mae sawl rhyfel mewn hanes wedi cynnwys cyfnod o ffug-ryfela ond yn ddieithriad bron ar gychwyn y rhyfel y mae'r cyfnod hwnnw yn dod. Mae'n rhyw hoe fach i baratoi byddinoedd, yn saib rhwng cyhoeddi rhyfel a'r brwydro go iawn. Y "phoney war" rhwng Medi,1939 a Mai, 1940 yw'r enghraifft orau.

Yr hyn sy'n rhyfedd yw bod ffug-ryfel Llafur Cymru yn dod ar ddiwedd yr ornest. Y gwir plaen yw bod y mwyafrif llethol o bleidleisiau fydd yn cael eu bwrw eisoes wedi eu bwrw. Cred y rhan fwyaf o bobol yn y Bae yw bod Carwyn Jones yn mynd i ennill ond does neb yn gallu bod yn gwbl sicr o hynny a ta beth mae maint y gefnogaeth i bob ymgeisydd yn bwysig ynddi ei hun o safbwynt awdurdod yr arweinydd newydd a statws a dyfodol yr ymgeiswyr aflwyddiannus. Does dim pall ar yr ymgyrchu felly.

Ta beth, mae'r cyfnod rhyfedd yma yn rhoi cyfle i ni edrych ar addewid neu darged sydd wedi nodweddi ymgyrchoedd y tri ymgeisydd sef yr honiad y gallai Llafur ffurfio llywodraeth fwyafrifol ar ôl etholiad 2011. Ar bapur mae'n darged ddigon realistig ond yn eu calonnau siawns bod Carwyn, Edwina a Huw yn gwybod ei bod hi bron mor anghyraeddadwy â "prosiect 31" y Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae'r rheswm am hynny'n ddigon syml. I ennill mwyafrif mae'n rhaid i Lafur gipio 5-6 sedd etholaeth o'r gwrthbleidiau. Fel yn 2007 fe fydd unrhyw seddi rhestr a ddaw i Lafur ond yn ei digolledi am golli etholaethau. Gallai colli Bro Morgannwg a Dyffryn Clwyd, er enghraifft, arwain at ennill seddi ar y rhestr ond ni fyddai hynny'n newid y fathemateg yn y siambr.

O ble mae'r buddugoliaethau etholaethol i ddod? Gallaf ddychmygu, jyst, y gallai Alun Davies guro Trish Law ym Mlaenau Gwent. Mae'n bosib y gallai Llafur, o arllwys popeth i mewn i Lanelli, sicrhau ras agos yno ond fe fyddai ennill tre'r sosban yn golygu, mwy na thebyg, colli sedd restr.

O ble mae'r buddugoliaethau i ddod felly? Gorllewin Clwyd? Gogledd Caerdydd? Aberconwy? Yn 2015 neu 2019, efallai. Yn 2011, anghofiwch hi!

Rwy'n deall yn iawn pam y mae'r ymgeiswyr yn gorfod addo dyfodol disglair i'r aelodau. Go brin y gellid seilio ymgyrch am yr arweinyddiaeth ar y slogan "gyda lwc fe wnawn ni ddal ein tir"! Ond unwaith mae arweinydd newydd wedi ei ddewis fe fydd yn rhaid i fe neu hi lunio strategaeth ar gyfer 2011 a chyda ambell i eithriad fe fyddai'n rhyfeddod pe na bai'r strategaeth honno yn un amddiffynnol.

Rialtwch

Vaughan Roderick | 15:32, Dydd Sadwrn, 14 Tachwedd 2009

Sylwadau (1)

telcym.jpgMae 'na ormod o amser gan rai pobol! Dwn i ddim pam y byddai rhywun yn sganio hen gylchgronau teledu o'r chwedegau a'u gosod nhw Ar y llaw arall maen nhw'n ddifyr i ddarllen!

O dudalennau "Tevision Weekly" cawn ddysgu bod gan gwylwyr y dewis ar o wylio "Tri Chynnig", "Y Dydd" a "Tarzan" ar Deledu Cymru neu "TWW Reports" a "Sixth Form Challenge" ar y Gwasanaeth Cyffredinol. Beth oedd "Tri Chynnig"? Yn ôl y cylchgrawn "cyfle i daflu dartiau ac ateb cwestiynau" oedd hi. Mae hynny'n atgoffa rhywun o rywbeth. Piti na feddyliodd teledu Cymru feddwl am gofrestri hawlfraint!



Anghofiwch am Susan Boyle a Paul Potts. Mae gan yr Iwcrain dalent! Diolch i Dewi am dynnu fy sylw at gelfyddyd dywod ryfeddol Kseniya Simonova.

Mae Corfforaeth Darlledu Canada wedi gosod llwyth o drysorau ar lein gan gynnwys y darn bach yma am Peter Sellers. Mae'n ddiddorol ynddi hi ei hun ond mae dau beth yn sefyll allan- y smocio a'r Saesneg ryfeddol o grand sy'n cael ei defnyddio gan yr actor a'i holwraig o Ganada.

Yn olaf gan fod Cyngor Prydain ac Iwerddon wedi bod yn trafod ieithoedd lleiafrifol ar Jersi dyma ychydig o Jèrriais.

Mae Eisteddfod Flynyddol Jersi yn cael ei chynnal am y 101fed tro ar hyn o bryd. Mae 'na bigion i gael ar wefan Channel TV yn .

Gyda llaw, fe wnaeth cynhyrchydd "Tri Chynnig" Huw Davies ddiweddu fyny fel pennaeth "Channel TV". Mae'r byd yn fach!

Pam, tybed?

Vaughan Roderick | 03:08, Dydd Sadwrn, 14 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

Mae Cyngor Prydain ac Iwerddon yn gorff rhyfedd ond yn un sydd wedi profi ei werth er nid, efallai, yn y ffordd yr oedd y rhai wnaeth bwyso amdano wedi rhagweld.

Canlyniad proses heddwch Gogledd Iwerddon oedd sefydlu'r Cyngor a'r Unoliaethwyr wnaeth bwyso am y peth. Eu dadl nhw (a dadl ddigon rhesymol hefyd) oedd y dylai Gweriniaeth Iwerddon dderbyn ei bod yn rhan o deulu o genhedloedd ar yr ynysoedd hyn os oedd yr Unoliaethwyr i dderbyn sefydliadau Iwerddon gyfan.

Pob hyn a hyn felly mae'r cyngor yn cwrdd gan ddwyn ynghyd wyth llywodraeth sef llywodraethau y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon, Cymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw, Jersi ac Ynys y Garn (Guernsey). Dyw Cernyw ddim yna ond mae'n ysu bod!

Mae'r cyngor wedi bod yn ysbrydoliaeth i ymgyrchwyr dros y Fanaweg a ieithoedd Ynysoedd y Sianel ac mae'n cael ei ystyried yn gorff o bwys gan y llywodraethau llai.

Bu'r cyngor yn cwrdd yn Jersi yr wythnos hon. Diogelu ieithoedd cynhenid oedd y thema ond un o'r pynciau trafod arall oedd sefydlu gweinyddiaeth barhaol i'r Cyngor yng Nghaeredin.

Roedd pawb, gan gynnwys Llywodraeth y Cynulliad, o blaid hynny ond cafodd y peth .

Llywodraeth y Deyrnas Unedig oedd honno. Pwy oedd yn ei chynrychioli?

Peter Hain.

Ie... Ie... Ie... Ie dros Gymru

Vaughan Roderick | 12:14, Dydd Gwener, 13 Tachwedd 2009

Sylwadau (5)

tn-DARE05.jpgChurchill, dwi'n meddwl, wnaeth ddweud mai'r ddadl orau yn erbyn democratiaeth yw sgwrsio am bum munud gydag etholwr. Rwy'n sicr mai fe ddywedodd mai democratiaeth yw'r gyfundrefn waethaf o lywodraethu ac eithrio pob un arall. Stori arall yw hynny, y dyfyniad cyntaf yw thema'r bregeth am heddiw!

Mae Syr Emyr Jones Parry wedi treulio llawer mwy na phum munud yn siarad ag etholwyr Cymru a dyw e ddim yn ymddangos bod y profiad wedi pylu ei frwdfrydedd dros gynnal pleidlais gynnar ynghylch cynyddu pwerau'r cynulliad. Yn wir, os ydy'r sibrydion yn gywir, y gwrthwyneb sy'n wir gydag aelodau confensiwn yn mynd yn fwyfwy brwdfrydig ynghylch refferendwm wrth i'r broses ymgynghori fynd yn ei blaen.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae ambell i wleidydd, Carwyn Jones a Peter Hain yn eu plith, wedi ceisio arllwys ychydig o ddŵr oer ar y syniad o bleidlais gynnar. Nawr mae 'na bob math o gymhellion posib gan y ddau. Mae un, wedi'r cyfan, ar ganol ymgyrch etholiad a'r llall yn ceisio amddiffyn ei etifeddiaeth fel gweinidog ond nid ar chwarae bach y dylid diystyru safbwyntiau dau ŵr a thrwynau gwleidyddol mor brofiadol.

Beth sydd wrth wraidd y gwahaniaeth barn? Profiad, dw i'n tybio. Boed hynny mewn arolwg neu mewn cyfarfod cyhoeddus mae Syr Emyr wedi bod yn gofyn ei gwestiwn yn annibynnol o gyd-destun y sefyllfa wleidyddol ehangach. Mae Peter a Carwyn ar y llaw arall yn ymwybodol bod cyd-destun yn gallu bod yn bopeth mewn gwleidyddiaeth.

Yn ôl yn 1979 er enghraifft go brin mai manteision neu anfanteision cael cynulliad oedd ym mlaen meddyliau'r etholwyr ar Fawrth 1af. Yr hyn oedd yn eu corddi (ac yn eu darbwyllo i bleidleisio "na") oedd bod ysbwriel heb ei chasglu, cyrff heb eu claddu a'r economi ar ei din tra bod gwleidyddion wedi treulio'r gorau peth o'u hamser yn malu awyr am ddatganoli.

Heb os y cyd-destun gorau i sicrhau buddugoliaeth mewn refferendwm fyddai mewn cyfnod lle'r oedd cryfhau'r Cynulliad yn ymddangos yn gam angenrheidiol i ddiogelu buddiannau personol yr etholwyr. Yn ystod cyfnod, dyweder, lle'r oedd llywodraeth amhoblogaidd yn San Steffan a'i bryd ar dorri gwariant cyhoeddus.

Os ydw i'n deall yn iawn, nid dweud bod y Confensiwn yn anghywir y mae Carwyn a Peter ond dweud y bydd na 'well cyfleoedd i ennill refferendwm yn y dyfodol na'r un y mae Syr Emyr yn ei gynnig.


Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 16:46, Dydd Iau, 12 Tachwedd 2009

Sylwadau (2)

_42186068_stpiranflag203.gifDyma ambell i ddolen i'ch difyrru neu'ch gwylltio.

Yn gyntaf un i'ch corddi o'r Daily Mail.

Mae fersiwn y Â鶹ԼÅÄ o'r ychydig yn wahanol!

Dyma ddau flog sy'n lot o sbort. Yn gyntaf "teyrnged" i ffotagraffwyr papurau lleol.

A rhywbeth tebyg...

Am ryw reswm mae'r rhan fwyaf o gynghorwyr ar y safle yn Ddemocratiaid Rhyddfrydol!
Efallai y bydd hynny o gysur i!
. Mae na fwy am y cefndir ar flog "".

Diweddariad; Mae darllen y sylwadau ar safle'r Daily Mail yn addysgiadol! Mae 'na ddigon o bobol yn croesawi'r newid ond mae ambell un sy ddim. Rhain, er enghraifft!

"Just like Welsh....... Cornish isn't a real language..... it's just an ugly noise."

"What a criminal waste of taxpayer's money. These minorities seem to get what they want however idiotic. It started with the Welsh and it shouldn't have set a precedent."

"Splendid!!, I do not visit Scotland, Ireland or Wales because of rampant nationalism, now I must include Cornwall. If sufficient other 'foreigners follow suit, Cornwall will go bust and a damn good job too!!"

"New Labour twerpery gone mad!"

Fel mae'n digwydd does 'na ddim un cynghorydd Llafur ar gyngor Cernyw. Y Ceidwadwyr yw'r blaid fwyaf... ond beth yw ffeithiau i rwystro dadl neu ragfarn!


Cathod mewn sach

Vaughan Roderick | 14:31, Dydd Iau, 12 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

punch_judy_270.jpgUn o'r ychydig bwyllgorau'n sy'n gyson gwerth ei wylio yw'r Pwyllgor Cyllid neu'r "Ieuan decapitation committeee" fel mae rhai'n ei alw.

Mae 'na ddwy ffordd o edrych ar y pwyllgor yma. Gallwch feddwl, fel ei gadeirydd Angela Burns, ei fod yn bwyllgor sydd yn fodel o weithredu amhleidiol ac sy'n yn ddigon dewr i fewniadau'r llywodraeth pan mae angen.

Barn rhai yn y llywodraeth, ar y llaw arall, yw bod y pwyllgor yn llawn o aelodau ac agendas personol, y rhan fwyaf ohonynt yn ymwneud ar ffaith eu bod yn gas ganddyn nhw'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweindiog Cyllid.

Heddiw ar ôl ystyried tri drafft ar ddeg fe gymeradwyodd y pwyllgor adroddiad ar y gyllideb sydd, mae'n debyg, yn cynnwys beirniadaeth o'r ffordd y mae'r Llywodraeth yn delio a'r argyfwng economaidd.

Yr unig aelod oedd yn bresennol wnaeth bleidleisio yn erbyn yr adroddiad oedd aelod Plaid Cymru, Chris Franks.

Cyn hynny cafwyd cwynion gan rhai o'r aelodau bod un aelod, na chafodd ei enwi, wedi rhannu cynnwys yr adroddiad gyda rhyw un nad oedd yn aelod o'r pwyllgor. Nawr, doedd neb fel pe bai nhw'n siŵr iawn oedd hynny'n groes i'r rheolau ai peidio. Mae'n arwydd o ba mor chwerw y mae pethau rhwng yr aelodau bod cyhuddiadau fel hyn yn cael eu trafod yn gyhoeddus yn hytrach na chael eu sortio y tu ôl i ddrysau caeedig.

Efallai nad yw hynny'n syndod. Dyna fel mae'r Pwyllgor Cyllid. Fel dwedais i, cathod mewn sach.

Trioedd Ynys Echni

Vaughan Roderick | 10:09, Dydd Iau, 12 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

_45628178_mvc-020f.jpg1. Efallai eich bod yn cofio rhai wythnosau yn ôl bod y Pwyllgor Cyllid wedi cael tipyn o sioc wrth glywed honiad nad oedd hyd at ugain y cant o gyllideb y gwasanaeth iechyd yn cael ei wario'n effeithlon. Dyw e ddim yn syndod bod Kirsty Williams wedi gofyn cwestiwn ysgrifenedig i'r Gweinidog iechyd ynghylch y peth. A oedd Edwina Hart yn bwriadu cynnal ymchwiliad i'r honiad?. "Nac ydw" oedd yr ateb syml. Fe fyddai'r unig ateb llai cwrtais hefyd yn ddau air!

2. Efallai bod Edwina yn rhy brysur yn poeni am benderfyniad Neil a Glenys Kinnock i gefnogi Huw Lewis yn y ras am yr arweinyddiaeth i roi ateb cyflawn. "Fe fydd hynny'n dylanwadu lot yn Tufnell Park..." oedd ymateb bigog un o'i chefnogwyr i ddatganiad Neil a Glenys ar ôl tagu dros y frawddeg hon o eiddo Jessica Morden: "It is that radical firebrand tradition shared by both Neil and Huw that attracts so many people to the Labour Party...". Mae'n amlwg nad yw rhai wedi maddau i'r Kinnocks am heglu hi am Lundain hyd yn oed cyn i Glenys rhoi'r gorau i wleidyddiaeth Ewropeaidd!

3. Mae'n bosib ar y llaw arall bod Edwina yn pendroni ynghylch cwestiwn mawr arall sy'n destun sgwrs ymhlith rhai o bobol Plaid Cymru sef hwn. "Os ydy John ac Edward yn 'Jedward' Lle mae hynny'n gadael Dafydd Iwan ac Edward?"

Paffio yn y Pwyllgor

Vaughan Roderick | 16:58, Dydd Mercher, 11 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

_39172040_coins-bbc203.jpgUn o'r manteision o fod yn llywodraeth gyda mwyafrif mawr, fel un Rhodri Morgan, yw nad yw pwyllgorau'n debyg o achosi trafferth. Dyna yw'r theori. Mae'r realiti ychydig yn wahanol, yn enwedig felly ar bwyllgor cyllid y cynulliad.

Yn ôl cyn gwyliau'r haf fe achosodd y pwyllgor gryn drafferth i'r Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones. Y Gweinidog Cyllid, Andrew Davies sy'n ei chael hi nawr wrth i'r pwyllgor lunio adroddiad ar gyllideb flwyddyn nesaf.

Problem y Llywodraeth, mae'n ymddangos, yw mai dim ond aelodau Plaid Cymru (Chris Franks a Mohammad Asgar) ac un aelod Llafur sef Joyce Watson sy'n pleidleisio'n gyson o blaid safbwyntiau'r cabinet. Mae'r ddau aelod Llafur arall sef Huw Lewis ac Alun Davies yn ddigon parod i ochri gyda'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Canlyniad hynny yw bod y pwyllgor wedi mynd i drafferth a rheolau sefydlog y Cynulliad trwy fethu cytuno ar adroddiad o fewn y cyfnod pendodedig. Mae pobol y llywodraeth yn gynddeiriog ynghylch y peth ond ar y llaw arall beth yw pwynt cael pwyllgor sy'n ymddwyn fel gwas bach i'r gweinidog?

Geiriau Gwag

Vaughan Roderick | 15:19, Dydd Mercher, 11 Tachwedd 2009

Sylwadau (3)

_1218672_jobcentre150_bbc.jpgMae ffigyrau diweithdra diweddaraf Cymru yn drychinebus. Does dim gair arall sy'n addas i'w disgrifio. O'r cynnydd o 30,000 yn nifer y di-waith trwy Brydain mae bron i hanner y bobol ychwanegol sydd ar y clwt yma yng Nghymru.

Mae'n sicr eich bod yn cofio'r ffordd yr oedd y llywodraeth yn ôl yn yr haf yn brolio am y ffaith bod Cymru'n dioddef llai o'r dirwasgiad na gweddill y DU. Roedd gweinidogion yn ddigon parod i gymryd y clod am hynny.

Mewn datganiadau i'r wasg ar Fehefin 17eg, Gorffenaf 15fed ac Awst 14fed fe froliodd y llywodraeth am lwyddiant polisiau fel Proact a React gan ddefnyddio'r ffigyrau diweithdra fel prawf o hynny.

Beth sy gan y Llywodraeth i ddweud heddiw? Wel, does dim gair yn ei datganiad am y ffigyrau diweithdra. Yn lle hynny mae'n son am y nifer sy'n hawlio budd-daliadau.

Sori, dyw hynny ddim yn ddigon da. Os oedd gweinidogion yn awchu i gymryd y clod yn yr haf mae'n rhaid iddyn nhw dderbyn y bai yn yr Hydref.

Diweddariad Mae'r llywodraeth wedi rhyddhau ail ddatganiad y tro hwn yn cyfeirio at y ffigyrau diweithdra yn benodol. Mae'r Llywodraeth yn cyfaddef bod y ffigyrau yn "siomedig". Dydw i ddim hd yn oed am geisio cyfiethu'r peth yn ei gyfanrwydd!

"It is disappointing that the latest figures show a quarterly rise in ILO unemployment for Wales. This does not however reflect the position over the year (a comparison recommended by the ONS to remove some of the volatility in quarterly figures). In addition, the level of ILO unemployment does not take into account any changes in economic inactivity - a historically important indicator for the Welsh economy. The employment rate for Wales over the year (taking into account unemployment and inactivity levels) shows one of the lowest falls when compared to the rest of the UK - with Wales outperforming London, the South East, Scotland and Northern Ireland (amongst others)."

Ie wir, Syr Wmfra.

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 08:50, Dydd Mercher, 11 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

_1630141_koala300afp.jpgUn o fy ffrindiau pennaf yw Andy Bell, bachan o Loegr wnaeth ddysgu Cymraeg cyn mudo i Awstralia ugain mlynedd yn ôl. Yn ogystal â bod yn gynhyrchydd newyddion gyda'r ABC mae Andy yn gyflwynydd radio ac yn dipyn o flogiwr.

Ta beth, fe wnes i gynnwys dolen i flog-bost ganddo ynghylch "Pobol y Cwm" ar "Rialtwch" y Sul diwethaf ac mae'r ymateb wedi ei berswadio i lansio blog Cymraeg o ben draw'r byd. "" yw enw'r blog ac rwy'n ofni'r gystadleuaeth! Gyda llaw, dyw Andy ddim yn nodi'r ffaith (a dwi'n deall pam) ond Côr Cymry Sydney sydd yn y fideo.

Dyma ychydig o ddolenni eraill difyr yn Awstralia;

Yr unig wrthryfel yn erbyn yr awdurdodau Prydeinig yn hanes Awstralia oedd brwydr y "" . Yr arweinydd oedd un o siartwyr Sir Drefaldwyn .

Dyma ambell i ddolen yn agosach at adref.

Y "". Mae'n wythnos ddathlu'r Fanaweg yr wythnos hon. Dyma'r .

Yn y cyfamser mae yn cwrdd ar ynys Jersi i drafod dyfodol ieithoedd lleiafrifol cynhenid. Ieuan Wyn Jones sy'n cynrychioli Cymru mewn cyfarfod sy'n cael ei weld fel hwb sylweddol i'r ymgyrchoedd munud olaf i ddiogelu Jèrriais a D'Guernesiaise.

Yr unfed awr ar ddeg...

Sbort!

Vaughan Roderick | 15:39, Dydd Mawrth, 10 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

41005.jpgGydag Aneurin Glyndŵr bellach yn cysgu mewn ogof yn disgwyl galwad gan ei wlad lle arall sy 'na i gael dadansoddi gwleidyddol treiddgar a difyrrwch dychanol?

Diolch byth mae Lembit a'r Daily Sport yma o hyd. Mae'n beth amser ers i ni ymweld â'r blaned arbennig honno. I godi'n calonnau felly ar ôl tranc Aneurin bant a ni!

Argymhellion adroddiad Kelly yw'r pwnc cyntaf sy'n poeni aelod Maldwyn. Ar y cyfan mae Lembit o'u plaid ond mae un peth yn ei boeni sef yr awgrym y dylai aelodau seneddol cael eu lletya mewn adeiladau'r llywodraeth.

"What has he got in mind? A giant dormitory, with lights out at 11pm and no visitors? Or just a converted prison where we're all locked up for the night, for our comfort and everyone's safety?"

Paid poeni, Lembit. Go brin y byddai unrhyw un yn dymuno crampio dy steil yn y fath fodd!

I ffwrdd a ni i India bell nesaf. Mae Lembit wedi dod o hyd i stori am ddau wrthryfelwr o Kashmir yn cael eu lladd gan arth. Ydy hi'n bosib y gallai'r un peth ddigwydd i Bin Laden?

"After the billions the Yanks have invested in tracking him down, it would be ironic indeed if he became a tasty snack for Yogi Bear's peckish pals!"

Ar ôl sortio Bin Laden allan mae Lembit yn ôl yn San Steffan ar gyfer ei stori nesaf sef saco'r Athro David Nutt. Yn ôl Lembit mae cyflogi rhyw un i roi barn ac yna ei ddiswyddo am wneud yn warthus. Pa mor warthus? Wel mor warthus â hyn...

"It's like asking Daily Sport babe Bailey to get her kit off, then getting offended because you don't like nudity."

...neu fel darllen y Daily Sport a chwyno eich bod yn teimlo braidd yn frwnt ar ôl gwneud!


Hydref 2010?

Vaughan Roderick | 12:51, Dydd Mawrth, 10 Tachwedd 2009

Sylwadau (1)

Hangman-5.pngRwyf wedi ysgrifennu nifer o weithiau am y danchwa bosib sy'n wynebu Llafur yn yr etholiad cyffredinol nesaf gan gymryd gofal bob tro i gynnwys rhyw gymal fel "gallai pethau newid" neu "os na ddaw achubiaeth o rywle". Dilyn rheol gyntaf Mario Bassini ydw i wrth wneud hynny sef "always leave yourself a get out clause"!

Mae'n hawdd anghofio weithiau maint y mynydd sy'n wynebu'r Ceidwadwyr yn 2010. Oherwydd amryfal resymau yn ymwneud a'r nifer o etholwyr ym mhob etholaeth a dosraniad cefnogwyr y pleidiau mae angen cythraul o ogwydd i'r Ceidwadwyr er mwyn i'r blaid ennill mwyafrif dros bawb.

Yn ôl y gwrw etholiadol Michael Thrasher o brifysgol Plymouth fe fydd angen i'r Ceidwadwyr fod deuddeg pwynt ar y blaen i Lafur yn y bleidlais boblogaidd (40% i 28%, dyweder) er mwyn sicrhau mwyafrif o un sedd. Mae arolwg a gyhoeddwyd y bore 'ma yn awgrymu mai cael a chael fydd hi. Yn ôl mae'r Ceidwadwyr ar y blaen o 39% i 29%. Fe fyddai canlyniad felly yn yr etholiad yn arwain at senedd grog.

Mae seneddau crog yn bethau prin yn San Steffan. Rhaid mynd yn ôl i saithdegau'r ganrif ddiwethaf i ganfod yr un ddiwethaf. Serch hynny, mae'n werth ystyried beth fyddai'n digwydd pe na bai'r etholiad cyffredinol nesaf yn cynhyrchu llywodraeth fwyafrifol.

Os oedd y naill blaid fawr neu'r llall wedi syrthio mymryn yn brin o fwyafrif fe fyddai na ddau ddewis yn wynebu arweinydd y blaid honno. Y dewis cyntaf fyddai ffurfio llywodraeth leiafrifol gyda'r bwriad o alw ail etholiad o fewn byr o dro. Dyna wnaeth Harold Wilson yn 1974 a dyna, dwi'n amau, fyddai dewis David Cameron. Y dewis arall fyddai ceisio llunio clymblaid neu gytundeb a phlaid arall er mwyn sicrhai llywodraeth hir-dymor. Rwy'n amau y byddai Gordon Brown yn ceisio dilyn y trywydd hwnnw.

Mae 'na fath arall o senedd grog yn bosib- un lle'r oedd y ddwy blaid fawr mwy neu lai'n gydradd a'i gilydd o safbwynt eu niferoedd.

Y ffactor allweddol mewn sefyllfa felly fyddai nifer aelodau'r Democratiaid Rhyddfrydol ac a fyddai'r nifer yna'n ddigon i roi mwyafrif i'r naill blaid neu'r llall. Fe fyddai hynny'n dibynnu ar faint o aelodau oedd gan y Democrataid Rhyddfrydol o gymharu a chyfanswm aelodau'r DUP, SNP, Plaid Cymru, aelodau annibynnol ayb. Mae'r Democrataid Rhyddfrydol ar y blaen yn gyffyrddus i'r "aelodau eraill" ar hyn o bryd ond gallai pethau newid yn ddigon hawdd. Yn y senario gyntaf fe fyddai nifer y Democratiaid Rhyddfrydol yn ddigonol ac fe fyddai'r blaid mewn sefyllfa hynod rymus, yn yr ail sefyllfa lle'r oedd y pleidiau llai a'r llaw flaenaf fe fyddai 'na fawr o ddewis ond galw ail etholiad.

O gymryd hyn oll i ystyriaeth mae 'na bosibilrwydd go iawn nad un etholiad cyffredinol fydd yn cael ei gynnal yn 2010 ond dau. O gofio bod 'na etholiad cynulliad yn 2011 ac, o bosib, refferendwm i'w ffitio mewn yn rhywle gallai'r deunaw mis nesaf fod yn loddest gwleidyddol!

Unrhyw esgus

Vaughan Roderick | 10:00, Dydd Mawrth, 10 Tachwedd 2009

Sylwadau (2)

Diolch i Gareth am hon!

Beth sydd wedi digwydd i , neu Anuerin fel mae'n galw 'i hunan nawr?

Fel dwedais i, unrhyw esgus.

Beth am oedi am eiliad i gofio'r hyn ddywedodd wrth lansio'r gwefan yn ei erthygl "An Obama Moment for Welsh Labour";

"Our aim is to build a network of progressive people who are interested in politics, but are not obsessed with it. That is the one danger of blogging, it can become the preserve of a self-appointed elite. We already have the core activists, what we need to do now is reach out and mobilise the millions of people who, although they might never go to a Labour Party meeting, will work hard to stop the Tories getting into power again."

Mae hynny braidd yn wahanol i "Online resource for Labour Party Members in Wales"!

Bratiaith a thafodiaith

Vaughan Roderick | 20:02, Dydd Llun, 9 Tachwedd 2009

Sylwadau (5)

_40334607_rhydfelen_203.jpgMae 'na bost difyr iawn gan Hywel draw ar ei flog ynghylch tafodiaith Cwmafan a Phort Talbot a'r ymgyrch i'w diogelu. Mae'n dafodiaith hyfryd ac am wn i mae 'na ddigon yn ei defnyddio i sicrhau bod elfennau ohoni yn goroesi yn y Gymraeg sy'n cael ei siarad gan blant yr ysgolion Cymraeg lleol.

Mae'r Wenhwyseg hefyd yn dafodiaith hyfryd ond er bod ambell un yn dal i'w siarad mae unrhyw obaith mai hi fyddai tafodiaith cynnyrch ysgolion Cymraeg y de-ddwyrain wedi hen ddiflannu. Y dewis, mae'n debyg, yw rhwng rhyw fath o Gymraeg ddeheuol safonol a'r hyn yr oedd pobol arfer dilorni fel "Rhydfeleneg".

Mae'n anodd credu ond mae rhai o ysgolion Cymraeg y de-ddwyrain bellach yn croesawi wyrion a gorwyrion eu cyn-ddisgyblion i'r buarth. Maent yn ceisio dysgu Cymraeg safonol i'r plant ond onid yw hi'n bryd i dderbyn bod ambell beth wedi symud o fod yn fratiaith i fod yn dafodiaith?

Hynny yw, os ydy plant sy'n cael eu magu ar aelwydydd Cymraeg yn clywed eu rhieni a'u neiniau a'u teidiau yn dweud pethau fel "fi gyda" yn hytrach na "mae gen i" onid yw hi'n bryd i ni dderbyn bod hynny bellach yn dafodiaith leol pa mor bynnag boenus yw hi i ambell i glust?

Dim ond gofyn.

Tân ar y comin

Vaughan Roderick | 10:09, Dydd Llun, 9 Tachwedd 2009

Sylwadau (5)

_39870454_house203.jpgMae newyddiadurwyr yn hoff o'r achlysuron hynny sy'n ein galluogi i balu yn yr archif ac yn ein rhyddhau rhag gorfod chwilio am straeon newydd! Mae 'na lu o achlysuron felly wedi bod eisoes eleni. Cafwyd eitemau celfydd a rhaglenni cyfan yn nodi ei bod hi'n chwarter canrif ers streic y glowyr, yn ddeng mlynedd ar hugain ers ethol Margaret Thatcher ac yn ddeng mlwyddiant sefydlu'r cynulliad. Yr wythnos hon rydym yn i gyd yn mynd yn benwan walics ynghylch cwymp wal Berlin er nad oedd ambell i newyddiadurwr Cymraeg yn meddwl bod hi'n fawr o stori ar y pryd!

Ymhen rhyw fis fe fydd 'na ben-blwydd arall, un sy'n weddol saff o gael ei anwybyddu neu ei anghofio. Fe fydd hi'n ddeng mlynedd ar hugain ers i ni ddihuno i glywed y newydd bod hanner dwsin o dai haf wedi eu llosgi mewn dau glwstwr yn Sir Benfro a Phen LlÅ·n. Doedd dim angen bod yn athrylith i synhwyro nad cyd-ddigwyddiad oedd y tannau a bod cymhelliad gwleidyddol wrth wraidd yr ymosodiadau.

Dros y pymtheg mlynedd nesaf roedd 'na ryw 220 o dannau mewn tai haf. Yn ogystal gosodwyd bomiau cyntefig y tu allan i swyddfeydd Ceidwadol, swyddfeydd recriwtio'r fyddin a thargedi eraill. Fe gafwyd ambell un yn euog am yr ail set o ymosodiadau ond bron neb am yr ymosodiadau ar dai haf. Hynny er i'r heddlu gynnig gwobr o £50,000 am wybodaeth a gwneud apêl yn Gymraeg ar "Crimewatch". O'r rheiny gwnaeth ymddangos gerbron llys "hunan liwtwyr" neu gymeriadau ecsentrig oedd y rhan fwyaf. Dyw'r mwyafrif llethol o'r achosion ddim wedi eu datrys hyd heddiw.

Fe barodd yr ymosodiadau am gyfnod hwy o lawer na helyntion Becca. Roedd 'na lawer mwy o ymosodiadau nac yn ystod helbulon Tryweryn a'r Arwisgiad ac eto mae'r cyfan yn prysur gael ei anghofio neu o leiaf yn cael ei sgubo dan y carped.

Mae'r rhesymau am hynny yn ddigon amlwg. Dyw'r bobol oedd yn gyfrifol ddim am deimlo dwylo'r plismyn ar eu coleri ar ôl cymaint o amser. Dyw Heddluoedd y Gogledd a'r Gorllwein ddim am gofio sut y gwnaethon nhw lwyddo i gythruddo a cholli cefnogaeth cymunedau cyfan trwy ddefnyddio tactegau llawdrwm a gwirion megis "Operation Tân". Mae Heddlu'r De, ar y llaw arall, yn cywilyddio ynghylch cyfnod yn ei hanes sy'n frith o achosion lle cyhuddir plismyn o gamymddwyn ac o ddweud celwydd ar lw.

Dyw'r cenedlaetholwyr parchus yn y Cabinet a'r Cynulliad ddim am atgoffa pobol o eithafiaeth o'r fath ac, ac eithrio ambell i un y blaid Lafur, mae gwleidyddion y pleidiau eraill wedi sylweddoli bod 'na gymaint o bleidleisiau i'w colli ac sydd 'na i'w hennill trwy ailgynnau'r rhyfeloedd iaith.

Fe fydd haneswyr y dyfodol yn pwyso a mesur goblygiadau'r tannau. Efallai ei bod hi'n rhy gynnar i ni wneud hynny ond gallwn ddweud hyn.

Roedd yr ymosodiadau yn un o ddau beth.

Mae'n bosib bod grŵp bychan disgybledig o bobol wedi llwyddo i gynnal ymgyrch o losgi a bomio am dros ddegawd heb gael eu dal. Mae'n bosib hefyd nad oedd 'na fawr o drefniadaeth i'r peth ar ôl y noson gyntaf honno yn Rhagfyr 1979. Mae'n hawdd dychmygu bod pwy bynnag oedd yn gyfrifol am y tannau cyntaf hynny wedi camu yn ôl ar ôl cynnu'r ffiws a bod y tannau ar ôl hynny'n eiddo i unigolion a grwpiau bychan oedd a fawr o gysylltiad â'i gilydd.

Efallai bod y gwir yn gorwedd rhywle rhwng y ddau.

Y naill ffordd neu'r llall doedd y tannau ddim yn ddigwyddiad dibwys yn hanes Cymru. Maen nhw'n rhan annatod o'r cyfnod pwysicaf, efallai, yn ein hanes sef y cyfnod rhwng "tranc Cymru" yn 1979 a'i "dadeni" yn 1997.

Wedi ei olygu (dyfynodau ar "dadeni") 18.08

Rialtwch

Vaughan Roderick | 18:39, Dydd Sadwrn, 7 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

cinema_projector203.jpg
Rwy'n rhyfeddu at boblogrwydd y sioe ffilmiau fach yma. Erbyn hyn mae 'na dros gant o ffilmiau yn y fasged awgrymiadau, er efallai nad yw pob un yn gwbl gymwys ar gyfer gwefan teuluol! Mae'r ddwy ffilm gyntaf o'r UDA ac yn dod i frig y rhestr oherwydd eu bod yn hynod gyfoes.

Hysbyseb o blaid priodasau hoyw yn nhalaith Maine yw'r gyntaf. Fe gollodd cefnogwyr priodasau o'r fath o drwch blewyn ond nid cyn cynhyrchu'r hysbyseb hynod ddoniol ac effeithiol yma.

Un i'r anoracs yw'r ffilm nesaf o'r gwefan Ceidwadol . Hwn yw'r esboniad gorau i mi weld o bwysigrwydd brandio mewn gwleidyddiaeth.

Dydw i ddim am eu cynnwys yn fan hyn ond draw ar ei flog yn Awstralia mae Andy Bell wedi postio ambell i uchafbwynt o "Pobol y Cwm". Cliciwch yn .

Rhai o berlau'r BFI sydd nesaf. Dyma Gaerdydd yn 1926 mewn lliw!

Dydw i ddim yn meddwl fy mod wedi cynnwys y ffilm yma o Eisteddfod 1916 o'r blaen. Os ydw i, rwy'n ymddiheuro- ond mae gan bob sianel ambell i "repeat"!

Cymru'n ddwy?

Vaughan Roderick | 00:37, Dydd Sadwrn, 7 Tachwedd 2009

Sylwadau (2)

_40467815_carwynjones_bbc_203.jpgSganio'r datganiadau dyddiol gan yr ymgeiswyr am yr arweinyddiaeth Llafur cyn eu hanwybyddu y mae dyn yn gwneud gan amlaf ond mae'r un diweddaraf gan Carwyn Jones wedi achosi cryn gynnwrf ymhlith mawrion y Blaid Lafur a Phlaid Cymru.

Y paragraff ynghylch gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi gwylltio rhai o'i gyd-lafurwyr. Dyma mae Carwyn yn dweud.

"Three years after the Beecham Report, it is time for the Local Service Boards to show they are delivering. Are they meaningful structures to advance public service collaboration or are they simply sticking-plaster? Are they driving real change in service delivery, or are they just talking shops?"

Mae hynny'n cael ei weld ymosodiad amlwg ar Andrew Davies, un o brif-gefnogwyr Edwina ac yn arwydd na fyddai 'na le i Andrew mewn cabinet wedi ei arwain gan Carwyn.

Ail rhan y datganiad yngylch refferendwm ar gynyddu pwerau'r cynulliad sydd wedi
gwylltio rhai o bobol Plaid Cymru. Dyma sydd gan Carwyn i ddweud;

"I am totally committed to what was agreed in 'One Wales' but that should in no way preclude my responsibility, if elected Leader, to consult within the wider Party on the findings and recommendations of the All Wales Convention... consideration of the Convention's report must not be a matter solely for AMs to decide - it must involve the entire Labour movement in Wales, AMs, MPs, grassroots members and trade unions."

Yn ôl pobol Plaid mae cytundeb "Cymru'n un" yn eglur mai mater i'r Prif Weinidog a'i ddirprwy yw amseriad refferendwm ac y bydd pleidlais yn cael ei chynnal erbyn 2011 os nad yw'r ddau yn cytuno i'r gwrthwyneb.

Yng ngolwg rhai mae Carwyn yn ceisio rhoi hawl feto i Lafur sy'n groes i'r cytundeb. Yng ngeiriau un pleidiwr fe allai hynny o bosib bod yn "deal-breaker".



Trioedd Ynys Echni

Vaughan Roderick | 14:09, Dydd Gwener, 6 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

wtb_llanfairpwll340.jpg1. Rhodri ar ei orau. Heno fe fydd Rhodri Morgan yn cyflwyno yr Archif Wleidyddol Gymreig yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Yn anffodus dydw i ddim yn gallu bod 'na ond ar ôl darllen y ddarlith fedra i ddweud bod pobol y Llyfrgell yn mynd i glywed Rhodri ar ei fwyaf Rhodri-aidd. Pwy arall ond Prif Weinidog Cymru fyddai'n gallu cynnwys cyfeiriad at orsaf enwocaf Ynys Môn yn ei frawddeg agoriadol?

2. Un arall! Mae'n debyg eich bod yn cofio'r fusnes ynghylch sianel YouTube "Llywodraeth Cymru". Mae Clouseaus TÅ· Hywel yn dal i geisio canfod pwy oedd yn gyfrifol. Yn y cyfamser rwy'n diolchgar i Dafydd am dynnu fy sylw at sianel YouTube arall. yw hi'r tro hwn. Mae'n ymddangos nad sianel ffug yw hon ond fe wna i ychwanegu sylwadau Dafydd;

"Mae nhw'n cael ychydig bach o drafferth gyda'i collnodau ond mae cynnwys tipyn mwy gwreidiol a diddorol ar hwn.Synnu nad oes llawer o sylw wedi ei roi iddo. Fi yw'r cyntaf i danysgrifio a prin neb sydd wedi gwylio'r fideos"

3. Moch Daear a Mwy. Fe bleidleisiodd aelodau'r Cynulliad o fwyafrif sylweddol o blaid bwrw ymlaen a'r cynllun i ddifa moch ddaear yn gynharach yn yr wythnos. Ymhlith y gwrthwynebwyr roedd Huw Lewis. Ydy hynny'n golygu y byddai Huw yn ceisio stopio'r cynllun pe bai'n Brif Weinidog? O leiaf ni fyddai hynny'n peryglu'r glymblaid... yn wahanol i rai o'r pethau sy'n cael eu dweud yn y ras i arwain Llafur. Mwy am hynny yfory! Yn y cyfamser dyma i erthygl difyr a phwysig (dwi'n meddwl) gan Alun Davies draw ar WalesÂ鶹ԼÅÄ.

Yn fy Marn i

Vaughan Roderick | 10:47, Dydd Gwener, 6 Tachwedd 2009

Sylwadau (2)

_44874133_alunffred152.jpgNid fy lle i yw rhoi hysbyseb misol i gylchgrawn Barn ond anaml iawn y dyddiau hyn mae rhifyn o'r cylchgrawn yn ymddangos nad yw'n haeddu post bach. Y mis hwn mae 'na ddau beth yn denu fy sylw. Y cyntaf yw sylwadau cryf y Gweinidog Diwylliant Alun Ffred Jones ynghylch cyflwr y theatr Gymraeg.

"Ers tua ugain mlynedd, fwy neu lai" medd y Gweinidog "dwi'n teimlo bod y bwrlwm a'r cynnwrf wedi mynd allan o'r theatr Gymraeg. Dyden ni ddim yn cynhyrchu stwff mentrus heriol da"

Digon teg. Ond pwy sy'n gallu rhoi cic yn eu tinau os nad y Gweinidog Diwylliant?

Trwy gyd-ddigwyddiad lansiwyd Theatr Genedlaethol Saesneg Cymru'r wythnos hon gan ddenu sylw neb llai na Radio 4 lle fu'n rhaid i'r cyfarwyddwr John McGrath ateb y cwestiwn rhyfeddol yma;

I understand but we know that this is a big political issue in Wales, you are confident that you won't have people standing outside the theatre with placards which many of your actors and writers won't be able to read, protesting about the fact that it's all in English?

Mae 'na fwy am hynny draw ar flog Betsan.

capel_als_i226.jpgUn arall o gyfrifoldebau Alun Ffred yw testun yr ail erthygl sy'n denu fy sylw yn "Barn" sef un gan gyflwynydd Newyddion Deg y Â鶹ԼÅÄ, Huw Edwards. Tynnu sylw at gyflwr ein capeli mae Huw yn "Chwalfa" (erthygl sydd ar gael ). Nid eu cyflwr ysbrydol na chrefyddol sy'n becso Huw ond cyflwr eu hadeiladau a'r ffordd y maen nhw'n cael eu gadael i bydru.

Mae'n amlwg bod Huw ar dipyn o grwsâd yn fan hyn. Mae e wedi treulio pedair blynedd yn ymchwilio ac ysgrifennu llyfr ynghylch Capeli Llanelli sydd i'w gyhoeddi ar Ragfyr 5ed. Mae Huw'n poeni'n arw bod cymaint o adeiladau capel yn cael eu colli. Wedi'r cyfan rhain yw'r peth agosaf sy 'da ni at bensaernïaeth genedlaethol Gymreig.

Ond sut mae eu hachub nhw? Yn achos Llanelli mae 'na 22 capel yng nghanol y dref yn unig gyda 20 arall yn y pentrefi cyfagos. Nid yw'n bosib troi pob un yn Amgueddfa neu'n Ganolfan Gymunedol!

Mae hynny'n dod a ni at y ynghylch troi capel yng Nghasnewydd yn fosg a'r protestiadau yn erbyn hynny gan yr "English and Welsh Defence League".

Mae unrhyw un sydd wedi bod mewn mosg oedd arfer bod yn gapel yn gwybod bod yr addasiadau hyn yn cael eu gwneud gyda'r parch mwyaf a chan newid cyn lleied ac sy'n bosib. Yn fy mosg lleol i, er enghraifft, mae'r holl gerrig coffa i weinidogion ac aelodau 'r eglwys fu farw mewn rhyfel wedi eu cadw. Mae'n rhaid i'r seddi fynd, wrth gwrs, ond yn achos capel Casnewydd roedd hynny wedi digwydd blynyddoedd yn ôl.

Yr wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd Alun Ffred Jones bod cymorthdal oyn cael ei rhoi i ddiogelu un adeilad Capel hynod bwysig. Capel Victoria Road yng Nghasnewydd yw hwnnw, yr union gapel y bu'r dde eithafol yn protestio yn ei gylch! Cymdeithas Islamaidd Gwent sy'n derbyn yr arian ac yn sicrhau bod un adeilad hanesyddol o leiaf yn cael eu diogelu.


Popeth yn Gymraeg

Vaughan Roderick | 16:14, Dydd Iau, 5 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

_40875791_draiggoch203.jpgUn o'r cwestiynau sy'n poeni gwleidyddion ( a ni yn y cyfryngau hefyd) yw'r diffyg dealltwriaeth ynghylch datganoli. Ydy pobol yn deall pwy sy'n gyfrifol am beth, yn enwedig yn sgil setliad cymhleth ail fesur Llywodraeth Cymru?

Un cwestiwn oedd erioed wedi fy nharo oedd hwn. Ydy'r llywodraethau yn deall natur y setliad cyfansoddiadol?

Cymerwch gip ar wefan safle swyddogol llywodraeth y DU sy'n brolio ei fod yn cynnig "gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn yr un lle".

Jyst y lle i ddysgu am ein cyfundrefn ysgolion! Bant a ni felly i'r .

Mae 'na lwyth o wybodaeth yn fan hyn a'r cyfan yn Gymraeg. Gallwn ddysgu er enghraifft bod "gan bob plentyn yn Lloegr rhwng pump ac 16 oed hawl i gael lle am ddim yn un o ysgolion y wladwriaeth". Cawn ddarllen am Ysgolion Gramadeg, Academïau a Cholegau Technoleg Dinas a chanfod beth mae Ofsted yn meddwl ohonyn nhw.

Arhoswch eiliad. Ofsted? Ysgolion Gramadeg? Academiau? Mae popeth yn fan hyn yn berthnasol i Loegr ac mae rhan helaeth o'r wybodaeth yn berthnasol i Loegr yn unig. Hyd y gwela i does 'na ddim dolen i'ch cymryd i safle a'r wybodaeth berthnasol am Gymru.

Mae 'na ddau esboniad posib.

1. Mae Whitehall yn credu bod 'na ddigon o Gymry Cymraeg yn byw yn Lloegr i gyfiawnhau gwasanaeth Cymraeg.

2. Mae rhywun nad yw'n deall y setliad cyfansoddiadol wedi comisynu darn o waith cyfiethu cwbwl diangen ac mae'r cyfiethydd wedi dweud "thanciw fawr" a phocedi'r pres.

Nawr fe fyddai hyn o fawr o bwys oni bai am un peth.

Ystyriwch eich bod yn rhiant yng Nghymru ac eisiau cael gwybodaeth am ysgolion ffydd. Teipiwch y geiriau yna i mewn i Google. Gesiwch pa dudalen mae'r peiriant chwilio yn cynnig?

Jyst Dwedwch Ie

Vaughan Roderick | 14:23, Dydd Iau, 5 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

tn-DARE08en.jpgMae David Cameron yng Nghymru yfory a heb os mae'n disgwyl clywed cwestiwn y mae'n wynebu pob tro mae'n dod yma sef hwn;

"A fyddai Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol yn San Steffan yn ystyried gwrthod cais gan y Cynulliad am refferendwm ar bwerau deddfu llawn ?"

Byswn i'n rhyfeddu pe na bai Arweinydd yr Wrthblaid wedi cael llond bol ar y cwestiwn erbyn hyn!

Y ffordd orau i gael gwared ar gwestiwn yw ei ateb ac mae'n debyg mai dyna fydd yn digwydd yfory.

A'r ateb tebygol? "Na fyddai".

Fe fyddai hynny'n fuddugoliaeth bwysig i Ceidwadwyr y Cynulliad ac yn dipyn o glec i ambell Aelod Seneddol.

Mynd drot drot

Vaughan Roderick | 12:54, Dydd Iau, 5 Tachwedd 2009

Sylwadau (3)

RASUS.jpgCafodd gyfaill i mi ar Ynys Môn alwad ffôn y dydd o'r blaen yn gofyn i bwy yr oedd e'n bwriadau pleidleisio yn yr etholiad cyffredinol. Darllenodd y galwr rhestr o enwau'r ymgeiswyr ar yr ynys ond doedd 'na ddim arwydd pwy oedd yn cynnal yr arolwg. Serch hynny, rwy'n gwybod dau beth.

Yn gyntaf, mae arolwg lle nad yw enw cwmni'n cael ei ddefnyddio gan amlaf yn arolwg talcen slip gan un o'r pleidiau. Y bwriad yw casglu gwybodaeth er mwyn penderfynu ym mha etholaethau y dylid buddsoddi arian ac egni.

Yr ail beth rwy'n gwybod yw nad yw gweithwyr pleidiau yn gallu gwrthsefyll y demtasiwn i fentro swllt ar sail canlyniadau arolygon! Allan o ddiddordeb felly, beth am gael cipolwg ar brisiau Ladbrokes ar gyfer Ynys Môn ac un neu ddwy o etholaethau eraill?

Ynys Môn.

Plaid Cymru 1/3
Llafur 9/4
Ceidwadwyr 16/1
Dem. Rhydd. 100/1

Mae'n weddol hawdd dyfalu beth oedd canlyniad yr arolwg yna! Mae'n amlwg hefyd nad yw "punters" Ladbrookes yn ystyried yr Arfon newydd yn sedd ymylol. 1/10 yw pris Plaid Cymru gyda Llafur yn 6-1.

Y Toriaid sy'n denu'r pres yn Aberconwy;

Ceidwadwyr 2/7
Plaid Cymru 7/2
Llafur 8/1
Dem. Rhydd 25/1

Mae'n amlwg bod Lembit (2/5) a Glyn (7/4) ill dau yn temtio pobol ym Maldwyn tra bod Llafur a'r Ceidwawyr yn 5/6 yng Ngorllewin Casnewydd. Gellir gweld gweddill y prisiau yn . Dyw Ladbrokes ddim yn cynnig prisiau ar gyfer y ras ym Mlaenau Gwent na'r un rhwng Jim Parc Nest a Mererid Hopwood. Dydw i ddim yn beio nhw!

Alun, Janet ac Adam

Vaughan Roderick | 18:10, Dydd Mercher, 4 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

_45598112_parliament_bbc226.jpgWedi ei gladdu yng nghrombil ar lwfansau Aelodau seneddol mae 'na gymal bach difyr ynghylch aelodau sydd â mandad dwbl, hynny yw pobol sy'n Aelodau Seneddol yn ogystal â bod yn aelodau o gyrff datganoledig. Dyma mae Kelly'n dweud.

...for reasons of recent history, 16 out of 18 Northern Ireland Westminster MPs are also members of the Northern Ireland Assembly... The only other example of dual mandates is that the First Minister of the Scottish Parliament is also an MP... We recommend that 'double jobbing', as it is known in Northern Ireland, should be brought to an end, ideally by the next elections to the Assembly in 2011.

Does 'na neb yng Nghymru yn y sefyllfa hon ar hyn o bryd er bod rhyw hanner dwsin wedi bod yn y gorffennol.

Mae 'na ddau Aelod Cynulliad sy'n bwriadu sefyll yn yr Etholiad Cyffredinol sef y Ceidwadwr Alun Cairns ac aelod Plaid Cymru Janet Ryder. Pe bai'r naill neu'r llall yn cael ei ethol, o dderbyn ysbryd argymhellion Kelly, fe fyddai disgwyl iddyn nhw ymddiswyddo o'r cynulliad o fewn byr o dro.

Yn achos Janet Ryder fe fyddai na fawr o broblem i Blaid Cymru. Fe fyddai Dafydd Wigley, fel yr ail enw ar restr y blaid yn y Gogledd, yn cymryd ei lle.

Mae sefyllfa'r Ceidwadwyr yn fwy anodd. Pe bai Alun yn ymddiswyddo, yna'r gwleidydd dadleuol o Borthcawl, Chris Smart, fyddai'n cymryd ei le. Rwy'n dewis fy ngeiriau'n ofalus wrth ddweud nad yw'r Torïaid yn torri eu boliau i weld Chris yn Aelod Cynulliad!

Gair wrth fynd heibio am y ffaith bod Janet Ryder yn sefyll yn Ne Clwyd. Does 'na fawr o obaith iddi ennill yn 2010. Rwy'n cymryd mai paratoi'r tir ar gyfer sefyll yn yr etholaeth yn 2011 mae Janet. Mae'r sedd o bosib, yn well bet 'na rhestr y Gogledd iddi yn etholiad y Cynulliad. Yn yr un modd fe fyddai'n rhyfeddod pe na bai Nerys Evans o leiaf yn ystyried sefyll yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro yn 2011.

Rwyf hefyd yn fwyfwy sicr na fydd Adam Price yn sefyll yr etholaeth honno na Chastell Nedd yn 2011. Rwy'n meddwl bod yr hyn sgwennodd beth amser yn ôl yn llygaid ei le. Fe fyddai colli sedd darged ar ôl bod o'r allan o'r wlad am flwyddyn gron yn andwyol iawn i Adam. Sefyll mewn sedd llai addawol fyddai'r peth gorau i wneud. Fe fyddai ganddo fe ryw faint o obaith ennill ac o golli, wel, fe fyddai fe wedi cymryd hit dros y tîm.

Gorllewin Caerdydd oedd awgrym Seimon fel etholaeth y gallai Adam sefyll ynddi. Mae hynny'n un posibilrwydd ond mae 'na un ddau o rai eraill yn y cymoedd a allai fod yn werth eu hystyried.

Cwympo ar eu bae

Vaughan Roderick | 15:02, Dydd Mercher, 4 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

_696366_barrage_300.jpgDydw i ddim yn gwybod sut mae disgrifio'r tywydd yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Dyw Haf Bach Mihangel ddim yn ddigonol, rhywsut, am sefyllfa lle mae pobol yn crwydro o gwmpas mewn crysau T a siorts ar drothwy Noson Tan Gwyllt. Hwyrach y byddai Haf Mawr Mihangel yn gwneud y tro!

Ta beth, gellid maddau i Rhodri Morgan pe bai e'n credu bod y duwiau'n gwenu ar ei wythnosau olaf mewn gwleidyddiaeth rheng flaen. Wrth iddo edrych allan o'i swyddfa ar yr olygfa heulog mae'n gweld dinas sydd wedi ei thrawsnewid ers iddo gamu mewn i wleidyddiaeth yn y 1980au.

Fe fyddai ambell wleidydd yn cael ei demptio i gymryd y clod. Dyw Rhodri ddim yn ceisio gwneud hynny. Mae'n ymwybodol efallai o'r eironi bod y rhan fwyaf o'r pethau mae'n gallu eu gweld trwy ei ffenest yn bethau y gwnaeth e eu gwrthwynebu!

Doedd e ddim yn ffan o'r syniad o DÅ· Opera. Roedd yn well ganddo'r "bog on stilts" ym maes parcio TÅ· Hywel na Senedd Richard Rogers ac fe wnaeth ei dactegau seneddol clyfar gohirio adeiladau bared Bae Caerdydd am flynyddoedd.

Mae'n ffaith ryfeddol bod Mesur Bared Bae Caerdydd wedi llyncu mwy o amser seneddol nac unrhyw fesur arall yn hanes San Steffan, mwy hyd yn oed na diddymu'r deddfau Å·d a mesurau hunan lywodraeth Iwerddon yn oes Victoria! Yn yn o'r dadleuon fe siaradodd Rhodri am bron i dair awr. Fe fyddai hynny'n dipyn o dasg i unrhyw un arall ond rwy'n amau y byddai Rhodri wedi gallu cario ymlaen am oriau'n fwy pe bai angen.

Dydw i ddim yn cofio'r union ddyfyniad ond fe ddywedodd Chris Moncrief prif ohebydd y "Press Association" rhywbeth fel "Government's come, governemnt's go, empires rise and empires fall but the Cardiff Bay Barrage Bill stand eternal"!

Yng Ngeiriau Rhodri ei hun () "There is Budget day ; there is the autumn statement ; there is the Loyal Address and the Cardiff Bay Barrage Bill at one of its stages--Second Reading, Report, or Third Reading--either as a private Bill or as a public Bill. Whatever else happens, there must be the Cardiff Bay Barrage Bill in any parliamentary Session."

Ddeng mlynedd yn ôl i heddiw fe lifodd dwr y môr allan o Fae Caerdydd am y tro olaf. Caewyd y gatiau ac yn raddol fe ddiflannodd y mwd o dan ddyfroedd afonydd Taf ac Elai.

Mae 'na ambell i bloryn pensaernïol yn y Bae ac mae'n deg dweud nad yw'r ail ddatblygu wedi gwneud rhyw lawer dros y bobol oedd eisoes yn byw yma. Mae'r bobol sy'n weddillion o'r hen Tiger Bay bron mor dlawd a difreintiedig ac erioed. Serch hynny mae'n anodd dadlau nad yw gweledigaeth Nicholas Edwards wedi profi'n drech nag amheuon Rhodri Morgan.

Cofiwch nid Rhodri oedd yr unig wleidydd oedd yn methu gweld pwynt y cynllun. Dydw i ddim yn cofio ym mha etholiad ac yng nghwmni pa Ysgrifennydd Gwladol yr oedd John Major pan wnaeth e ymweld a'r Bae ar ddiwrnod heulog digon tebyg i heddiw.

Syllodd y Prif Weinidog ar fwd y Bae yn disgleirio yn yr haul.

"Aren't the mudflats beautiful?" meddai Major wrth i wyneb yr Ysgrifennydd Gwladol gochi.

"Actually, Prime Minister..."

Rhyfedd Iawn

Vaughan Roderick | 14:08, Dydd Mercher, 4 Tachwedd 2009

Sylwadau (9)

2093_13600_file_eng_Welsh-Assembly-Government-Logo_195_159.jpgFe wnaeth Betsan a finnau dynnu sylw ddoe at sianel "" Llywodraeth y cynulliad gyda dewis eang o fideos proffesiynol iawn yr olwg er eu bod yn cynnwys ambell i wall yn enwedig yn Gymraeg.

Dyma esiampl o'r cynnwys;

Sylwch ar y geiriau ar y diwedd "brought to you by the Welsh Assembly Government" ynghyd a logo'r Llywodraeth.

Mae'r cynnwys i gyd yn ffafriol i'r llywodraeth neu o leiaf yn niwtral ac mae'n cynnwys deunydd fideo o mor bell yn ôl a 1997 ac mor ddiweddar â ddoe.

Mae 'na broblem. Does neb yn y llywodraeth yn gwybod pwy sy'n gyfrifol! "Nid ni" medd swyddfa'r wasg. "Smo fi'n gwybod" medd... wel, medd un ddylai wybod!

Cwmni yn trial am gytundeb, efallai? Myfyrwyr? Y person mwyaf trist yn y byd? Dyn a ŵyr. Oes unrhyw un yn gallu helpu?

Yr awdur a'r darlledwr Hywel Williams, Yr Athro Howard Williams o Brifysgol Aberystwyth, a'r ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus Elin Wyn a fu'n byw yng Ngwlad Pwyl a'r Undeb Sofietaidd yw'r gwesteion ar CF99 heno.

Fe fyddwn yn trafod yr effaith gafodd cwymp wal Berlin ar Ewrop a dyfodol y cyfandir yn sgil cadarnhau cytundeb Lisbon.

Ffrindiau fel rhain

Vaughan Roderick | 17:06, Dydd Mawrth, 3 Tachwedd 2009

Sylwadau (9)

alun_davies.jpgMae Alun Davies yn cefnogi Carwyn Jones yn y ras i arwain Llafur Cymru. Go brin y byddai dyn yn credu hynny o glywed y slamad y rhoddodd Alun i Arweinydd y TÅ· yn y cynulliad heddiw!

Roedd Alun yn siarad yn ystod y ddadl ynghylch yr LCO iaith, gorchymyn, sydd yn ôl Alun, yn gyfyng, yn gul ac yn anghyflawn. Aeth yn ei flaen i gyfeirio at honiadau Carwyn bod y gyfundrefn LCO bellach yn gweithio'n effeithiol.

Y gwrthwyneb sy'n wir yn ôl Alun. Dywedodd fod y gyfundrefn wedi ei defnyddio i glymu dwylo'r cynulliad a'i rhwystro rhag cyflwyno deddfwriaeth effeithiol ynghylch y Gymraeg. Ychwanegodd ei fod wedi cael llond bol ar y system LCO gan alw am gynnal refferendwm ar bwerau deddfu llawn "cyn gynted a bo modd".

Nawr, i ryw raddau, does a wnelo'r ffrae yma ddim byd a'r LCO iaith. Roedd sylwadau Carwyn (fel darlith Peter Hain wythnos ddiwethaf) yn rhan o ymdrech i gadw'r penderfyniad ynghylch amseriad y refferendwm yn nwylo'r gwleidyddion. Ofn rhai, ac mae'n ymddangos bod Carwyn yn un ohonyn nhw, yw y bydd argymhelliad Confensiwn Syr Emyr mor ddigyfaddawd nes gadael y llywodraeth a fawr o ddewis ond galw pleidlais.

Gallwch ddeall ofnau Carwyn. Meddyliwch pa mor drychinebus fyddai ei sefyllfa pe bai'n cael ei ethol yn Brif Weinidog, yn galw pleidlais fel un o'i gweithredoedd cyntaf a bod y refferendwm yn cael ei cholli.

Mae 'na ffordd allan o'r picl yna. Fe fydd adroddiad y Confensiwn yn cael ei gyhoeddi ar Dachwedd 18fed. Mae 'na ddigon o amser i felly i'r penderfyniad gael ei wneud cyn i Rhodri ymddeol. O wneud hynny fyddai'r bai am golli'r bleidlais (pe bai hynny'n digwydd) ar ysgwyddau'r cyn Brif Weinidog.

Fe ofynnwyd i Carwyn deirgwaith heddiw p'un ai Rhodri neu ei olynydd ddylai benderfynu amseriad y refferendwm. Fe wnaeth e osgoi ateb y cwestiwn.

Dyma'r ddadl ynghylch yr LCO iaith yn ei chyfanrwydd. Rwy'n ei chynnwys yn fan hyn i dynnu sylw at y ffaith bod croeso i unrhyw un ddefnyddio deunydd "Democratiaeth Fyw" ar eu safleoedd neu blogs eu hun. Er mwyn cynnwys deunydd ar eich safle gwasgwch y botwm "mewnosod" neu "embed" ar y cynnwys perthnasol a dilynwch y cyfarwyddiadau. Cynlluniwyd y safle i fod yn ganolfan adnoddau rhad ac am ddim i bawb yn ogystal a gwasanaeth yn ei rinwedd ei hun.

Caewch y drysau

Vaughan Roderick | 15:46, Dydd Mawrth, 3 Tachwedd 2009

Sylwadau (1)

closed_pub_150_150x180.jpgDydw i ddim am dreulio gormod o amser yn mynd dros hen dir y gwaharddiad ar smygu mewn mannau cyhoeddus. Dyw'r rheolau ddim am newid nawr ac, am wn i, maen nhw er gwell o safbwynt ein hiechyd. Ond fe wna i nodi bod 'na bum tafarn o fewn hanner milltir i fy nhÅ· sydd naill ai wedi cau neu sydd ar werth. Nid y gwaharddiad ysmygu yw'r unig ffactor yn hynny, wrth reswm, ond mae'n rhan o'r peth.

Y pwynt bach sy gen i yw bod gwleidyddion yn hynod o barod i wahardd pethau amhoblogaidd. Mae banio rhywbeth yn plesio'r pleidleiswyr a does dim cost ariannol. Dim cost i bwrs y wlad, hynny yw. Mae 'na gost ond mae'n gost i rywun arall. Yn achos y gwaharddiad ysmygu, y tafarnwyr a'r bragdai sy'n ei thalu.

Mae'n dipyn o ryfeddod i mi bod y Cynulliad heddiw wedi penderfynu peidio gwahardd bagiau siopa untro. Rwy'n amau bod lobio "Basil y Bags" sy'n cyflogi dros gant o weithwyr yn ei ffatri fagiau yng Nglynebwy a wnelo fe rywbeth a'r penderfyniad!

Yn lle gwaharddiad bwriad y Llywodraeth yw codi treth ar y bagiau yn debyg i'r sy'n bodoli yn yr Iwerddon. Mae'r Llywodraeth a'r gwrthbleidiau (sy'n cefnogi'r cynllun) yn mynnu mai ardoll (levy), nid treth, yw'r cynllun. Mae treth yn orfodol tra bod ardoll yn ddewisol. Mae'r gwleidyddion yn dadlau bod defnyddio'r bagiau yn fater o ddewis ac mai ardoll nid treth yw hon felly. Fe fyddai Orwell wrth ei fodd a'r gemau geiriol! Rwy'n edrych ymlaen at glywed gwleidyddion yn trafod yr ardollau ar betrol, faco a'r ddiod gadarn!

Mae arolygon barn yn awgrymu bod y rhan fwyaf o bobol yn cefnogi'r ardoll. Sgwn i a fyddai'r mwyafrif yn cefnogi treth? Mae geiriau'n bwysig weithiau.


Wal Fawr Tsiena

Vaughan Roderick | 14:11, Dydd Mawrth, 3 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

_42560421_bbc203bodytwist.jpgMae 'na dipyn o grafu pen yn mynd ymlaen yng Nghaerdydd a San Steffan ynghylch sut y byddai'r berthynas rhwng llywodraeth Llafur/Plaid Cymru yng Nghymru ac un Geidwadol yn Llundain yn gweithio. Yn fwyaf penodol fe fyddai rôl yr Ysgrifennydd Gwladol yn rhyfedd ar y naw gyda'r deiliad yn gorfod ymddwyn mewn modd sgitsoffrenig bron.

Ystyriwch am eiliad beth fyddai'n digwydd wrth i'r llywodraeth baratoi rhyw bolisi, LCO neu fesur newydd. Fe fyddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn disgwyl gwybod am bethau fel 'na cyn i unrhyw beth gael ei gyhoeddi'n swyddogol. Ond a fyddai Llywodraeth Cymru yn rhannu gwybodaeth a rhywun a allai ei phasio ymlaen i'r brif wrthblaid yn y Cynulliad? Os oedd y llywodraeth yn fodlon rhannu cyfrinachau a Cheryl Gillan (neu bwy bynnag) a fyddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn gallu gwrthsefyll y temtasiwn i gael gair bach yng nghlust Nick Bourne?

"Muriau Tsieineaidd" yw'r ateb yn ôl rhai, y muriau anweledig sy'n bodoli pan mae achosion yn codi lle mae'n rhaid i ddau ddarn o fusnes neu gorff cyhoeddus ymddwyn yn annibynnol o'i gilydd. Mae hynny'n digwydd pan mae Cyngor, er enghraifft, yn gorfod ystyried cais cynllunio gan un o'i adrannau ei hun.

Yn yr achos yma fe fyddai'n rhai i'r mur fodoli o fewn un person sef yr Ysgrifennydd Gwladol. Fe fyddai'n rhaid ceisio gwahanu'r gweinidog a'r gwleidydd plaid. Oes modd adeiladu mur Tsieineaidd trwy gorff o gig a gwaed? Go brin.

Mae'n anorfod yn fy marn i y byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio rhoi cyn lleied o wybodaeth a phosib i Ysgrifennydd Gwladol o blaid wahanol. Fe fyddai hynny'n sicr o greu drwgdeimlad a thensiynau ond pa ddewis arall fyddai 'na mewn gwirionedd?

Titch a Cwacers

Vaughan Roderick | 13:45, Dydd Llun, 2 Tachwedd 2009

Sylwadau (2)

duck_203_203x152.jpgO am fod yn bry ar wal yng nghyfarfodydd "hustings" yr arweinyddiaeth Llafur!

Does dim angen Tardis i deithio yn ôl hanner canrif a mwy. Y cyfan sydd angen yw cerdyn aelodaeth Llafur i glywed cyhuddiadau bod y Western Mail yn "Tory rag", y Â鶹ԼÅÄ yn "cael ei rhedeg gan Blaid Cymru" a bod busnesau yn "our class enemy".

Pa ymgeisydd sy'n dweud pethau felly? Gwell i mi beidio ei henwi ond mae treigliadau'n adrodd cyfrolau weithiau!

Gyda llaw mae gwasanaeth newydd "Democratiaeth Fyw" ar gael yn. Mwynhewch!

Trwy gyd-ddigwyddiad mae Llywodraeth y Cynulliad newydd lansio sianel You Tube "". Mae 'na sianel "" hefyd ond hyd yma does dim cynnwys arni. Hwyrach y bydd Dewi Llwyd, John Meredith a finnau ar honna! Yn y cyfamser dyma Huw Edwards a Peter Snow ar noson fythgofiadwy yn 1997.

Mae'n ddiddorol nodi nad hwn yw'r tro cyntaf yn ddiweddar i'r llywodraeth ddefnyddio'r term "Government of Wales" yn hytrach na "Welsh Assembly Government". Ydy hynny'n arwydd o rywbeth sydd i ddod?

Y Meini Prawf

Vaughan Roderick | 09:26, Dydd Llun, 2 Tachwedd 2009

Sylwadau (2)

stars_stripes_203_203x152.jpgYfory yw'r dydd Mawrth cyntaf ym Mis Tachwedd. Mae hynny'n golygu bod hi'n ddiwrnod etholiad yn yr Unol Daleithiau. Does dim llawer o etholiadau eleni ac mae llawer o'r sylw ar yr etholiad i ddewis aelod newydd o'r gyngres mewn rhan anghysbell o dalaith Efrog Newydd. Y rheswm am hynny yw bod 'na fath o ryfel cartref yn mynd ymlaen ymhlith Gweriniaethwyr ac mae'r Democratiaid yn hynod o falch o hynny.

Mae'r syrcas yn Efrog Newydd yn golygu y gallai'r Democratiaid gipio cadarnle Gweriniaethol. Yn bwysicach na hynny mae'n denu'r sylw i ffwrdd o ddau etholiad llawer mwy pwysig y gallai'r Democratiaid eu colli yn Virginia a New Jersey. Yn wir mae'r Democratiaid wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau mai NY-23 sy'n cael ei ystyried fel y maen prawf yn etholiadau eleni.

Mae hwn yn hen dric mewn gwleidyddiaeth. Yr enghraifft orau ym Mhrydain oedd llwyddiant Kenneth Baker yn 1990 i ddarbwyllo newyddiadurwyr mai'r unig etholiadau lleol oedd yn "cyfri go iawn" oedd rhai Westminster a Wandsworth sef yr unig ddau gyngor lle'r oedd gobaith i'r Ceidwadwyr gwneud yn dda.

Yma yng Nghymru mae Plaid Cymru ers degawdau wedi defnyddio eu llwyddiannau yn y Gogledd a'r Gorllewin i gelu ei methiant cymharol yng nghymoedd y de. Ers isetholiadau Gorllewin Rhondda (1967) a Chaerffili (1968) mae'r blaid wedi bod yn bygwth/addo torri trwodd yn y cymoedd. Y gwir plaen yw ei bod wedi methu gwneud hynny ym mhob un etholiad, ac eithrio un, dros y deugain mlynedd diwethaf.

Yr eithriad wrth gwrs yn 1999 pan wnaeth buddugoliaethau yn Rhondda ac Islwyn gyfrannu at gnwd o 17 o seddi yn y Cynulliad. Mae hynny ynddi hun yn ddadlennol. Heb ennill seddi etholaethol yn y rhanbarthau deheuol mae'n anodd iawn i Blaid Cymru ennill mwy na'r pymtheg sedd sydd ganddi yn y cynulliad ar hyn o bryd. Roedd hi'n newyddion drwg iawn i'r blaid felly nad oedd hi ar y blaen yn un o seddi'r cymoedd yn yr etholiadau Ewropeaidd er cynddrwg y canlyniad i Lafur.

Yn rhannol oherwydd hynny, rwy'n tybio, mae 'na newid sylfaenol wedi digwydd yn negeseuon a chynnwys deunydd ymgyrchu'r blaid. Fe wnes i wfftio braidd pan wnaeth un o swyddogion y blaid ddisgrifio ei darllediad diweddar fel "clause four moment". Efallai mai fe oedd yn iawn a fi oedd yn anghywir.

Ym mhob un daflen ac araith o eiddo Plaid Cymru yn ddiweddar mae'r newid wedi bod yn amlwg. Does 'na ddim neu fawr ddim sôn am gwestiynau cyfansoddiadol na'r iaith Gymraeg ac mae "buzz words" traddodiadol fel "llywodraeth Llundain" yn absennol. Yn lle hynny ceir llwyth o eiriau sydd yn amlwg yn gynnyrch grwpiau ffocws, geiriau fel "gwahanol", "llais annibynnol" a "lleol".

Y broblem yw bod grwpiau ffocws yn dweud yr un peth i bawb. Mae negesi'r Democratiaid Rhyddfrydol ac, i raddau, y Ceidwadwyr yn ddigon tebyg ar hyn o bryd. Wrth gwrs, yng nghyd-destun seddi targed Plaid Cymru yn y cymoedd dyw hynny fawr o ots ond fe fydd angen dipyn mwy o gnawd ar esgyrn yr ymgyrchu cenedlaethol.

Yr Holl Saint

Vaughan Roderick | 18:17, Dydd Sul, 1 Tachwedd 2009

Sylwadau (5)

daviddove.jpgMae calan gaeaf yn beth llawer iawn mwy nac oedd e pan oeddwn i'n grwt. Noson Guto Ffowc oedd y peth mawr ers talwm. Dydw i ddim yn gwybod p'un ai dylanwad diwylliant America ai gwreiddiau gwrth Gatholig Tachwedd y pumed sydd wedi arwain at y newid. Yn sicr erbyn hyn mae Noson Tan Gwyllt yn teimlo fel ôl nodyn i firi'r gwrachod a'r corachod.

Y dathliad sy'n cael ei anghofio'n llwyr yw'r un sydd rhwng y ddau sef Dydd Gŵyl yr Holl Saint. Doedd hi fyth yn cael dathlu yn y capeli, wrth reswm. Hyd y gwelaf i dyw hi ddim yn cael fawr ddim sylw yn unlle erbyn hyn.

Mae dirywiad crefydd yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif yn un o'r newidiadau pwysicaf yn ein hanes ond prin yw'r sylw mae'n cael y tu allan i gylchoedd crefyddol, cylchoedd nad yw'r mwyafrif ohonom ni yn perthyn iddyn nhw bellach.

Ystyriwch hyn, canrif yn ôl roedd y Cymry yn ystyried nhw eu hun ymhlith y cenhedloedd mwyaf crefyddol yn y byd. Erbyn hyn Cymru yw'r darn mwyaf seciwlar o'r wlad fwyaf seciwlar ar gyfandir fwyaf seciwlar y byd. Does rhyfedd bod Affrica'n danfon Cenhadon i Gymru fach y dyddiau hyn!

Allforio'n crefydd yr oedd y Cymry'n arfer gwneud. Treuliodd yr ymerawdwr o Ethiopia rhan o'i alltudiaeth fel yn Abertawe lle'r oedd ei feibion yn fyfyrwyr. Mae hyd yn oed y hwnnw wedi troi cefn ar Gymru bellach gan symud i Rugby yn Swydd Warwick! Rhai blynyddoedd ar ôl cyfnod yr Ymerawdwr yn Abertawe cyrhaeddodd Ian Paisley y Barri i astudio yng Ngholeg Efengylaidd Cymru.

Fe aeth Ian Paisley ymlaen i fod yn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon. Fe fu farw'r Ymerawdwr mewn amgylchiadau amheus ond nid cyn i'r Rastaffariaid ei ddyrchafu'n Dduw!

Mae'r newid yng nghrefyddoldeb Cymru wedi gwneud hi'n hawdd iawn i bobol o grefyddau eraill brynu i mewn i'r syniad o Gymru a Chymreictod. Mae'n nodweddiadol iawn bod Mwslimiaid yn fan hyn yn ddigon parod i ddisgrifio'u hun fel "Welsh Muslims". Yn Lloegr "British" nid "English" yw'r dewis. Hynny yw, mae modd uniaethu a'r wladwriaeth Brydeinig ond nid a'r genedl Seisnig.

Mae gan bost difyr iawn ynghylch hynny.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.