Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rialtwch

Vaughan Roderick | 09:03, Dydd Sul, 29 Tachwedd 2009

Fe wna i estyn fy llaw i'r fasged awgrymiadau a dewis ar hap a damwain yr wythnos hon! Beth sy 'da ni gyntaf, tybed? Beth am ychydig o gerddoriaeth roc Aeleg a lot o bengliniau blewog?

Yn ôl yn 1992 roedd pobol yn meddwl bod y darllediad gwleidyddol yma'n chwerthinllyd ond pwy enillodd yr etholiad? Gwers i Lafur yn 2010, efallai. Hwyrach y cawn ni "Teulu'r Mans gyda Gordon Brown"!

Mae'r nesaf yn dymhorol o leiaf. Y "Texas Technical University Celtic Choral Ensemble" yn canu "Ar fore dydd Nadolig". Caewch y drysau. Perffaith chware teg.

Am ryw reswm mae llawer ohonoch chi yn hoff o gerddoriaeth Pete Seegar, neu Dafydd Iwan America fel mae'n cael ei adnabod!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:05 ar 29 Tachwedd 2009, ysgrifennodd jac:

    diddorol iawn vaughan. darllediad gwleidyddol y ceidwadwyr yn 1992 yn arbennig o ddifyr. prif weinidog didwyll olaf prydain? hefyd, pwy all ddweud wrtha i beth yw'r gerddoriaeth ar ddiwedd y darllediad?

  • 2. Am 20:07 ar 29 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Fi! Mae'n rhan o gerddoriaeth Henry Purcell ar gyfer y ddrama "Abdelazar". Mae Britten yn ei defnyddio yn yr "Young Person's Guide to the Orchestra" ac roedd trefniant y Ceidwadwyr wedi ei baratoi gan Andrew Lloyd Webber. Fe sy'n gyfrifol am y nodau olaf sy'n cyd-fynd a silliau'r gair "Con-serve-a-tive".

  • 3. Am 23:36 ar 29 Tachwedd 2009, ysgrifennodd jwc:

    diolch vaughan, nid yn unig yn gwybod yr ateb ond hefyd yn dod â'r sgwrs yn ôl at wleidyddiaeth!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.