Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cymru'n ddwy?

Vaughan Roderick | 00:37, Dydd Sadwrn, 7 Tachwedd 2009

_40467815_carwynjones_bbc_203.jpgSganio'r datganiadau dyddiol gan yr ymgeiswyr am yr arweinyddiaeth Llafur cyn eu hanwybyddu y mae dyn yn gwneud gan amlaf ond mae'r un diweddaraf gan Carwyn Jones wedi achosi cryn gynnwrf ymhlith mawrion y Blaid Lafur a Phlaid Cymru.

Y paragraff ynghylch gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi gwylltio rhai o'i gyd-lafurwyr. Dyma mae Carwyn yn dweud.

"Three years after the Beecham Report, it is time for the Local Service Boards to show they are delivering. Are they meaningful structures to advance public service collaboration or are they simply sticking-plaster? Are they driving real change in service delivery, or are they just talking shops?"

Mae hynny'n cael ei weld ymosodiad amlwg ar Andrew Davies, un o brif-gefnogwyr Edwina ac yn arwydd na fyddai 'na le i Andrew mewn cabinet wedi ei arwain gan Carwyn.

Ail rhan y datganiad yngylch refferendwm ar gynyddu pwerau'r cynulliad sydd wedi
gwylltio rhai o bobol Plaid Cymru. Dyma sydd gan Carwyn i ddweud;

"I am totally committed to what was agreed in 'One Wales' but that should in no way preclude my responsibility, if elected Leader, to consult within the wider Party on the findings and recommendations of the All Wales Convention... consideration of the Convention's report must not be a matter solely for AMs to decide - it must involve the entire Labour movement in Wales, AMs, MPs, grassroots members and trade unions."

Yn ôl pobol Plaid mae cytundeb "Cymru'n un" yn eglur mai mater i'r Prif Weinidog a'i ddirprwy yw amseriad refferendwm ac y bydd pleidlais yn cael ei chynnal erbyn 2011 os nad yw'r ddau yn cytuno i'r gwrthwyneb.

Yng ngolwg rhai mae Carwyn yn ceisio rhoi hawl feto i Lafur sy'n groes i'r cytundeb. Yng ngeiriau un pleidiwr fe allai hynny o bosib bod yn "deal-breaker".



SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 01:08 ar 9 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Huw Waters:

    A wyddoch chi fod Edwina Hart yn siarad Cymraeg?

    Dene be ma Wikipedia'n ei ddeud, a hynny ers 24 Mai 2007. Mae hi wedi ei chynnwys yng nghategori pobol sy'n siarad Cymraeg.

  • 2. Am 12:09 ar 9 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dydw i ddim erioed wedi clywed Edwina yn siarad Cymraeg ond roedd ei thad yn Gymro Cymraeg ac rwy'n gwybod ei bod yn darllen y blog yma am iddi ofyn i mi (yn Saesneg) i beidio defnyddio cymaint o eiriau hirion!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.