Yn sgil canlyniadau’r etholiad cyffredinol, hwyrach fod Brexit ar y gorwel, ond ar y meysydd pêl droed, d’oes ‘na fawr o olwg fod y cysyniad yma wedi gafael.
Yr wythnos yma, llwyddodd Chelsea, Manchester City, Tottenham a Lerpwl i gyrraedd rowndiau’r un ar bymtheg olaf yng nghystadleuaeth Pencampwyr Ewrop, tra bod Wolves, Manchester United, ac Arsenal wedi llwyddo i gyrraedd rownd y tri deg dau olaf yng Nghynghrair Ewropa.
Yn ogystal, llwyddodd Celtic a Rangers o'r Alban i gamu 'mlaen yng Nghynghrair Ewropa hefyd.
Datblygiad addawol felly os ydych yn Albanwyr, o ystyried y ddau dîm o Glasgow ymysg detholion gorau Ewrop (wel o leiaf ymysg y 32 olaf yn y gynghrair), o ystyried na allai Kilmarnock guro Cei Connah ar ddechrau'r tymor!.
Ond Brexit neu ddim, hwyrach y cawn weld cystadleuaeth Brydeinig yng Nghwpan Ewropa yn y rownd nesaf, gan fod trefn y gystadleuaeth yn ei wneud yn eithaf posibl y gall Celtic wynebu Wolves tra y gall Rangers wynebu Arsenal neu Manchester United.
Mi fyddai ‘na dipyn o edrych ymlaen at gemau fel yma petai’r enwau yn dod allan o'r het i’n harwain at hyn!
Chawn i ddim gem debyg yng Nghynghrair y Pencampwyr gan na all timau o’r un wlad wynebu ei gilydd yn y rownd nesaf, na chwaith chwarae yn erbyn tîm maent eisoes wedi ei wynebu, a gan nad oes yna unrhyw dim o'r Alban ar ôl, (nac o Gymru na Gogledd Iwerddon chwaith) ni fydd yna fath gynnwrf Brexitaidd yn bodoli yma.
Be felly yng Nghynghrair y Pencampwyr?
Fe all Lerpwl neu Manchester City chwarae yn erbyn Real neu Atletico Madrid ymysg eraill gyda Chelsea a Tottenham yn wynebu'r posibilrwydd o chwarae yn erbyn Barcelona, Juventus, Paris Saint Germain, Valencia neu Leipzig.
Brexit neu ddim, mae yna ddigon gynnwrf o'n blaenau ar feysydd pêl droed Ewrop ar ôl y Nadolig.