Main content

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 8

Ceri Wyn Jones

Meuryn y Talwrn

Tagiwyd gyda:

Rownd 1, rhaglen 8, 16 Mehefin 2013: Neuadd Ffostrasol

Peth peryglus iawn yw i fardd fod yn absennol o ricordiad Y Talwrn.

Wedi’r cwbwl, onid haws i feuryn di-asgwrn-cefen ymosod yn ddidrugaredd ar gerddi’r bardd hwnnw yn ei gefen nag yn ei ŵydd?! Yn enwedig pan ddaw’r meuryn gwan hwnnw i wybod taw yn Eastbourne mae’r bardd absennol y noson honno!

Roeddwn i nôl yn Ffostrasol yr wythnos hon, ac roedd capten tîm Ffostrasol – sef un o’r timau sydd wedi bod yn cystadlu ar Y Talwrn ers 1979 – Dai Rees Davies yn Eastbourne.

Mae Dai yn un o feirdd mwyaf poblogaidd y gylchdaith darlyrnol, yn lleol a chenedlaethol, ond rwy’n ofni fod ei glustiau e’n llosgi’n ddiogel heno gyda’r math o dynnu coes iach sy’n nodweddiadol o dimau talwrn y parthau hyn.

Gwrthwynebwyr y tîm cartre oedd Tanygroes a’r Ffoaduriaid ac fe gawsom ornest dda iawn.

Yr uchafbwynt, mae’n siwr, oedd Gruffudd Owen o’r Ffoaduriaid, ond roedd a Philippa Gibson o dîm Tanygroes ddim yn bell ar ei ôl e.

Roedd gan Emyr Jones, Oernant, yntau gywydd da ar y testun ‘Rhigol’:

Gwelaf ryw fân rigolau
Yn y llwch yn ymbellhau,
Yno’n rheng maent mewn pared
O rigol dant yr oged.
Llawn o nwyd o’r pridd llwydwyrdd
Fry i’r gad mewn lifrai gwyrdd.
Dônt ‘dros y top’ yn sopen
A phob llanc yn ifanc hen.
Dônt mewn ffydd ar hwyrddydd ha’
Yn filwyr i ryfela
Ar y llain, i safio’r llu
Hunanol rhag newynu.

Tan-y-groes

Ond mae cynganeddwyr disglair yn nhîm y Ffoaduriaid hefyd, fel y mae’r cywydd canlynol gan Llŷr Gwyn Lewis, cyflwynydd newydd y rhaglen ar Radio Cymru, yn tystio:

(Dyn y traeth)

O’r garafan, bob trannoeth,
cyn bod gwên y bore’n boeth,
gwyliem gêm hen ddyn o’i go,
rhubanwaith ei gribinio.

Gwaith oesol ei gaethwasiaeth
ydoedd hau patrymau’r traeth,
cyn dôi’r haid a’u cinio’n drên
i strywio ei gystrawen. Ìý

Yna’n ddof, ar ben ei ddydd,
wedi heidiau’r diwedydd,
dôi, erioed, drachefn i drin,
y gŵr heibio â’i gribin. Ìý Ìý Ìý Ìý

Y Ffoaduriaid

Roedd Llŷr yn credu bod hwn yn drech cywydd na’r un o’i eiddo . A phwy a ŵyr nad oedd e’n iawn, oherwydd po fwyaf y darllenwch chi hwn, y mwyaf eglur y daw’r darlun o’r hen ddyn truenus hwn wrthi’n ymroi i dasg sydd yn ofer ond (iddo e) yn angenrheidiol.

Un o sgîl-effeithiau anffodus y gohirio a fu ar gyfres Y Talwrn eleni yw’r ffaith ein bod ni wedi gorfod colli rownd gyfan o ornestau. Ac, wrth gwrs, mae hyn wedi golygu colli nifer o dimau da iawn ar ôl un ornest yn unig eleni, ac mae’n chwith gen i na chlywn ni eto eleni gyfraniadau timau fel Y Glêr (pencampwyr 2012) a’r Ffoaduriaid a Ffostrasol ayyb.

Yn wir roedd gan Danygroes gwpled o anogaeth i holl feirdd Y Talwrn – y sawl sy’n cystadlu eleni, y sawl a benderfynodd gael hoe am wahanol resymau eleni, ac, rwy’n mawr obeithio, y sawl sydd yn awyddus i ffurfio tîm i gystadlu yn y gyfres nesaf (ac os ydych yn ystyried gwneud hynny, cofiwch gysylltu â chynhyrchydd y rhaglen, sef Catrin Huws, yn y Â鶹ԼÅÄ):

Rhown yn hael i’n Talwrn hy
rhag ofn bod rhai ar gefnu.Ìý

Nid bod yr ansoddair ‘hy’ yn talu am ei le, ond mae’r ergyd gyffredinol yn glir.Ìý

Ond, fel sy’n draddodiadol bellach pan ddaw timau Ffostrasol a Thanygroes i’r un neuadd, rwy am gloi gyda limrig un o gyn-aelodau dawnus Tanygroes, sef Ken Griffiths, Ken y Graig:

Aeth beirdd Tanygroes a Ffostrasol
fel uned i ornest dalyrnol
Ac wedi peth dadlau
fe unwyd eu henwau
a’u galw yn dîm Tanyrasol.

I glywed rhaglen ddiweddaraf Y Talwrn a darllen a chlywed clipiau o'rÌýcerddi ddaeth i'r brigÌýewch iÌýwefanÌý

  • Ìý

Tagiwyd gyda:

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Gwrthod Dyrchafiad

Nesaf

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 19 Mehefin 2013