Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Bore Cothi - Pili Pala
pili pala - butterfly
morgrug - ants
cynhenid - itrinsic
lindys bach yn deor - the little caterpillar hatching
rhywogaeth - species
godro hylif melys - milking a sweet liquid
o'u coau - out of their minds
bwrw ei groen - shedding its skin
chwiler - chrysalys
yng nghrobil y nyth - in the depths of the nest
...efo Bore Cothi, ond nid Shan Cothi oedd yn cyflwyno yr wythnos hon ond Heledd Cynwal. Dyma i chi glip bach o Heledd yn cael sgwrs efo Huw John Huws am gylch bywyd un math arbennig o bili pala, neu glöyn byw. Oeddech chi'n gwybod bod yna gyslltiad rhwng morgryg a glöynod byw o'r blaen? Wel gwrandwch ar hwn ac mi gewch chi glywed stori anhygoel am y cysylltiad hwnnw...
Cofio - Gwallt Coch
hunaniaeth - identity
cocyn hitio - scapegoat
llysenw - nickname
petrus - tentative
adlewyrchu - reflecting
gwgu - to frown
cipolwg - a glance
cydnabod - aquaintance
arwynebol - superficial
sibrydiwch o - whisper it
Yntydy hi'n braf gweld y pili pala lliwgar o gwmpas y lle rwan bod yr haf wedi cyrraedd. A dw i'n siwr bod yr un pili pala'n gorfod poeni pa liw yn union ydy o - ddim fel Catrin Beard buodd yn poeni am ei bod yn gochan, hynny yw bod ganddi wallt coch. Ia, mae pobol efo gwallt coch wedi cael amser caled ohoni dros y blynyddoedd, a dw i ddim yn siwr pam chwaith. Dyma Catrin ar Cofio nos Fercher yn sôn ychydig am sut fywyd ydy hi i fod yn gochan.
Ìý
Dylan Jones - Milwyr Americanaidd
cyrch - incursion
dychmygu dwndwr - imagine the hurly burly
olion - remains
rhybydd - warning
taflegrau - missile
mor wyn â chalch(idiom) - as white as a sheet
clawdd - wall
hel atgofion - to reminisce
dychwelyd - dod yn ôl
lloches - shelter
Catrin Beard yn fan'na yn rhannu ei phrofiadau fel un sydd efo gwallt coch! Mae yna dipyn o sylw wedi bod yr wythnos diwetha am D-Day gan ei bod yn yn saithdeg mlynedd ers y digwyddiad hwnnw, ac mi welon ni olygfeydd digon emosiynol mewn seremonïau gafodd eu cynnal yn Ffrainc yn ystod yr wythnos. Ar raglen Dylan Jones ddydd Mercher mi glywon ni hanes am filwyr Americanaidd oedd yn aros yn ardal Llandudoch yng ngogledd Sir Benfro cyn iddyn nhw gael eu galw i gymryd rhan yng nghyrch D-Day...
Ìý
Bore Cothi - Blog Tad
yn gyfrifol am - responsible for
mas - allan
cryfder - strength
ymateb - response
cefnigen - jealousy
datblygu - developing
pwdu - to sulk
newyddiadurwr - journalist
troeon trwstan - misfortunes
amynedd - patience
Aled Schourfield yn fan'na'n sgwrsio efo Cerwyn Davies, Andrea Sutcliffe, Mair Garnon James, Margery Forster a Teifion Tofft ynglyn â milwyr America oedd yn aros yn ardal Llandudoch adeg yr ail ryfel byd. Dan ni'n mynd i orffen y podlediad hwn efo clip arall o Bore Cothi. Gafodd Heledd Cynwal sgwrs ddifyr efo Owain Evans, a’i ferch fach Myfi, am y blog mae o'n ei sgwennu am ei brofiad yn edrych ar ôl ei ferch fach tra roedd ei wraig yn gweithio. Mae agwedd Merched y Wawr at y blog yn hynod o ddiddorol, gwrandwch ar hyn...
Ìý