Main content

Sgript Slam Radio Cymru

Newyddion

Ydych chi’n ddeifiol, yn ddoniol neu’n ddychanol? Ydych chi awydd ysgrifennu? Oes gyda chi syniadau doniol am sgetsys? Os felly, pam na wnewch chi gyfrannu i gyfres gomedi newydd sbon ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru? Rydyn ni’n chwilio am sgetsys byr gwreiddiol ar unrhyw bwnc ar wyneb y ddaear.

Does dim angen profiad nac arbenigedd, dim ond gwreiddioldeb a chreadigrwydd.

Darllenwch ein a'r .

Am fwy o fanylion cysylltwch â ni yn sgriptslam@bbc.co.uk cyn gynted ag y bo modd – mae’r dyddiad cau ar Dachwedd 16eg.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 27/10/2015

Nesaf

Bae Colwyn a Thref Merthyr