Main content

Dyfodol Clwb Peldroed Dinas Caerdydd

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Be nesa allwn ni ddisgwyl yng Nghaerdydd tybed?

Mae’r digwyddiadau sy’n ymwneud a thîm y brifddinas fel rhyw ddrych o stori’r Carol Nadoligaidd gan Charles Dickens wrth ystyried y gorffennol, presennol a’r dyfodol.

Ymddengys nad oes fawr o ystyriaeth nac amser mwyach i ysbryd y gorffennol, am draddodiadau’r clwb, nac am ei hanes a’i ddiwylliant.

Tydi ysbryd pêl droed y presennol ddim yn ein cyffroi llawer ychwaith!

Hysbysebion llachar o wyliau mewn gwlad na all y rhan fwyaf o’r cefnogwyr byth eu fforddio, yn disgleirio'n symudol ar hyd a lled ochrau caeau pêl droed. Hysbysebion mewn iaith na all fawr unrhyw gefnogwr o ardaloedd Splott, Grangetown a Threganna eu deall yn hawdd chwaith!

Ond beth am ysbryd pêl droed a allai ddatblygu yn y dyfodol ?

Ai dyfodol a fyddai yn gweld gem yn cael ei chynnal o flaen ychydig rai a allai fforddio talu am docyn yw'r ddrychiolaeth yma? Dim cyffro, dim canu, dim ond hysbysebion llachar diddiwedd mewn iaith nad oes unrhyw un yn ei deall. Mae’r gymuned a arferai ddilyn eu tîm lleol erbyn hyn yn gorfod bodloni ar wylio eu hoff dîm ar wasanaeth deledu sydd yn eiddo i berchen y clwb. Nid mewn stadiwm leol mae’r gêm mwyach ond mewn rhyw hangle o stadiwm penagored,ddiymadferth ac amhersonol ynghanol rhyw anialwch ymhell bell i ffwrdd o lannau’r Taf.

Hwyrach mai drychiolaeth sinigaidd llwyr yw fy ngweledigaeth o'r dyfodol ond gochelwch rhag hyn!

Petai o leiaf un o’r un ar bymtheg o berchenogion neu gadeiryddion clybiau Uwch Gynghrair Lloegr yn penderfynu cynnal gemau tramor er mwyn cynyddu’r cyfalaf yn eu busnes ( sef tîm pêl droed i chi a fi), yna ni fyddai unrhyw fudiad neu gymdeithas bel droed yn gallu eu rhwystro!

Ond i ddod yn nes at realiti Caerdydd. Ymddengys fod y perchennog, Vincent Tan hefyd yn berchennog ar glwb Sarajevo ym Mosnia. Yn ôl cyfweliad a wnaethpwyd ym mis Medi gyda phapur newydd Dnevni Avaz dywed Tan mai’r bwriad ydi chwarae gemau cyfeillgar, cynnig cyfleoedd i chwaraewyr Sarajevo chwarae i Gaerdydd yn yr Uwch Gynghrair, trefnu profiadau i gyd -ymarfer a chynllunio ymgychoedd marchnata

Ond nid dyna'r oll.

Ymddengys hefyd, yn ôl adroddiadau ar wefan y Serbia-Times fod Vincent Tan yn awyddus i adeiladau cyfres o westai moethus gerbron tref Dubrovnik yn Croatia. Yn sgil hyn, mae’r adroddiad yn awgrymu y byddai wedyn mewn sefyllfa i ddod yn gysylltiedig â’r tîm pêl droed lleol, HNK Dubrovnik 1919.

Be felly ydi'r dyfodol mewn gwirionedd ? Clwb Caerdydd fel rhyw ‘take away dwyreiniol’, yn rhannu eu hadnoddau efo timau yng ngwledydd Bosnia a Croatia a’r perchennog yn disgwyl i bopeth fod yn barod mewn deng munud ? Tybed a fydd arian clybiau'r Balkans yn cynnal Caerdydd, neu arian Caerdydd yn cynnal y timau yma? Digon o gwestiynau i'w gofyn hwyrach am drefn nad yw yn gyfarwydd?

Diddorol, mentrus, peryglus neu rywbeth annealladwy i’r rhan fwyaf ohonom sydd ddim yn gwybod yn wahanol? Pwy a ŵyr?

Onid yw yn amser i’r awdurdodau ymateb a dangos arweiniad - o fewn y byd pêl droed ac yn wleidyddol. A fyddant yn ddigon cryf i godi eu llais, holi, ymchwilio ac ymateb yn effeithiol?

Digon i'w ystyried i'r flwyddyn newydd .

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Podlediad i ddysgwyr: Geirfa 24 Rhagfyr 2013