Main content

Blog Alex yn Galw

Alex Jones

Presenter

Nawr te, gwedwch wrtha i ble mae mis Awst wedi mynd? Ma hi wedi bod yn haf bisi ond dwi wedi joio mas draw - a dyw e ddim drosto eto!

Nos Sadwrn diwetha' es i Carfest, gŵyl Plant Mewn Angen wedi ei drefnu gan Chris Evans. Gŵyl ceir, bwyd a cherddoriaeth. Wel, am sbort! Roedd llwyth o artistiaid gwych yno a dim siawns o starfo gan weles i fwy o 'Celebrity Chef’s' yna na weles i o geir, a mi odd na lot fawr o geir! Serch y bwyd a'r ceir neis, ma rhaid i fi gyfadde’ taw uchafbwynt yr ŵyl i fi oedd taflu bwced o ia dros Ricky Wilson o’r Kaiser Chiefs yn ystod eu perfformiad nos Sadwrn! Ware teg iddo!

Un o fy hoff sioeau cerdd yw Miss Saigon a dwi byth yn blino ei gweld hi. Stori serch a thrasiedi yw hi, wedi ei gosod yn Saigon yn ystod rhyfel Fietnam a ma’r sioe newydd agor eto yn theatr Prince Edward yn y West End. Es i nos Lun ac oni'n bishys! Llefain cymaint nes bo rhaid i fi aros yn fy set am 10 munud ar ôl y sioe orffen i dynnu’n hunan at ei gilydd! Joio!

A son am ryfeloedd - ma sawl rhyfel wedi bod yn nhŷ 'Big Brother' eleni (sydd ddrws nesaf i stiwdio ‘Tumble' gyda llaw). Un o’r selebs sy’n cymryd rhan yw James Jordan, sef fy mhartner yn 'Strictly Come Dancing'. Ma barn 'da James am bopeth ac mae e digon parod i rannu hwnnw os ych chi ishe clywed e neu beidio. Ac mae hynny wedi bod yn amlwg yn y Tŷ!

Neithiwr Keith Lemmon oedd ein gwestai ni ar y 'One Show' - dyw’r boi ddim hanner call! Ma Keith fel fi hefyd yn busnesan o gwmpas tai pobol yn y gyfres 'Through the Keyhole'. Nawr dwi’n joio galw draw a chloncian gyda’r gwesteion ar '', ond odd Mr Lemmon y mwnci drwg, wedi bod draw yn fy nhŷ i ddoe tra o’n i yn y gwaith! A nes i ond ffeindio hyn mas pan wnaeth e roi addurn calon gyda’r gair ‘cwtsh' arno fe i fi ar y sioe neithiwr. Fy addurn i o gatre odd e!! O leiaf odd Carol Bell, gwestai wythnos yma, yn gwybod bo fi’n dod!!

Alex Jones ar ei thaith ar draws y wlad ac wythnos yma yn galw ar Carol Bell.

Hwyl

Alex

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Tra Bo Dau: Adrian a Sara Lloyd Gregory

Nesaf

Pel-droed 1914