Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - Awst 2, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.


Bore Cothi - Cacennau pysgod

  • stwnsho - to mash
  • briwsion bara - breadcrumbs
  • bara lawr - laverbread
  • ansawdd - texture
  • am achau - for ages
  • gweini - to serve
  • shibwns - spring onions
  • creulon - cruel
  • anhygoel - incredible
  • twlwch popeth! - throw everything!
  • coginio pysgod - wel cacennau pysgod i fod yn hollol gywir.

Mi gafodd Shan Cothi gwmni Sian Roberts ar Bore Cothi ddydd Mawrth ac mi gaethon ni wybod sut i wneud cacennau pysgod sydd ychydig yn wahanol i'r rhai basech chi'n eu prynu yn y siop. Cacennau Pysgod Pentyrch ydy'r enw mae Sian wedi ei rhoi arnyn nhw a dyma i chi 'flas' ar y sgwrs…

Ìý

Dylan Jones - Gemau'r Cymanwlad
  • ymhlith y Cymry - amongst the Welsh
  • wedi ei gynnwys - included
  • pencampwr - champion
  • canolbwyntio - to concentrate
  • ymfalchio - to be proud of
  • ieuenctid - youth
  • anelu - aiming
  • teimlo'r bwrlwm - feeling the buzz

Wel, dwn i ddim amdanoch chi, ond dw i isio bwyd rwan. Sian yn dweud ei bod yn gweithio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon. Ewch draw i'w gweld hi os gewch chi gyfle. Mi roedd yna 'eisteddfod' fawr i'r athletwyr yn Glasgow yr wythnos diwetha - Gemau'r Gymanwlad! Mi wnaeth Tîm Cymru yn dda iawn chwarae teg, yndo? Mi roedd hi'n ddipyn o sioc i Scott Davies o Gaerfyrddin, un o dîm beicio Cymru, ei fod wedi ei ddewis i gystadlu mewn dwy ras yn y gemau yn hytrach nag un. Mi gafodd Craig Duggan sgwrs efo Catrin ac Alban Rees, cyfneither ac ewythr Scott Davies ar raglen Dylan Jones ddydd Iau. Roedd y ddau wrth gwrs yn Glasgow i gefnogi Scott...

Ìý

Gari Wyn - Dillad nos

  • prif gynllunydd - main planner
  • cylmethdod - complication
  • yr ie'nga - the youngest
  • cynhyrchu - to produce
  • adrannau - branches
  • i grynhoi - to summarize
  • y genhedlaeth nesa - the next generation

Alun Davies oedd yn cyflwyno'r eitem honno ac mi wnaeth Scott yn eitha da yn y ras yn erbyn y cloc o feddwl nad honno oedd ei brif ras - daeth o yn ail ar bymtheg. Ac yn y ras fawr ddydd Sul roedd yn rhan bwysig o'r tîm helpodd Geriant Thomas i ennill y fedal aur mewn ras gyffrous iawn. Stori arall am lwyddiant y Cymry rwan ond dim byd i wneud efo rasio. Mae'r teulu Aykroyd o’r Bala yn berchen ar ffatri gwneud dillad nos yn Altringham ger Manceinion ac mi aeth un arall o entrepeneurs Cymry- Gari Wyn - draw atyn nhw i gael sgwrs am waith y cwmni...

Ìý

Bore Cothi - Nia Ben Aur

  • sylfaenwyd - musical
  • yn dwli ar - to deserve
  • heriol - mad about
  • yn iau na - challenging
  • symudiadau - younger than
  • yn drueni mawr - movements
  • anodd tu hwnt - a great pity
  • goroesi - to survive

Gari Wyn yn fan'na yn siarad efo'r teulu Aykroyd o’r Bala am eu ffatri dillad nos. Wel mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyrraedd Sir Gâr yn nhref y sosban sef Llanelli. Pedwardeg o flynyddoedd yn ôl roedd yr eisteddfod mewn rhan arall o'r sir yn nhref Cerfyrddin, ac un o'r pethau mae llawer o bobol yn ei gofio am yr eisteddfod honno ydy'r opera roc Nia Ben Aur. Heather Jones oedd un o sêr y sioe ac mi fuodd hi'n sgwrsio efo Shan Cothi am y digwyddiad. Dyma i chi ran o'r sgwrs ac wedyn mi gawn ni gyfle i glywed un o ganeuon y sioe.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Radio Cymru'n chwilio am hoff ganeuon yn yr Eisteddfod

Nesaf

Blog Alex: Alex yn galw