Main content

Pigion i Ddysgwyr: 20 Tachwedd 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Daf a Caryl - Llio

"...mae gynno ni rhywbeth arbennig iawn i chi. Drwy'r wythnos ar raglen Daf a Caryl dan ni wedi cael clywed plant bach o bob ran o Gymru yn canu. Rhieni'r plant anfonodd y caneuon aton ni ac mi ddechreuwn ni heddiw efo Llio, sydd yn ddwy a hanner, yn canu 'Dau gi bach'... "

Straeon Bob Lliw - Clefyd Siwgr

Clefyd Siwgr - diabetes
dioddef o - suffering from
allan o wynt - out of breath
cael ei gwynt ati - catching her breath
profiadau - tests
difrifol wael - seriously ill
profi gwaed - testing blood
brifo - anafu
pigo bys - pricking a finger
yn dorcalonnus - heartbreaking

Pawb efo'i gilydd rwan ...ooooo! A diolch i Esyllt Iorwerth, mam Llio, am anfon y recordiad bach yna i mewn. Mi gawn ni glywed rhagor o'r caneuon nes ymlaen. Fel Esyllt, mae gan Lyn Hughes ferch fach hefyd, o'r enw Gwennan. Ar Straeon Pob Lliw ddydd Llun mi glywon ni Lyn yn dweud sut ffeindiodd hi bod Clefyd Siwgr ar Gwennan. Dyma hi'n dweud ei stori wrth Karen Macintyre Huws, sydd hefyd yn diodde o Glefyd Siwgr...


Cyrraedd Pen Llanw - Monolog

beio - to blame
ffili fforddio - can't afford
cyw melyn olaf (idiom) - the youngest son
cynorthwyydd - assistant
cystal bob tamaid - every bit as good
dyled - debt
droeon - many times
ar ymyl y dibyn - on the edge
ar bigau'r drain (idiom) - on tenterhooks
cwato - cuddio

"Dw i'n siwr bod pob rhiant yn cydymdeimlo efo Lyn yn fan'na - does dim byd gwaeth na gweld eich plentyn yn diodde nagoes? Clywed tad yn diodde wnawn ni yn y clip nesa yma. Mae tymor drama Radio Cymru wedi cychwyn a dydd Mawrth diwetha mi glywon ni fonolog - Cyrraedd Pen Llanw gan Geraint Lewis. Phyl Harris oedd yn cymryd rhan y tad oedd, fel y clywn ni rwan, yn beio pawb arall am ei broblemau ei hun... "


Daf a Caryl - Bedwyr

eithafol - extreme
hen bryd - about time

"Lladd ei frawd? Bach yn eithafol ynde? Falle mai'r wers yn y ddrama ydy 'peidiwch byth â betio ar unrhyw beth sydd yn dod â'r geiriau Cymru a phêl-droed at ei gilydd'. Mi fasech chi'n sicr o golli'ch pres ar fet fel'na! Hen bryd i ni symud at rywbeth ysgafnach ar ôl hynny - dach chi ddim yn meddwl? Be am glywed ychydig mwy ar y plantos bach annwyl yn canu? Dyma Bedwyr sydd bron yn dair oed yn canu un o ganeuon Meic Stevens - y Brawd Hwdini... "

Ìý

Dei Tomos - Llangyndeyrn

maint y stwr - the extent of the commotion
bwriad - intention
yn union - straight away
pwyllgor - committee
arweinydd - leader
mawr iawn ei barch - well respected
brwydro - to fight
y ddiod - alcohol
gwrthwynebiad - opposition
bywoliaeth - livelyhood

"Da ynde? A diolch eto i Siwan, mam Bedwyr, am anfon y recordiad gwych yna aton ni. Dw i'n siwr ein bod ni i gyd yn gwybod am hanes boddi Cwm Celyn, ac wedi gweld y slogan enwog 'Cofiwch Tryweryn'. Ond faint ohonon ni, tybed, sy'n gwybod am hanes Llangyndeyrn? Mi roedd gan Gyngor Abertawe gynlluniau i foddi'r pentref. Ond doedden nhw ddim wedi ystyried y basai pobl y pentre yn ymladd yn erbyn y cynllun. Dyma i chi glip o raglen arbennig gaeth ei chlywed nos Sul. Dei Tomos i ddechrau yn sgwrsio efo rhai o'r pentrefwyr, ac wedyn mi gawn ni glywed rhan o sioe gerdd arbennig Theatre Ieuenctid Menter Cwm Gwendraeth - 'Mewn Undod Mae Nerth'... "


Daf a Caryl - Emma Kate

gweinidog - minister
priodol - appropriate
emyn - hymn
neges - message

"Yndoes yna rywbeth rhyfedd amdanon ni'r Cymry, ein bod ni'n cofio'r brwydrau gaeth eu colli, fel Tryweryn, yn well na'r rhai a enillwyd fel un Llangyndeyrn? Ta waeth, gan fod gweinidog wedi bod yn amlwg yn y frwydr honno, mae hi'n briodol iawn i ni orffen y podlediad hwn efo emyn. Ond nid rhyw emyn trwm a sych cofiwch, ond un o emynau hyfryd y plant 'Iesu Tirion' yn cael ei ganu gan Emma Kate sydd yn dair oed. Ei mam hi, Delyth, anfonodd y gân aton ni, ac mae gan Emma Kate neges fach i ni ar y diwedd. Mwynhewch..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Y Rhyl v Cei Cona

Nesaf