Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Gorffennaf 22, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Ìý

Post Cyntaf - Gerallt Lloyd Owen

beirdd - poets
Yr Arwisgiad - The Investiture
talu teyrnged i - to pay tribute to
cerdd dafod - poetry
cerddi'r cywilydd - The poems of shame
proffwyd - prophet
llwgr - corrupt
pigo cydwybod - to prick the concience
egwyddorion - principles
sylwadau - comments

... y newyddion trist am farwolaeth un o feirdd mwya Cymru, Gerallt Lloyd Owen. Daeth pobl Cymru i nabod Gerallt yn gynta pan enillodd o gadair Eisteddfod yr Urdd ym Mil Naw Chwe Naw efo cerdd wleidyddol m yr Arwisgiad. Roedd o wedi ennill cadair yr Urdd ddwywaith cyn hynny ac aeth ymlaen i ennill cadair yr Eisteddfod Genelaethol deirgwaith. Buodd Dafydd Islwyn a Tudur Dylan yn talu teyrnged i Gerallt ar Post Cyntaf ddydd Mercher...

Ìý

Dei Tomos - Rhyfel Byd Cyntaf

gwrthwynebu’r rhyfel - opposing the war
Y Blaid Lafur Annibynnol - The Independent Labour Party
adnabyddus - reckognisable
yn weddol eithafol - quite extreme
unrhyw gyfaddawd - any compromise
pwysigrwydd cenedlaethol - national importance
camymddwyn - misbehaviour
carcharu - to imprison
gwrthwynebydd cydwybodol - concientious objectors
dychrynllyd - horrific

Dafydd Islwyn a Tudur Dylan yn fan'na yn talu teyrnged i un o hoff feirdd Cymru, Gerallt Lloyd Owen. Fel y clywon ni roedd Gerallt yn medru bod yn fardd gwleidyddol iawn, ac mi roedd yna elfen wleidyddol i sgwrs gafodd Dei Tomos efo Aled Eurig ddydd Mawrth. Sôn oedden nhw am unigolion fuodd yn gwrthwynebu’r Rhyfel Byd Cyntaf, ac oedd yn gwrthod mynd i ymladd. Dechreuon nhw'r sgwrs drwy sôn am safiad y Blaid Lafur Annibynnol yn erbyn y rhyfel...

Ìý

Dylan Jones - Grufffudd Jenkins

ymrestru - to enlist
y fyddin - the army
annog - urging
brwydro - to fight
amharu ar - impairing
edmygu - to admire
chwerw - bitter
profiad dychrynllyd - horrific experience
Cofgolofn y ddraig - the dragon memorial
byth yn meiddio - never venture

Diddorol ynde, nifer o'r gwrthwynebwyr cydwybodol wedi cael eu carcharu bum neu chwe gwaith oherwydd eu safiad. Peth da ynde, ydy cofio am yr unigolion hyn yng nghanol y digwyddiadau i nodi can mlynedd ers dechrau'r rhyfel. Arhoswn ni efo'r Rhyfel Byd Cyntaf rwan a chlywed sgwrs rhwng Dylan Jones a Beryl Harries. Mae gan Beryl gasgliad o lythyrau ei hewythr, Gruffudd Jenkins, gafodd ei ladd ym mrwydr Mametz yn ystod y rhyfel. Dyma i chi ran o'r sgwrs lle mae Beryl yn dweud pam wnaeth Gruffudd Jenkins ymrestru â'r fyddin yn y lle cynta...

Ìý

Galwad Eto - Plas Glyn Y Weddw

gwinllan - vineyard
adfer tirlun hanesyddol - restoring a historic landscape
coedwig hynafol - ancient forest
rhywle diethr - somewher unfamiliar
mwyalchen - blackbird
heddwch a thangnefedd - peace and quiet
piod - magpies
gelyn - enemy
lawrlwytho - downloading
rhostir - moorland

Beryl Harris yn fan'na yn eitha chwerw am y ffordd gafodd ei hewythr, Gruffudd Jenkins, ei ymrestu i'r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dan ni'n mynd i orffen efo clip hollol wahanol. Mi fuodd Gerallt Pennant yng ngerddi hyfryd Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog ger Pwllheli ar gyfer y rhaglen Galwad Eto. Mi gafodd o gwmni Gwyn Jones, Iwan Hughes, Nia Roberts a Bethan Wyn Jones, ac mi gaethon ni ddarlun gwych o fyd natur coedwig y Plas, neu ella dylen ni ddweud 'gwinllan' y Plas. Dyma i chi flas ar y sgwrs...

Ìý

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Awst y 4ydd

Nesaf

Radio Cymru'n chwilio am hoff ganeuon yn yr Eisteddfod