Main content

β€˜Llyfr Bob Wythnos’ - Pennod Newydd Yn Y Boreau Ar Radio Cymru

Newyddion

Bydd ΒιΆΉΤΌΕΔ Radio Cymru yn cynnig amser paned go arbennig i wrandawyr yn y boreau o ddechrau Mehefin. Cyfle i roi’r tegell ar y tΓ’n, eistedd yn gysurus am ryw wyth neu naw munud, fymryn cyn 11am bob dydd, a mwynhau Llyfr Bob Wythnos.

Mae ambell lyfr y mae rhywun eisiau cael blas ohono cyn ei brynu. Mae hanes ambell unigolyn y byddai rhywun am fusnesa yn ei gylch cyn prynu ei hunangofiant. Ac mae ambell nofel y byddech wrth eich bodd yn cael ei chlywed, yn ogystal Ò’i darllen.

O ddechrau Mehefin, bydd Radio Cymru yn diwallu’r awydd hwnnw. Bob wythnos bydd rhaglen yn cyflwyno llyfr - yn nofel, yn hunangofiant, yn lythyrau neu straeon - a hynny mewn pum rhan wedi eu darllen gan yr awdur neu gan actor. Yn y mis cyntaf bydd , fe glywn ni ran o hunangofiant Meic Povey - Nesa Peth i Ddim, ynghyd Γ’ Dyn Pob Un Euron Griffith, a hunangofiant arwr rygbi Llanelli, Cymru a’r Llewod, Delme Thomas, Delme.

Shan Cothi


β€œDyma gyfle ardderchog i fwynhau llenyddiaeth gyfoes Gymraeg yn cael ei ddarllen yn fywiog a graenus bob dydd,” meddai Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru.

β€œRydyn ni fel gorsaf eisiau cyflwyno’r gorau i’n cynulleidfa. Ry’n ni eisoes yn gwneud hynny drwy ein rhaglenni sgwrs, ein trafodaethau, y rhaglenni newyddion, yn ogystal Ò’r dramΓ’u a’r gerddoriaeth. Mae’r bardd preswyl a’r yn ein tywys i fyd yr awen, ond doedd gyda ni ddim llwyfan i’n llenorion. Dyma lenwi’r bwlch hwn gyda deugain cyfrol yn cael eu cyflwyno mewn blwyddyn. Rydw i wrth fy modd ein bod yn gallu cyd-weithio gyda’r gweisg, a chyda Cyngor Llyfrau Cymru i adlewyrchu’r cyfoeth llenyddol sydd yn cael ei gyhoeddi o wythnos i wythnos. A diolch iddyn nhw am ddechrau pennod newydd yn hanes Radio Cymru.”

Ychwanegodd Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: β€œRydym yn croesawu'r datblygiad cyffrous hwn yn fawr gan wybod y bydd yn cael ei fwynhau a'i werthfawrogi gan ddarllenwyr ledled Cymru. Rhoi blas o'r llyfrau yw'r nod a bydd hynny'n sicr o bwysleisio'r dewis sydd ar gael, safon y gweithiau a natur amrywiol y cyfrolau, boed yn nofelau, cofiannau neu'n gasgliadau o straeon a barddoniaeth.

β€œDoes dim cyflwyniad gwell i lyfr na'i glywed yn cael ei ddarllen. Cymerwch hoe i wrando - rydym yn sicr y byddwch yn mwynhau.”

Llyfr Bob Wythnos
10.50am bob dydd yn ystod ar ΒιΆΉΤΌΕΔ Radio Cymru
Dechrau Mehefin 2ail, 2014

Μύ

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Ffeinal Cwpan Cynghrair Pencampwyr Ewrop