Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 28 Ionawr 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Stiwdio - Y Lle Celf

arddangosfa - exhibition
celfyddydau gweledol - visual arts
ffurf - form
gerbron - before
tymheredd - temperature
ceisiadau - applications
gwobr arall - another prize
adlewyrchol - reflective
dadleuol - controversial
detholwyr - compilers

Nia Roberts yn cyflwyno 'Stiwdio' dydd Iau diwetha, ac yn siarad am Y Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Y Lle Celf ydy'r arddangosfa lle mae pob math o gelf yn cael ei ddangos yn ystod yr Wyl. Dyma i chi ran o'r sgwrs rhwng Nia, Robyn Tomos, Swyddog Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod, a'r artistiaid Osi Rhys Osmond a Carwyn Evans...

Manylu - Llanybydder

Pwyliaid - Poles
dim amheuaeth - no doubt
ar wahân i - apart from
niferoedd mawr - large numbers
yn heidio i - flocking to
rhybuddio - to warn
cyfyngu ar - to limit
llafur rhad - cheap labour
ton mawr - a huge wave
sicrhau - to ensureÌý

"Osi Osmond yn fan'na dweud ei fod o'n artist dadleuol. Bydd hi'n ddiddorol mynd i'r Lle Celf yr haf hwn i weld pa mor ddadleuol ydy'r celf sy'n cael ei ddangos yno eleni. Pwnc dadleuol go wahanol sy gynnon ni nesa. Roedd sôn yn ddiweddar basai llawer iawn o bobl o Fwlgaria a Rwmania yn dod i Brydain i weithio ar ôl Ionawr y cyntaf eleni. Ydy hynnny'n rhywbeth i boeni amdano? Gweithwyr o dramor oedd y pwnc gafodd sylw Manylu yr wythnos diwetha. Aeth y tîm draw i bentre Llanybydder yn sir Gaerfyrddin, lle mae deg y cant o'r bobl sy'n byw yna yn Bwyliaid... "

Sgersli Bilif - Mynwent Tregeian

y diweddar - the late
cofrestr y plwyf - parish register
bedydd a chladdedigaethau - baptisms and burials
cofnodion - records
a genhedlodd - who conceived
cyfanswm - total
dyflwydd - dwy oed
cynhyrchiol - productive
o'i linach - from his stock (ancestry)
heddwch i'w lwch - rest in peace

Tasai pawb sy'n symyd i gefn gwlad Cymru yn siarad Cymraeg cystal ag Olivia fach yn fan'na, fasai ddim rhaid i ni boeni cymaint am ddyfodol yr iaith, na fasai? Cofiwch fasai ddim rhaid i ni boeni o gwbwl tasai siaradwyr Cymraeg yn dilyn esiampl William ap Hywel ap David ap Iorwerth o Dregeian ger Rhosmeirch ar Ynys Môn. Pam felly? Wel, os wnewch chi wrando ar y sgwrs yma rhwng Derec Owen ac Aled Sam ar Sgesli Bilif ddydd Gwener mi gewch chi'r ateb...


Cofio - Santes Dwynwen

cynhyrchydd - producer
awyddus i ddenu - eager to attract
bachau cig - meat hooks
bachu - to pull (a date)
cynulleidfa - audience
ei hanfod hi - the essence of it
lliwgar - colourful
brwdfrydig - enthusiastic
cadw trefn - to keep order
cyw rheolwr llawr - a young floor manager

"Cynhyrchiol? Ddwedwn i! Pedwardeg tri o blant, a dal i fyw tan oedd o'n gant a phump. Anhygoel de? Meddyliwch bod ganddoch chi frawd sydd wythdeg o flynyddoedd yn hyn na chi! Mi fasai'r stori hon ar dudalen flaen y papurau dyddiol tasai hi'n digwydd heddiw, siwr i chi! Gan fod yr hen William yn dod o Ynys Môn tybed oedd gan Santes Dwynwen unrhywbeth i wneud a'i arferion caru? Pwy a wyr ynde? Ond a hithe'n ddiwrnod y Santes y Cariadon ar y pumed ar hugain o Ionawr, roedd yna flas rhamantus ar rifyn dydd Sadwrn o Cofio. Dyma i chi ran o'r sgwrs rhwng John Hardy ac Alwyn Siôn, oedd yn arfer cyflwyno rhaglen deledu o'r enw ' Bacha Hi O Ma' ..."


Ifan Evans - Calon Lân

rhyngwladol - international
wynebu - to face
ymgyrch - campaign
cyffrous - exciting
tynnu'r genedl ynghyd - bring th nation together
mo'yn - eisiau
ffili aros - methu arosÌý

"Dwn i ddim be fasai Santes Dwynwen wedi ei wneud o 'Bacha Hi O Ma' cofiwch! Wel, mae tymor y gêmau rygbi rhyngwladol wedi cyrraedd, ac mi fydd Cymru'n wynebu yr Eidal yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn nesa. Falle bod rhai ohonoch chi wedi gweld hysbysebion gan y Â鶹ԼÅÄ yn trio cael pobl i ddysgu geiriau Calon Lân, er mwyn iddi hi gael ei chanu yn ystod y gêmau. Mi wnaeth Ifan Evans ei ran yn yr ymgyrch nos Fawrth drwy ganu'r gân, ac mi roedd harmonis reit ddel ganddyn nhw chwarae teg! Dyma nhw ac mae croeso i chi ganu efo nhwwrth gwrs! Pob lwc i Gymru bnawn Sadwrn."

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Carfan Academiau Cymru a Cwpan Lloegr

Nesaf

Cipolwg ar dimau Cymru