Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Mai 27, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Ìý

Dylan Jones - Eisteddfod

Amgueddfa ac Oriel - Museum and gallery
pwyslais - emphasis
trysorau - treasures
rhodd - a gift
gweinidogion - ministers
tro trwstan - misfortune
beirniadu - to adjudicate
cael cam - to suffer an injustice
rhagbrawf - preliminary competition
brasgamu - striding

...gan fod Eisteddfod yr Urdd ymlaen, mae Amgueddfa ac Oriel Gwynedd eisiau gwybod am unrhyw bethau anffodus sydd wedi digwydd i bobol mewn eisteddfodau. O le daeth y syniad yma a be mae'r angueddfa yn mynd i'w wneud efo'r wybodaeth? Dyna rai o gwestiynau Dylan Jones i Lois Jones o'r Amgueddfa ddydd Mercher diwetha. Dyma oedd ganddi i'w ddweud...


Cofio - Lerpwl

lifrau - colours (from livery)
mwya adnabyddus - most famous
corn - funnel
urddas - dignity
gwasgu - squeezing
yn or-hael - over generous
llongau hwyliau - sailing ships
oes aur - golden age
oglau'r llwyth - the smell of the cargo
cysylltiad efo'r wlad - connection with the country witÌý

Gobeithio na fydd gormod o blant yn cael cam yn Eisteddfod yr wythnos yma ynde? Dylan Jones yn siarad yn fan'na efo Lois Jones o Amgueddfa ac Oriel Gwynedd . "Lerpwl" oedd thema 'Cofio' nos Fercher ac mi glywon ni ran o sgwrs gafodd ei darlledu'n wreiddiol ym Mil Naw Wyth Saith. Y Capten Gwyn Parry Huws sydd yn sôn am longau gafodd eu hadeiladu yn Lerpwl...


Dylan Jones - Gweithio yn Affrica

ar ddyletswydd - on duty
meddygaeth - medicine
dilyn ein trwynau - folowing their noses
yn gyfarwydd - familiar
dyletswyddau - duties
achosion brys - emergency cases
cleifion - patients
adnoddau - resources
rhwystr - obstacle
tynnu gwaed - venepunctureÌý

Y Capten Gwyn Parry Huws yn sôn am sut i nabod y gwahanol longau oedd yn dod mewn i Lerpwl a Birkenhead. Dan ni'n symud yn bell o Lerpwl rwan yr holl ffordd i Dde Affrica. Buodd dau feddyg ifanc, Osian Penri a Cynnon Gwilym yn gweithio mewn ysbyty yn Affrica a dyma i chi flas ar eu sgwrs efo Dylan Jones ddydd Mawrth diwetha, pan oedden nhw'n disgrifio eu profiadau yno...


Geraint Lloyd - Sgwrs 'ar y Map'

ffashiwn beth - such a thing
esgyrn - bones
gallwch fentro - you can imagine
chwalu'r cynonod - scatter the maggots
difetha bywyd - to spoil the life
brifo - anafu
colli ei gof - lost his memory
fenga - ifanca
sbio'n flin - edrych yn gas
ar ei chwrcwd - squatting

...ac mi awn ni o sgwrs am Affrica i sgwrs 'ar y Map' ar raglen Geraint Lloyd. 'Brenhines Penygroes' oedd yn sgwrsio efo Geraint sef Jean Hefina. Yn y clip yma gawn ni lawer o hanesion Jean yn gweithio mewn siop, a hefyd hanes ei thaid yn cael ei anafu yn ystod y Rhyfel Mawr. Gobeithio eich bod chi ddim yn bwyta sosejys tra'n gwrando ar hwn...


Cofio - Fflat Huw PuwÌý

canrif - century
ysu - yearning
angori - anchoring
llanw - tide
tywys - to guide
peri - causing
penodi - appointing
penillion - verses
cytgan - refrain
arfordir - coast

Dyna straeon difyr gan Jean Hefina o Benygroes ynde? Dw i ddim yn siwr am y ffordd oedden nhw'n arfer cadw cig chwaith, cofiwch. Mi glywon ni yn un o'r clipau heddiw ma, straeon Y Capten Gwyn Parry Huws am longau Lerpwl. Daw'r clip nesa 'ma o'r un rhaglen, sef 'Cofio'. Yr haneswr morwrol Frank Rees Jones oedd yn cofio dociau Lerpwl, ac yn arbennig felly y caneuon oedd yn cael eu canu ar y llongau yno. Dach wedi clywed y shanti 'Fflat Huw Puw' erioed? Wel, os wnewch chi wrando ar hwn mi gewch chi ychydig o hanes y gân honno hefyd.


Bore Cothi - Moliannwn

cyfraniad - contribution
cân werin - folk song
sgrechian - screeching

Dyna ni wedi cael clywed llawer iawn am longau Lerpwl yr wythnos yma, a'r cysylltiad Cymreig efo nhw, yn enwedig felly cyfraniad J. Glyn Davies drwy sgwennu geiriau Fflat Huw Puw. Dan ni'n mynd i orffen efo cân heddiw 'ma. Ond cân werin ydy hon nid cân morwrol, Dyma i chi fersiwn Côr Radio Cymru, efo ychydig bach o help gan Aled Hall a Shan Cothi, o 'Moliannwn'. Mwynhewch...

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cystadleuaeth yn Stadiwm y Mileniwm

Nesaf