Main content

Taith O Gwmpas Cymru i Ddathlu Pen-Blwydd Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru 2

Newyddion

I ddathlu pen-blwydd yn un oed, mae'r orsaf radio ddigidol yn mynd ar daith o gwmpas Cymru, o Gaernarfon i Gaerfyrddin, Ionawr 28-31.

Bydd cyflwynwyr y Sioe Frecwast, Dafydd a Caryl, yn ymweld â gweithleoedd, canolfannau cymunedol ac ysgolion ar draws Cymru.

Llun, Ionawr 28:

Βι¶ΉΤΌΕΔ Wrecsam; Cylch Ti a Fi yng Nghapel Bethesda, yr Wyddgrug; Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy a Chyngor Sir Ddinbych, Rhuthin.

Mawrth, Ionawr 29:

Βι¶ΉΤΌΕΔ Bangor; swyddfeydd Cyngor Gwynedd, Caernarfon; Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, a Chaffi Alys, Machynlleth.

Mercher, Ionawr 30:

Βι¶ΉΤΌΕΔ Aberystwyth; swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion, Aberystwyth; Ysgol Henry Richard, Tregaron a Chastell Aberteifi.

Iau, Ionawr 31:

Βι¶ΉΤΌΕΔ Caerfyrddin; swyddfeydd Cyngor Sir Gâr, Caerfyrddin; Ysgol Maes y Gwendraeth, Cefneithin a Chanolfan Gartholwg, Pentre'r Eglwys.

 

Lansiwyd Radio Cymru 2, Ionawr 29, 2018, gyda'r Sioe Frecwast yn cynnig mwy o ddewis i wrandawyr bob bore, gyda cherddoriaeth, chwerthin ac adloniant.

Yn ystod y daith bydd cyflwynwyr y Sioe Frecwast Dafydd Meredydd a Caryl Parry Jones yn rhannu cacennau, casglu ceisiadau am ganeuon ac yn ceisio creu'r côr rhithwir mwyaf yn y byd i ganu Pen-blwydd Hapus.

Meddai Dafydd a Caryl:
"Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi hedfan heibio. 'Da ni'n edrych ymlaen yn fawr i fynd ar y daith a chyfarfod gwrandawyr ym mhob rhan o Gymru, yn ogystal â chael y cyfle i berswadio gwrandawyr newydd i ymuno yn yr hwyl ar Sioe Frecwast Radio Cymru 2. Mi fydd hi'n siwrne a hanner ac fe fydd 'na ddigon o gacennau pen-blwydd i'w rhannu!"

Meddai Rhuanedd Richards, Golygydd yr orsaf:
"Mae'n grêt gallu dathlu pen-blwydd cyntaf Radio Cymru 2 gyda'n gwrandawyr ar draws Cymru trwy fynd â'r Sioe Frecwast gyda'i dwy awr o gerddoriaeth wych ac adloniant pur, ar daith. Mae'r orsaf yn rhoi cyfle i siaradwyr Cymraeg - boed yn ddysgwyr neu'n rhugl - i gychwyn y dydd gyda cherddoriaeth, chwerthin a hwyl. Mi rydyn ni mor falch fod traean o siaradwyr Cymraeg rhugl yn gwrando ar Radio Cymru bob wythnos, a'r nod yw i adeiladu ar y llwyddiant yna."

 

Mae Radio Cymru 2 ar gael ar setiau digidol, ap , ac ar deledu:
Sky - sianel 0154
Freesat - sianel 718
Freeview, YouView, BT TV a TalkTalk TV - sianel 721

Ac o Ionawr 29, bydd Radio Cymru 2 ar gael ar deledu Virgin – sianel 913.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Penwythnos 4edd Rownd Cwpannau Cymru a FA Lloegr