Main content

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 11 Mehefin 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Daf a Caryl - Alys Williams
Ìý
andros o brysur - extremely busy
brwydr - battle
canu deuawd - to sing a duet
gornest - bout
yn gyfarwydd â - familiar with
cynulleidfa - audience
yn fyw - live
cynhyrchwyr - producers
awyrgylch - atmosphere
colur - make up
Ìý
"...efo llais Alys Williams, yn sgwrsio ar y ffôn efo Caryl a minnau ddydd Iau. Os dach chi wedi bod yn gwylio The Voice ar y Â鶹ԼÅÄ mi fyddwch chi'n gwybod bod Alys wedi gwneud yn arbennig o dda yn y gystadleuaeth. Pan gaethon ni sgwrs efo hi roedd hi'n paratoi ar gyfer y rownd nesa oedd yn digwydd nos Wener diwetha. Tasai hi'n mynd drwyddo y noson honno, dim ond un rownd arall ac mi fasai hi yn y ffeinal. Roedden ni eisiau gwybod sut oedd hi'n teimlo am yr holl beth..."Ìý
Ìý
Stiwdio - Swci Boscawen
Ìý
ymennydd - brain
ymdopi â - to cope with
cyfnod - period of time
llawdriniaeth - surgery
canlyniadau - results
achub bywyd - to save a life
gwasgu - to squeeze
triniaeth - treatment
lluosi - to multiply
unig - lonely
Ìý
"...yn anffodus aeth Alys ddim trwodd i'r rownd nesa, ond llongyfarchiadau iddi hi am fynd mor bell. Dan i gyd yn falch iawn ohoni hi. Awn ni at gantores arall rwan, Mared Lenny oedd yn canu gan ddefnyddio'r enw Swci Boscawen. Mi gafodd Mared wybod yn ystod haf Dwy Fil a Deg bod ganddi gancr ar yr ymenydd. Mi gawn ni glywed rhan o sgwrs rhynddi hi a Nia Medi, lle mae hi'n sôn am ddigwyddiadau'r haf hwnnw a sut y gwnaeth hi ymdopi â'r sefyllfa."

Dewi Llwyd - Rhys ap William
Ìý
anlwc - misfortune
gwaedlyd ar yr ymenydd - brain haemorrhage
yn ddiymadferth - listless
gwellhad - improvement
pryder gwirioneddol - real worry
gofid - concern
pwysau - pressure
adferiad - recovery
becso - poeni
canolbwyntio - concentrate
Ìý
"Un arall sydd wedi cael amser hynod o galed yn ddiweddar ydy Rhys ap William. Buodd mewn coma yn ystod mis Chwefror eleni ar ôl i rywun ymosod arno fo. Diolch byth mae wedi gwella digon erbyn hyn i ddod i'r stiwdio i sgwrsio efo Dewi LLwyd. Fo oedd gwestai penblwydd Dewi a dyma fo'n rhannu efo ni rai o brofiadau ofnadwy y misoedd diwetha...."
Ìý
Wyn ar Wyddoniaeth - anifail
Ìý
gwyddoniath - science
rhywogaeth - species
yn alluog - intelligent
goroesi - to survive
addasu - to adapt
amgylchedd - environment
synhwyrau - senses
ystlum - bat
hela - to hunt
glowynau byw - butterflies
Ìý
Braf clywed Rhys a Mared yn medru siarad mor agored am eu profiadau, y ddau dw i'n siwr yn ddiolchgar iawn am y gofal meddygol gaethon nhw yn ystod y cyfnod anodd hwnnw yn eu bywydau. Mae yna raglen newydd yn trafod gwyddoniaeth ar ddydd Llun sy'n cael ei chyflwyno gan Wyn Davies. Yn y rhaglen gynta mi fuodd o'n siarad efo'r gwyddonydd Gethin Thomas. A be oedd y cwestiwn anodd, gwyddonol gofynnodd Wyn iddo fo - 'pa fath o anifail sach chi'n licio bod, tasech chi'n cael y dewis?' Dyma ei ateb...

Nia - Bizet
Ìý
cyfansoddwr - composer
cefndir gwirioneddol - a proper background
gosodiad - statement
gweddill - the rest
yn rhwydd - yn hawdd
llwyddiant cymharol - relative success
rhyfeddol - surprising
athrylith - genius
Ìý
"Wel, ella nad oedd y cwestiwn yn swnio'n wyddonol iawn, ond ateb gwyddonydd go iawn gaethon ni yn fan'na ynde? I fyd yr opera rwan efo John Hardy, oedd yn cyflwyno rhaglen Nia ddydd Llun y trydydd o Fehefin. Y cyfansoddwr Bizet oedd dan sylw a hynny gan iddo fo farw
ar Fehefin y trydydd Mil Wyth Saith Pump yn drideg saith oed. Mae'r rhan fwyaf o bobol yn cofio Bizet am yr opera boblogaidd Carmen. Ond oedd hi'n boblogaidd yn ystod bywyd Bizet? Geraint Lewis fuodd yn rhoi ychydig o'r hanes i John."

Ìý
Daf a Caryl - Cân y Babis
Ìý
yn y cyfamser - in the meantime
gwanwyn - spring
ei hefaill hi - her twin
gwres - heat
Ìý
"At gerddoriaeth cwbl wahanol rwan, ond llawn cystal ac unrhybeth sgwennodd Bizet! Ia mae'n amser Cân y Babis unwaith eto. Dydd Iau ar rhaglen Daf a Caryl roedd hi'n ddwy flynedd ers i ni glywed ‘Cân y Babis’ am y tro cynta. I ddathlu hyn mi wnaeth Caryl ei hun sgwennu a chanu'r gân i ni. Pa enwau ar fabis dach chi'n meddwl sy wedi bod fwya poblogaidd yn ystod y ddwy flynedd gynta? I ffeindio allan cerwch i'n gwefan ar a chliciwch ar Dafydd a Caryl. Yn y cyfamser, mwynhewch y gân..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 7

Nesaf

Pacio’r bagiau a chwarae rhif 10