Main content

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 01 Awst 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Nia (John Hardy) - Andrw Rogers

mentrus - venturous
Dwyrain Canol - Middle East
gwrthryfel - uprising
ystrydebau - stereotypes
barf - beard
rhy beryglus - too dangerous
gloi - cyflym
becso - poeni
saethu - to shoot
eithafwyr - extremists

...a dw i'n siwr bod y rhan fwyaf ohonoch yn cytuno bod dysgu iaith yn medru bod yn waith anodd, i'r dysgwr ac i'r tiwtor! Un tiwtor mentrus iawn ydy Andrew Rogers. Mae Andrew yn dwad o Rondda yn wreiddiol ac mae o wedi bod yn dysgu Saesneg fel ail iaith yng ngogledd Affrica ac yn y Dwyrain Canol. Cafodd Andrew sgwrs gyda John Hardy wythnos 'ma i rannu ei brofiadau'n gweithio yn Libya yn ystod y gwrthryfel yn 2011.

Stiwdio - Parc and Dare

darlithydd - lecturer
cysylltiad - connection
mam-gu - nain
tad-cu - taid
cwmpo - disgyn
blaenllaw - prominent
wythnos ddrama - drama week
llwyfannu - to stage
cyngherddau - concerts
canolbwynt - focal point

Roedd hi'n ben-blwydd arbennig ar adeilad go arbennig wythnos diwetha'. Roedd Neuadd Parc and Dare yn Nhreorci yn dathlu ei phen-blwydd yn gant oed. Mae'r neuadd wedi chwarae rhan bwysig ym mywydau llawer sy'n byw yn yr ardal, yn cynnwys yr actores Shelley Rees a'r darlithydd ac awdur Cennard Davies. Bu'r ddau yn siarad ar y rhaglen 'Stiwdio' wythnos 'ma am y cysylltiad arbennig sydd ganddyn nhw efo’r neuadd.

Geraint Lloyd - Hen dractors

brwd - keen
peiriannau - machinery
yn ei elfen - in his element
amrywiaeth - variety
cynhyrchu - to produce
straffaglu - to struggle, to stagger
ara' bach - slowly
partiau - parts
dwsin - dozen
hel atgofion - to reminiscence

Ac o hen neuadd yn Nhreorci i hen dractorau o Ynys Môn yr awn ni nesa'. Be' dach chi'n wybod am dracors? Wel, mae Geraint Lloyd yn 'fan' mawr ohonyn nhw ac yn ystod ei ymweliad â'r Sioe Frenhinol 'leni cafodd sgwrs gyda Wil a Dafydd Davies. Mae'r tad a'r mab yma'n gwybod popeth sydd i'w wybod am hen dractors ac maen nhw'n aelodau brwd o Gymdeithas Hen Dractorau Ynys Môn. Dyma i chi glip o'r cyfweliad, ac mae'n hawdd dweud bod Geraint yn ei elfen ynghanol yr holl beiriannau!

Iola Wyn (Hywel) - Sioe

colofnydd - columnist
y wasg - the press
cefn gwlad - countryside
difrifol - serious
cyfryngau - the media
moch daear - badgers
manteisio - to exploit (a situation)
marchogaeth - to ride (a horse)
llonydd - still
damwain - accident

Roedd Hywel yn y Sioe Frenhinol wythnos diwetha' hefyd, ac yno cafodd sgwrs gyda'r colofnydd Lloyd Jones. TB oedd testun cyntaf y sgwrs a'r sylw mae'r wasg yng Nghymru yn ei roi i straeon o gefn gwlad. Ond, roedd Hywel isio holi Lloyd am stori arall, sef y stori ei fod wedi gwerthu ceffyl i neb llai na Madonna!

Daf a Caryl - Erin Richards

ymgartrefu - to rehome, to settle
arswyd - horror
ddim yn fel i gyd - not always easy (idiom)
ymddangos - to appear
profiadau - experiences
dihuno - to wake up
credu - to believe
dychymyg - imagination
ymdopi - to cope
glawio - bwrw glaw

Madonna yn siopa am geffyl yng Nghymru? Pwy fysa'n meddwl?! Nid ceffyl Madonna ydy'r unig seren sy wedi symud o Gymru ac ymgartrefu'n Hollywood! Cafodd Caryl a finnau sgwrs gyda'r actores Erin Richards wythnos diwetha'. Mae Erin yn dwad o Benarth ac mae hi wedi bod yn LA yn ddiweddar yn ffilmio dwy ffilm arswyd. Ond, dydy bod yn actores ddim yn fel i gyd! Dyma Erin i ddweud mwy am ei phrofiadau.

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Diwrnod Edward H

Nesaf

Blog Ar y Marc - Côr Eisteddfod