Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Medi 30, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Ìý

Bore Cothi - Pyjamas

Manceinion - Manchester
pumed cenhedlaeth - fifth generation
cynhyrchu - manufacturing
arbenigedd - expertise
dy gyndeidiau di - your forefathers
bwlch yn y farchnad - a gap in the market
crwtyn - bachgen
brifo - anafu
ochrau Gaer - Chester way
fo sy berchen - he's the one that ownsÌý

...pyjamas! Mae Sion Aykroyd yn dod o ardal Bala yn wreiddiol, ond ym Manceinion mae'r busnes teuluol. Sion ydy'r pumed cenhedlaeth o'r teulu i weithio i gwmni Aykroyds, ac er mai cwmni dillad nos ydy'r cwmni hwnnw, mae gan Sion a'i deulu ddiddordeb mawr arall - ceffylau rasio. Dyma Sion yn sôn wrth Heledd Cynwal am y ddau gariad mawr yn ei fywyd - pyjamas a cheffylau...

Ìý

Byd Iolo - Jim Bach

ei nabod o'n o lew - know it quite well
hebog tramor - peregrine falcon
hela - hunting
chwadan - hwyaden (duck)
boncath - buzzard
gyda'r hwyr - in the evening
drudwy - starling
denu - to attract
adar ysglyfaethus - birds of prey
hesg - rush (vegetation)

Sion Aykroyd yn fan'na yn siarad efo Heledd Cynwal ar Bore Cothi am y busnes teuluol. Adar, nid ceffylau, oedd yn mynd â diddorddeb Iolo Williams ar y rhaglen 'Byd Iolo' ddydd Mawrth. Mi fuodd Iolo yn crwydro Cors Ddygan, sydd ym Malltraeth ar Ynys Mon, yng nghwmni cymeriad lleol o’r enw Jim Parry, neu Jim Bach. Mae Jim yn nabod y gors yn da iawn ac mae ganddo fo sawl stori i'w dweud am rai o'r adar sydd i'w gweld yno...

Ìý

Rhaglen Dylan Jones - Reslo

trydanwr - electrician
canolbwyntio - to concentrate
heini - fit
para - to last
yn iau - yn fengach/ifancach
colled mawr - a big loss
poblogaidd - popular
lloeren - satellite
ar lawr gwlad - on the street
crwt o'r wlad - a country boy

Iolo Williams yn fan'na yn clywed Jim 'Bach' Parry yn sôn am yr ymladd rhwng yr hebog, y drudwy a'r boncath. Ymladd o fath gwahanol iawn oedd dan sylw Dylan Jones pan gafodd o sgwrs efo Gethin Williams o Ffoslas, yn Sir Gaerfyrddin. Mae Gethin yn reslo o dan yr enw "Kid Cymru". Trydanwr ydy gwaith bob dydd Gethin, felly be wnaeth i fachgen ifanc o Orllewin Cymru benderfynu mynd i fyd reslo? Dyma Gethin yn dweud yr hanes wrth Dylan Jones...

Ìý

Rhaglen Dylan Jones - Nant Ddu

gwinllan - vineyard
perllan - orchard
plannu - to plant
coed (a)falau traddodiadol - traditional apple trees
cynhenhid Gymreig - native Welsh
grawnwin - grapes
hinsawdd - climate
arbrofi - to experiment
tocio - to prune
cangen - branch

Mi gaeth Dylan Jones sgyrsiau amrywiol iawn ar ei raglen yr wythnos diwetha. Siarad am reslo efo Gethin Williams yn y clip ola 'na, ac rwan mi gewch chi ei glywed yn siarad am win a seidr mewn gwinllan a pherllan go arbennig. Lle roedd o felly, dach chi'n meddwl - yng Ngogledd Ffrainc neu Sbaen? Wel, naci siwr, yng Nghogledd Cymru wrth gwrs, ac yn blasu gwinoedd a seidr Dyffryn Nantlle o bob man, efo Richard Wyn, perchennog Gwinllan a Pherllan Nant Ddu...

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Byd Iolo: Glyn Jones

Nesaf

Cartrefi Cymru: Gwlad Eben Fardd