Main content

Cangarŵ, nadroedd a’r prawf olaf - Blog Llewod Jonathan Davies

Jonathan Davies

Roedd yr ail brawf yn erbyn Awstralia yn gêm agos iawn. Roedd yn dorcalonnus i golli ac roedd y bois i gyd i lawr yn yr ystafell newid ar ôl y gêm. Doedd dim lot o siarad yn mynd ‘mlaen ar ôl i ni adael Awstralia i mewn yn y funud olaf.

Ar ôl siom mor fawr aethon ni allan ar y nos Sul ac roedd e’n dda i gael amser i ymlacio dros gwpwl o beints. Wnaethon ni deithio lan i Noosa i gael amser i ffwrdd a ffocysu ar y wobr fawr yn y gêm olaf.

Roedd y croeso yn Noosa yn grêt. Roedd e’n lle braf a chi’n gallu gweld bod e’n llawn yn ystod yr haf. Mae pobol yn edrych arno ni bach yn od wrth i ni fynd i’r môr, achos mae’n ganol gaeaf yma, ond mae’n berwi mas fan hyn i gymharu â gartre!

Fi’n siŵr bod y dyn sy’n berchen y beicie dwr wedi neud ffortiwn wythnos yma, o’dd y bois wedi bod yn reidio arnyn nhw tair gwaith mewn tri diwrnod.

Roedd e’n dda cael gadael y gwesty a gweld llefydd gwahanol. Es i’r zoo dydd Mawrth a gwneud y pethau touristy, roedd e’n grêt cael roi bwyd i gangarŵ.

Mae Mike (Phillips) yn casáu nadroedd ac roedd e ofn mynd i mewn i’r ystafell nadroedd. Unwaith o’dd e mewn, sefyll yn llonydd yng nghanol y llawr wnaeth e a dim symud o gwbl. Doedd e ddim wedi mwynhau'r darn yna yn fawr iawn!

Roi bwyd i gangarw yn y Zoo

Roedd yn braf cael ychydig o ddiwrnodau i ffwrdd a rechargio’r batteries achos mae’n mynd i fod yn gêm fawr dydd Sadwrn. Roedd pob un ohono ni’n gwybod o’dd angen amser bant, ond nawr ni nôl yn ymarfer mae yna edge i’r garfan ac mae ymarfer wedi bod yn grêt.

Dechrau’r gemau i gyd

Rwy mor falch i gael y cyfle i ddechrau ym mhob un o’r gemau prawf. Mae’n anrhydedd mawr a dwi mor lwcus. Mae’n rhaid i fi neud yn siŵr bod fy mherfformiad yn y gêm brawf olaf yn un da achos mae’r gêm yma yn bwysig iawn.

Daeth Drisco (Brian O'Driscoll) draw i longyfarch fi unwaith o’dd y tîm wedi ei chyhoeddi. Mae Dricol wedi bod yn broffesiynol iawn wrth i ni ymarfer a byddai ddim yn disgwyl dim llai - mae’n dangos cymeriad y dyn.

Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Gareth Charles ac yn edrych 'mlaen at y gem prawf olaf.

Mae cryfder y garfan wedi golygu bod y tîm yn gallu newid o wythnos i wythnos ac mae lan i ni, y 23 olaf, i wneud yn siŵr bod y garfan i gyd yn cael yr hyn ni’n haeddu - ennill y gyfres.

Rwy’n gweld pobol yn cerdded o gwmpas y lle ac mae’r gêm yma yn golygu popeth iddyn nhw. Mae’n cyfle i ni fod yn ddarn o hanes y Llewod.

Mae Jamie (Roberts) yn cerdded rownd gyda gwen mawr ar ei wyneb ar ôl cael ei ddewis i’r gêm olaf. Roedd e lawr ar ôl yr anaf yn Sydney ychydig wythnosau yn ôl ond mae wedi gweithio yn galed iawn gyda’r physios. ²Ñ²¹±ð’r doctoriaid ar y daith yma wedi neud job arbennig i gael Jamie a Tommy (Bowe) nôl mor gyflym, ac mae wedi bod yn dda ar gyfer y garfan.

²Ñ²¹±ð’r ffans bob man

Mae Sydney mor wahanol i Noosa, mae yna filoedd ar filoedd o gefnogwyr yma yn Sydney nawr ac mae’r lle yn mynd i fynd yn fwy a fwy gwyllt.

Wythnos yma nes i rannu ‘stafell gyda Wade (Christian Wade) ac roedd e’n sbort. Mae wedi dod ag ychydig o Lundain i’r lle ac mae wedi bod yn dda ar y daith. Rwy’n rhannu ‘stafell gyda Manu (Tuilagi) nawr, ac yn ôl bob sôn ma' e’n cysgu drwy’r dydd!

Maen nhw’n disgwyl y dorf fwyaf erioed i wylio gêm Llewod yn Awstralia dydd Sadwrn o be dwi’n clywed. ²Ñ²¹±ð’r bois i gyd yn mwynhau chwarae gemau mawr o flaen tyrfa fawr, a dyw e ddim yn dod yn fwy na’r gêm ddydd Sadwrn.

Wrth i mi edrych yn ôl ar y daith a’r chwe wythnos diwethaf mae wedi bod yn brofiad unigryw ac un byddai bydd yn anghofio. Dwi mor falch i fod yn rhan o’r daith yma.

Mae cyn-Llewod o hyd yn dweud bo chi’n neud ffrindiau am byth ar deithiau Llewod. ²Ñ²¹±ð’r siwrne ni wedi bod arni gyda’n gilydd mewn cyn lleied o amser wedi tynnu pawb at ei gilydd. Mae rhai o’r bois o’n i byth wedi siarad gyda cyn y daith yma nawr yn ffrindiau da i fi.

Bydde ennill yn erbyn Awstralia yn gwneud y daith yma yn fythgofiadwy. Bydd y Wallabies yn dod atom ni yn galed iawn ond mae’n rhaid neud siŵr bod ni’n caletach.

Mae’n rhaid i ni orffen y job dydd Sadwrn.

(Roedd Jonathan Davies yn sgwrsio yn arbennig ar gyfer gwefan Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru gyda Gareth Charles, gohebydd rygbi Â鶹ԼÅÄ Cymru ar daith y Llewod)


Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 03 Gorffennaf 2013

Nesaf

Blog Ar y Marc - Ewro 2013