Main content

Cyhoeddi Cyflwynydd Newydd Camp Lawn

Newyddion

Cyhoeddwyd ar bore ‘ma (Gwener, Mehefin 12) mai Rhodri Llywelyn fydd cyflwynydd newydd rhaglen chwaraeon Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru ar brynhawn Sadwrn, , o fis Medi ymlaen. Bydd Rhodri yn cymryd yr awenau yng nghanol cyfnod cyffrous ar y meysydd chwarae, gan gynnwys gemau rhagbrofol olaf Cymru ar gyfer Ewro 2016 ac, wrth gwrs, Cwpan Rygbi’r Byd.

Ymunodd Rhodri â’r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn 2004 ac mae wedi cyflwyno, gohebu a sylwebu ar Newyddion 9, Post Cyntaf a’r Clwb Rygbi, yn ogystal ag ambell dro yn y gadair eisoes ar Camp Lawn.

“Mi fydd y tymor nesa’n llafur cariad llwyr,” meddai Rhodri. “Cyflwyno Camp Lawn yw’r peth agosa’ posib at fod mas ar y cae yn chwarae - mae’n gwneud i’r adrenalin lifo, ac fe all unrhywbeth ddigwydd!

“Dwi’n cofio’r tro cynta i mi gael cyfle i fod yn y sedd. Roedd Caerdydd yn chwarae yn yr Uwch-Gynghrair bryd hynny, a Lerpwl yn ymweld â’r brifddinas. Mi adewais i’r stadiwm wedi cael cymaint o wefr - y galon yn dal i rasio - ac yn dymuno cael tro arall arni’n fuan.

Wedi ei fagu yng Nghaerdydd cyn mynd i astudio ym Mhrifysgol Bryste, treuliodd Rhodri bum mlynedd ar ôl graddio yn gweithio gyda chwmni Tinopolis ar gynhyrchiadau fel Heno a Le Rygbi. Mae’n dweud bod chwaraeon wedi bod yn rhan mawr o’i fywyd erioed.

“Ro’n i wastad yn gwylio chwaraeon neu’n chwarae pan yn grwt. Byddai pêl wastad wrth law. Bues i’n ddigon ffodus i gwblhau’r ‘dwbl’ o chwarae rygbi yn yr hen Stadiwm Genedlaethol a Stadiwm y Mileniwm. Ond ar ôl cael fy mhenodi’n Ohebydd Chwaraeon gyda Newyddion Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru bu’n rhaid rhoi’r ‘togs’ yn y tô.

“Aeth y swydd honno a mi o gwmpas y byd yn dilyn y campau - Gemau Olympaidd Beijing a Llundain; Y Cwpan Ryder yn Valhalla a Celtic Manor; gornestau mawr Joe Calzaghe yn America; a Chwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc a Seland Newydd.”

Bydd Rhodri yn parhau i gyflwyno a gohebu ar Newyddion 9 yn ystod yr wythnos, tra’n cyflwyno Camp Lawn ar ddyddiau Sadwrn. Wrth edrych ymlaen at y tymor cyffrous o’i flaen, talodd Rhodri deyrnged hefyd i Eleri Sion, a roddodd gorau i’r swydd ar ddiwedd y tymor diwethaf.

“Dwi’n llwyr sylweddoli bod stilettos Eleri Siôn yn rhai mawr i’w llenwi! Er hynny, galla i ddim aros i ymuno â thîm cystal, ar drothwy tymor sy’ mor bwysig.

“Mi fydd yn dechrau gydag ymgyrch Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd. Ac yn dod i ben gyda phêl-droedwyr Cymru’n chwarae yn rowndiau terfynol Ewro 2016. Gobeithio...”


Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Cymru v Gwlad Belg - y fuddugoliaeth!